Search Legislation

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3100 (Cy.284)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006

Wedi'u gwneud

21 Tachwedd 2006

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9 a 12 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002(1) yn gwneud y Rheoliadau canlynol—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2006.

(2Maent yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2006.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “ceisydd” (“applicant”)—

(a)

yn achos penderfyniad ar addasrwydd, yw darpar fabwysiadydd;

(b)

yn achos penderfyniad i ddatgelu, yw person perthnasol o fewn ystyr “relevant person” yn rheoliad 13A(7) o'r Rheoliadau Datgelu;

ystyr “cyfarfod adolygu” (“review meeting”) yw cyfarfod a gynullir yn unol â rheoliad 13 at ddibenion adolygu penderfyniad cymhwysol;

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru'n weithiwr cymdeithasol ar gofrestr sy'n cael ei chadw gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol neu Gyngor Gofal Cymru o dan adran 56 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) neu ar gofrestr gyfatebol sy'n cael ei chadw o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “panel” (“panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 4(1);

ystyr “panel mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a gyfansoddwyd yn unol â rheoliad 3 o'r Rheoliadau Asiantaethau;

ystyr “penderfyniad ar addasrwydd” (“suitability determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);

ystyr “penderfyniad cymhwysol” (“qualifying determination”) yw penderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 3(a);

ystyr “penderfyniad i ddatgelu” (“disclosure determination”) yw penderfyniad cymhwysol a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu(3);

ystyr “y Rheoliadau Adolygu Annibynnol 2005” (“the Independent Review Regulations 2005”) yw Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadau) (Cymru) 2005(4);

ystyr “y Rheoliadau Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(5);

ystyr “y Rheoliadau Datgelu” (“the Disclosure Regulations”) yw Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(6); ac

mae “y rhestr ganolog” (“the central list”) i'w dehongli yn unol â rheoliad 4.

Penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.

3.  At ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf, mae penderfyniad cymhwysol—

(a)yn benderfyniad sydd wedi'i wneud gan asiantaeth fabwysiadu yn unol â Rheoliadau 2005 fel a ganlyn:

(i)pan na fydd yr asiantaeth, o dan reoliad 28(4) o'r Rheoliadau Asiantaethau, yn bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fod yn rhiant mabwysiadol.

(ii)pan fo'r asiantaeth o'r farn nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fod yn rhiant mabwysiadol yn dilyn adolygiad o dan reoliad 30 o'r Rheoliadau Asiantaethau.

(b)yn benderfyniad a ddisgrifir yn rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu(7).

RHAN 2PANELAU

Cyfansoddi panelau

4.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar ôl cael cais a wnaed gan geisydd yn unol â rheoliad 11, gyfansoddi panel i adolygu'r penderfyniad cymhwysol.

(2Rhaid dewis aelodau'r panel oddi ar restr o bersonau sydd wedi'u penodi ac sy'n gwasanaethu fel aelodau panelau asiantaethau mabwysiadu yng Nghymru (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “y rhestr ganolog”) a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o bersonau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas, yn rhinwedd eu sgiliau, eu cymwysterau neu eu profiad i fod yn aelodau panel.

(3Rhaid i aelodau o'r rhestr ganolog gynnwys—

(a)gweithiwr cymdeithasol o fewn ystyr “social worker” yn Rhan IV o Ddeddf Safonau Gofal 2000, a hwnnw'n weithiwr cymdeithasol a chanddo o leiaf 5 mlynedd o brofiad ôl-gymhwyso mewn gwaith mabwysiadu a lleoli mewn teuluoedd; a

(b)personau eraill y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn addas i fod yn aelodau gan gynnwys, pan fo'n rhesymol ymarferol, personau â phrofiad personol o fabwysiadu.

Aelodaeth o'r Panelau

5.—(1Mwyafswm nifer y personau y caniateir eu penodi i banel yw pump.

(2Rhaid i banel gael ei gynghori:

(a)gan weithiwr cymdeithasol o fewn ystyr “social worker” yn Rhan IV o'r Ddeddf Safonau Gofal gyda chymwysterau, sgiliau a phrofiad priodol;

(b)gan ymarferydd meddygol cofrestredig ag arbenigedd perthnasol mewn gwaith mabwysiadu.

(3Pan fo'r panel yn credu fod hynny'n briodol, caiff ei gynghori gan

(a)Cynghorydd Cyfreithiol â gwybodaeth ac arbenigedd mewn deddfwriaeth fabwysiadu;

(b)Unrhyw berson arall y mae'r panel yn ystyried fod ganddo arbenigedd perthnasol o ran y penderfyniad sy'n cael ei ystyried.

(4Pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu'n benderfyniad i ddatgelu, mae'n rhaid i'r panel gynnwys o leiaf ddau berson sy'n dod o fewn rheoliad 4(3)(a).

(5Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —

(a)penodi i gadeirio panel berson a chanddo'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i gadeirio panel; a

(b)yn achos panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd, penodi un o aelodau'r panel yn is-gadeirydd i weithredu fel cadeirydd os yw'r person a benodwyd i gadeirio'r panel yn absennol neu os yw swydd y cadeirydd yn wag.

(6Rhaid peidio â phenodi person i banel—

(a)os yw'r person hwnnw'n aelod o banel mabwysiadu'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol;

(b)os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn awdurdod lleol, yn gyflogedig neu wedi bod yn gyflogedig gan yr awdurdod hwnnw yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud, yn eu gwasanaethau cymdeithasol plant a theuluoedd neu os yw neu os yw wedi bod yn aelod o'r awdurdod hwnnw;

(c)os yw'r person, pan fo'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol yn gymdeithas fabwysiadu gofrestredig, yn un o gyflogeion neu ymddiriedolwyr yr asiantaeth honno, neu os yw wedi bod yn un ohonynt yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd cyn y dyddiad y cafodd y penderfyniad cymhwysol ei wneud;

(ch)os yw'r person hwnnw yn berthynas i berson sy'n dod o dan is-baragraff (a), (b) neu (c);

(d)os yw'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda'r person hwnnw o fewn y ddwy flynedd diwethaf;

(dd)os oedd y person hwnnw wedi'i gymeradwyo fel darpar fabwysiadydd o fewn y ddwy flynedd diwethaf gan yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol; neu

(e)os yw'r person hwnnw yn adnabod y ceisydd yn bersonol neu yn rhinwedd ei broffesiwn.

(7Yn y rheoliad hwn—

(a)mae “cyflogedig” (“employed”) yn cynnwys bod yn gyflogedig p'un ai am daliad neu beidio a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau neu fel gwirfoddolwr; a

(b)mae person (“person A”) yn perthyn i berson arall (“person B”) os yw person A—

(i)yn aelod o aelwyd person B, neu'n briod â pherson B neu'n bartner sifil i berson B;

(ii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person B; neu

(iii)yn fab, merch, mam, tad, chwaer neu frawd person y person y mae person B yn briod ag ef neu hi neu y mae person B wedi ffurfio partneriaeth sifil ag ef neu hi;

Cyfarfodydd y panelau

6.  Bydd trafodion y panel yn cael eu hannilysu oni bai bod o leiaf bedwar o'i aelodau yn bresennol.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad ar addasrwydd

7.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad ar addasrwydd.

(2Rhaid i banel—

(a)adolygu'r penderfyniad ar addasrwydd; a

(b)cyflwyno argymhelliad i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol ynghylch a yw darpar fabwysiadydd yn addas i fod yn rhiant mabwysiadol.

(3Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—

(a)rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 29 o'r Rheoliadau Asiantaethau;

(b)caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i ddarparu unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac

(c)caiff y panel sicrhau'r cyngor cyfreithiol y mae'n credu ei fod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos.

Swyddogaethau panel a gyfansoddwyd i adolygu penderfyniad i ddatgelu

8.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r penderfyniad cymhwysol sy'n cael ei adolygu yn benderfyniad i ddatgelu.

(2Rhaid i banel adolygu'r penderfyniad i ddatgelu a chyflwyno i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad i ddatgelu argymhelliad ynghylch a ddylai'r asiantaeth fwrw ymlaen â'i phenderfyniad gwreiddiol.

(3Wrth ystyried pa argymhelliad i'w gyflwyno—

(a)rhaid i'r panel bwyso a mesur ac ystyried yr holl wybodaeth sy'n cael ei throsglwyddo iddo yn unol â rheoliad 13A o'r Rheoliadau Datgelu;

(b)caiff y panel ofyn i'r asiantaeth fabwysiadu i sicrhau unrhyw wybodaeth berthnasol arall y mae'r panel yn credu ei bod yn angenrheidiol neu i roi unrhyw gymorth arall y bydd y panel yn gofyn amdano; ac

(c)caiff y panel sicrhau cyngor cyfreithiol o'r fath neu gyngor gan ymarferydd meddygol cofrestredig sydd wedi'i gynnwys ar y rhestr ganolog y mae'n credu ei bod yn angenrheidiol mewn perthynas â'r achos; ac

(ch)rhaid i'r panel ystyried lles unrhyw berson mabwysiedig ac os yw'r person yn blentyn mabwysiedig, rhaid i les y plentyn hwnnw fod yn bwysicach na dim. Yn achos unrhyw blentyn arall, rhaid i'r panel roi sylw penodol i'w les.

Gweinyddu'r Panelau

9.  Rhaid i'r panel gael ei weinyddu gan y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd rhaid iddo wneud darpariaeth addas ar gyfer trefniadau clercio i'r panel.

Ffioedd aelodau panel

10.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol dalu i unrhyw aelod o banel unrhyw ffioedd y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn rhesymol.

Cofnodion

11.  Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cofnod ysgrifenedig o adolygiad panel o benderfyniad cymhwysol, gan gynnwys y rhesymau dros ei argymhelliad ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad y mwyafrif, yn cael ei gadw—

(a)am gyfnod o 5 mlynedd o'r dyddiad y cafodd yr argymhelliad ei gyflwyno; a

(b)o dan amodau diogelwch priodol .

RHAN 3Y WEITHDREFN

Cais am adolygu penderfyniad cymhwysol

12.—(1Rhaid i gais i'r Cynulliad Cenedlaethol am adolygiad o benderfyniad cymhwysol gael ei wneud gan y ceisydd mewn ysgrifen a rhaid iddo gynnwys y sail dros ei wneud.

(2Yn achos penderfyniad ar addasrwydd darpar fabwysiadydd yn unig a gaiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd hysbysiad gan yr asiantaeth fabwysiadu o'r penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â'r darpar fabwysiadydd, am i banel gael ei gyfansoddi i adolygu'r penderfyniad hwnnw.

Penodi panel a chynnal adolygiad

13.  Ar ôl cael cais sydd wedi'i wneud yn unol â rheoliad 12, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol—

(a)hysbysu o fewn 5 niwrnod gwaith yr asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol fod y cais wedi'i wneud drwy anfon at yr asiantaeth gopi o'r cais;

(b)anfon o fewn 5 niwrnod gwaith gydnabyddiaeth ysgrifenedig o'r cais at y ceisydd a'i hysbysu o'r camau a gymerwyd o dan is-baragraff (a);

(c)penodi panel o fewn 25 niwrnod gwaith yn unol â rheoliad 4 a phennu dyddiad, amser a lleoliad i'r panel gyfarfod at ddibenion cyfarfod adolygu;

(ch)Ar ôl cymryd y camau a ragnodwyd yn is-baragraff (c), a heb fod yn llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer adolygu, hysbysu'n ysgrifenedig y ceisydd a'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol—

(i)o'r ffaith bod y panel wedi'i benodi; a

(ii)o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod adolygu;

(2Ni fydd y dyddiad a bennir ar gyfer yr adolygiad yn hwyrach na 3 mis ar ôl i'r cais ddod i law'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau bod y panel yn cael yr holl bapurau perthnasol sy'n ymwneud â'r adolygiad cyn gynted ag y bo modd ond dim llai na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr adolygiad.

Argymhelliad y panel

14.—(1Pan na fydd argymhelliad y panel yn unfrydol, rhaid i'r argymhelliad fod yn argymhelliad y mwyafrif.

(2Caniateir i'r argymhelliad gael ei wneud a'i gyhoeddi ar ddiwedd yr adolygiad neu ei gadw yn ôl.

(3Rhaid i'r argymhelliad a'r rhesymau drosto ac a oedd yr argymhelliad yn argymhelliad unfrydol neu'n argymhelliad mwyafrif gael eu cofnodi'n ddi-oed mewn dogfen a gaiff ei llofnodi a'i dyddio gan y cadeirydd.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol anfon yn ddi-oed, a beth bynnag heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r argymhelliad yn cael ei wneud, gopi o'r argymhelliad a'r rhesymau drosto at y ceisydd ac i'r asiantaeth fabwysiadu a wnaeth y penderfyniad cymhwysol.

Gorchymyn i dalu costau

15.  Caiff y panel wneud gorchymyn i'r asiantaeth fabwysiadu y cafodd y penderfyniad cymhwysol a adolygwyd ei wneud ganddi dalu'r costau y mae'r panel yn eu hystyried yn rhesymol.

Diwygio Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005

16.—(1Mae Rheoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005(8) wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—

  • mae i “asiantaeth fabwysiadu briodol” yr un ystyr ag “appropriate adoption agency” yn adran 65(1) o'r Ddeddf; ac

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Ar ôl rheoliad 13 (Cofnod o sylwadau) mewnosoder y rheoliad canlynol—

Adolygu'n Annibynnol—

13A(1) Mae'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf yn benderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf (adolygu penderfyniadau'n annibynnol) —

(a)peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson i ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir;

(b)datgelu gwybodaeth i geisydd am berson pan fo'r person wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth;

(c)peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd os yw'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu gwybodaeth.

(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu roi i'r person perthnasol hysbysiad ysgrifenedig o'r penderfyniad, a rhaid i'r hysbysiad hwnnw —

(a)datgan y rhesymau dros y penderfyniad; a

(b)hysbysu'r person perthnasol y caiff wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn 20 niwrnod gwaith, gan ddechrau o'r dyddiad yr anfonwyd yr hysbysiad, am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol.

(3) Os bydd yr asiantaeth fabwysiadu yn cael hysbysiad gan y Cynulliad Cenedlaethol fod y person perthnasol wedi gwneud cais am adolygiad gan banel adolygu annibynnol o'r penderfyniad cymhwysol, rhaid i'r asiantaeth, o fewn 10 niwrnod gwaith i'r dyddiad y cafodd yr asiantaeth yr hysbysiad hwnnw, anfon at y Cynulliad Cenedlaethol —

(a)copi o'r cais am ddatgelu gwybodaeth;

(b)copi o'r hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2);

(c)cofnod o unrhyw sylwadau a gafwyd gan yr asiantaeth o dan adran 61(3) o'r Ddeddf; ac

(ch)unrhyw wybodaeth ychwanegol y gofynnir amdani gan y panel.

(4) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu beidio â chymryd unrhyw gamau yn unol â'i benderfyniad gwreiddiol—

(a)cyn bod y panel adolygu annibynnol wedi cyflwyno ei argymhelliad; neu

(b)os na fydd y person wedi gwneud cais am adolygiad o fewn y cyfnod hwnnw o 20 niwrnod gwaith, cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu ystyried unrhyw argymhelliad gan y panel adolygu annibynnol wrth benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'i benderfyniad gwreiddiol.

(6) Ym mharagraff (3)—

(a)mae'r cyfeiriad at banel adolygu annibynnol yn gyfeiriad at banel a gyfansoddwyd at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf; a

(b)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn neu ddydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971.

(7) Yn y rheoliad hwn “y person perthnasol”—

(a)yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(a) neu (c), yw'r ceisydd;

(b)yn achos penderfyniad cymhwysol a grybwyllwyd ym mharagraff (1)(b) neu (c), yw'r person y mae'r wybodaeth a ddiogelir yn ymwneud ag ef.

Achosion ar y gweill o dan Reoliadau Adolygu Annibynnol 2005 ar y diwrnod Penodedig

17.—(1O ran unrhyw gais gan ddarpar fabwysiadydd ar gyfer adolygad o benderfyniad cynhwysol a waned cyn y diwrnod Penodedig rhaid i unrhyw weithred neu benderfyniad a gymerwyd cyn y diwrnod Penodedig o dan ddarpariaeth o Reoliadau Adolygu Annibyynnol 2005, ar y diwrnod Penodedig neu ar ei ol, gael ei thrin neu'i drin fel pebai'n weithred neu'n benderfyniad o dan y ddardpariaeth gyfatebol o'r Rheoliadau hyn.

(2Yn y rheoliad hun ystyr “diwrnod penodedig” yw 31 Rhagfyr 2006.

Dirymu

18.  Mae Rheoliadau Adolygu Penderfyniadau'n Annibynnol (Mabwysiadu) (Cymru) 2005(9) drwy hyn wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (“y Deddf”). Maent yn gymwys i Gymru yn unig. Maent yn gwneud darpariaeth i banel annibynnol adolygu mewn dau fath o achos. Yn gyntaf, penderfyniad a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 nad yw'n bwriadu cymeradwyo darpar fabwysiadydd fel un sy'n addas i fabwysiadu plentyn neu benderfyniad ar ôl adolygiad nad yw darpar fabwysiadydd yn addas mwyach i fabwysiadu plentyn. Mae penderfyniad o'r fath wedi'i bennu yn rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn fel penderfyniad cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf. Yn ail, penderfyniadau a wnaed gan asiantaeth fabwysiadu o dan Reoliadau Mynediad i Wybodaeth (Mabwysiadu Ôl-gychwyn) (Cymru) 2005. Mae'r penderfyniadau hyn wedi'u pennu mewn rheoliad 13A newydd o'r Rheoliadau hynny fel penderfyniadau cymhwysol at ddibenion adran 12(2) o'r Ddeddf.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth panelau, eu swyddogaethau a thalu ffioedd, cyfarfodydd a gwaith cadw cofnodion y panelau sy'n cael eu penodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu penderfyniadau cymhwysol.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y weithdrefn sydd i'w dilyn pan geisir penderfyniad cymhwysol gan banel a gyfansoddwyd o dan Ran 2.

(1)

2002 p.38. Diwygiwyd adran 12 gan adran 57 o Ddeddf Plant 2004 (p.31).

(2)

Deddf Safonau Gofal 2000, p.14.

(3)

Mae Rheoliad 13A(1) o'r Rheoliadau Datgelu yn pennu'r penderfyniadau canlynol gan yr asiantaeth fabwysiadu briodol, mewn perthynas â chais o dan adran 61 o'r Ddeddf: (a) peidio â bwrw ymlaen â chais gan unrhyw berson am ddatgelu gwybodaeth a ddiogelir; (b) datgelu gwybodaeth i geisydd pan fo'r person hwnnw wedi dal yn ôl gydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth; ac (c) peidio â datgelu gwybodaeth am berson i'r ceisydd pan fo'r person hwnnw wedi rhoi cydsyniad i ddatgelu'r wybodaeth.

(7)

Gweler rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn.

(10)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources