Search Legislation

Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Diwrnodau penodedig

2.  6 Rhagfyr 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—

(a)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith—

(i)i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau ynghylch cynlluniau gwella hawliau tramwy a baratoir o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004(1), a

(ii)i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (amrywiol swyddogaethau awdurdodau Parciau Cenedlaethol);

(b)adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i'r graddau y mae'n darparu'r pŵer i ddyroddi canllawiau;

(c)adran 102 o'r Ddeddf (diddymiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch—

(i)adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”)(2) yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004(3), a

(ii)paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(4) yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf.

Back to top

Options/Help