- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Medi 2006.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Blwyddyn 6” (“Year 6”) yw'r grŵp blwyddyn o ddisgyblion ysgol gynradd y disgwylir i'r cyfan neu'r mwyafrif o'r disgyblion ynddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ganlynol;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr “Cynllun Pontio” (“Transition Plan”) yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 198(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 3(2);
ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
ac mae cyfeiriadau at gyhoeddi Cynllun Pontio (gan gynnwys cynllun diwygiedig) neu ddatganiad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 7(6) yn gyfeiriadau at gyhoeddi'r cynllun neu'r datganiad yn unol â rheoliad 8.
3.—(1) Dim ond mewn perthynas ag ysgolion y mae Cynlluniau Pontio yn ofynnol ar eu cyfer y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae Cynlluniau Pontio'n ofynnol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru (neu sy'n dod o fewn dosbarth penodedig ar ysgol o'r fath), ac ar gyfer pob un o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo ac a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, ac mae'n ofynnol i gorff llywodraethu pob un o'r ysgolion uwchradd a chynradd hynny, yn rhinwedd gofyniad a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 198(1) o Ddeddf 2002, lunio cynlluniau ar y cyd i hwyluso'r broses o drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ddisgyblion yn yr ysgolion cynradd hynny sy'n cael eu derbyn i'r ysgol uwchradd.
4. At ddibenion adran 198 o Ddeddf 2002, mae unrhyw anghydfod ynghylch a yw ysgol benodol i'w hystyried yn ysgol gynradd sy'n bwydo mewn perthynas ag ysgol uwchradd benodol i'w benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
5.—(1) Mae Cynllun Pontio unigol i'w lunio ar gyfer ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, ond caiff gynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw un ysgol gynradd sy'n bwydo neu ar gyfer mwy ohonynt a honno'n ddarpariaeth sy'n wahanol i'r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgol gynradd arall, neu'r ysgolion cynradd eraill, sy'n bwydo.
(2) Rhaid i Gynlluniau Pontio fod yn ysgrifenedig.
(3) Rhaid i bob cynllun esbonio'n gryno effaith adran 198 o Ddeddf 2002 (ac, yn benodol, diben Cynllun Pontio).
(4) Rhaid i bob cynllun ddatgan ei fod wedi'i lunio ar y cyd gan gorff llywodraethu'r ysgol uwchradd o dan sylw a chyrff llywodraethu'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, a rhaid iddo ddatgan enwau'r holl ysgolion.
(5) Rhaid i bob cynllun nodi'r garfan gyntaf o ddisgyblion y mae'n gymwys iddi drwy gyfeirio at y flwyddyn ysgol y symudodd y disgyblion cyntaf hynny ar ei dechrau i fyny i Flwyddyn 6 yn eu hysgol gynradd.
(6) Rhaid i bob cynllun gael ei gyhoeddi a rhaid iddo ddatgan y dyddiad y cafodd ei gyhoeddi.
(7) Rhaid i Gynlluniau Pontio ymdrin (o leiaf) â'r materion a bennir yn yr Atodlen.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys cyfeiriadau at gynllun diwygiedig.
6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r Cynllun Pontio cyntaf ar gyfer ysgol uwchradd a phob ysgol gynradd sy'n bwydo'r ysgol uwchradd honno gael ei gyhoeddi ar neu cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi” yw blwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl yr un y trosglwyddodd disgyblion yr ysgolion cynradd sy'n bwydo ar ei dechrau am y tro cyntaf i'r ysgol uwchradd o'r ysgolion hynny (fel ysgolion cynradd sy'n bwydo), neu flwyddyn ysgol 2007/2008 (p'un bynnag yw'r diweddaraf).
(3) Y disgyblion cyntaf y mae Cynllun Pontio yn gymwys iddynt yw'r disgyblion hynny, o bob ysgol gynradd sy'n bwydo, sy'n disgwyl trosglwyddo o'r ysgol gynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Cynllun Pontio eisoes mewn bod ar gyfer ysgol uwchradd ac ysgol gynradd neu ysgolion cynradd sydd eisoes yn bwydo i'r ysgol uwchradd honno a hwnnw'n gynllun sydd i'w adolygu o dan reoliad 7(1)(a) (ar ôl i “ysgol gynradd newydd” ddod yn ysgol gynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd honno).
(5) Rhaid i'r gwaith o lunio Cynllun Pontio cyntaf ddechrau mewn da bryd i'r cynllun gael ei gyhoeddi ar y dyddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan y rheoliad hwn.
7.—(1) Rhaid i Gynllun Pontio gael ei adolygu—
(a)os daw ysgol gynradd (“yr ysgol gynradd newydd”) yn ysgol gynradd sy'n bwydo i ysgol uwchradd y mae ganddi eisoes un neu ragor o ysgolion cynradd sy'n ei bwydo;
(b)os yw cyrff llywodraethu pob un o'r ysgolion o dan sylw o'r farn y gallai fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i adolygiadau gael eu gwneud; ac
(c)sut bynnag cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y Cynllun Pontio cyntaf ei gyhoeddi ac (yn ddarostyngedig i baragraff (14)) bob tair blynedd ar ôl hynny.
(2) Diben adolygiad o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol a chorff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd, ar ôl cydadolygu'r Cynllun Pontio cyfredol a phwyso a mesur pa ddiwygiadau y mae'n angenrheidiol neu'n ddymunol eu gwneud iddo, yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd gan roi sylw, yn benodol, i farn corff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys.
(3) Diben adolygiad o dan is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol yn pwyso a mesur a yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol adolygu'r cynllun ac, os bernir ei bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol ei ddiwygio, eu bod yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd.
(4) Caniateir i gynllun sydd wedi'i adolygu o dan baragraff (1)(b) gael ei adolygu ymhellach o dan y paragraff hwnnw.
(5) Yn dilyn adolygiad o dan baragraff (1)(a) rhaid adolygu'r Cynllun Pontio cyfredol neu lunio Cynllun Pontio newydd.
(6) Os yw'r cyrff llywodraethu, yn sgil adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), yn penderfynu peidio ag adolygu (neu amnewid) y Cynllun Pontio cyfredol, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad sy'n cofnodi'r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi rhesymau cryno drosto (“Datganiad”)
(7) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) gael ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi neu cyn hynny, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.
(8) Ym mharagraff (7), ystyr “y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi” yw blwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn y trosglwyddodd disgyblion cyntaf yr ysgol gynradd newydd (fel ysgol gynradd sy'n bwydo) ar ei dechrau i'r ysgol uwchradd.
(9) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), y disgyblion cyntaf o'r ysgol gynradd newydd y mae'r Cynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig yn gymwys iddi yw'r disgyblion hynny sy'n disgwyl trosglwyddo i'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(10) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(11) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(c), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi ar ddiwedd neu cyn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun Pontio cyfredol, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.
(12) Yn y rheoliad hwn ystyr “y Cynllun Pontio cyfredol” yw'r Cynllun Pontio sy'n gyfredol adeg yr adolygiad.
(13) Yn y Rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 mae i'r gair “Datganiad” yr ystyr sydd iddo ym mharagraff (6) o'r rheoliad hwn.
(14) Pan fo Cynllun Pontio yn cael ei ddiwygio neu ei amnewid ar ôl adolygiad o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1), bydd y cyfnodau o dair blynedd rhwng adolygiadau, sef y cyfnodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, yn rhedeg o hyn ymlaen o'r dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun diwygiedig neu newydd.
8.—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae Cynllun Pontio neu Ddatganiad yn cael ei gyhoeddi wrth iddo gael ei roi ar gael yn yr ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, sef yr ysgolion y mae'r Cynllun neu'r datganiad hwnnw yn ymwneud â hwy, gan gyrff llywodraethu'r ysgolion hynny i'w archwilio yn yr ysgolion.
(2) Yn y rheoliad hwn mae “Cynllun Pontio” yn cynnwys Cynllun diwygiedig o'r fath.
9.—(1) Rhaid i gorff llywodraethu yr ysgol uwchradd ddarparu copi o'r Cynllun Pontio i'r awdurdod addysg lleol y mae'r ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n bwydo yn cael eu cynnal ganddo neu, os ydynt yn cael eu cynnal gan ddau awdurdod addysg lleol gwahanol neu fwy, i bob un neu i'r cyfan ohonynt.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu yr ysgol uwchradd neu gorff llywodraethu'r ysgol gynradd sy'n bwydo, yn ôl y digwydd, ddarparu copi o'r Cynllun Pontio i unrhyw berson sy'n gofyn i'r corff llywodraethu hwnnw am gopi, a chaniateir i'r corff llywodraethu hwnnw godi ffi am unrhyw gopi o'r cynllun a ddarperir ganddo o dan y paragraff hwn (a honno'n ffi nad yw'n fwy na chost ei ddarparu).
(3) Yn y rheoliad hwn mae “Cynllun Pontio” yn cynnwys cynllun diwygiedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(1)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Chwefror 2006
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: