Search Legislation

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 762 (Cy.72)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

14 Mawrth 2006

Yn dod i rym

31 Mawrth 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac yntau wedi'i ddynodi(1) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972(2) mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y pwerau a roddwyd gan yr adran honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005

2.  Diwygir Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005(3) fel a ganlyn.

3.  Yn rheoliad 16(3), yn lle “Ni chaiff neb drosglwyddo cwota sydd ei angen” rhodder “Ni chaiff neb drosglwyddo'n gwota nas defnyddiwyd gwota y mae ei angen”.

4.  Yn rheoliad 23(4)(a), yn lle “cyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na” rhodder “cael ei anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Mai neu cyn”.

5.  Yn rheoliad 33(5)—

(a)yn lle “ddarparu ar gyfer y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol”;

(b)yn lle “sicrhau bod y rhestr yn ei gyrraedd heb fod yn hwyrach na” rhodder “ar 14 Mai neu cyn”.

6.  Yn rheoliad 35—

(a)ym mharagraff (1)(a)—

(i)yn lle “â chyflwyno” rhodder “ag anfon” ac yn lle “gyflwyno” rhodder “anfon”;

(ii)hepgorer “fel bod y datganiad yn ei gyrraedd”;

(b)ym mharagraff (1)(b)—

(i)yn lle “â chyflwyno” rhodder “ag anfon” ac yn lle “gyflwyno” rhodder “anfon”;

(ii)hepgorer “fel bod y crynodeb yn ei gyrraedd”;

(c)ym mharagraff (2), yn lle “a gyflwynwyd” rhodder “a anfonwyd”.

7.  Yn rheoliad 36—

(a)ym mharagraff (1), yn lle “and (3)” rhodder “i (3)”;

(b)ar ôl paragraff (2) rhodder—

(2A) Lle mae prynwr—

(a)yn anfon i'r Cynulliad Cenedlaethol grynodeb o ddatganiadau y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn, sy'n anghywir; a

(b)drwy wneud hynny yn achosi gorddatganiad neu danddatganiad ganddo ef neu ganddi hi, o ddanfoniadau a wnaed iddo neu iddi,

mae ef neu hi'n agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol gosb sy'n gyfwerth â swm damcaniaethol yr ardoll a fyddai'n ddyledus ar 0.5% o'r maint yn ôl cyfaint y llaeth sy'n ffurfio'r gorddatganiad neu'r tanddatganiad.;

(c)ym mharagraff (6)—

(i)ar ôl “agored i dalu i'r Cynulliad Cenedlaethol”, rhodder “,os yw'n cyflwyno hysbysiad,”;

(ii)ar y diwedd ychwaneger “gan ddechrau ar y degfed diwrnod ar hugain ar ôl cyflwyno'r hysbysiad”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Mawrth 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, a fydd yn dod i rym ar 31 Mawrth 2006, yn diwygio Rheoliadau Cwotâu Cynnyrch Llaeth (Cymru) 2005 (O.S. 2005/537) (“Rheoliadau 2005”).

Mae Rheoliadau 2005 yn gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 279, 21.10.2003, t.123) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 595/2004 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1788/2003 sy'n sefydlu ardoll yn y sector llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L 94, 31.3.2004, t.22) (“Rheoliad y Comisiwn”).

Mae rheoliad 3 yn cywiro gwall yn rheoliad 16 o Reoliadau 2005 sy'n atal trosglwyddiad cwotâu sy'n angenrheidiol i ofalu am gynhyrchu sy'n digwydd cyn y dyddiad trosglwyddo. Mae'r diwygiad hwn yn darparu y caniateir trosglwyddo'r cwota hwnnw, ond ni ellir ei gyfrif fel cwota nas defnyddiwyd.

Mae rheoliadau 4 i 6 yn diwygio darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol i gynhyrchwyr a phrynwyr llaeth ddarparu gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol erbyn dyddiad penodedig. Y gofyniad yw bod yr wybodaeth yn cael ei hanfon i'r Cynulliad Cenedlaethol ar y dyddiad hwnnw neu cyn y dyddiad hwnnw.

Mae rheoliad 7 yn cywiro hepgoriad yn rheoliad 36 o Reoliadau 2005 i gosbi prynwyr sy'n anfon crynodebau anghywir ynghylch cynhyrchu y mae'n ofynnol eu cyflwyno o dan Erthygl 8(2) o Reoliad y Comisiwn. Mae hefyd yn darparu bod y gosb ar brynwyr sy'n methu â chyflwyno crynodeb sy'n ofynnol gan Erthygl 8(4) o Reoliad y Comisiwn cyn 1 Gorffennaf yn y flwyddyn pryd y mae ei angen yn gymwys 30 o ddiwrnodau ar ôl i'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwn.

Mae Arfarniad Rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae copïau ar gael o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources