- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 1
OS Rhif | Enw | Darpariaethau a ddirymwyd |
---|---|---|
O.S. 1998/ 644 | Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) 1998 | Pob un |
O.S. 2001/ 606 (Cy.29) | Rheoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Cynlluniau Cymorth Ymddygiad) (Diwygio) (Cymru) 2001 | Pob un |
O.S. 2002/ 1187 (Cy.135) | Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Cymru) 2002 | Pob un |
O.S. 2003/ 893 (Cy.113) | Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 | Rheoliadau 5, 6 a 7 a'r Atodlen. |
O.S. 2003/ 1732 (Cy.190) | Rheoliadau Addysg (Cynlluniau Trefniadaeth Ysgolion) (Cymru) 2003 | Pob un |
O.S. 2005/ 434 (Cy.45) | Rheoliadau Cynlluniau Datblygu Addysg (Diwygio) (Cymru) 2005 | Pob un |
Rheoliad 4
1. Yn yr Atodlen hon—
mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312(1) o Ddeddf 1996;
ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod o flwyddyn yn cychwyn ar 1 Medi;
mae “cyfnod allweddol” i'w ddehongli'n unol â “key stage” yn adran 103 o Ddeddf 2002;
mae i “datganiad o anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “statement of special educational needs” gan adran 324 o Ddeddf 1996(1);
ystyr “disgyblion yr ail gyfnod allweddol” (“second key stage pupils”) a “disgyblion y trydydd cyfnod allweddol” (“third key stage pupils”) a “disgyblion y pedwerydd cyfnod allweddol” (“fourth key stage pupils”) yw disgyblion sydd yn yr ail gyfnod allweddol, y trydydd a'r pedwerydd yn y drefn honno;
ystyr “lefel 4” (“level 4”) a “lefel 5” (“level 5”) yw lefelau 4 a 5, yn y drefn honno, ar raddfa lefelau Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru fel a ddyfernir gan asesiad athrawon;
ystyr “NQF” (“NQF”) yw'r Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol sy'n cynnwys cymwysterau a achredir ar y cyd gan y Cynulliad Cenedlaethol sy'n arfer swyddogaethau a freiniwyd gynt yn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru a'r awdurdodau rheoleiddio cyfatebol ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon(2), ac ystyr “lefel” (“level”) (ac eithrio mewn perthynas â “lefel 4” a “5”, a ddiffinnir uchod) yw'r lefel yr achredir cymhwyster ati o fewn yr NQF; a
ystyr “TGAU” (“GCSE”) yw Tystysgrif Gyffredinol Addysg Uwchradd.
2. Rhaid i Gynllun Addysg Sengl gynnwys, ar gyfer y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 5, y strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.
3. Datganiad sy'n nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys ei strategaethau ar gyfer y canlynol—
(a)cefnogi ysgolion—
(i)y mae eu perfformiad yn sylweddol waeth na pherfformiad ysgolion eraill yng Nghymru sydd â lefelau tebyg o ddisgyblion â'r hawl i brydau am ddim yn yr ysgol; neu
(ii)a arolygwyd gan arolygydd cofrestredig, y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd, a bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r farn honno; neu
(iii)a arolygwyd gan aelod o'r Arolygiaeth y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd;
(b)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella'r modd y trosglwyddir disgyblion rhwng yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd;
(c)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella safonau llythrennedd neu rifedd, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer gwella sgiliau'r sawl sy'n tangyflawni;
(ch)darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu sy'n sylweddol fwy na rhai'r mwyafrif o'u cyfoedion;
(d)cefnogi ysgolion a'r gefnogaeth honno wedi'i hanelu at gadw disgyblion yn yr ysgol ac at ailintegreiddio disgyblion a waharddwyd;
(dd)cefnogi ysgolion i ddatblygu ffocws cymunedol;
(e)cefnogi parhad ieithyddol yn yr iaith Gymraeg; ac
(f)cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella cyfradd presenoldebau disgyblion.
4. Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod, a'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei gwneud, boed yn rhan amser neu'n amser llawn, ar gyfer disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd, neu am resymau eraill, ac ar gyfer codi safonau addysg y disgyblion hynny.
5. Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cynllunio lleoedd ysgolion (gan gynnwys y camau sydd eu hangen ym marn yr awdurdod i baru cyflenwad o leoedd ysgol â'r angen a nodwyd), gan ystyried—
(a)unrhyw ostyngiad neu godiad arfaethedig yn niferoedd y disgyblion, yn unrhyw ran o ardal yr awdurdod, sy'n arwain at fod y lleoedd sydd ar gael yn rhy niferus neu'n rhy brin;
(b)unrhyw lefelau sy'n bodoli o leoedd sy'n rhy niferus ac achosion o orlenwi;
(c)y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg;
(ch)y galw am leoedd mewn ysgolion crefyddol;
(d)yr angen am sicrhau bod yr holl adeiladau ysgolion o safon addas ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac y gwneir hynny, pan fo'n briodol, mewn ffordd sy'n hwyluso defnyddio mangreoedd ysgol gan y gymuned;
(dd)y gofynion cyfreithiol am sicrhau cydymffurfedd â'r terfyn statudol ar faint dosbarthiadau babanod a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf 1998(3), a'i bod yn ddymunol cyfyngu dosbarthiadau iau i 30 o ddisgyblion;
(e)yr angen am sicrhau addysg feithrin (yn unol â gofynion a osodwyd yn rhinwedd Rheoliadau o dan adran 118 o Deddf 1998)(4);
(f)cyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995(5), neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, i wella mynediad i ddisgyblion anabl ac i hwyluso mynediad i gyflogeion anabl a defnyddwyr eraill mangreoedd ysgol;
(ff)yr angen am ddarparu lleoedd ôl-16 mewn ysgolion; ac
(g)yr angen am ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, neu mewn unedau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly, neu drwy leoliad mewn ysgolion arbennig nas cynhelir neu mewn ysgolion annibynnol.
6. Datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro cynnydd o ran pob un o'i strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon.
7.—(1) O ran y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08 ceir y Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad yn is-baragraffau (2), (3) a (5) isod.
(2) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyrhaeddiad fel a ganlyn—
(a)Y ganran o ddisgyblion yr ail gyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cyrraedd lefel 4 neu uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg fel a asesir gan asesiad athrawon;
(b)Y ganran o ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cyrraedd lefel 5 neu uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg fel a asesir gan asesiad athrawon;
(c)Y ganran o ddisgyblion y pedwerydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill gradd C neu uwch mewn arholiadau TGAU mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg;
(ch)Y ganran o ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill unrhyw radd o A* i C mewn pum arholiad TGAU neu fwy, neu gymhwyster cyfatebol mewn arholiadau eraill ar NQF lefel 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU neu arholiadau eraill ar NQF lefel 2;
(d)Cyfrifir y nifer o bwyntiau ar gyfartaledd a enillir gan ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn arholiadau o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999(6) yn unol â'r paragraff hwnnw; ac
(dd)Y ganran o ddisgyblion sy'n gorffen addysg lawnamser heb unrhyw gymhwyster a gymeradwywyd(7).
(3) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer presenoldeb fel a ganlyn—
(a)Cyfanswm cyfradd y presenoldebau ar gyfer ysgolion cynradd a gynhelir gan yr awdurdod; a
(b)Cyfanswm cyfradd y presenoldebau ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod.
(4) Yn is-baragraff (3)—
ystyr “cyfanswm cyfradd y presenoldebau” (“the total attendance rate”) yw cyfanswm nifer y presenoldebau yn y flwyddyn ysgol, y gosodir y targed mewn perthynas â hi, wedi'i fynegi fel canran o gyfanswm nifer y presenoldebau posibl yn y flwyddyn ysgol honno; ac
ystyr “cyfanswm nifer y presenoldebau posibl” (“the total number of possible attendances”) yw'r nifer a geir o luosi'r nifer o ddisgyblion dydd o oedran ysgol gorfodol a gofrestrir, yn ôl y digwydd, mewn ysgolion cynradd neu ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod yn y flwyddyn ysgol y gosodir y targed mewn perthynas â hi gan nifer y sesiynau ysgol yn y flwyddyn ysgol honno.
(5) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer gwaharddiadau fel a ganlyn—
(a)yn achos y sector cynradd a'r sector uwchradd, y ganran o ddiwrnodau ysgol a gollwyd oherwydd gwaharddiadau am gyfnod penodol a hyd y gwaharddiadau am gyfnod penodol ar gyfartaledd mewn diwrnodau; a
(b)yn achos ysgolion uwchradd, y gyfradd o waharddiadau parhaol fesul 1000 o ddisgyblion.
(6) At ddibenion paragraff (2), mae cyfeiriad at ddisgyblion 15 oed yn gyfeiriad at ddisgyblion a oedd yn 15 oed ar yr 31 Awst yn union cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y gosodwyd y targed ar ei chyfer.
Rheoliad 4
Rhaid i Atodiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol fynd gyda Chynllun Addysg Sengl—
(a)y nifer o ddisgyblion cynradd ac uwchradd yn ardal yr awdurdod ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06, a nifer arfaethedig y disgyblion hynny ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;
(b)y nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgolion meithrin ac ysgolion arbennig) yn y flwyddyn ysgol 2005-06 o'i chymharu â chapasiti'r ysgol, a'r nifer arfaethedig ar y gofrestr ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol;
(c)y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol;
(ch)y galw am ddarpariaeth mewn ysgolion crefyddol a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol ;
(d)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06—
(i)y nifer o leoedd meithrin mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod;
(ii)y nifer o leoedd o'r fath a ariennir gan yr awdurdod mewn sefydliadau nas cynhelir; a
(iii)y nifer o leoedd yn y mannau canlynol, gan roi'r ffigurau ar wahân o ran yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (i) a (ii)—
ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Cymraeg, a
ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Saesneg,
ac, ym mhob achos, y nifer arfaethedig o leoedd ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08; ac
(dd)O ran y flwyddyn ysgol 2005-06 cyfanswm y lleoedd hynny yn y sefydliadau canlynol—
(i)ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, a
(ii)dosbarthiadau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly,
gyda dadansoddiad yn ôl y math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob un o'r ddau fath hwnnw o sefydliad, ac (ar gyfer pob sefydliad o'r fath ac ar wahân ar gyfer pob math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob sefydliad o'r fath) dadansoddiad pellach yn ôl y canlynol—
(i)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth ddydd yn unig,
(ii)a oes darpariaeth fyrddio o dymor i dymor ar gael,
(iii)a oes darpariaeth fyrddio am 52 wythnos ar gael, neu
(iv)a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ynteu cyfrwng Saesneg.
Diwygiwyd adran 324 gan adran 9 o Ddeddf Anghenion Arbennig ac Anabledd 2001 p.10, adran 140 ac Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 iddi.
O ran trosglwyddo swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gweler Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 O.S. 2005/3239 (Cy.244). Yr awdurdodau rheoleiddio cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.
Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yn pennu 30 yn derfyn maint dosbarthiadau babanod fel arfer.
Gweler Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/893, (Cy.113) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/1813, (Cy. 143).
O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1736 (Cy. 179).
Mae cymhwyster a gymeradwywyd yn gymhwyster a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: