Search Legislation

Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 29 Mawrth 2007, ac mae'n effeithiol o 6 Ebrill 2006 ymlaen.

(3Daw Rhan 13 o Atodlen 1 i rym ar 1 Ebrill 2007.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Cynllun pensiwn newydd i ddiffoddwyr tân yng Nghymru

2.  Mae Cynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), a welir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn ac sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu pensiynau a chyfandaliadau i bersonau, ac mewn perthynas â phersonau, sy'n cael neu sydd wedi cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub Cymreig, fel diffoddwyr tân (gan gynnwys personau sy'n marw tra bônt yn cael eu cyflogi felly), yn effeithiol.

Effaith cynllun 1992 yn peidio yng Nghymru, gydag arbedion

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), nid yw Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân a welir yn Atodlen 2 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân 1992(1) (“cynllun 1992”) yn effeithiol mewn perthynas â pherson sy'n dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig ar neu ar ôl 6 Ebrill 2006.

(2Nid yw paragraff (1) yn gymwys i berson —

(a)sy'n trosglwyddo i gyflogaeth awdurdod tân ac achub Cymreig o gyflogaeth gydag awdurdod tân ac achub yn Lloegr neu'r Alban neu gyda Bwrdd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Iwerddon; a

(b)a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân a sefydlwyd gan yr awdurdod y mae'r person yn trosglwyddo o'i gyflogaeth.

(3Pan fo person, ar unrhyw bryd yn y cyfnod sy'n dechrau ar 6 Ebrill 2006 ac sy'n dod i ben ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn dod yn aelod o gynllun 1992 ar ôl dechrau gwaith cyflogedig gydag awdurdod tân ac achub Cymreig—

(a)ar y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym—

(i)bydd effaith cynllun 1992 yn peidio mewn perthynas â'r person hwnnw, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau a welir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn (trefniadau trosiannol); a

(ii)bydd darpariaethau Cynllun Pensiwn newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru) yn effeithiol mewn perthynas â'r person hwnnw; a

(b)ymdrinnir â gwasanaeth pensiynadwy a oedd yn wasanaeth cyfrifadwy at ddibenion cynllun 1992 fel gwasanaeth pensiynadwy sy'n gyfrifadwy o dan Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru).

(4Mae Cynllun 1992 yn parhau i fod yn effeithiol mewn perthynas â pherson a oedd, yn union cyn 6 Ebrill 2006, yn aelod ohono neu yr oedd ganddo hawlogaeth i gael, neu yr oedd yn cael, dyfarndal odano.

Parhad cynlluniau ar gyfer diffoddwyr tân wrth gefn

4.—(1Mae'r erthygl hon yn gymwys pan fo awdurdod tân ac achub Cymreig, yn union cyn y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn cynnal cynllun ar gyfer talu pensiynau i ddiffoddwyr tân wrth gefn ac mewn perthynas â hwy (“y cynllun wrth gefn”).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff yr awdurdod barhau i gynnal y cynllun wrth gefn ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, er budd y personau a oedd yn aelodau o'r cynllun hwnnw cyn 6 Ebrill 2006, fel petai'n gynllun a sefydlwyd o dan Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

(3Rhaid i'r awdurdod beidio â gwneud y canlynol—

(a)o ran diffoddwr tân wrth gefn sy'n dod yn aelod o Gynllun Pensiwn Newydd y Diffoddwyr Tân (Cymru), gwneud unrhyw gyfraniad at y cynllun wrth gefn ar neu ar ôl y dyddiad y mae aelodaeth y diffoddwr tân o'r Cynllun hwnnw yn cychwyn, neu

(b)defnyddio Cronfa Bensiwn eu Diffoddwyr Tân(2) er mwyn gwneud cyfraniadau cyflogwr at y cynllun wrth gefn.

(4Yn yr erthygl hon ystyr “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yw person sy'n cael ei gyflogi gan awdurdod tân ac achub—

(a)fel diffoddwr tân, ond nid fel diffoddwr tân rheolaidd, a

(b)sy'n gorfod bod yn bresennol ar yr adegau y mae'r swyddog sy'n goruchwylio yn barnu eu bod yn angenrheidiol, ac yn unol â'r gorchmynion y mae'r person yn eu cael.

Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources