Symiau gormodol — gwargedion gwirioneddol
8.—(1) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth nas archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm a gredydwyd i CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm a dalwyd o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(a)pan fo'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged nas archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd neu sy'n daladwy iddo gan yr awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 6(1) neu (2) (“y cyfanswm rheol 6”), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo swm y gwarged nas archwiliwyd namyn y cyfanswm rheol 6;
(b)pan fo'r gwarged nas archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm rheol 6, nid yw swm y cyfanswm rheol 6 namyn y gwarged nas archwiliwyd yn daladwy o dan reol 6(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu'r i'r awdurdod;
(c)os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan reol 6(1) neu (2), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo swm y gwarged nas archwiliwyd; ac
(ch)nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 5(1) neu (2) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad.
(2) Pan fo'n ymddangos i'r Cynulliad, ar ôl iddo gymryd i ystyriaeth yr wybodaeth a archwiliwyd ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall sydd ar gael iddo, fod y cyfanswm a gredydwyd i CBDT awdurdod yn y flwyddyn o dan sylw yn fwy na'r cyfanswm sy'n daladwy o CBDT yr awdurdod yn y flwyddyn honno—
(a)pan fo'r gwahaniaeth rhwng y cyfansymiau hynny (“y gwarged a archwiliwyd”) yn fwy na chyfanswm unrhyw symiau a dalwyd (ond nad ydynt wedi'u had-dalu nac yn ad-daladwy) neu sy'n daladwy iddo gan yr awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2) (“y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd”), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu iddo o CBDT yr awdurdod swm y gwarged a archwiliwyd namyn y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd;
(b)pan fo'r gwarged a archwiliwyd yn llai na'r cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd, nid yw swm y cyfanswm rheol 6 nas archwiliwyd namyn y gwarged a archwiliwyd yn daladwy o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2) ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r Cynulliad ei ad-dalu'r i'r awdurdod;
(c)os nad oes unrhyw swm wedi'i dalu nac yn daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn o dan sylw o dan baragraff (1)(a) neu (c) neu reol 6(1) neu (2), rhaid iddo ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dalu i'r Cynulliad swm y gwarged a archwiliwyd; ac
(ch)nid yw unrhyw swm a dalwyd neu sy'n daladwy ganddo i'r awdurdod mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan reol 5(1) neu (2) neu reol 7(1)(a) neu (c) yn daladwy ac, os yw eisoes wedi'i dalu, rhaid i'r awdurdod ei ad-dalu i'r Cynulliad.
(3) Rhaid i'r Cynulliad roi i'r awdurdod, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol o dan sylw (“yr ail flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm y taliad y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ei wneud o dan baragraff (1)(a) neu (c).
(4) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad, neu i'r gwrthwyneb, o dan baragraff (1) gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn yr ail flwyddyn.
(5) Rhaid i'r Cynulliad roi i'r awdurdod, ar neu cyn 3 Gorffennaf yn y flwyddyn ariannol, sef yr ail flwyddyn ariannol ar ôl y flwyddyn o dan sylw (“y drydedd flwyddyn”), hysbysiad ysgrifenedig o swm unrhyw daliad y mae'n ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ei wneud o dan baragraff (2)(a) neu (c).
(6) Rhaid i swm sy'n daladwy neu'n ad-daladwy gan yr awdurdod i'r Cynulliad, neu i'r gwrthwyneb, yn rhinwedd paragraff (2), gael ei dalu neu ei ad-dalu ym mis Gorffennaf yn y drydedd flwyddyn.