Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1086 (Cy.115)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2007

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1(1)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) ynghyd â'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 100 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(3), ac yntau wedi ymgynghori fel sy'n ofynnol gan adran 100(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000:

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym —

(a)at ddibenion —

(i)y rheoliad hwn;

(ii)rheoliad 2;

(iii)Rhan 6;

(iv)paragraffau (1), (5) i (8), (10) i (13), (15), (18), (19) a (21) i (23) o reoliad 40;

(v)paragraffau (1), (5), (6) (7) ac (11) i (13) o reoliad 41; a

(vi)rheoliad 43,

ar 1 Mehefin 2007; a

(b)at bob diben arall, ar y diwrnod sydd bedwar mis ar ôl y diwrnod y mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel, yn unol â rheoliad 39(1), yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â rheoliad 34.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “adroddiad atodol” (“supplementary report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 36 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 35 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad cychwynnol” (“initial report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 34;

mae “aelod” (“member”) yn cynnwys, mewn perthynas â Rhannau 2 i 5 o'r Rheoliadau hyn ac oni fynegir yn benodol fel arall, aelod cyfetholedig, aelod o bwyllgor neu aelod o is-bwyllgor;

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) o ran awdurdod yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond —

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,

ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(4);

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu drwy gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo(5);

ystyr “blwyddyn” (“year”) —

(a)

at ddibenion rheoliad 28(2), yw cyfnod o ddeuddeng mis;

(b)

at ddibenion rheoliad 29(1), yw unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis yn dod i ben ar 31 Rhagfyr; ac

(c)

at bob diben arall —

(i)

yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b) ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009; a

(ii)

yw unrhyw gyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth ar ôl hynny;

ystyr “bwrdd” (“board”) yw pwyllgor awdurdod a sefydlwyd o dan rheoliad 4 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007(6);

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun talu lwfansau a wnaed yn unol â Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(7);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw —

(a)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod neu o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyfarfodydd unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau corff o'r fath;

(b)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd unrhyw gymdeithas awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohoni;

(c)

presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall y mae'r awdurdod neu un o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyd-bwyllgorau'r awdurdod ynghyd ag un awdurdod arall neu fwy yn awdurdodi ei gynnal;

(ch)

dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni pan fydd gan yr awdurdod ar waith drefniadau gweithredol o fewn ystyr Rhan II o Ddeddf 2000;

(d)

dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;

(dd)

dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo arolygu mangreoedd neu awdurdodi eu harolygu;

(e)

presenoldeb mewn unrhyw achlysur hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu gan weithrediaeth neu fwrdd yr awdurdod; ac

(h)

unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall mewn dosbarth a gymeradwyir felly, a honno'n ddyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni;

ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw gweithrediaeth awdurdod ar ffurf a bennir yn adran 11(2) i (5) o Ddeddf 2000;

mae i'r ymadrodd “lwfans aelodau cyfetholedig” (“co-optees' allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans gofal” (“care allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans sylfaenol” (“basic allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans teithio a chynhaliaeth” (“travelling and subsistence allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 15 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Panel” (“Panel”) yw'r panel a sefydlir yn unol â Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn;

mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002(8);

ystyr “Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub” (“Fire and Rescue Authority Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004(9);

mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr sydd i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod sy'n swyddogaethau o fath a ddisgrifir yn adran 32(1) o Ddeddf 2000; ac

mae i'r ymadrodd “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.

Awdurdodau perthnasol rhagnodedig

3.  Rhagnodir awdurdodau'n awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) ac (c) o Ddeddf 2000.

RHAN 2Cynlluniau Lwfansau Aelodau

Dehongli

4.  Bydd tymor mewn swydd aelod awdurdod sy'n gynghorydd yn cychwyn ar y dyddiad y bydd yr aelod hwnnw'n gwneud datganiad i dderbyn y swydd honno o dan adran 83(1) o Ddeddf 1972.

Cynlluniau Lwfansau

5.—(1Rhaid i awdurdod wneud cynllun yn unol â'r Rheoliadau hyn ar gyfer talu lwfansau mewn cysylltiad â phob blwyddyn.

(2Pan ddirymir cynllun yn unol â rheoliad 6(1), rhaid i awdurdod, cyn i'r dirymiad gymryd effaith, wneud cynllun pellach ar gyfer y cyfnod sy'n cychwyn ar y dyddiad y bydd y dirymiad yn cymryd effaith.

Diwygio Cynlluniau

6.—(1Caniateir diwygio neu ddirymu cynllun a wneir o dan y Rhan hon ar unrhyw adeg.

(2Os yw diwygiad i'w wneud a hwnnw'n ddiwygiad sy'n effeithio ar lwfans sy'n daladwy am y flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi, caiff y cynllun ddarparu i'r hawl i'r cyfryw lwfans fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir y diwygiad ynddi, ac os yw'r diwygiad yn effeithio ar lwfans sylfaenol neu lwfans cyfrifoldeb arbennig mewn perthynas â phob un o'r cyfnodau —

(a)yn cychwyn ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ac yn gorffen ar y diwrnod cyn y diwrnod y bydd y diwygiad cyntaf yn y flwyddyn honno'n cymryd effaith, a

(b)yn cychwyn ar y diwrnod y bydd diwygiad yn cymryd effaith ac yn gorffen y diwrnod cyn y dyddiad y bydd y diwygiad nesaf yn cymryd effaith, neu (os nad oes un) ar ddiwrnod olaf y flwyddyn,

bydd yr hawl i'r cyfryw lwfans yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o swm y lwfans o dan y cynllun fel y mae'n effeithiol yn ystod y cyfnod perthnasol ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau yn y cyfnod fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn.

Lwfansau sylfaenol

7.—(1Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu lwfans (“lwfans sylfaenol”) am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn berthnasol iddi i bob aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd a rhaid i swm y cyfryw lwfans fod yr un swm i bob aelod o'r fath.

(2O ran lwfans sylfaenol, ni chaniateir i swm y mae gan bob aelod awdurdod sy'n gynghorydd hawl iddo, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw —

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(i);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(3Rhaid i gynllun ddarparu, pan fydd tymor mewn swydd aelod yn cychwyn neu'n gorffen ar ddyddiad ac eithrio dechrau neu ddiwedd y flwyddyn, y bydd hawl yr aelod hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sylfaenol ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod fel cynghorydd yn ystod y flwyddyn honno fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(4Os caiff cynllun ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad yw tymor mewn swydd aelod sy'n gynghorydd yn para trwy gydol y cyfan o'r cyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o'r paragraff hwnnw, rhaid i'r cynllun ddarparu bod hawl unrhyw aelod o'r fath o dan y rheoliad hwn yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sylfaenol ag sy'n gymwys i bob cyfnod o'r fath ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod yn y cyfnod hwnnw fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod.

(5Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu nad oes mwy nag un lwfans sylfaenol yn daladwy i aelod o awdurdod.

(6Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan honno o lwfans sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol rhag eu cyflawni.

Lwfansau cyfrifoldeb arbennig

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5) caiff cynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu ar gyfer talu am bob blwyddyn y mae'r cynllun yn gysylltiedig â hi lwfans (“lwfans cyfrifoldeb arbennig”) i'r cyfryw aelodau o'r awdurdod ag sy'n gynghorwyr ac sydd â'r cyfryw gyfrifoldebau arbennig mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw ag —

(a)a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw

(i)yn yr adroddiad cychwynnol; neu

(ii)mewn unrhyw adroddiad atodol; a

(b)a bennir yn y cynllun.

(2Ni chaniateir talu lwfans cyfrifoldeb arbennig i fwy na hanner cant y cant o aelodau'r awdurdod (canran a gyfrifir drwy ddefnyddio cyfanswm nifer y seddau ar yr awdurdod a thrwy dalgrynnu i fyny nifer yr aelodau i'r Rhif cyfan nesaf pan nad yw'r Rhif , o gyfrifo'r ganran, yn Rhif cyfan).

(3Ni chaiff y swm y mae hawl iddo o ran cyfrifoldeb arbennig a hynny ar ffurf lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r cyfrifoldeb arbennig hwnnw ac â'r awdurdod hwnnw —

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(ii);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(4Ni chaniateir i awdurdod dalu mwy nag un lwfans cyfrifoldeb arbennig i aelod sy'n un o gynghorwyr yr awdurdod hwnnw.

(5Rhaid i unrhyw gynllun sy'n gwneud y cyfryw ddarpariaeth ag a grybwyllir ym mharagraff (1) ddarparu —

(a)pan nad oes gan aelod, drwy gydol blwyddyn, unrhyw gyfrifoldebau arbennig o'r math sy'n rhoi i aelod hawl i lwfans cyfrifoldeb arbennig, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans hwnnw ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau pan fydd gan yr aelod hwnnw'r cyfryw gyfrifoldebau arbennig fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno; a

(b)pan gaiff cynllun ei ddiwygio fel a grybwyllir ym mharagraff (2) o reoliad 6 ac nad oes gan aelod drwy gydol y cyfan o unrhyw gyfnod a grybwyllir yn is-baragraff (a) neu (b) o'r paragraff hwnnw unrhyw gyfrifoldebau arbennig o'r fath sy'n rhoi i aelod hawl i lwfans cyfrifoldeb arbennig, bydd hawl yr aelod hwnnw yn hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o'r lwfans sy'n gymwys i bob cyfnod o'r fath ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y pery tymor mewn swydd yr aelod yn y cyfnod hwnnw fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod.

(6Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol rhag eu cyflawni.

Lwfansau gofal

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff cynllun ddarparu ar gyfer talu i aelod o'r awdurdod sy'n gynghorydd lwfans (“lwfans gofal”) mewn cysylltiad â'r cyfryw dreuliau y mae'n angenrheidiol eu tynnu wrth drefnu gofal i blant neu ddibynyddion er mwyn i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod.

(2Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon beidio â darparu ar gyfer talu —

(a)lwfans gofal mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn dros bymtheg oed neu ddibynnydd onid yw'r aelod yn bodloni'r awdurdod fod angen ar y plentyn neu'r dibynnydd oruchwyliaeth sydd wedi peri i'r aelod dynnu treuliau a oedd yn angenrheidiol mewn cysylltiad â gofalu am y plentyn neu'r dibynnydd hwnnw er mwyn i'r aelod hwnnw gyflawni ei ddyletswyddau fel aelod;

(b)lwfans gofal i fwy nag un aelod o'r awdurdod mewn perthynas â gofalu am yr un plentyn neu ddibynnydd; neu

(c)mwy nag un lwfans gofal i unrhyw aelod o'r awdurdod nad yw'n gallu dangos er boddhad rhesymol yr awdurdod fod yn rhaid i'r aelod wneud trefniadau ar wahân ar gyfer gofalu am wahanol blant neu ddibynyddion.

(3Ni chaniateir i'r swm y mae gan aelod sy'n un o gynghorwyr awdurdod hawl iddo o ran lwfans gofal, yn ddarostyngedig i reoliad 11 a pharagraffau (1) i (3) o reoliad 12, fod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw—

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(iii);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(4Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans gofal sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

RHAN 3Cynlluniau — Darpariaeth Bellach

Swm y lwfansau

10.  Rhaid i gynllun bennu mewn cysylltiad ag unrhyw flwyddyn y mae'n ymwneud â hi —

(a)swm y lwfans sylfaenol neu ffordd o ganfod y swm; a

(b)swm y lwfans cyfrifoldeb arbennig neu ffordd o ganfod y swm a, phan fydd gwahanol symiau'n gymwys i wahanol gyfrifoldebau, y swm sy'n gymwys i bob un, neu ffordd o ganfod y swm.

11.  At ddibenion y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b) ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009 (“y flwyddyn gyntaf”), rhaid i swm yr hawliad ar gyfer-

(a)lwfans sylfaenol;

(b)lwfans cyfrifoldeb arbennig; ac

(c)lwfans gofal,

sy'n daladwy gan awdurdod, beidio â bod yn uwch na'r cyfryw gyfran o'r uchafswm sy'n daladwy ar gyfer pob un o'r lwfansau hynny fel a ragnodir gan y Panel ag sy'n cyfateb i nifer y dyddiau yn y flwyddyn gyntaf fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009.

12.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) caiff cynllun wneud darpariaeth ar gyfer addasu lwfansau'n flynyddol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran addasiad blynyddol i lwfans sy'n daladwy gan awdurdod am unrhyw flwyddyn—

(a)Rhaid iddo beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â—

(i)y lwfans hwnnw;

(ii)yr awdurdod hwnnw; a

(iii)y flwyddyn honno,

mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir yn unol â rheoliad 35 neu reoliad 36 yn y drefn honno; a

(b)ni chaniateir ei wneud ond drwy gyfeirio at fynegai os yw'r Panel wedi rhagnodi bod y cyfryw fynegai i'w ddefnyddio at y diben hwnnw—

(i)mewn perthynas â'r lwfans hwnnw;

(ii)gan yr awdurdod hwnnw; a

(iii)mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno,

mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir yn unol â rheoliad 35 neu 36 yn y drefn honno.

(3Os bydd i'r Panel gynhyrchu adroddiad atodol sy'n rhagnodi materion a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) neu (b), caiff awdurdod y mae'r adroddiad hwnnw'n gymwys iddo—

(a)ar gyfer y flwyddyn y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud â hi; a

(b)mewn perthynas â'r materion a ragnodir felly,

addasu lwfansau sy'n daladwy ganddo am y flwyddyn honno, er y gallai'r awdurdod fod wedi addasu'r lwfansau o dan baragraff (1) o ganlyniad i adroddiad blynyddol cynharach a gynhyrchwyd gan y Panel mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

(4Caiff cynllun ddarparu, pan fydd unrhyw lwfans wedi'i dalu eisoes mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod dan sylw—

(a)wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno;

(b)yn peidio â bod yn aelod o awdurdod; neu

(c)heb fod â hawl mewn urnhyw ffordd arall i dderbyn y lwfans mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i unrhyw gyfnod o'r fath gael ei had-dalu i'r awdurdod.

Dewis i beidio â derbyn lwfansau

13.  Rhaid i gynllun ddarparu y caiff aelod, o anfon hysbysiad ysgrifenedig at swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o lwfans y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddo o dan y cynllun.

Taliadau

14.  Caiff cynllun ddarparu bod taliadau o ran lwfansau i'w gwneud ar y cyfryw adegau ag a fyddo wedi'u pennu ynddo, a chaniateir pennu gwahanol adegau ar gyfer gwahanol lwfansau.

RHAN 4Lwfansau Eraill

Lwfans teithio a chynhaliaeth

15.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) mae gan aelod hawl i dderbyn taliadau lwfansau teithio a chynhaliaeth ar gyfraddau a benderfynir bob blwyddyn gan yr awdurdod pan fydd gwariant ar deithio neu gynhaliaeth yn cael ei dynnu o raid gan yr aelod hwnnw wrth iddo gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.

(2Rhaid i gyfraddau lwfans a benderfynir gan awdurdod am flwyddyn o dan baragraff (1), yn ddarostyngedig i reoliad 20, beidio â bod yn fwy na'r cyfraddau lwfansau teithio a chynhaliaeth a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw—

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(iv) a (v);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(3Pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i awdurdod wrthod talu lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

Lwfans aelodau cyfetholedig

16.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff awdurdod ddarparu bod lwfans am bob blwyddyn yn cael ei dalu i aelod cyfetholedig sydd â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd fel a ragnodir gan y Panel.

(2Rhaid i'r swm y mae gan aelod cyfetholedig hawl iddo o ran lwfans aelodau cyfetholedig, yn ddarostyngedig i reoliadau 19 a 20, beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw—

(a)ac eithrio pan fydd is-baragraff (b) yn gymwys, yn yr adroddiad cychwynnol yn unol â rheoliad 34(1)(b)(vi);

(b)mewn adroddiad atodol, y mae darpariaethau perthnasol yr adroddiad yn gymwys ar y pryd.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 20 caiff awdurdod addasu swm yr hawl i lwfans aelodau cyfetholedig am flwyddyn ar unrhyw adeg yn y flwyddyn honno.

(4Pan fo awdurdod yn gwneud addasiad o'r fath, boed yn unol â rheoliad 20 neu fel arall, caiff yr awdurdod hwnnw ddarparu bod swm yr hawl i lwfans aelod cyfetholedig fel y'i addaswyd i fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi.

(5Os rhan yn unig o flwyddyn yw tymor mewn swydd aelod cyfetholedig, bydd hawl yr aelod cyfetholedig hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o lwfans aelodau cyfetholedig ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y mae'r aelod cyfetholedig yn dal y swydd yn ystod y flwyddyn fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(6Pan fydd aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod wrthod talu unrhyw lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod cyfetholedig hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

Dewis peidio â derbyn lwfansau o dan Ran 4

17.—(1Caiff aelod, o anfon hysbysiad ysgrifenedig at swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn yr hyn y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddo neu unrhyw ran o lwfansau teithio a chynhaliaeth y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddynt.

(2Caiff aelod cyfetholedig, o anfon hysbysiad ysgrifenedig at swyddog priodol yr awdurdod, ddewis peidio â derbyn yr hyn y mae gan yr aelod cyfetholedig hwnnw hawl iddo neu unrhyw ran o lwfans aelodau cyfetholedig y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddo.

Hawliadau

18.—(1Rhaid i awdurdod bennu o fewn pa gyfnod o amser, yn cychwyn ar y dyddiad y mae hawl i lwfansau teithio neu gynhaliaeth yn cychwyn, y mae'n rhaid i'r person y mae'r lwfansau hynny'n daladwy iddo hawlio'r cyfryw lwfansau.

(2Rhaid i dderbynebau priodol sy'n profi treuliau gwirioneddol, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y caiff awdurdod benderfynu arno, fynd gydag unrhyw hawliad am dalu lwfans teithio neu gynhaliaeth yn unol â'r Rheoliadau hyn (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat).

(3Nid oes dim ym mharagraff (1) yn rhwystro awdurdod rhag gwneud taliad pan na chaiff y lwfans ei hawlio o fewn y cyfnod a bennir felly.

Darpariaeth bellach ar gyfer lwfansau o dan Ran 4

19.  At ddibenion y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b) ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009 (“y flwyddyn gyntaf”), rhaid i swm yr hawliad mewn cysylltiad â lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan awdurdod beidio â bod yn uwch na'r cyfryw gyfran o'r uchafswm sy'n daladwy ar gyfer pob un o'r lwfansau hynny fel a ragnodir gan y Panel ag sy'n cyfateb i nifer y dyddiau yn y flwyddyn gyntaf fel cyfran o nifer y dyddiau yn y cyfnod o ddeuddeng mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009.

20.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3) caiff awdurdod wneud darpariaeth ar gyfer addasu'n flynyddol lwfansau sy'n daladwy o dan y Rhan hon.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), o ran addasiad gan awdurdod yn flynyddol i lwfans sy'n daladwy o dan y Rhan hon am unrhyw flwyddyn —

(a)rhaid iddo beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir gan y Panel mewn cysylltiad â —

(i)y lwfans hwnnw;

(ii)yr awdurdod hwnnw; a

(iii)y flwyddyn honno,

mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir yn unol â rheoliad 35 neu reoliad 36, yn y drefn honno;

(b)ni chaniateir ei wneud ond drwy gyfeirio at fynegai os yw'r Panel wedi rhagnodi bod mynegai o'r fath i'w ddefnyddio at y diben hwnnw —

(i)mewn perthynas â'r lwfans hwnnw;

(ii)gan yr awdurdod hwnnw; a

(iii)mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno,

mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir yn unol â rheoliad 35 neu reoliad 36, yn y drefn honno.

(3Os bydd i'r Panel gynhyrchu adroddiad atodol sy'n rhagnodi materion a ddisgrifir ym mharagraff (2)(a) neu (b), caiff awdurdod y mae'r adroddiad hwnnw'n gymwys iddo—

(a)mewn cysylltiad â'r flwyddyn y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud â hi; a

(b)mewn perthynas â materion a ragnodwyd,

addasu lwfansau sy'n daladwy ganddo am y flwyddyn honno, er y gallai'r awdurdod fod wedi addasu lwfansau o dan baragraff (1) o ganlyniad i adroddiad blynyddol cynharach a gynhyrchwyd gan y Panel mewn cysylltiad â'r flwyddyn honno.

21.  Caiff awdurdod ddarparu, pan fydd lwfans eisoes wedi'i dalu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod dan sylw -

(a)wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu reoliadau a wneir o dan y Rhan honno;

(b)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod; neu

(c)heb fod â hawl mewn unrhyw ffordd i dderbyn y lwfans mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i unrhyw gyfnod o'r fath yn cael ei had-dalu i'r awdurdod.

RHAN 5Trefniadau Gweinyddol

Osgoi dyblygu

22.—(1Rhaid i hawliad am daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth gynnwys datganiad wedi'i lofnodi gan yr aelod, neu rhaid anfon y cyfryw ddatganiad gyda'r hawliad, a rhaid datgan yn y datganiad nad yw'r aelod wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef.

(2Ni chaniateir gwneud unrhyw daliad i berson o dan unrhyw ddarpariaeth yn adran 176 o Ddeddf 1972 mewn cysylltiad â mater y mae taliad wedi'i wneud mewn cysylltiad ag ef i'r person hwnnw yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau cynllun o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hyn.

Talu lwfansau

23.  Rhaid i unrhyw daliad o ran lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth i aelod o banel apêl a gyfansoddir yn unol â rheoliadau o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998(10) gael ei wneud gan yr awdurdod sy'n cynnal yr ysgol neu'r ysgolion y cyfansoddwyd y panel apêl mewn perthynas â hi neu â hwy.

Cofnodion o lwfansau

24.—(1Rhaid i awdurdod gadw cofnod o 'r taliadau y mae'n eu gwneud yn unol â'r Rheoliadau hyn neu ag unrhyw gynllun a wneir yn unol â hwy.

(2Rhaid i gofnod o'r fath —

(a)pennu enw'r derbynnydd a swm a natur pob taliad; a

(b)bod ar gael, ar bob adeg resymol, i'w archwilio (yn ddi-dâl) gan unrhyw etholwr llywodraeth leol (o fewn yr ystyr yn adran 270(1) o Ddeddf 1972) yn ardal yr awdurdod.

(3Caiff person y mae ganddo hawl i archwilio cofnod o dan baragraff (2) wneud copi o unrhyw rhan ohono o dalu'r cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn gofyn amdani.

Cyhoeddusrwydd

25.—(1Rhaid i awdurdod, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl gwneud neu ddiwygio unrhyw gynllun a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn, wneud trefniadau i'w gyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod.

(2Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn y mae'r cynllun yn ymwneud â hi, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno o dan y cynllun i bob aelod sy'n gynghorydd mewn cysylltiad â phob un o'r canlynol—

(a)lwfans sylfaenol;

(b)lwfans cyfrifoldeb arbennig; ac

(c)lwfans gofal.

(3Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob un o'r aelodau mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)lwfans teithio

(b)lwfans cynhaliaeth; ac

(c)lwfans aelodau cyfetholedig.

RHAN 6Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Sefydlu'r Panel

26.  Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi panel parhaol a'i enw fydd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

Aelodaeth y Panel

27.—(1Rhaid i gyfansoddiad y Panel a benodir o dan reoliad 26 fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall.

(2Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi un aelod o'r Panel yn Gadeirydd y Panel.

(3Nid yw unrhyw berson i fod yn aelod o'r Panel os yw wedi'i anghymwyso yn rhinwedd paragraff (4).

(4Mae'r personau a ganlyn wedi'u hanghymwyso rhag bod yn aelodau o'r Panel —

(a)aelod o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o Dy'r Cyffredin, o Dŷ'r Arglwyddi, o Senedd Ewrop, o awdurdod, o gyngor tref neu gyngor cymuned; neu

(b)person sydd wedi'i anghymwyso(11) rhag bod yn aelod o awdurdod neu rhag cael ei wneud yn aelod o awdurdod ac eithrio fel swyddog yng nghyflogaeth awdurdod.

Deiliadaeth swydd aelodau'r Panel

28.—(1Rhaid i berson a benodir yn aelod o'r Panel ddal swydd ac ymadael â swydd yn unol ag amodau'r offeryn sy'n penodi'r person hwnnw i'r swydd honno fel a benderfynir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3) ni chaniateir i unrhyw berson gael ei benodi'n aelod o'r Panel am gyfnod hwy na phedair blynedd.

(3Bydd person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel yn gynwys i'w ailbenodi.

(4Mae aelod a benodir i sedd sy'n digwydd bod yn wag i wasanaethu yn y swydd honno hyd y dyddiad y byddai tymor mewn swydd y person yr etholir yr aelod hwnnw yn ei le wedi dod i ben.

Cyfarfodydd y Panel

29.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i'r Panel gyfarfod unwaith y flwyddyn o leiaf.

(2Rhaid i gyfarfod cyntaf y Panel gael ei gynnal o fewn cyfnod o chwe wythnos sy'n cychwyn ar ddyddiad yr offerynnau sy'n penodi personau'n aelodau o'r Panel (neu ar y cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).

(3Yng nghyfarfod cyntaf y Panel, neu pan fydd swydd Is-gadeirydd yn digwydd bod yn wag, rhaid i aelodau'r Panel ethol un o'u plith (ac eithrio'r Cadeirydd) i fod yn Is-gadeirydd y Panel.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y Cadeirydd sydd i lywyddu yng nghyfarfodydd y Panel.

(5Os bydd y Cadeirydd yn absennol o un o gyfarfodydd y Panel, Is-gadeirydd y Panel sydd i lywyddu.

(6Mae Cadeirydd neu Is-gadeirydd i ddal y cyfryw swydd hyd oni ddaw tymor mewn swydd y person hwnnw fel aelod i ben.

(7Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaethau a wneir gan y Rheoliadau hyn, caiff aelodau'r Panel reoleiddio'i gweithdrefn eu hunain.

Pleidleisio

30.—(1Rhaid i gwestiwn sydd i'w benderfynu gan y Panel gael ei benderfynu gan fwyafrif y pleidleisiau a gaiff eu bwrw gan yr aelodau sy'n bresennol yn y cyfarfod ac sy'n pleidleisio ar y cwestiwn.

(2Os bydd nifer y pleidleisiau'n gyfartal, bydd y person sy'n llywyddu cyfarfod y Panel i gael ail bleidlais neu bleidlais fwrw.

Cworwm

31.  Cworwm o dri fydd i'r Panel a rhaid iddynt gynnwys—

(a)y Cadeirydd; neu

(b)yr Is-gadeirydd.

Gweinyddu

32.—(1Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru dalu'r treuliau a dynnir gan y Panel wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau a chaiff dalu aelodau'r Panel y cyfryw lwfansau neu dreuliau ag y byddo'n penderfynu arnynt.

(2Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod cefnogaeth weinyddol briodol ar gael i'r Panel.

33.  Caiff y Panel, wrth iddo gyflawni'i swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, geisio gwybodaeth neu gyngor gan unrhyw gorff neu berson.

Yr Adroddiad Cychwynnol

34.—(1Rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad (“yr adroddiad cychwynnol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —

(a)y cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu —

(i)lwfans cyfrifoldeb arbennig; a

(ii)lwfans aelodau cyfetholedig,

mewn cysylltiad â hwy; a

(b)yr uchafsymiau sy'n daladwy o ran —

(i)lwfans sylfaenol;

(ii)lwfans cyfrifoldeb arbennig;

(iii)lwfans gofal;

(iv)lwfans teithio;

(v)lwfans cynhaliaeth; a

(vi)lwfans aelodau cyfetholedig.

(2At ddibenion yr adroddiad cychwynnol, caiff y Panel —

(a)rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn perthynas ag awdurdodau gwahanol, a

(b)mewn perthynas â —

(i)lwfans cyfrifoldeb arbennig; a

(ii)lwfans aelodau cyfetholedig,

rhagnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau gwahanol.

(3Wrth gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

(4Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad cychwynnol cyn 31 Gorffennaf 2008 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno arno).

Adroddiadau Blynyddol

35.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5) , rhaid i'r Panel gynhyrchu adroddiad ym mhob blwyddyn (“adroddiad blynyddol”) sy'n rhagnodi mewn perthynas â phob awdurdod —

(a)uchafswm yr addasiad blynyddol y caniateir ei wneud gan yr awdurdod hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol —

(i)i lwfans sylfaenol;

(ii)i lwfans cyfrifoldeb arbennig;

(iii)i lwfans gofal;

(iv)i lwfans teithio

(v)i lwfans cynhaliaeth; a

(vi)i lwfans aelodau cyfetholedig.

(b)mynegai y caniateir i'r awdurdod hwnnw addasu'n flynyddol, drwy gyfeirio ato, un neu fwy o'r lwfansau a grybwyllir ym mharagraff (a)(i) i (vi) mewn perthynas â'r flwyddyn ganlynol.

(2At ddibenion —

(a)paragraff (1)(a), caiff y Panel ragnodi uchafsymiau gwahanol mewn cysylltiad ag addasiadau blynyddol ar gyfer awdurdodau gwahanol; a

(b)paragraff (1)(b), caiff y Panel ragnodi mynegeion gwahanol ar gyfer awdurdodau gwahanol.

(3Wrth gynhyrchu adroddiad blynyddol, rhaid i'r Panel—

(a)gymryd i ystyriaeth unrhyw adroddiad atodol a gynhyrchwyd gan y Panel cyn yr adroddiad blynyddol hwnnw ac sy'n rhagnodi materion sydd ar y pryd yn gymwys i unrhyw awdurdod; a

(b)ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), rhaid i'r Panel gynhyrchu pob adroddiad blynyddol erbyn 31 Rhagfyr yn y flwyddyn cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud â hi.

(5Rhaid i'r Panel gynhyrchu'r adroddiad blynyddol cyntaf yn ystod y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2010 a beth bynnag cyn 31 Rhagfyr 2009 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno).

Adroddiadau Atodol

36.—(1Heb ragfarnu rheoliadau 34 neu 35, caiff y Panel ar unrhyw adeg ar ôl cynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, ac o bryd i'w gilydd ar ôl hynny, gynhyrchu adroddiad (“adroddiad atodol”) yn rhagnodi mewn perthynas ag un awdurdod neu fwy unrhyw un neu rai o'r materion y caiff y Panel eu rhagnodi yn unol â rheoliadau 34 a 35.

(2Wrth benderfynu p'un ai i gynhyrchu adroddiad atodol ai peidio ac, os bydd wedi penderfynu gwneud hynny, wrth gynhyrchu adroddiad atodol, rhaid i'r Panel ystyried unrhyw sylw a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r Panel o dan y rheoliad hwn.

Pensiynau

37.—(1Caiff y Panel wneud argymhellion ynghylch pa aelodau o awdurdod sydd i fod â hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997(12).

(2Wrth arfer ei swyddogaethau o dan baragraff (1), caiff y Panel wneud argymhellion gwahanol mewn perthynas â phob un o'r awdurdodau y mae'n arfer y swyddogaethau hynny mewn cysylltiad ag ef.

(3Caiff argymhellion o dan baragraff (1) fod yn rhan o adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliadau 34 neu 36.

38.—(1Caiff awdurdod —

(a)penderfynu pa aelodau o'r awdurdod sydd â hawl i bensiynau'n unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997; a

(b)darparu mewn cysylltiad â'r aelodau hynny y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) yr ymdrinnir â lwfans sylfaenol a lwfans cyfrifoldeb arbennig fel symiau y mae pensiynau'n daladwy mewn cysylltiad â hwy.

(2Rhaid i awdurdod wrth iddo wneud unrhyw benderfyniad yn unol â'r rheoliad hwn wneud hynny ddim ond mewn cysylltiad ag aelod a argymhellwyd gan y Panel fel aelod cymwys i gael y cyfryw hawl o dan reoliad 37.

Cyhoeddusrwydd i Adroddiadau'r Panel

39.—(1Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r Panel gynhyrchu adroddiad o dan reoliad 34, 35 neu 36, rhaid i'r Panel anfon yr adroddiad hwnnw ymlaen i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 34 neu 35 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad hwnnw at

(a)pob awdurdod;

(b)pob awdurdod Parc Cenedlaethol; ac

(c)pob awdurdod tân ac achub.

(3Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel o dan reoliad 36 ddod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r adroddiad at —

(a)yr awdurdod y mae'r adroddiad hwnnw'n ymwneud ag ef;

(b)unrhyw awdurdod Parc Cenedlaethol y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal; ac

(c)yr awdurdod tân ac achub y mae'r awdurdod hwnnw o fewn ei ardal.

(4Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru —

(a)cyhoeddi manylion adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1) mewn un papur newydd neu fwy sydd â chylchrediad trwy Gymru gyfan;

(b)os yr adroddiad cychwynnol neu os adroddiad blynyddol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad ar gael i aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdodau ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu;

(c)os adroddiad atodol yw'r adroddiad a ddaw i law o dan baragraff (1), gynnwys yn y cyhoeddiad o dan is-baragraff (a) ddatganiad -

(i)yn dweud y bydd copïau o'r adroddiad hwnnw ar gael i aelodau o'r cyhoedd ym mhrif swyddfeydd yr awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy ar y cyfryw adegau ag y byddo'r awdurdodau hynny'n eu pennu; a

(ii)yn pennu'r awdurdod neu'r awdurdodau y mae'r adroddiad yn ymwneud ag ef neu â hwy.

(5Rhaid i bob awdurdod sicrhau, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i un o adroddiadau'r Panel o dan baragraff (2) neu (3) ddod i law —

(a)bod copïau ar gael i'w harchwilio gan aelodau'r cyhoedd ym mhrif swyddfa'r awdurdod ar y cyfryw adegau rhesymol ag y byddo'r awdurdod yn eu pennu; a

(b)bod copi'n cael ei gyflenwi i unrhyw berson sy'n gofyn amdano ac sy'n talu i'r awdurdod y cyfryw ffi resymol ag y byddo'r awdurdod yn penderfynu arni.

RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau 2002

40.—(1Diwygir Rheoliadau 2002 fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 —

(a)mewnosoder yn y lle priodol—

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) mewn perthynas ag awdurdod Parc Cenedlaethol yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol ond—

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod Parc Cenedlaethol; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod Parc Cenedlaethol, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod Parc Cenedlaethol arno

ac sydd â'r hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;;

(b)yn lle'r diffiniad o “aelod” (“member”), rhodder —

oni fynegir yn benodol fel arall, mae “aelod” (“member”) yn cynnwys aelod cyfetholedig ac aelod o bwyllgor neu o is-bwyllgor; ac

(c)mewnosoder yn y lle priodol—

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007;.

(3Yn rheoliad 3, yn lle “adran 100(1)(b)”, rhodder “adran 100(1)(b), (c) a (d)”.

(4Yn rheoliad 6, mewnosoder ar ddechrau paragraff (1), “Yn ddarostyngedig i reoliad 12B,”.

(5Ar ôl rheoliad 7(4), mewnosoder—

(5) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans sylfaenol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y bydd yr aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(6Yn rheoliad 8(1)—

(a)yn is-baragraff (ch) mewnosoder “cadeiryddion pwyllgorau trwyddedu,” ar ôl “pwyllgorau cynllunio,”; a

(b)yn is-baragraff (d) mewnosoder “is-gadeiryddion pwyllgorau trwyddedu,” ar ôl “pwyllgorau cynllunio,”.

(7Yn lle rheoliad 8(2)(b), rhodder —

(b)Caiff lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i ddirprwy arweinydd cabinet awdurdod lle y mae trefniadau gweithrediaeth ar waith, a hynny ar ffurf gweithrediaeth arweinydd a chabinet, gynnwys swm hafal i ddim mwy na deg y cant o'r lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i aelod o gabinet yr awdurdod hwnnw (heb gynnwys lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i arweinydd yr awdurdod hwnnw).

(c)Caiff lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i is-gadeirydd bwrdd awdurdod lle y mae trefniadau amgen ar waith gynnwys swm hafal i ddim mwy na deg y cant o'r lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i aelod o fwrdd yr awdurdod hwnnw (heb gynnwys lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i gadeirydd bwrdd yr awdurdod hwnnw).

(ch)Os oes gan yr awdurdod o dan sylw, at ddibenion is-baragraffau (b) ac (c), -

(i)mwy nag un dirprwy arweinydd (yn achos awdurdod lle y mae trefniadau gweithrediaeth ar waith); neu

(ii)mwy nag un is-gadeirydd (yn achos awdurdod lle y mae trefniadau amgen ar waith),

caiff yr awdurdod hwnnw ddosrannu'r swm y cyfeirir ato yn yr is-baragraffau hynny ymhlith y dirprwy arweinyddion neu'r is-gadeiryddion hynny..

(8Ar ôl rheoliad 8(3), mewnosoder—

(4) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans cyfrifoldeb arbennig sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y bydd yr aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(9Hepgorer rheoliad 9(4)(a).

(10Ar ôl rheoliad 9(4), mewnosoder—

(5) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans presenoldeb sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y bydd yr aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(11Yn rheoliad 10(2), hepgorer is-baragraff (a).

(12Ar ôl rheoliad 10(2), mewnosoder —

(3) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans gofal sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau a'r dyletswyddau y bydd yr aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(13Yn lle rheoliad 11 rhodder—

11.(1) Rhaid i gynllun a wneir o dan y Rhan hon ddarparu bod unrhyw aelod o awdurdod nad yw'n gynghorydd i gael hawl i dderbyn taliad o ran lwfans colled ariannol, hynny yw taliad nad yw'n fwy na swm unrhyw enillion a gollir o raid neu unrhyw dreuliau ychwanegol (ac eithrio treuliau mewn perthynas â theithio neu gynhaliaeth) a dynnir o raid wrth gyflawni dyletswydd a gymeradwywyd fel aelod o'r awdurdod.

(2) Rhaid i gynllun bennu bod yn rhaid i'r awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, wrthod talu'r rhan o lwfans colled ariannol sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y bydd yr aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(14Ym mharagraff (1) o reoliad 11 —

(a)yn lle “Rhaid i gynllun”, rhodder “Caiff cynllun”; a

(b)yn lle “nad yw'n gynghorydd”, rhodder “nad yw'n un o gynghorwyr nac yn un o aelodau cyfetholedig yr awdurdod hwnnw”.

(15Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder —

12A.  Caiff cynllun ddarparu, pan fydd unrhyw lwfans wedi'i dalu eisoes mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod dan sylw -

(a)wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno;

(b)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod; neu

(c)heb fod â hawl mewn unrhyw ffordd arall i dderbyn y lwfans mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i unrhyw gyfnod o'r fath yn cael ei had-dalu i'r awdurdod..

(16Ar ôl rheoliad 12A, mewnosoder—

12B.(1) Cyn bydd awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud neu'n diwygio cynllun, rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw roi sylw i'r materion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n berthnasol i lwfansau sy'n daladwy gan yr awdurdod hwnnw o dan gynllun, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw sy'n gynghorydd.”.

(2) Cyn bydd awdurdod Parc Cenedlaethol yn pennu mynegai yn unol â rheoliad 12(2), rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw roi sylw i'r materion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n ymwneud â mynegai y caniateir addasu lwfansau o gyfeirio ato, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys i unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n gynghorydd..

(17Yn lle rheoliad 15(2), rhodder—

(2) Cyn bydd awdurdod Parc Cenedlaethol yn penderfynu cyfraddau lwfans o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw roi sylw i'r materion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n berthnasol i lwfans teithio a lwfans cynhaliaeth, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n gynghorydd..

(18Ar ôl rheoliad 15(3), mewnosoder —

(4) Rhaid i awdurdod bennu o fewn pa gyfnod o amser, yn cychwyn ar y dyddiad y mae hawl i gael lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn dechrau, y mae'n rhaid i'r person y mae'r lwfans yn daladwy iddo hawlio'r cyfryw lwfans.

(5) Nid oes dim ym mharagraff (4) yn rhwystro awdurdod rhag gwneud taliad pan na chaiff y lwfans ei hawlio o fewn y cyfnod a bennir felly.

(6) Pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod wrthod talu lwfans teithio a lwfans cynhaliaeth sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni..

(19Ar ôl rheoliad 15, mewnosoder —

15A.  Caiff awdurdod ddarparu, pan fydd lwfans eisoes wedi'i dalu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod dan sylw —

(a)wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno;

(b)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod; neu

(c)heb fod â hawl mewn unrhyw ffordd i dderbyn y lwfans mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i unrhyw gyfnod o'r fath yn cael ei had-dalu i'r awdurdod..

(20Ar ôl rheoliad 15A, mewnosoder—

15B.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), caiff awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu ar gyfer talu lwfans am bob blwyddyn i aelod cyfetholedig mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd (lwfans aelodau cyfetholedig).

(2) Wrth benderfynu mewn cysylltiad â pha gyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig, rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i faterion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n ymwneud â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig mewn cysylltiad â hwy, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys i unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol sy'n gynghorydd.

(3) Rhaid i swm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i aelod cyfetholedig gan awdurdod Parc Cenedlaethol am flwyddyn beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob lwfans aelodau cyfetholedig (os o gwbl) sy'n daladwy yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007 gan unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw sy'n gynghorydd.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caiff awdurdod Parc Cenedlaethol wneud darpariaeth i addasu'n flynyddol lwfans aelodau cyfetholedig.

(5) Rhaid i addasiad blynyddol o lwfans aelodau cyfetholedig gan awdurdod Parc Cenedlaethol beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob addasiad blynyddol (os o gwbl) a wneir yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007 gan unrhyw gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n enwebu unrhyw aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw sy'n gynghorydd.

(6) Os rhan yn unig o flwyddyn yw tymor mewn swydd aelod cyfetholedig, bydd hawl yr aelod hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o lwfans aelodau cyfetholedig ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y mae'r aelod cyfetholedig yn dal y swydd yn ystod y flwyddyn fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(7) Pan fydd aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig o awdurdod Parc Cenedlaethol yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol wrthod talu unrhyw lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod cyfetholedig hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

15C.(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 15B(3) a (5), caiff awdurdod Parc Cenedlaethol addasu swm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy am flwyddyn, a hynny ar unrhyw adeg yn y flwyddyn honno.

(2) Pan fo awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud y cyfryw addasiad, p'un ai'n unol â rheoliad 15B(5) neu fel arall, caiff yr awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw ddarparu bod yr hawl i gael lwfans aelodau cyfetholedig fel y'i haddasir i fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi..

(21Ar ôl Rhan IV (“Lwfansau Eraill”) mewnosoder —

RHAN IVAAd-dalu Treuliau

15CH.(1) Caiff awdurdod Parc Cenedlaethol ad-dalu i aelod o'r awdurdod hwnnw sy'n gynghorydd unrhyw arian a gaiff ei wario gan yr aelod hwnnw mewn cysylltiad â threuliau y mae'n angenrheidiol iddo eu tynnu wrth drefnu ar gyfer gofalu am blant neu ddibynyddion er mwyn iddo gyflawni dyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod.

(2) Rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol beidio ag ad-dalu arian a gaiff ei wario gan aelod —

(a)mewn cysylltiad ag unrhyw blentyn sy'n fwy na phymtheng mlwydd oed neu unrhyw ddibynnydd onid yw'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw'n fodlon bod angen goruchwylio'r plentyn neu'r dibynnydd a bod hynny wedi peri i'r aelod dynnu treuliau a oedd yn angenrheidiol er mwyn iddo gyflawni dyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod;

(b)os yw'r awdurdod hwnnw i ad-dalu arian a gaiff ei wario gan aelod arall o'r awdurdod hwnnw sy'n gynghorydd mewn cysylltiad â'r cyfryw dreuliau ar gyfer yr un plentyn neu ddibynnydd.

(3) Pan fydd aelod awdurdod Parc Cenedlaethol yn gwneud trefniadau ar wahân ar gyfer gofalu am wahanol blant neu ddibynyddion rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol beidio ag ad-dalu arian a gaiff ei wario mewn cysylltiad â threuliau ar gyfer trefnu'r cyfryw ofal onid yw'r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw'n fodlon bod yn rhaid i'r aelod wneud y cyfryw drefniadau ar wahân.

(4) Pan fydd aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod Parc Cenedlaethol wrthod ad-dalu unrhyw dreuliau gofal sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

(5) Caiff awdurdod Parc Cenedlaethol ddarparu, pan fydd treuliau gofal eisoes wedi'u had-dalu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod pan fydd yr aelod o dan sylw —

(a)wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod yn unol â Rhan III o Ddeddf 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno;

(b)yn peidio â bod yn aelod o'r awdurdod Parc Cenedlaethol; neu

(c)heb fod â hawl mewn unrhyw ffordd i dderbyn yr ad-daliad o dreuliau gofal mewn cysylltiad â'r cyfnod hwnnw,

y caiff yr awdurdod Parc Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r ad-daliad o dreuliau gofal ag sy'n berthnasol i unrhyw gyfnod o'r fath yn cael ei had-dalu i'r awdurdod Parc Cenedlaethol..

(22Yn rheoliad 17, yn lle “o dan baragraff 1 neu 2 o Atodlen 24 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998”, rhodder “yn unol â rheoliadau o dan adran 94 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998”.

(23Ar ôl rheoliad 19(2), mewnosoder —

(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ei ardal y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn cysylltiad â lwfans teithio a lwfans cynhaliaeth.

(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ei ardal y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod sy'n gynghorydd mewn cysylltiad ag ad-dalu treuliau gofal..

(24Ar ôl rheoliad 19(4), mewnosoder —

(5) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd blwyddyn, rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ei ardal y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn cysylltiad â lwfans aelodau cyfetholedig..

RHAN 8Diwygiadau i'r Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub

41.—(1Diwygir y Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub fel a ganlyn.

(2Yn rheoliad 2 —

(a)yn lle'r diffiniad o “Rheoliadau 2002”, rhodder —

ystyr “Rheoliadau 2007” (“the 2007 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007;

(b)mewnosoder yn y lle priodol—

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) mewn perthynas ag awdurdod tân yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod tân ond —

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod tân; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod tân, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod tân arno,

ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;; ac

(c)yn y diffiniad o “aelod”, yn lle “a pharagraff (2) o reoliad 15” rhodder “, paragraff (2) o reoliad 15 a rheoliad 15A”.

(3Yn rheoliad 3, yn lle “adran 100(1)(b) a (d)”, rhodder “adran 100(1)(b), (c) a (d)”.

(4Yn rheoliad 6(3)(a) a (b), yn lle “Reoliadau 2002” rhodder “Reoliadau 2007”.

(5Yn nhestun Cymraeg rheoliad 8(4), yn is-baragraffau (a) a (b) hepgorer “ar gyfer y flwyddyn sy'n gorffen ar 31 Mawrth 2006”.

(6Yn nhestun Cymraeg rheoliadau 8(6), 10(a) ac 16(a) yn lle “gyfrifoldebau a'i ddyletswyddau”, rhodder “gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau”.

(7Yn rheoliad 13(2), hepgorer is-baragraff (a).

(8Yn rheoliad 14(2), yn lle “Reoliadau 2002” rhodder “Reoliadau 2007”.

(9Ar ôl rheoliad 15, mewnosoder —

15A.(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7), caiff awdurdod tân ddarparu ar gyfer talu lwfans am bob blwyddyn i aelod cyfetholedig mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd (lwfans aelodau cyfetholedig).

(2) Wrth benderfynu mewn cysylltiad â pha gyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig, rhaid i awdurdod tân roi sylw i'r materion a ragnodir mewn unrhyw adroddiad a lunnir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol o dan Ran 6 o Reoliadau 2007, i'r graddau y mae'r materion hynny'n ymwneud â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau y caniateir talu lwfans aelodau cyfetholedig mewn cysylltiad â hwy, a'r rheini'n faterion sydd am y tro yn gymwys i unrhyw un neu rai o awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw.

(3) Rhaid i swm y lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i aelod cyfetholedig gan awdurdod tân am flwyddyn beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob lwfans aelodau cyfetholedig (os o gwbl) sy'n daladwy gan awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caiff awdurdod tân wneud darpariaeth i addasu'n flynyddol lwfans aelodau cyfetholedig.

(5) Rhaid i addasiad blynyddol o lwfans aelodau cyfetholedig gan awdurdod tân beidio â bod yn fwy na'r swm sy'n hafal i gyfartaledd pob addasiad blynyddol (os o gwbl) a wneir gan awdurdodau cyfansoddol yr awdurdod tân hwnnw i lwfansau aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan yr awdurdodau hynny yn y flwyddyn honno o dan Reoliadau 2007.

(6) Os rhan yn unig o flwyddyn yw tymor mewn swydd aelod cyfetholedig, bydd hawl yr aelod cyfetholedig hwnnw'n hawl i daliad o'r cyfryw gyfran o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw ag sy'n cynrychioli nifer y dyddiau y mae'r aelod cyfetholedig yn dal y swydd honno yn ystod y flwyddyn fel cyfran o nifer y dyddiau yn y flwyddyn honno.

(7) Pan fydd aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig o awdurdod tân yn unol â Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu â rheoliadau a wneir o dan y Rhan honno, rhaid i'r awdurdod tân wrthod talu unrhyw lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fo'r aelod cyfetholedig hwnnw wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro.

15B.(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 15A(3) a (5), caiff awdurdod tân addasu swm y lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy am flwyddyn, a hynny ar unrhyw adeg yn y flwyddyn honno.

(2) Pan fydd awdurdod tân yn gwneud y cyfryw addasiad, p'un ai'n unol â rheoliad 15A(5) neu fel arall, caiff yr awdurdod tân hwnnw ddarparu bod yr hawl i gael lwfans aelodau cyfetholedig fel y'i haddasir i fod yn gymwys gydag effaith o ddechrau'r flwyddyn y gwneir yr addasiad ynddi..

(10Yn rheoliad 16 —

(a)yn lle “aelod dan sylw”, rhodder “aelod neu aelod cyfetholedig dan sylw”; a

(b)ym mharagraff (a) —

(i)yn lle “o'i gyfrifoldebau neu ei ddyletswyddau”, rhodder “o gyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw”;

(ii)yn lle “aelod, cadeirydd”, rhodder “aelod, aelod cyfetholedig, cadeirydd”; a

(iii)ym mharagraff (b), ar ôl “aelod” mewnosoder “neu aelod cyfetholedig”.

(11Ar ôl rheoliad 17(2), mewnosoder —

(3) Rhaid i awdurdod tân bennu o fewn pa gyfnod o amser, yn cychwyn ar y dyddiad y mae hawl i gael lwfans teithio neu lwfans cynhaliaeth yn dechrau, y mae'n rhaid i'r person y mae'r lwfans yn daladwy iddo hawlio'r cyfryw lwfans.

(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn rhwystro awdurdod rhag gwneud taliad pan na chaiff y lwfans ei hawlio o fewn y cyfnod a bennir felly..

(12Yn nhestun Cymraeg rheoliad 19(1), ar ôl “bob awdurdod”, mewnosoder “tân”.

(13Yn lle rheoliad 19(3), rhodder —

(3) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod mewn cysylltiad â—

(a)lwfans gofal;

(b)lwfans teithio; a

(c)lwfans cynhaliaeth..

(14Ar ôl rheoliad 19(3), mewnosoder —

(4) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn, rhaid i bob awdurdod tân wneud trefniadau ar gyfer cyhoeddi o fewn ardal yr awdurdod tân y cyfanswm a dalwyd ganddo yn y flwyddyn honno i bob aelod cyfetholedig mewn cysylltiad â lwfans aelodau cyfetholedig..

RHAN 9Dirymiadau ac arbedion

Dirymiadau, arbedion ac addasiadau

42.—(1Mae Rheoliadau 2002 i barhau i fod yn effeithiol heb ragfarnu adran 16 o Ddeddf Dehongli 1978(13) mewn perthynas â hawlio lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau a gyflawnir cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (1) dirymir drwy hyn Reoliadau 2002 ac eithrio i'r graddau y maent yn gymwys i —

(a)awdurdodau Parciau Cenedlaethol; a

(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) 1991(14).

(3Ni fydd adrannau 174, 175 a 177 o Ddeddf 1972 yn gymwys i awdurdodau.

(4Wrth ei chymhwyso i awdurdodau bydd is-adran (2) o adran 176 o Ddeddf 1972 yn effeithiol fel pe bai'r cyfeiriad at adran 174 o Ddeddf 1972 yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn ac fel pe bai'r cyfeiriad at ddyletswydd a gymeradwywyd yn gyfeiriad at y term hwnnw fel y'i diffinnir yn y Rheoliadau hyn.

43.  Dirymir drwy hyn Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol) (Pensiynau) (Cymru) 2003(15).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(16)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 yn darparu'r pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i awdurdodi unrhyw awdurdod perthnasol a bennir mewn Rheoliadau i lunio cynllun, neu i'w gwneud yn ofynnol iddo lunio cynllun, yn darparu ar gyfer talu lwfans sylfaenol (ymhlith eraill) i gynghorwyr a lwfans cyfrifoldeb arbennig i gynghorwyr â chyfrifoldebau arbennig. Mae'r pŵer hwn bellach wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 100 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy i aelodau o'r cyfryw awdurdodau perthnasol ag a ragnodir ac mewn cysylltiad â lwfansau sy'n daladwy i aelodau o'r cyfryw awdurdodau perthnasol ag a ragnodir am fynychu cynadleddau a chyfarfodydd. Mae adran 100 o Ddeddf 2000 hefyd yn darparu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad ag ad-dalu treuliau a dynnwyd gan aelodau o awdurdodau o'r fath fel a ragnodir gan reoliadau.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch talu lwfansau i aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ynglŷn â thalu lwfansau i aelodau awdurdodau Parc Cenedlaethol ac ad-dalu rhai treuliau penodol a dynnwyd gan aelodau o'r fath.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru (“awdurdodau”) wneud cynlluniau ar gyfer talu lwfansau i'w haelodau. Wrth wneud cynlluniau, mae'n ofynnol i awdurdodau wneud darpariaeth ar gyfer talu lwfans sylfaenol (rheoliad 7). Caiff cynllun hefyd ddarparu ar gyfer talu lwfans cyfrifoldeb arbennig (rheoliad 8) a lwfans gofal (rheoliad 9).

Rhaid i swm lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig a lwfans gofal sy'n daladwy i aelod o awdurdod, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth yn rheoliad 11 mewn perthynas â'r cyfnod cyn 31 Mawrth 2009 a darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 12, beidio â bod yn fwy na'r uchafsymiau a ragnodir ar gyfer y lwfansau hynny (ac yn achos lwfans cyfrifoldeb arbennig, beidio ag ymestyn y tu hwnt i'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau a ragnodir) mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (“y Panel”) o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliadau 7(2), 8(3) a 9(3) yn y drefn honno).

Mae rheoliad 8(2) yn darparu na fydd lwfans cyfrifoldeb arbennig yn daladwy i fwy na hanner aelodau awdurdod.

Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn darparu bod yn rhaid i gynllun, mewn perthynas â lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig a lwfans gofal, bennu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod hwnnw wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni (gweler rheoliadau 7(6), 8(6) a 9(4)).

Mae Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer cynlluniau i dalu lwfansau. Mae rheoliad 12(1) i (3) yn darparu y caiff cynllun wneud darpariaeth ar gyfer addasu lwfansau'n flynyddol. Rhaid i'r cyfryw addasiad gan awdurdod beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel (neu wrth addasu rhaid cyfeirio at unrhyw fynegai a ragnodir gan y Panel) mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir gan y Panel.

O dan reoliad 12(4) caiff cynllun ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro gael ei had-dalu i'r awdurdod.

Mae rheoliad 13 yn darparu bod yn rhaid i gynllun gynnwys darpariaeth i ganiatáu i aelod beidio â derbyn unrhyw ran o'r lwfans y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddo o dan y cynllun.

Mae Rhan 4 o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod awdurdodau'n talu lwfansau eraill. O dan reoliad 15, mae gan aelodau hawl i dderbyn lwfansau teithio a chynhaliaeth. O dan reoliad 16, caiff awdurdod ddarparu ar gyfer talu lwfans aelodau cyfetholedig i aelodau cyfetholedig sydd â chyfrifoldebau neu ddyletswyddau mewn cysylltiad â mynychu cynadleddau a chyfarfodydd fel a ragnodir gan y Panel.

Mae rheoliad 15(3) a rheoliad 16(6), yn y drefn honno, yn darparu bod yn rhaid i awdurdod, pan fydd aelod neu aelod cyfetholedig wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod neu aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu'r dyletswyddau y mae'r aelod neu'r aelod cyfetholedig wedi ei atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag eu cyflawni.

Rhaid i gyfraddau lwfansau teithio a chynhaliaeth sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 20, beidio â bod yn fwy na'r uchafsymiau a ragnodir mewn cysylltiad â'r lwfansau hynny ar gyfer yr awdurdod hwnnw gan y Panel o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 15(2)). Rhaid i swm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan awdurdod, yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth yn rheoliad 19 mewn cysylltiad â'r cyfnod cyn 31 Mawrth 2009 a darpariaethau ynghylch uwchraddio yn rheoliad 20, beidio â bod yn fwy na'r uchafswm a ragnodir ar gyfer y lwfans hwnnw (nac ymestyn y tu hwnt i'r cyfrifoldebau a dyletswyddau a ragnodir) mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel o dan Ran 6 o'r Rheoliadau hyn (gweler rheoliad 16(2)).

O dan reoliad 17 caiff aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod ddewis peidio â derbyn unrhyw ran o'r lwfansau y mae gan yr aelod hwnnw hawl iddynt ac sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 18 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu terfyn amser mewn cysylltiad â hawlio lwfansau teithio a chynhaliaeth gan y person y maent yn daladwy iddo. Rhaid i hawliadau teithio a chynhaliaeth (ac eithrio hawliadau am deithio mewn cerbyd modur preifat) gael eu gwneud ar sail “gwirioneddol” a rhaid i dderbynebau perthnasol am dreuliau a dynnwyd fynd gyda hwy, yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad neu gyfyngiad y caiff awdurdod ei bennu.

Mae rheoliad 19 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â'r uchafswm o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy yn y cyfnod cyn 31 Mawrth 2009.

Mae rheoliad 20 yn darparu y caiff awdurdod wneud darpariaeth ar gyfer addasu'n flynyddol lwfansau sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn. Rhaid i'r cyfryw addasiad gan awdurdod beidio â bod yn fwy na'r swm a ragnodir mewn cysylltiad â'r awdurdod hwnnw gan y Panel (neu wrth addasu rhaid cyfeirio at unrhyw fynegai a ragnodir gan y Panel) mewn adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol a gynhyrchir gan y Panel.

O dan reoliad 21 caiff awdurdod ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod ei gwneud yn ofynnol i'r cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro gael ei had-dalu i'r awdurdod.

Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â threfniadau gweinyddol. Mae rheoliad 22 yn darparu bod datganiad yn dweud nad yw'r hawlydd wedi gwneud ac na fydd yn gwneud unrhyw hawliad arall mewn cysylltiad â'r mater y mae'r hawliad yn ymwneud ag ef yn mynd gyda phob hawliad am lwfansau teithio a chynhaliaeth. Mae rheoliad 24 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cofnodion o lwfansau ac ar gyfer sicrhau bod y cyfryw gofnodion ar gael i etholwr llywodraeth leol.

Mae rheoliad 25(1) a (2) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi cynllun a chyhoeddi symiau a gaiff eu talu o dan y cynllun hwnnw. Mae rheoliad 25(3) yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi symiau a gaiff eu talu mewn cysylltiad â lwfansau sy'n daladwy o dan Ran 4 o'r Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer y Panel. Mae rheoliad 26 yn ei gwneud yn ofynnol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru benodi'r Panel. Mae rheoliad 27 yn darparu bod yn rhaid i gyfansoddiad y Panel fod fel a ganlyn: Cadeirydd ac Is-gadeirydd, ynghyd â thri aelod arall. Mae un aelod o'r Panel i'w benodi'n Gadeirydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae rheoliad 28 yn darparu ar gyfer deiliadaeth swydd aelodau'r Panel ac mae rheoliad 29 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â chyfarfodydd y Panel.

Mae rheoliadau 30 a 31 yn darparu ar gyfer pleidleisio yng nghyfarfodydd y Panel a chworwm y Panel, yn y drefn honno. O dan reoliad 32 Cynulliad Cenedlaethol Cymru sydd i dalu'r treuliau a dynnir gan y Panel wrth iddo gyflawni ei swyddogaethau ac mae rheoliad 33 yn rhoi hawl i'r Panel i geisio gwybodaeth neu gyngor.

Mae rheoliad 34 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gynhyrchu adroddiad cychwynnol cyn 31 Gorffennaf 2008 (neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno). Disgrifir y materion i'w rhagnodi yn yr adroddiad cychwynnol yn rheoliad 34(1) a (2).

Mae rheoliad 35 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Panel gynhyrchu adroddiad blynyddol yn ystod y flwyddyn ariannol 1 Ebrill 2009 i 31 Mawrth 2010 (a beth bynnag erbyn 31 Rhagfyr 2009, neu'r cyfryw ddyddiad diweddarach ag y byddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru'n cytuno arno) ac yn ystod pob blwyddyn ariannol ar ôl hynny. Disgrifir y materion i'w rhagnodi mewn adroddiad blynyddol yn rheoliad 35(1) a (2). Mae rheoliad 35(3)(a) yn ei gwneud yn orfodol i'r Panel, pan fydd yn cynhyrchu adroddiad blynyddol, roi sylw i unrhyw adroddiad atodol a gynhyrchwyd cyn yr adroddiad blynyddol hwnnw sy'n rhagnodi materion sydd ar y pryd yn gymwys i unrhyw awdurdod.

Mae rheoliad 36 yn rhoi hawl i'r Panel i gynhyrchu adroddiadau atodol y caniateir iddynt ragnodi o bryd i'w gilydd ac mewn perthynas ag un awdurdod neu fwy unrhyw un neu rai o'r materion y caiff y Panel eu rhagnodi yn yr adroddiad cychwynnol neu mewn adroddiad blynyddol.

Pan fydd yn cynhyrchu'r adroddiad cychwynnol, adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol, mae'n orfodol i'r Panel ystyried unrhyw sylwadau a ddaw i law oddi wrth awdurdod mewn cysylltiad â swyddogaethau'r Panel o ran cynhyrchu'r cyfryw adroddiad (gweler rheoliadau 34(3), 35(3) a 36(2) yn y drefn honno).

Caiff y Panel hefyd wneud argymhellion ynghylch pa aelodau o awdurdod sydd i fod â hawl i bensiynau yn unol â Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol 1997 (gweler rheoliad 37). Caiff y cyfryw argymhellion gan y Panel fod yn rhan o adroddiad cychwynnol y Panel neu o adroddiad atodol.

Mae rheoliad 39 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhoi cyhoeddusrwydd i adroddiadau'r Panel.

Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”).

Mae rheoliad 40(6) yn diwygio rheoliad 8(1) o Reoliadau 2002 (sy'n ymwneud â lwfans cyfrifoldeb arbennig) fel bod categorïau o gyfrifoldeb a ddisgrifir yn rheoliad 8(1) yn cynnwys cadeiryddion pwyllgorau trwyddedu ac is-gadeiryddion pwyllgorau trwyddedu (gweler is-baragraffau (ch) a (d) o reoliad 8(1), yn y drefn honno).

Mae rheoliad 40(7) yn rhoi rheoliad 8(2)(b), (c) ac (ch) newydd yn lle rheoliad 8(2)(b) o Reoliadau 2002. Pan fydd gan awdurdod lle y mae trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen ar waith fwy nag un dirprwy arweinydd cabinet neu fwy nag un is-gadeirydd bwrdd, caniateir dosrannu'r swm ychwanegol o ddeg y cant sy'n daladwy o ran lwfans cyfrifoldeb arbennig am y cyfryw gyfrifoldeb ymhlith y dirprwy arweinyddion neu'r is-gadeiryddion hynny.

Mae Rhan 7 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2002 fel bod yn rhaid, mewn cysylltiad â lwfans sylfaenol, lwfans cyfrifoldeb arbennig, lwfans presenoldeb, lwfans gofal a lwfans colled ariannol, i gynllun a wneir gan awdurdod (neu, fel y bo'n briodol, awdurdod Parc Cenedlaethol) bennu bod yn rhaid i'r awdurdod neu'r awdurdod Parc Cenedlaethol, pan fydd aelod wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod hwnnw fel aelod, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfrifoldebau neu ddyletswyddau y mae'r aelod wedi ei atal rhag eu cyflawni pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro (gweler rheoliadau 40(5), 40(8), 40(10), 40(12) a 40(13) yn y drefn honno).

Mae rheoliad 40(15) yn mewnosod rheoliad 12A newydd yn Rheoliadau 2002 ac o dan y rheoliad hwn caiff cynllun ddarparu, pan fydd lwfansau wedi'u talu i aelod am gyfnod pan fydd yr aelod hwnnw (ymhlith eraill) wedi'i atal dros dro, y caiff yr awdurdod neu'r awdurdod Parc Cenedlaethol, fel y bo'n briodol, ei gwneud yn ofynnol bod y cyfryw ran o'r lwfans ag sy'n berthnasol i'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro yn cael ei had-dalu i'r awdurdod.

Mae rheoliad 40(16) yn mewnosod rheoliad 12B newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i ba raddau y mae'n rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i faterion a ragnodir yn un o adroddiadau'r Panel cyn iddo wneud cynllun neu ei ddiwygio neu bennu mynegai y gellid cyfeirio ato wrth addasu lwfansau.

Mae rheoliad 40(17) yn rhoi rheoliad 15(2) newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i ba raddau y mae'n rhaid i awdurdod Parc Cenedlaethol roi sylw i faterion a ragnodir yn un o adroddiadau'r Panel cyn penderfynu cyfraddau lwfans teithio a chynhaliaeth.

Mae rheoliad 40(18) yn mewnosod (ymhlith pethau eraill) reoliad 15(4) a (5) newydd yn Rheoliadau 2002. Mae rheoliad newydd 15(4) a (5) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau bennu terfyn amser pan fydd raid gwneud hawliad am lwfansau teithio neu gynhaliaeth.

Mae rheoliad 40(19) yn mewnosod rheoliad 15A newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu ar gyfer adennill lwfansau sy'n daladwy gan awdurdod o dan Ran IV o Reoliadau 2002.

Mae rheoliad 40(20) yn mewnosod rheoliad 15B newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n rhoi hawl i awdurdod Parc Cenedlaethol i dalu lwfans aelodau cyfetholedig i'w aelodau cyfetholedig. Gwneir hefyd ddarpariaeth ar gyfer cyfrifo'r uchafswm lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy gan awdurdod Parc Cenedlaethol ac ar gyfer addasu'n flynyddol lwfans aelodau cyfetholedig.

Diwygir Rheoliadau 2002 hefyd fel bod yn rhaid i'r awdurdod, mewn cysylltiad â lwfansau teithio a chynhaliaeth a lwfans aelodau cyfetholedig (ymysg eraill) a phan fydd aelod neu aelod cyfetholedig o awdurdod Parc Cenedlaethol wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau neu ddyletswyddau'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod neu aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o bob un o'r lwfansau sy'n daladwy i'r aelod neu'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro (gweler rheoliadau 40(18) ac (20) yn y drefn honno).

Mae rheoliad 40(21) yn mewnosod Rhan IVA newydd yn Rheoliadau 2002 sy'n darparu i awdurdod Parc Cenedlaethol ad-dalu i aelod unrhyw arian a wariwyd gan yr aelod hwnnw mewn perthynas â threuliau a dynnwyd wrth drefnu ar gyfer gofal plant neu ddibynyddion.

Mae rheoliad 40(23) y diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 2002 ac yn darparu i awdurdodau gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd mewn blwyddyn i bob aelod o ran lwfansau teithio a chynhaliaeth ac yn darparu i awdurodau Parc Cenedlaethol gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd mewn blwyddyn mewn perthynas ag ad-dalu costau gofal.

Mae Rhan 8 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2004”). Mae rheoliad 41(5), (6) a (12) yn cywiro gwallau teipograffyddol yn nhestun Cymraeg rheoliadau 8, 10, 16 a 19 o Reoliadau 2004. Mae rheoliad 41(9) yn mewnosod rheoliad 15A newydd yn Rheoliadau 2004 sy'n gwneud darpariaeth ar gyfer talu lwfans aelodau cyfetholedig gan awdurdod tân ac achub i'w aelodau cyfetholedig. Mae'r rheoliad 15A newydd hwnnw'n darparu (ymhlith pethau eraill) bod yn rhaid i awdurdod tân ac achub, pan fydd aelod cyfetholedig o awdurdod tân ac achub wedi'i atal dros dro neu'n rhannol ei atal dros dro rhag cyflawni cyfrifoldebau a dyletswyddau'r aelod cyfetholedig hwnnw fel aelod cyfetholedig, wrthod talu'r rhan o lwfans aelodau cyfetholedig sy'n daladwy i'r aelod cyfetholedig hwnnw mewn cysylltiad â'r cyfnod pan fydd yr aelod wedi'i atal dros dro.

Mae rheoliad 41(11) yn diwygio rheoliad 17 o Reoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân bennu terfyn amser pan fo rhaid gwneud hawliad am lwfansau teithio neu gynhaliaeth. Mae rheoliad 41(13) yn rhoi rheoliad 19(3) newydd yn Rheoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân wneud trefniadau i gyhoeddi symiau a dalwyd mewn perthynas â lwfans gofal a lwfansau teithio a chynhaliaeth. Mae rheoliad 41(14) yn mewnosod 19(4) newydd yn Rheoliadau 2004 fel bod rhaid i awdurdod tân ar ôl diwedd pob blwyddyn wned trefniadau i gyhoeddi'r cyfanswm a dalwyd i bob aelod cyfetholedig mewn perthynas â lwfanasau aelodau cyfetholedig.

Mae Rhan 9 o'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer dirymiadau, arbedion ac addasiadau.

(1)

1989 p.42; diwygiwyd adran 18 gan Ddeddf yr Heddlu a Llysoedd Ynadon 1994 (p.29), Atodlen 4, paragraff 37; Deddf Addysg 1996 (p.56), Atodlen 37, paragraff 97; a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22), adran 99.

(2)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

2000 p.22; yn rhinwedd adran 106(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, mae adran 105 yn effeithiol, pan yw'n gymwys o ran Cymru, fel pe rhoddid yn lle unrhyw gyfeiriad at yr Ysgrifennydd Gwladol gyfeiriad at Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(10)

1998 p.31; diwygiwyd adran 94 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.31), adran 51, gweler Rheoliadau Addysg (Trefniadau Apelau Derbyn) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1398) (Cy.112).

(11)

Gweler adran 80 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70) ac adrannau 79 a 83(11) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).

(13)

1978 p.30.

(14)

Dirymwyd O.S.1991/351 gan O.S. 2002/1895 ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â hawlio lwfansau neu daliadau eraill mewn cysylltiad â dyletswyddau a gyflawnwyd cyn 1 Ebrill 2002.

(16)

1998 p.38.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources