Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 a daw'r Rheoliadau hyn i rym —

(a)at ddibenion —

(i)y rheoliad hwn;

(ii)rheoliad 2;

(iii)Rhan 6;

(iv)paragraffau (1), (5) i (8), (10) i (13), (15), (18), (19) a (21) i (23) o reoliad 40;

(v)paragraffau (1), (5), (6) (7) ac (11) i (13) o reoliad 41; a

(vi)rheoliad 43,

ar 1 Mehefin 2007; a

(b)at bob diben arall, ar y diwrnod sydd bedwar mis ar ôl y diwrnod y mae'r adroddiad a gynhyrchwyd gan y Panel, yn unol â rheoliad 39(1), yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â rheoliad 34.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “adroddiad atodol” (“supplementary report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 36 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad blynyddol” (“annual report”) yw adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 35 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “adroddiad cychwynnol” (“initial report”) yw'r adroddiad a gynhyrchir gan y Panel yn unol â rheoliad 34;

mae “aelod” (“member”) yn cynnwys, mewn perthynas â Rhannau 2 i 5 o'r Rheoliadau hyn ac oni fynegir yn benodol fel arall, aelod cyfetholedig, aelod o bwyllgor neu aelod o is-bwyllgor;

ystyr “aelod cyfetholedig” (“co-opted member”) o ran awdurdod yw person nad yw'n aelod o'r awdurdod ond —

(a)

sy'n aelod o unrhyw un o bwyllgorau neu o is-bwyllgorau'r awdurdod; neu

(b)

sy'n aelod o unrhyw un o gyd-bwyllgorau neu o gyd-is-bwyllgorau'r awdurdod, ac sy'n cynrychioli'r awdurdod arno,

ac sydd â hawl i bleidleisio ar unrhyw gwestiwn sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu o'r is-bwyllgor hwnnw;

ystyr “awdurdod” (“authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

ystyr “awdurdod Parc Cenedlaethol” (“National Park Authority”) yw awdurdod Parc Cenedlaethol a sefydlwyd o dan adran 63 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1);

ystyr “awdurdod tân ac achub” (“fire and rescue authority”) yw awdurdod tân ac achub a ffurfiwyd drwy gynllun o dan adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 neu drwy gynllun y mae adran 4 o'r Ddeddf honno'n gymwys iddo(2);

ystyr “blwyddyn” (“year”) —

(a)

at ddibenion rheoliad 28(2), yw cyfnod o ddeuddeng mis;

(b)

at ddibenion rheoliad 29(1), yw unrhyw gyfnod o ddeuddeng mis yn dod i ben ar 31 Rhagfyr; ac

(c)

at bob diben arall —

(i)

yw'r cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym yn unol â rheoliad 1(1)(b) ac sy'n dod i ben ar 31 Mawrth 2009; a

(ii)

yw unrhyw gyfnod o 12 mis sy'n dod i ben ar 31 Mawrth ar ôl hynny;

ystyr “bwrdd” (“board”) yw pwyllgor awdurdod a sefydlwyd o dan rheoliad 4 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007(3);

ystyr “cynllun” (“scheme”) yw cynllun talu lwfansau a wnaed yn unol â Rhannau 2 a 3 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(4);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

ystyr “dyletswydd a gymeradwywyd” (“approved duty”) yw —

(a)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd yr awdurdod neu o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyfarfodydd unrhyw gorff y mae'r awdurdod yn gwneud penodiadau neu enwebiadau iddo neu un o gyfarfodydd unrhyw un o bwyllgorau corff o'r fath;

(b)

presenoldeb mewn un o gyfarfodydd unrhyw gymdeithas awdurdodau y mae'r awdurdod yn aelod ohoni;

(c)

presenoldeb mewn unrhyw gyfarfod arall y mae'r awdurdod neu un o bwyllgorau'r awdurdod neu un o gyd-bwyllgorau'r awdurdod ynghyd ag un awdurdod arall neu fwy yn awdurdodi ei gynnal;

(ch)

dyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth neu mewn cysylltiad â'u cyflawni pan fydd gan yr awdurdod ar waith drefniadau gweithredol o fewn ystyr Rhan II o Ddeddf 2000;

(d)

dyletswydd yr ymgymerir â hi yn unol â rheol sefydlog sy'n ei gwneud yn ofynnol i aelod neu aelodau fod yn bresennol pan agorir dogfennau tendro;

(dd)

dyletswydd yr ymgymerir â hi mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod neu'n ei gwneud yn ofynnol iddo arolygu mangreoedd neu awdurdodi eu harolygu;

(e)

presenoldeb mewn unrhyw achlysur hyfforddi neu ddatblygu a gymeradwyir gan yr awdurdod neu gan weithrediaeth neu fwrdd yr awdurdod; ac

(h)

unrhyw ddyletswydd arall a gymeradwyir gan yr awdurdod, neu unrhyw ddyletswydd arall mewn dosbarth a gymeradwyir felly, a honno'n ddyletswydd yr ymgymerir â hi at ddiben cyflawni swyddogaethau'r awdurdod neu unrhyw un o'i bwyllgorau neu mewn cysylltiad â'u cyflawni;

ystyr “gweithrediaeth” (“executive”) yw gweithrediaeth awdurdod ar ffurf a bennir yn adran 11(2) i (5) o Ddeddf 2000;

mae i'r ymadrodd “lwfans aelodau cyfetholedig” (“co-optees' allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 16 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans cyfrifoldeb arbennig” (“special responsibility allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans gofal” (“care allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 9 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans sylfaenol” (“basic allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn;

mae i'r ymadrodd “lwfans teithio a chynhaliaeth” (“travelling and subsistence allowance”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 15 o'r Rheoliadau hyn;

ystyr “Panel” (“Panel”) yw'r panel a sefydlir yn unol â Rhan 6 o'r Rheoliadau hyn;

mae “pwyllgor” (“committee”) yn cynnwys is-bwyllgor;

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Cynghorau Sir a Chynghorau Bwrdeistref Sirol ac Awdurdodau Parciau Cenedlaethol (Cymru) 2002(5);

ystyr “Rheoliadau Awdurdod Tân ac Achub” (“Fire and Rescue Authority Regulations”) yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau Awdurdodau Tân) (Cymru) 2004(6);

mae i'r ymadrodd “swyddog priodol” yr ystyr sydd i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf 1972;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau awdurdod sy'n swyddogaethau o fath a ddisgrifir yn adran 32(1) o Ddeddf 2000; ac

mae i'r ymadrodd “trefniadau gweithrediaeth” yr ystyr a roddir i “executive arrangements” gan adran 10(1) o Ddeddf 2000.

Awdurdodau perthnasol rhagnodedig

3.  Rhagnodir awdurdodau'n awdurdodau perthnasol at ddibenion adran 100(1)(b) ac (c) o Ddeddf 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources