Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 1CYFFREDINOL A CHYFLWYNO

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “aelwyd” (“household”) yw —

(a)

grŵp o bobl a chanddynt gyfeiriad cyffredin yn unig neu'n brif breswylfa ac sydd naill ai'n rhannu un pryd y dydd neu'n rhannu'r llety byw yn y breswylfa honno; neu

(b)

unig neu brif breswylfa person sengl nad yw'n rhannu nac un pryd y dydd na'r llety byw yn y breswylfa honno â pherson arall;

mae i “anghydfod masnach” yr ystyr a roddir i “trade dispute” yn adran 35(1) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;

mae i “cartref gofal” yr ystyr a roddir i “care home” yn adran 3 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1);

ystyr “ceisydd” (“claimant”) yw person sy'n gwneud cais am beidio â thalu ffi, taliad neu ad-daliad yn unol â rheoliad 7 neu 10;

ystyr “contract blwydd-dal” (“annuity contract”) yw contract sy'n darparu ar gyfer taliadau bob hyn a hyn gan ddechrau ar ddyddiad sydd wedi'i ddatgan neu ddyddiad amodol ac sy'n parhau am gyfnod penodedig neu drwy gydol oes y blwydd-dal;

mae i “contract GIG” yr ystyr a roddir i “NHS contract” yn adran 7(1) o'r Ddeddf;

rhaid i “credyd cynilion credyd pensiwn” (“pension credit savings credit”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 3 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(2);

ystyr “credyd treth gwaith” (“working tax credit”) yw credyd treth gwaith o dan Ddeddf Credydau Treth 2002(3);

ystyr “credyd treth plentyn” (“child tax credit”) yw credyd treth plant o dan adran 8 o Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “cwrs o driniaeth” yr ystyr a roddir i “course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (1);

mae i “cwrs o driniaeth frys” yr ystyr a roddir i “urgent course of treatment” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;

ystyr “cyfradd lawn” (“full rate”) yw'r gyfradd a bennwyd o dan adran 26(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

ystyr “cyfradd safonol” (“standard rate”) yw'r gyfradd safonol a bennwyd yn unol ag adran 22(2) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948;

ystyr “cymhorthdal incwm” (“income support”) yw cymhorthdal incwm o dan Ran VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992, ac mae'n cynnwys ychwanegiad treuliau personol, ychwanegiad trosiannol arbennig ac ychwanegiad trosiannol fel y'u diffinnir yn rheoliad 2(1) o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Trosiannol) 1987(4);

mae i “cynllun pensiwn galwedigaethol” yr ystyr a roddir i “occupational pension scheme” gan adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993(5);

ystyr “cynllun pensiwn personol” (“personal pension scheme”) yw cynllun pensiwn personol —

(a)

fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn 1993; neu

(b)

fel y'i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Cynlluniau Pensiwn (Gogledd Iwerddon) 1993(6);

ystyr “darparwr” (“provider”) yw darparwr unrhyw wasanaethau a grybwyllir yn rheoliad 3(1)(a);

ystyr “dros y môr” (“abroad”) yw unrhyw le y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

ystyr “dyddiad perthnasol” (“relevant date”) yw —

(a)

yn achos cais o dan reoliad 7, dyddiad y cais; a

(b)

yn achos cais o dan reoliad 10(2), y dyddiad y cafodd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG eu talu;

ystyr “dyddiad y cais” (“date of the claim”) yw'r dyddiad y bydd cais a wneir o dan reoliad 7 neu 10 yn dod i law Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “elfen anabledd” (“disability element”) yw elfen anabledd y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(3) o Ddeddf Credydau Treth 2002;

ystyr “elfen anabledd difrifol” (“severe disability element”) yw elfen anabledd difrifol y credyd treth gwaith fel y'i pennwyd yn adran 11(6)(d) o Ddeddf Credydau Treth 2002 (y gyfradd uchaf);

mae i “enillion” yr ystyr a roddir i “earnings” yn rheoliadau 35 a 37 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

mae i “ffi GIG” (“NHS charge” ) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

rhaid i “gwarant credyd pensiwn” (“pension credit guarantee”) gael ei ddehongli yn unol ag adrannau 1 a 2 o Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002;

mae i “gwasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant primary dental services” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006;

mae i “incwm perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant income” yn adran 7(2) o Ddeddf Credydau Treth 2002;

mae i “lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm” yr ystyr a roddir i “income-based jobseeker’s allowance” gan adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995;

mae i “myfyriwr amser-llawn” yr ystyr a roddir i “full time student” yn rheoliad 61 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

mae i “pâr” yr ystyr a roddir i “couple” yn adran 137 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;

ystyr “partner” (“partner”) —

(a)

os yw'r ceisydd yn aelod o bâr, yw'r aelod arall o'r pâr hwnnw,

(b)

os yw'r ceisydd yn briod yn aml-gymar â dau neu fwy o aelodau o'i aelwyd, yw unrhyw aelod o'r fath;

mae i “person ifanc” yr ystyr a ragnodir i “young person” yn rheoliad 14 o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm;

ystyr “person sengl” (“single person”) yw person nad oes ganddo bartner ac nad yw'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc, ac nad yw'n aelod o'r un aelwyd â phlentyn neu berson ifanc;

ystyr “plentyn” (“child”) yw person o dan 16 oed;

ystyr “plentyn neu berson ifanc dibynnol” (“dependent child or young person”) yw unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei drin fel pe bai'n gyfrifoldeb i'r ceisydd neu i bartner y ceisydd, os yw'r plentyn hwnnw neu'r person ifanc hwnnw'n aelod o aelwyd y ceisydd;

mae “porthladd” (“port”) yn cynnwys maes awyr, porthladd i fferri neu orsaf drenau ryngwladol ym Mhrydain Fawr y mae siwrnai ryngwladol yn dechrau oddi yno;

ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd (“health care professional”) yw person sy'n aelod o broffesiwn sy'n cael ei reoleiddio gan gorff a grybwyllir yn adran 25(3) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(7);

ystyr “Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth” (“State Pension Credit Regulations”) yw Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002(8);

ystyr “Rheoliadau Cymhorthdal Incwm” (“the Income Suport Regulations”) yw Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987(9);

ystyr “y Rheoliadau Ffioedd” (“the Charges Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Presgripsiynau am Ddim a Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2007(10);

ystyr “terfyn cyfalaf” (“capital limit”) —

(a)

yn achos person sy'n byw yn barhaol mewn cartref gofal neu mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(11) yw'r swm a ragnodwyd mewn rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o'r Ddeddf honno, a

(b)

yn achos unrhyw berson arall, y swm a ragnodwyd at ddibenion adran 134(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(12);

mae i “teulu” yr ystyr a roddir i “family” gan adran 137(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 fel y mae'n gymwys i gymhorthdal incwm, ac eithrio —

(a)

yn rheoliad 5(1)(ch), mewn perthynas â pherson sy'n cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm mae iddo yr ystyr a roddir yn adran 35 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995(13),

(b)

yn rheoliadau 5(1)(d) ac 8(2) mae iddo yr ystyr a ddyrennir gan reoliad 2(2) o Reoliadau Credydau Treth (Diffinio a Chyfrifo Incwm) 2002(14), ac

(c)

os oes cais wedi'i wneud am gymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999(15), mae'n golygu y ceisydd lloches sydd wedi gwneud y cais hwnnw ac unrhyw ddibynnydd, fel y'i diffinnir yn adran 94 o'r Ddeddf honno, y mae wedi'i gynnwys yn y cais hwnnw, a dylai'r cyfeiriadau at “teulu” yn rheoliadau 5(2)(c) ac 8(1), (3) a (7) gael eu dehongli yn unol â hynny;

mae i “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) a “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yr ystyron a roddir yn rheoliad 3;

ystyr “wythnos” (“week”) yw cyfnod o 7 diwrnod sy'n dechrau am ganol nos rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul;

mae i “ymddiriedolaeth GIG” yr ystyr a roddir i “NHS trust” yn adran 18 o'r Ddeddf.

Treuliau teithio GIG

3.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio GIG” (“NHS travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo —

(a)i fod yn bresennol yn y canlynol —

(i)un o ysbytai'r gwasanaeth iechyd,

(ii)unrhyw sefydliad arall a reolir gan Ymddiriedolaeth GIG neu Fwrdd Iechyd Lleol, neu

(iii)unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig,

at ddibenion darparu unrhyw wasanaethau (ac eithrio gwasanaethau meddygol personol neu ddeintyddol personol a ddarperir o dan Rannau 4 a 5 o'r Ddeddf) o dan ofal ymgynghorydd yn unol â Rhannau 1 a 2 o'r Ddeddf; a

(b)i deithio i borthladd ym Mhrydain Fawr er mwyn teithio dros y môr i gael gwasanaethau a ddarperir yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “treuliau teithio tramor GIG” (“NHS foreign travelling expenses”) yw'r treuliau teithio y mae'n angenrheidiol i berson eu hysgwyddo wrth deithio dros y môr o borthladd ym Mhrydain Fawr i gael gwasanaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi.

(3Mae treuliau teithio GIG a threuliau teithio tramor GIG yn cynnwys treuliau teithio cydymaith mewn achos lle mae'r person y darperir gwasanaethau ar ei gyfer naill ai —

(a)yn blentyn; neu

(b)yn berson y mae ei anhwylder meddygol yn golygu bod arno angen cydymaith, ym marn meddyg sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau neu, os yw'n briodol, ym marn proffesiynolyn gofal iechyd arall sy'n ymwneud â felly.

(4Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl i gael treuliau teithio GIG —

(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a

(b)gwneud cais am daliad treuliau teithio o dan reoliad 9.

(5Mae swm unrhyw dreuliau teithio GIG y mae gan berson hawl i'w gael o dan y Rheoliadau hyn —

(a)yn gorfod cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at gost y teithio drwy ddefnyddio'r drafnidiaeth rataf sy'n rhesymol o roi sylw i oed ac anhwylder meddygol y person ac unrhyw amgylchiadau perthnasol eraill; a

(b)os teithir mewn car preifat, yn cael cynnwys lwfans milltiroedd a threuliau parcio car.

(6Dim ond os yw'r corff gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau dros y môr yn cytuno ar y dull teithio a chost y teithio a'r angen neu'r diffyg angen cydymaith cyn i'r treuliau gael eu hysgwyddo y mae gan berson hawl i gael taliad treuliau teithio tramor GIG.

Ffioedd GIG y gellir peidio â'u codi

4.—(1Yn y Rheoliadau hyn ystyr “ffi GIG” (“NHS charge”) yw unrhyw ffi a fyddai fel arall yn daladwy —

(a)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 121(1) a (2) o'r Ddeddf, am gyflenwi cyffuriau, moddion, cyfarpar a gwasanaethau fferyllol;

(b)yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 125 o'r Ddeddf mewn perthynas â ffioedd am wasanaethau deintyddol perthnasol.

(2Rhaid i berson sy'n dymuno dibynnu ar hawl o dan y Rheoliadau hyn i beidio â thalu ffi GIG —

(a)gwneud cais am hawl o dan reoliad 7 neu reoliad 10, oni bai ei fod yn berson nad yw'n ofynnol iddo wneud cais o'r fath yn rhinwedd rheoliad 5(1); a

(b)darparu unrhyw ddatganiad neu dystiolaeth o hawl y gofynnir amdanynt o dan y Rheoliadau Ffioedd.

RHAN 2HAWL I GAEL TALIAD AM DREULIAU TEITHIO GIG AC I BEIDIO â THALU FFIOEDD GIG

Hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn

5.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan berson hawl, heb wneud cais o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl os yw —

(a)yn cael cymhorthdal incwm;

(b)yn cael lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm;

(c)yn cael credyd gwarant credyd pensiwn;

(ch)yn aelod o'r un teulu â pherson sy'n cael cymhorthdal incwm, lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm neu gredyd gwarant credyd pensiwn; neu

(d)yn aelod o deulu y mae un aelod ohono yn cael —

(i)credyd treth gwaith a chredyd treth plant,

(ii)credyd treth gwaith sy'n cynnwys elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol, neu

(iii)credyd treth plant, ond nad yw'n gymwys i gael credyd treth gwaith,

ar yr amod y penderfynir adeg y dyfarniad nad yw incwm perthnasol yr aelod neu'r aelodau y rhoddir y credyd treth iddo neu iddynt o dan adran 14 o Ddeddf Credydau Treth 2002 yn fwy na £15,050.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae gan y personau canlynol hawl i gael taliad llawn treuliau teithio GIG ac i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ond mae'n ofynnol iddynt wneud cais am daliad neu am beidio â thalu yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl) —

(a)person sy'n byw yn barhaol —

(i)mewn cartref gofal, neu

(ii)mewn llety a ddarperir gan awdurdod lleol o dan adrannau 21 i 24 a 26 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (darparu llety),

ac sydd wedi bodloni'r awdurdod hwnnw nad yw'n gallu talu am y llety hwnnw yn ôl y gyfradd safonol, neu, yn ôl fel y digwydd, y gyfradd lawn;

(b)ceisydd lloches y darperir cymorth ar ei gyfer o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999;

(c)aelod o'r un teulu â cheisydd lloches a ddisgrifir yn is-baragraff (b);

(ch)plentyn perthnasol o fewn ystyr adran 23A o Ddeddf Plant 1989(16) y mae awdurdod lleol cyfrifol yn darparu cymorth ar ei gyfer o dan adran 23B(8) o'r Ddeddf honno;

(d)unrhyw berson arall sy'n bodloni Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â Rhan 4 nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf ac nad yw ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion neu eu bod yn fwy na'i anghenion o hanner cant y cant neu lai o swm y ffi a bennwyd yn rheoliad 3(1)(b) o Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) 2000(17); ac

(dd)aelod o'r un teulu â pherson a ddisgrifir yn is-baragraff (d).

(3Dim ond os yw'n berson a ddisgrifir ym mharagraff (1) neu (2) ar yr adeg —

(a)Pan y codir y ffi;

(b)yr ysgwyddir y treuliau teithio GIG; neu

(c)yn achos ffi am wasanaethau deintyddol perthnasol pan—

(i)y gwneir y trefniadau ar gyfer y driniaeth neu'r cwrs o driniaeth frys o dan y Ddeddf,

(ii)pan wneir y trefniadau ar gyfer cyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol, neu

(iii)y codir y ffi,

y mae hawl person i gael taliad llawn treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu ffi GIG o gwbl yn codi.

Hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), mae gan berson hawl i gael taliad rhannol unrhyw dreuliau teithio GIG ac i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol ar yr amod ar yr adeg yr ysgwyddir y treuliau teithio neu y codir y ffi —

(a)nad yw ei adnoddau cyfalaf yn uwch na'r terfyn cyfalaf; a

(b)naill ai —

(i)bod ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion o lai na thraean o'r ffi, neu, yn ôl fel y digwydd, o lai na'r treuliau teithio a ysgwyddir mewn unrhyw wythnos, neu

(ii)ei fod yn aelod o deulu'r person a ddisgrifir yn is-baragraff (b)(i),

ond mae'n ofynnol iddo wneud cais am beidio â thalu neu am daliad yn unol â rheoliad 7 (ceisiadau am hawl).

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), y swm y mae gan berson hawl i'w gael o dan baragraff (1) yw —

(a)yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y gwahaniaeth rhwng y ffi a thair gwaith y swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion; a

(b)yn achos treuliau teithio y gellir eu hadennill, y gwahaniaeth rhwng swm y treuliau a ysgwyddwyd a'r swm y mae ei adnoddau incwm yn uwch na'i anghenion.

(3Yn achos ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol, y ffi y gellir peidio â thalu rhan ohoni o dan y rheoliad hwn, ac y mae'n rhaid ei defnyddio at ddibenion y cyfrifiad y gofynnir amdano o dan baragraff (2)(a), yw'r ffi a godir —

(a)am un cwrs o driniaeth neu gwrs o driniaeth frys, gan gynnwys unrhyw ffi a godir am ddant gosod neu gyfarpar deintyddol arall a gyflenwir yn y cwrs hwnnw o driniaeth; neu

(b)am gyflenwi dant gosod neu gyfarpar deintyddol arall o dan y Ddeddf heblaw fel rhan o wasanaethau deintyddol sylfaenol perthnasol.

Ceisiadau am hawl

7.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am hawl o dan reoliad 5(2) (hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn) neu reoliad 6(1) (hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol) wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurflen sydd naill ai wedi'i darparu at y diben neu wedi'i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(2Ar gais o dan baragraff (1), rhaid i'r ceisydd ddarparu unrhyw dystiolaeth a gwybodaeth y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdanynt a hynny o fewn unrhyw amser y mae'n rhesymol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ofyn amdano.

(3Caniateir i gais gael ei wneud ar ran person arall os yw'r person hwnnw'n methu, oherwydd anallu meddyliol neu gorfforol, â gwneud y cais ei hun.

(4Os na fydd ceisydd yn cydymffurfio â cheisiadau a wneir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â'r dystiolaeth neu'r wybodaeth neu'r amseru a grybwyllir ym mharagraff (2), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru hysbysu'r ceisydd na phenderfynir ar y cais a bod rhaid barnu bod y cais wedi'i gau.

Hysbysiadau hawl

8.—(1Os bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn penderfynu, ar gais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl), fod gan y ceisydd ac unrhyw aelod o deulu'r ceisydd hawl i beidio â thalu unrhyw ran o ffi GIG neu i gael unrhyw daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG, rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r ceisydd.

(2Os oes gan berson hawl i beidio â thalu ffi GIG o gwbl ac i gael taliad llawn treuliau teithio GIG am ei fod yn aelod o deulu a ddisgrifir yn rheoliad 5(1)(e) (teuluoedd credyd treth), rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru roi hysbysiad hawl i'r teulu hwnnw ac mewn achos o'r fath bydd yr hysbysiad yn gymwys i holl aelodau'r teulu hwnnw.

(3Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn gymwys i holl aelodau teulu'r ceisydd a rhaid i'r hysbysiad hawl ddatgan —

(a)a oes gan y personau hynny hawl i beidio â thalu ffi o gwbl ac i gael taliad llawn ynteu hawl i beidio â thalu rhan o ffi ac i gael taliad rhannol; a

(b)yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu gael taliad rhannol, swm unrhyw ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol neu dreuliau teithio GIG nad oes hawl i beidio â'i dalu neu i gael taliad amdano.

(4Rhaid i hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) neu baragraff (2) ddatgan am ba gyfnod o amser y mae'n ddilys a'r dyddiadau y mae'r amser hwnnw'n dechrau ac yn diweddu.

(5Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 12 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais ac eithrio —

(a)yn achos hysbysiad a roddir i fyfyriwr amser-llawn ym mlwyddyn olaf neu unig flwyddyn cwrs astudio, ei fod yn ddilys o ddyddiad y cais tan ddiwrnod olaf y cwrs hwnnw;

(b)yn achos hysbysiad a roddir i blentyn perthnasol, ei fod yn ddilys am 12 mis neu tan 18fed pen-blwydd y plentyn, p'un bynnag yw'r olaf;

(c)yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir yn rheoliad 5(2)(b) (ceisydd lloches), ei fod yn ddilys am 6 mis gan ddechrau ar ddyddiad y cais;

(ch)yn achos hysbysiad a roddir i berson a grybwyllir ym mharagraff (6), ei fod yn ddilys am y cyfnod o amser a bennir yn y paragraff hwnnw.

(6Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (1) yn ddilys am 5 mlynedd gan ddechrau ar ddyddiad y cais os yw'r ceisydd —

(a)yn berson sengl heb fod yn llai na 65 oed; neu

(b)yn un o bâr lle mae un partner heb fod yn llai na 60 oed ac un partner heb fod yn llai na 65 oed,

nad yw'n cael —

(i)dim enillion;

(ii)dim taliadau o gynllun pensiwn galwedigaethol;

(iii)dim taliadau o gynllun pensiwn personol; a

(iv)dim taliadau o gontract blwydd-dal.

(7Nid yw paragraff (6) yn gymwys i berson y mae ganddo blentyn neu berson ifanc dibynnol yn aelod o'i aelwyd.

(8Mae hysbysiad hawl a roddir o dan baragraff (2) yn ddilys o unrhyw ddyddiad ac am unrhyw gyfnod y penderfynir arnynt gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(9Yn ddarostyngedig i baragraffau (10), (12) a (13), ni fydd unrhyw newid yn amgylchiadau ariannol neu amgylchiadau eraill ceisydd neu aelod unrhyw o deulu ceisydd, yn ystod cyfnod dilysrwydd hysbysiad hawl, yn effeithio ar ei ddilysrwydd mewn perthynas â'r cyfnod hwnnw, neu yn achos peidio â thalu rhan o ffi neu daliad rhannol, ar y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b).

(10Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo sy'n syrthio o dan baragraff (6) hysbysu Cynulliad Cenedlaethol Cymru am unrhyw newid yng nghyfansoddiad ei deulu neu ei aelwyd yn ystod cyfnod dilysrwydd yr hysbysiad hawl a chaiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru dynnu'r hysbysiad hawl yn ôl neu amrywio'r symiau a ddatganwyd ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff (3)(b) os na fydd y ceisydd yn bodloni gofynion paragraffau (6) a (7) mwyach.

(11Caiff ceisydd y rhoddir hysbysiad hawl i gael taliad rhannol treuliau teithio GIG neu i beidio â thalu rhan o ffi GIG am wasanaethau deintyddol perthnasol wneud cais pellach yn unol â rheoliad 7 ar unrhyw adeg yn ystod oes yr hysbysiad os yw'n credu y dylai'r symiau sydd wedi'u datgan ar yr hysbysiad hawl fel y cyfeirir atynt ym mharagraff 3(b) gael eu gostwng oherwydd newid yn ei amgylchiadau ariannol ef neu yn amgylchiadau ariannol unrhyw aelod o'i deulu.

(12Rhaid i geisydd y rhoddir hysbysiad hawl iddo o dan y rheoliad hwn ei ddychwelyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn unrhyw achos lle gwelir wedyn fod ei gais wedi'i seilio ar osodiad ffug.

(13Dim ond at ddibenion yr hawl i beidio â thalu ffioedd GIG ac i gael taliad treuliau teithio GIG yn unol â'r Rheoliadau hyn y mae hysbysiad hawl a roddir o dan y rheoliad hwn yn effeithiol.

RHAN 3TALIADAU AC AD-DALIADAU

Talu treuliau teithio GIG

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (5), os oes gan berson hawl yn unol â rheoliad 5 neu 6 i gael taliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG —

(a)rhaid iddo wneud cais i'r darparwr; a

(b)rhaid i'r darparwr gyfrifo'r gwir swm sy'n daladwy yn unol â'r Rheoliadau hyn a gwneud y taliad.

(2Os darperir gwasanaethau yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 10 o'r Ddeddf a pharagraff 18 o Atodlen 3 iddi, caniateir i'r cais am daliad gael ei wneud i naill ai'r darparwr neu'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau hynny, a chaniateir i'r cyfrifiad a'r taliad gael eu gwneud gan y naill neu'r llall.

(3Mewn achos sy'n syrthio o fewn rheoliad 3(1)(b) (teithio i borthladd) rhaid i'r cais am daliad gael ei wneud i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau y cyfeirir atynt yn y ddarpariaeth honno, a rhaid i'r cyfrifiad a'r taliad gael eu gwneud gan y corff hwnnw.

(4Rhaid i berson sy'n gwneud cais am daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG lofnodi datganiad o hawl a darparu unrhyw dystiolaeth o'i hawl ac o'i dreuliau teithio y gofynnir amdani gan y darparwr, neu, yn ôl fel y digwydd, gan y corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau.

(5Caniateir i dreuliau teithio GIG gael eu talu cyn i'r treuliau gael eu hysgwyddo.

Ceisiadau am ad-daliad

10.—(1Mae gan berson sydd â hawl o dan y Rheoliadau hyn i beidio â thalu ffi GIG o gwbl neu i beidio â thalu rhan o ffi GIG neu hawl i gael taliad llawn neu rannol am dreuliau teithio GIG ac sy'n talu ffi o'r fath neu dreuliau teithio o'r fath heb arfer ei hawl i beidio â thalu neu i gael taliad, hawl i gael ad-daliad am y swm hwnnw y byddai wedi peidio â'i dalu neu y byddai wedi'i dalu.

(2Rhaid i berson sy'n dymuno arfer ei hawl i gael ad-daliad o dan baragraff (1) wneud cais i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar ffurflen sydd wedi'i darparu at y diben neu wedi'i chymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3Rhaid i gais o dan baragraff (2) gael ei wneud o fewn tri mis ar ôl y dyddiad y cafodd y ffi GIG ei thalu neu y cafodd y treuliau teithio GIG eu talu neu o fewn unrhyw gyfnod hirach y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ei ganiatáu am reswm da.

(4Mae paragraffau (2) i (4) o reoliad 7 (ceisiadau am hawl) yn gymwys i gais o dan y rheoliad hwn.

Ad-daliadau

11.—(1Os yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i fodloni bod gan geisydd hawl i gael unrhyw ad-daliad o dan reoliad 10 rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru —

(a)yn achos ad-daliad sydd i'w wneud mewn perthynas â threuliau teithio GIG a ysgwyddwyd gan berson i fod yn bresennol mewn ysbyty neu unrhyw le arall a reolir gan ymddiriedolaeth GIG, roi hysbysiad ysgrifenedig o hawl y ceisydd i'r ymddiriedolaeth GIG; neu

(b)mewn achos sy'n syrthio o fewn rheoliad 3(1)(b) (teithio i borthladd) roi hysbysiad ysgrifenedig o hawl y ceisydd i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a wnaeth y trefniadau y cyfeirir atynt yn y ddarpariaeth honno; neu

(c)mewn unrhyw achos arall, beri bod ad-daliad yn cael ei wneud i'r ceisydd mewn unrhyw fodd sydd ym marn Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn briodol o dan amgylchiadau'r achos penodol.

(2Os caiff ymddiriedolaeth GIG neu gorff arall yn y gwasanaeth iechyd hysbysiad fel y'i crybwyllir ym mharagraff (1), rhaid iddynt gyfrifo unrhyw swm sy'n daladwy mewn perthynas â threuliau teithio GIG yn unol â'r Rheoliadau hyn a gwneud unrhyw ad-daliad sy'n ddyledus i geisydd mewn perthynas â threuliau teithio GIG neu ffi GIG o'r fath.

(3Rhaid i berson y mae ganddo hawl i gael ad-daliad mewn perthynas â threuliau teithio GIG lofnodi datganiad o hawl a darparu unrhyw dystiolaeth o'i hawl ac o'i dreuliau teithio y gofynnir amdani gan y corff yn y gwasanaeth iechyd sy'n gwneud yr ad-daliad.

Ad-dalu taliadau a wnaed mewn perthynas â threuliau teithio GIG

12.  Os bydd darparwr yn gwneud taliad o dan reoliad 9(1) neu (2) neu ad-daliad o dan reoliad 11(a) mewn perthynas â threuliau teithio GIG a ysgwyddwyd gan berson sy'n cael gwasanaethau gan y darparwr, caiff swm y taliad neu'r ad-daliad o dan sylw ei ad-dalu i'r darparwr gan y corff yn y gwasanaeth iechyd y darperir y gwasanaethau hynny ar ei ran.

Talu ac ad-dalu treuliau teithio tramor GIG

13.—(1Rhaid i berson sy'n dymuno gwneud cais am hawl i gael taliad neu ad-daliad treuliau teithio tramor GIG wneud cais ysgrifenedig i'r corff yn y gwasanaeth iechyd a drefnodd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2) o fewn tri mis ar ôl i'r treuliau gael eu hysgwyddo neu unrhyw gyfnod pellach y bydd y corff hwnnw'n ei ganiatáu am reswm da.

(2Mae paragraffau (2) i (4) o reoliad 7 (ceisiadau am hawl) yn gymwys i gais (boed am daliad ynteu am ad-daliad) a wneir o dan y rheoliad hwn fel pe bai'r cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn y paragraffau hynny yn gyfeiriadau at y corff yn y gwasanaeth iechyd a drefnodd y gwasanaethau y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(2).

RHAN 4CYFRIFO ADNODDAU AC ANGHENION

Cyffredinol

14.—(1Os oes angen i adnoddau neu anghenion person gael eu cyfrifo at ddibenion y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gael eu cyfrifo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol â darpariaethau'r Rhan hon ac Atodlen 1.

(2Rhaid i adnoddau ac anghenion person gael eu cyfrifo —

(a)yn achos cais a wneir o dan reoliad 7 (ceisiadau am hawl) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar ddyddiad y cais; neu

(b)yn achos cais am ad-daliad a wneir o dan reoliad 10(2) (ceisiadau am ad-daliadau) drwy gyfeirio at ei adnoddau a'i ofynion ar y dyddiad y talwyd y ffi GIG neu'r treuliau teithio GIG.

(3Os yw'r ceisydd yn aelod o deulu, rhaid i adnoddau ac anghenion aelodau eraill ei deulu gael eu cyfrifo yn yr un modd ag adnoddau ac anghenion y ceisydd a rhaid eu cymryd i ystyriaeth fel pe baent yn adnoddau ac anghenion i'r ceisydd, ac yn y Rhan hon ac yn y darpariaethau y cyfeirir atynt yn Atodlen 1, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall, mae unrhyw gyfeiriad at y ceisydd yn cynnwys aelodau eraill ei deulu.

(4Mewn achos lle mae enillion unrhyw berson i gael eu cyfrifo a bod anghydfod masnach wedi effeithio ar yr enillion hynny, yr enillion sydd i'w cymryd i ystyriaeth yw'r enillion y byddai'r person hwnnw wedi'u cael pe na bai anghydfod masnach wedi bod.

(5Wrth gymhwyso'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm fel y'u crybwyllir yn rheoliad 15 a rheoliad 16, rhaid i ddarpariaethau'r Rheoliadau hynny gael eu cymhwyso fel pe bai —

(a)cyfeiriadau at gymhorthdal incwm yn gyfeiriadau at beidio â thalu ffioedd GIG a thalu treuliau teithio GIG,

(b)cyfeiriadau mewn unrhyw rai o'r darpariaethau hynny at unrhyw rai eraill o'r darpariaethau hynny yn gyfeiriadau at y ddarpariaeth arall honno fel y'i haddaswyd yn unol â rheoliad 15(4) neu, yn ôl fel y digwydd, â rheoliad 16(4); ac

(c)Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth (Darpariaethau Canlyniadol, Trosiannol ac Amrywiol) 2002(18) heb eu gwneud.

Cyfrifo adnoddau

15.—(1Rhaid i adnoddau ceisydd gael eu cyfrifo yn nhermau incwm a chyfalaf.

(2Rhaid i incwm gael ei gyfrifo ar sail wythnosol yn unol â'r dull ar gyfer cyfrifo neu amcangyfrif incwm a ragnodwyd gan ddarpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(3Rhaid i gyfalaf gael ei gyfrifo yn unol â'r dull ar gyfer cyfrifo neu amcangyfrif cyfalaf a ragnodwyd gan ddarpariaethau Pennod VI yn Rhan V o'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm ac Atodlen 10 iddynt, yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

(4Mae darpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys a rhaid i'r darpariaethau hynny a bennir yng ngholofn 1 o Dabl A yn Atodlen 1 gael eu cymhwyso yn unol â'r addasiadau a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2.

Cyfrifo anghenion

16.—(1Rhaid cyfrifo mai'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yw anghenion ceisydd, llai'r swm, lle bo'n gymwys, y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel a ganlyn —

(a)y swm sy'n cyfateb i gyfanswm —

(i)y swm cymwysadwy wythnosol a fyddai'n gymwys i'r ceisydd, gan gynnwys y swm hwnnw mewn perthynas ag unrhyw aelod arall o'i deulu, mewn cysylltiad â chais am gymhorthdal incwm fel y'i pennir gan y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ond yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), a

(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm wythnosol unrhyw dreth gyngor y mae'r ceisydd neu ei bartner yn atebol i'w dalu o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(19);

(b)y swm sy'n cyfateb i gyfanswm swm wythnosol unrhyw fudd-dal tai a swm wythnosol unrhyw fudd-dal treth gyngor y mae gan y ceisydd neu unrhyw aelod o'i deulu hawl i'w gael o dan ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os oes ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae'n preswylio ynddi gydag un neu fwy o bersonau, rhwymedigaeth y ceisydd mewn perthynas â'r dreth honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fydd swm y dreth honno wedi'i rhannu â nifer y personau sy'n yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth honno.

(3Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda'i bartner yn unig.

(4Mae darpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys a rhaid i'r darpariaethau hynny a bennir yng ngholofn 1 o Dabl B yn Atodlen 1 i'w cymhwyso yn unol â'r addasiadau a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2.

RHAN 5TROSIANNOL A DIRYMU

Darpariaethau trosiannol

17.—(1Rhaid i unrhyw gais a wnaed o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988(20) sydd heb ei benderfynu cyn 1 Ebrill 2007 gael ei drin fel pe bai'n gais o dan y Rheoliadau hyn a rhaid penderfynu arno yn unol â hynny.

(2Mae hysbysiad hawl i beidio â thalu ffi GIG neu i gael taliad treuliau teithio GIG sydd wedi'i roi o dan Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 yn dal yn ddilys nes iddo ddod i ben yn unol â darpariaethau'r Rheoliadau hynny.

Dirymu

18.  Mae'r Rheoliadau a restrir yng ngholofn 1 o Atodlen 2 wedi'u dirymu i'r graddau a ddangosir yng ngholofn 2.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(21)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mawrth 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources