- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
16.—(1) Rhaid cyfrifo mai'r swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) yw anghenion ceisydd, llai'r swm, lle bo'n gymwys, y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) isod, fel a ganlyn —
(a)y swm sy'n cyfateb i gyfanswm —
(i)y swm cymwysadwy wythnosol a fyddai'n gymwys i'r ceisydd, gan gynnwys y swm hwnnw mewn perthynas ag unrhyw aelod arall o'i deulu, mewn cysylltiad â chais am gymhorthdal incwm fel y'i pennir gan y Rheoliadau Cymhorthdal Incwm, ond yn ddarostyngedig i'r addasiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4), a
(ii)yn ddarostyngedig i baragraff (2), swm wythnosol unrhyw dreth gyngor y mae'r ceisydd neu ei bartner yn atebol i'w dalu o dan Ran 1 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(1);
(b)y swm sy'n cyfateb i gyfanswm swm wythnosol unrhyw fudd-dal tai a swm wythnosol unrhyw fudd-dal treth gyngor y mae gan y ceisydd neu unrhyw aelod o'i deulu hawl i'w gael o dan ddarpariaethau Rhan VII o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os oes ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd y mae'n preswylio ynddi gydag un neu fwy o bersonau, rhwymedigaeth y ceisydd mewn perthynas â'r dreth honno at ddibenion y Rheoliadau hyn fydd swm y dreth honno wedi'i rhannu â nifer y personau sy'n yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth honno.
(3) Nid yw paragraff (2) yn gymwys os yw ceisydd yn atebol ar y cyd ac yn unigol i dalu'r dreth gyngor mewn perthynas ag annedd gyda'i bartner yn unig.
(4) Mae darpariaethau'r Rheoliadau Cymhorthdal Incwm yn gymwys a rhaid i'r darpariaethau hynny a bennir yng ngholofn 1 o Dabl B yn Atodlen 1 i'w cymhwyso yn unol â'r addasiadau a bennir yn y cofnodion cyfatebol yng ngholofn 2.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: