Search Legislation

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 116 (Cy.7)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

23 Ionawr 2007

Yn dod i rym

25 Ionawr 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(f), 17(1), 26(3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo ef(2).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ystyried cyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd fel sy'n ofynnol gan adran 48(4A) o'r Ddeddf honno.

Cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 25 Ionawr 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” yw Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002(4).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.  Diwygir y prif Reoliadau yn unol â rheoliadau 3 i 5.

3.  Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15”, ar ôl “Cyfarwyddeb 2004/5/EC” mewnosoder “a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC(5)”.

4.  Yn Atodlen 1 (sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwyd DMN dynodedig)—

(a)yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 1 (fitaminau), yn lle'r pennawd “FOLIC ACID” rhodder “FOLATE”, ac o dan y pennawd (diwygiedig) hwnnw mewnosoder ar y diwedd “— calcium-L-methylfolate”;

(b)yn yr Adran sy'n ymwneud â Chategori 2 (mwynau), o dan y pennawd “IRON” mewnosoder ar y diwedd “— ferrous bisglycinate”.

5.  Yn Atodlen 2 (sylweddau ychwanegol y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig) mewnosoder ar y dechrau—

Categori 2: Mwynau

magnesium L-aspartate.

Diwygio'r Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002

6.—(1I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, diwygir Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002(6) yn unol â pharagraff (2).

(2Yn rheoliad 6 (cymhwyso amrywiol ddarpariaethau o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990) hepgorer y geiriau “, unless the context otherwise requires,”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Ionawr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) 2002 fel y'i diwygiwyd (“y prif Reoliadau”).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2006/34/EC (OJ Rhif L83, 22.3.2006, t.14) sy'n diwygio'r Atodiad i Gyfarwyddeb 2001/15/EC o ran cynnwys sylweddau penodol.

3.  Mae'r prif Reoliadau yn gymwys i fwyd ar gyfer y rhan fwyaf o ffyrdd penodol o'i ddefnyddio'n faethol (ceir diffiniad o “bwyd DMN dynodedig” yn rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau hynny). Mae'r Rheoliadau hynny yn cyfyngu ar werthu bwydydd o'r fath pan fo sylwedd sy'n cwympo o fewn un o'r chwe categori canlynol wedi cael ei ychwanegu ato at ddiben maethol penodol: fitaminau; mwynau; asidau amino; carnitin a thawrin; niwcelotidau; colin ac inositol. Mewn achos o'r fath rhaid i'r sylwedd fod wedi'i restru o dan y categori perthnasol yn Atodlen 1 neu, yn achos bwydydd at ddibenion meddygol arbennig, yn Atodlen 1 neu 2. Mae yna randdirymiad ag iddo derfyn amser yn achos sylweddau a restrir yn Atodlen 3 (rheoliad 3(5) o'r Rheoliadau hynny).

4.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn ychwanegu sylweddau penodol at y rhestr yn y categorïau fitaminau a mwynau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd DMN dynodedig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 4);

(b)yn ychwanegu sylwedd yn y categori mwynau at y rhestr o sylweddau y ceir eu hychwanegu at ddibenion maethol penodol at fwydydd at ddibenion meddygol arbennig (heb unrhyw derfyn amser) (rheoliad 5);

(c)yn diweddaru'r diffiniad o “Cyfarwyddeb 2001/15” (rheoliad 3).

5.  Mae'r Rheoliadau hyn hefyd diwygio Rheoliadau Hysbysiadau o Farchnata Bwyd at Ddibenion Maethol Penodol (Cymru a Lloegr) 2002 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru er mwyn dileu geiriau dianghenraid o reoliad 6 o'r Rheoliadau hynny (rheoliad 6).

6.  Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â chopi o'r nodyn trosi sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn. Gellir hefyd gael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House Caerdydd CF10 1EW.

(1)

1990 c. 16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (y diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac O.S. 2004/2990.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 672).

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t. 1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).

(4)

O.S. 2002/2939 (Cy.280), a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1012 (Cy.109); y mae offerynnau diwygio eraill i'w cael, ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.

(5)

OJ Rhif L83, 22.3.2006, t.14.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources