Search Legislation

Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a gynhyrchwyd yn unol â rheoliad 4;

mae gan “asiantaeth fabwysiadu” (“adoption agency”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 2(1) o Ddeddf Mabwysiadau a Phlant 2002;

ystyr “Bwrdd Lleol Diogelu Plant” (“Local Safeguarding Children Board”) yw bwrdd a sefydlwyd o dan adran 31 o Ddeddf Plant 2004;

mae i'r ymadrodd “cofnod achos y plentyn” (“the child’s case record”) yr ystyr sydd iddo yn rheoliad 6;

ystyr “cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services advisor”) yw'r person a benodwyd yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu (Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2005(1);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a lunnir yn unol â rheoliad 3(1);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(2);

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(3);

ystyr “diwrnodau gwaith” (“working days”) yw unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl y banc o fewn yr ystyr yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);

mae i “gwarcheidwad” (“guardian”) yr ystyr a roddir i guardian yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989;

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw cyflawni gan awdurdod lleol swyddogaethau mabwysiadu perthnasol o fewn ystyr adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

ystyr “gweithiwr cymdeithasol” (“social worker”) yw person sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr gweithwyr cymdeithasol a gedwir yn unol ag adran 56 o Ddeddf 2000;

ystyr “panel Mabwysiadu” (“adoption panel”) yw panel a sefydliwyd yn unol a rheoliad 3 o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005(5)

ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 2005” (“the 2005 Adoption Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(6);

mae “rheolwr” (“manager”) i'w ddehongli'n unol â rheoliad 10;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol—

(a)

os yw swyddfa a reolir gan y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i phennu ganddo yn swyddfa briodol mewn perthynas â'r awdurdod lleol hwnnw, y swyddfa honno,

(b)

mewn unrhyw achos arall, unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â rhif yn gyfeiriad at reoliad yn y Rheoliadau hyn neu Atodlen i'r Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â rhif yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu yn yr Atodlen honno sy'n dwyn y rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r rhif hwnnw.

(3Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person p'un ai am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau; a

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

ac mae cyfeiriadau at gyflogai neu at berson a gyflogir i'w dehongli yn unol â hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources