- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 3(1)
1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion sy'n ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd.
2. Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol wedi'u rhoi yn eu lle i asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
3. Enw a chyfeiriad y rheolwr.
4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.
5. Nifer a chymwysterau a phrofiad perthnasol y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod.
6. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.
7. Y system sydd yn ei lle i fonitro a gwerthuso darpariaeth y gwasanaethau i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.
8. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.
9. Manylion y cynghorydd gwasanaeth cefnogi mabwysiadu a'r gweithdrefnau ar gyfer asesu ar gyfer gwasanaethau cefnogi mabwysiadu a'u darparu.
10. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005(1), Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2005 (2) ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau 2003(3).
11. Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
Rheoliad 4(1)
1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben.
2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan nodir mai mabwysiadu yw'r cynllun priodol ar gyfer y plentyn.
3. Gwybodaeth ynghylch rôl y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud cais am asesiad ar gyfer darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu.
4. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Y Weithdrefn Gwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003.
5. Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael mynediad i wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w helpu i ddwyn cwyn neu i wneud cynrychioliad o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4.
6. Cyfeiriad a rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.
7. Enw, cyfeiriad a rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru.
Rheoliadau 1(2)(c)
1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2. Naill ai—
(a)pan fo'r swydd yn ymwneud yn rheolaidd a gofalu ar ol, hyfforddi, arolygu neu fodyn unig un a gofal o bersonau o 18 oed neu llai tystysgrif ddiweddaredig a ddyroddwyd o dan adran 113B o'r Ddeddf honno ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi; neu
(b)ym mhob achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113A o Deddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio ers ei dyroddi.
3. Lleiafswm o ddau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr gan gyflogwr diweddaraf y person, os oes un.
4. Os bydd person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei dyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bydd yn rhesymol ymarferol cadarnhad o'r rhesymau pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5. Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.
6. Hanes cyflogaeth yn llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
Rheoliad 20(1)
Cofnod gan gynnwys mewn perthynas â phob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol—
1. Enw llawn.
2. Rhyw.
3. Dyddiad geni.
4. Cyfeiriad cartref.
5. Yr ymgymerwyd â Gwiriadau'r Swyddfa Cofnodion Troseddol (pan fo'n briodol), eu bod yn cael eu diweddaru bob tair blynedd a'u bod yn foddhaol.
6. Tystlythyrau a chadarnhad ysgrifenedig bod gwiriadau wedi'u gwneud dros y ffôn.
7. Hanes cyflogaeth lawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol o unrhyw fylchau yn y gyflogaeth,
8. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant a phrofiad o'r gwaith hwnnw.
9. Dyddiadau y mae'n cychwyn ar gyflogaeth o'r fath ac yn rhoi'r gorau i gyflogaeth o'r fath.
10. P'un a yw'n gyflogedig gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau, neu'n gyflogedig gan rywun ac eithrio'r awdurdod.
11. Ei swydd-ddisgrifiad a ph'un a yw'n gweithio'n rhan-amser neu'n llawn-amser a'r nifer o oriau bob wythnos y mae'n cael ei gyflogi gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu o dan gontract i weithio iddo.
12. Hyfforddiant yr ymgymerir ag ef ganddo neu ganddi, goruchwylio, arfarnu, camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.
rheoliad 26(1)
Colofn 1 | Colofn 2 | |
---|---|---|
Y digwyddiad: | I'w hysbysu i: | |
Swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol | Yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae'r plentyn wedi'i leoli i'w fabwysiadu ynddi | |
Marwolaeth plentyn sydd wedi'i leoli gyda darpar fabwysiadwyr pan fo gorchymyn mabwysiadu eto i gael ei wneud | Ie | Ie |
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i wasanaeth mabwysiadu at yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol ag adran 2(1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 | Ie |
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: