Search Legislation

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 1835 (Cy.159)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007

Wedi'u gwneud

26 Mehefin 2007

Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

26 Mehefin 2007

Yn dod i rym

27 Mehefin 2007

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion yr adran honno, o ran mesurau ym maes milfeddygaeth, i ddiogelu iechyd y cyhoedd(2).

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 27 Mehefin 2007.

Diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005

2.—(1Diwygir Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005(3) yn unol â pharagraffau (2) i (4).

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) —

(a)mae'r diffiniadau canlynol o offerynnau Cymunedol penodol wedi'u rhoi yn lle'r diffiniadau o'r offerynnau Cymunedol sy'n ymddangos yn union ar ôl y diffiniad o “cig ffres”—

  • mae i “Cyfarwyddeb 2004/41”, “Penderfyniad 2007/411”, “Rheoliad 999/2001”, “Rheoliad 178/2002”, “Rheoliad 852/2004”, “Rheoliad 853/2004”, “Rheoliad 854/2004”, “Rheoliad 882/2004”, “Rheoliad 1688/2005”, “Rheoliad 2073/2005”, “Rheoliad 2074/2005”, “Rheoliad 2075/2005”, “Rheoliad 2076/2005”, “Rheoliad 575/2006”, “Rheoliad 1664/2006”, “Rheoliad 1665/2006”, “Rheoliad 1666/2006”, “Rheoliad 1791/2006” a “Rheoliad 1923/2006” yr ystyr a roddir iddynt yn eu trefn yn yr Atodlen;; a

(b)rhoddir yr ymadrodd “Mhenderfyniad 2007/411” yn lle'r ymadrodd “Mhenderfyniad 2005/598” sy'n ymddangos yn y diffiniad cyfun o “deunydd” a “cynnyrch”.

(3Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5 (arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt), rhoddir y geiriau “y rheoliad hwnnw” yn lle'r geiriau “yr adran honno”.

(4Yn lle'r Atodlen (diffiniadau o ddeddfwriaeth Gymunedol) rhoddir yr Atodlen a osodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

26 Mehefin 2007

Rheoliad 2(4)

YR ATODLENYR ATODLEN A RODDIR YN LLE'R ATODLEN I REOLIADAU CYNHYRCHION BUCHOL (CYFYNGU AR EU RHOI AR Y FARCHNAD) (CYMRU) (RHIF 2) 2005

Rheoliad 2(1)

YR ATODLENDIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

  • Ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac yn diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(4);

  • ystyr “Penderfyniad 2007/411” (“Decision 2007/411”) yw Penderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC(5);

  • ystyr “Rheoliad 999/2001” (“Regulation 999/2001”) yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol(6) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1923/2006;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(7) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 575/2006;

  • ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd(8) fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2073/2005;

  • ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(9) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 854/2004” (“Regulation 854/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(10) fel y'i diwygiad ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 2074/2005, Rheoliad 2075/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â'r gyfraith ynglyn â bwyd anifeiliaid a bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirhau(11) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad 1791/2006 ac fel y'i darllenir gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

  • ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden(12);

  • ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(13);

  • ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(14) fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1664/2006;

  • ystyr “Rheoliad 2075/2005” (“Regulation 2075/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2075/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(15) fel y'i diwygiwyd gan Reoliad 1665/2006;

  • ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(16) fel y'u diwygiwyd gan Reoliad 1666/2006;

  • ystyr “Rheoliad 575/2006” (“Regulation 575/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer ac enwau Paneli Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop(17);

  • ystyr “Rheoliad 1664/2006” (“Regulation 1664/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1664/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran gweithredu mesurau ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid a fwriedir i'w bwyta gan bobl a diddymu mesurau gweithredu penodol(18);

  • ystyr “Rheoliad 1665/2006” (“Regulation 1665/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1665/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2975/2005 sy'n gosod rheolau penodedig ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig(19);

  • ystyr “Rheoliad 1666/2006” (“Regulation 1666/2006”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1666/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2006, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor(20));

  • ystyr “Rheoliad 1791/2006” (“Regulation 1791/2006”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 sy'n addasu Rheoliadau a Phenderfyniadau penodol ym meysydd rhydd symudiad nwyddau, rhydd symudiad personau, cyfraith cwmnïau, polisi cystadlu, amaethyddiaeth (gan gynnwys deddfwriaeth milfeddygol a ffytoiechydol), polisi trafnidiaeth, trethiant, ystadegau, ynni, amgylchedd, cydweithredu ym meysydd cyfiawnder a materion cartref, undeb tollau, perthnasoedd allanol, cydbolisi ar faterion tramor a materion diogelwch, a sefydliadau, oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi(21)); ac

  • ystyr “Rheoliad 1923/2006” (“Regulation 1923/2006”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurff trosglwyddadwy penodol(22)..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 (O.S. 2005/3296 Cy. 254) drwy—

(a)diweddaru'r diffiniadau o offerynnau Cymunedol penodol y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2)(a) a (4));

(b)rhoi cyfeiriad at y Penderfyniad gan y Comisiwn a ddiddymodd ac a ddisodlodd Benderfyniad cynharach gan y Comisiwn yn lle'r cyfeiriad at y Penderfyniad cynharach hwnnw sy'n ymddangos yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(2(b)); ac

(c)cywiro gwall drafftio yn y Rheoliadau hynny (rheoliad 2(3)).

2.  Rhoes Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 205/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad.

3.  Mae Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC wedi'i ddiddymu a'i ddisodli bellach gan Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac yn esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 ac yn diddymu Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC (OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74).

4.  Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC wedi'i mynegi mewn termau sydd yn union yr un fath ag Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC ac mae Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 fel y'u diwygiwyd gan y Rheoliadau hyn yn rhoi ei heffaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2007/411/EC.

5.  Nid oes asesiad effaith rheoleiddiol llawn wedi'i lunio ar gyfer yr offeryn hwn, gan na ragwelir y bydd yr offeryn yn effeithio o gwbl ar y sector preifat na'r sector gwirfoddol.

(2)

O.S. 2003/1246. Yn rhinwedd adrannau 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.

(4)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(5)

OJ Rhif L155, 15.6.2007, t.74.

(6)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.

(7)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.

(8)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(9)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).

(10)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

(11)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i osod bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).

(12)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(13)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda'r corigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 ac OJ Rhif L283, 14.10.2006, t.62.

(14)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27.

(15)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.60.

(16)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83.

(17)

OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3.

(18)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.13.

(19)

OJ Rhif L320, 18.11.2006. t.46.

(20)

OJ Rhif L320, 18.11.2006, t.47.

(21)

OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.1.

(22)

OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources