- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
BWYD, CYMRU
Wedi'u gwneud
3 Gorffennaf 2007
Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Gorffennaf 2007
Yn dod i rym
31 Gorffennaf 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 16(1), 17(2), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).
Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, ac yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2) cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2007.
2.—(1) Diwygir Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru) 2001(3) yn unol â pharagraff (2).
(2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli), yn lle'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” rhodder
“ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir wrth farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth(4);”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
3 Gorffennaf 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o “Rheoliad y Comisiwn” a geir yn Rheoliadau Brasterau Taenadwy (Safonau Marchnata) (Cymru 2001 (O.S. 2001/1361), “Rheoliadau 2001;”
2. Wrth ddiwygio'r diffiniad hwnnw yn Rheoliadau 2001, mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 sy'n gosod rheolau manwl penodedig ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 2991/94 sy'n gosod safonau ar gyfer brasterau taenadwy ac ar gyfer Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 1898/87 ar ddiogelu dynodiadau a ddefnyddir yn y rheoliad ar farchnata llaeth a chynhyrchion llaeth (OJ Rhif L106, 24.4.2007, t.24). Dirymodd Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 445/2007 Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 577/97 fel y'i diwygiwyd, gan gymryd ei lle heb ddiwygiad pellach.
3. Ni luniwyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn ar gyfer y Rheoliadau hyn, gan na ragwelir y byddant yn effeithio o gwbl ar y sector breifat na'r sector wirfoddol.
1990 p. 16. Trosglwyddwyd swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Secretary of State”, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S.1999/672 fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28). Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae'r swyddogaethau a roddir i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn i'w harfer gan Weinidogion Cymru.
OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf adeg gwneud y Rheoliadau hyn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).
OJ Rhif L106, 24.4.2007, p.24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: