Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 205 (Cy.19)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

30 Ionawr 2007

Yn dod i rym

1 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 28V, 41, 42, 43, 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(4Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau Contractau GMS Cymru” (“GMS Contracts Wales Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(2);

ystyr “Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar” (“Charges for Drugs and Appliances Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001(3);

ystyr “Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992” (“Pharmaceutical Services Regulations 1992”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992(4).

Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar

2.—(1Diwygir rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn lle'r diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” rhodder—

ystyr “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol” (“independent nurse prescriber”) yw person—

(a)

sydd wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

y mae nodyn yn ei gylch yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar—

(i)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Nyrsys Ardal ac Ymwelwyr Iechyd yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau; neu

(ii)

o'r Llyfr Fferyllol Nyrsys sy'n Rhagnodi sydd ar gyfer Ymarferwyr Cymunedol yn Rhan XVIIB(i) o'r Tariff Cyffuriau

hefyd wedi'i gofnodi yn y gofrestr honno. At ddibenion y Gorchymyn POM mae nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol yn nyrs sy'n ymarferydd cymunedol ac sy'n rhagnodi;.

(3Yn lle'r diffiniad o “cofrestr proffesiwn nyrsys a bydwragedd” rhodder—

ystyr “Cofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth” (“Nursing and Midwifery Register”) yw'r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth o dan Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001(5);

(4Yn lle'r diffiniad o “rhagnodydd atodol” rhodder—

ystyr “rhagnodydd atodol” (“supplementary prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn—

(i)

y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth,

(ii)

y Gofrestr Fferyllwyr Fferyllol a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954(6),

(iii)

y gofrestr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon) 1976(7),

(iv)

y rhan o'r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 sy'n ymwneud ag—

(aa)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(bb)

ffisiotherapyddion; neu

(cc)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig, neu

(v)

yn y gofrestr optometryddion a gedwir gan y Cyngor Optegol Cyffredinol yn unol ag adran 7 o Ddeddf Optegwyr 1989, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn neu gofnod yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel rhagnodydd atodol;.

(5Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau canlynol—

ystyr “cofrestr berthnasol” (“relevant register”) yw—

(a)

mewn perthynas â nyrs neu fydwraig, y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth;

(b)

mewn perthynas â fferyllydd, y gofrestr a gedwir yn unol ag adran 2(1) o Ddeddf Fferylliaeth 1954 neu'r gofrestr a gedwir yn unol ag Erthyglau 6 a 9 o Orchymyn Fferylliaeth (Gogledd Iwerddon);

(c)

mewn perthynas â pherson y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y rhan o'r gofrestr a gedwir gan y Cyngor Proffesiynau Iechyd yn unol ag Erthygl 5 o Orchymyn Proffesiynau Iechyd 2001 sy'n ymwneud â—

(i)

ciropodyddion a phodiatryddion;

(ii)

ffisiotherapyddion; neu

(iii)

radiograffyddion: diagnostig neu therapiwtig; y gofrestr honno; ac

(ch)

mewn perthynas ag optometrydd cofrestredig, y gofrestr optometryddion a gedwir o dan adran 7(a) o Ddeddf Optegwyr 1989;;

ystyr “cwrs a achredwyd” (“accredited course”) yw cwrs a achredwyd gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth;”;

ystyr “fferyllydd-ragnodydd annibynnol” (“pharmacist independent prescriber”) yw person —

(a)

sy'n fferyllydd, a

(b)

y cofnodir yn erbyn ei enw yn y gofrestr berthnasol nodyn yn dynodi ei fod yn gymwys i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol;”;

ystyr “Gorchymyn POM” (“POM Order”) yw Gorchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (I'w Defnyddio gan Bobl) 1997(8);”;

ystyr “nyrs-ragnodydd annibynnol” (“nurse independent prescriber”) yw person—

(a)

y mae ei enw wedi'i gofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, a

(b)

sydd, o ran y person sy'n ymarfer yng Nghymru ar 1 Chwefror 2007 neu ar ôl y dyddiad hwnnw, wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd ar gyfer ymarfer fel nyrs-ragnodydd annibynnol;”.

(6Yn y diffiniad o “rhagnodydd” (“prescriber”), hepgorer y gair “ac” sy'n dod ar ôl y geiriau “nyrs annibynnol sy'n rhagnodi” a mewnosoder ar ôl y geiriau “rhagnodydd atodol;”—

(ch)nyrs-ragnodydd annibynnol; ac

(d)fferyllydd-ragnodydd annibynnol;.

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992.

3.—(1Diwygir Rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992 yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Yn lle'r diffiniad o “independent nurse prescriber” rhodder—

“independent nurse prescriber” means a person—

(a)

who is registered in the Nursing and Midwifery Register, and

(b)

in respect of whom an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances from—

(i)

the Nurse Prescribers' Formulary for District Nurses and Health Visitors in Part XVIIB(i) of the Drug Tariff, or

(ii)

the Nurse Prescribers' Formulary for Community Practitioners under Part XVIIB(i) of the Drug Tariff

is also recorded in that register. For the purposes of the POM Order, an independent nurse prescriber is a community practitioner nurse prescriber;.

(3Yn lle'r diffiniad o “nurses and midwives' professional register” rhodder—

“Nursing and Midwifery Register” means the register maintained by the Nursing and Midwifery Council under the Nursing and Midwifery Order 2001;.

(4Yn lle'r diffiniad o “supplementary prescriber” rhodder—

“supplementary prescriber” means a person—

(a)

whose name is registered in—

(i)

the Nursing and Midwifery Register,

(ii)

the Register of Pharmaceutical Chemists maintained in pursuance of section 2(1) of the Pharmacy Act 1954,

(iii)

the register maintained in pursuance of Articles 6 and 9 of the Pharmacy (Northern Ireland) Order 1976,

(iv)

the part of the register maintained by the Health Professions Council in pursuance of Article 5 of the Health Professions Order 2001 relating to—

(aa)

chiropodists and podiatrists;

(bb)

physiotherapists; or

(cc)

radiographers: diagnostic or therapeutic, or

(v)

the register of optometrists maintained by the General Optical Council in pursuance of section 7 of the Opticians Act 1989, and

(b)

against whose name is recorded in the relevant register an annotation or entry signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a supplementary prescriber;.

(5Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—

“accredited course” means a course accredited by the Nursing and Midwifery Council;;

“nurse independent prescriber” means a person—

(a)

whose name is registered in the Nursing and Midwifery Register, and

(b)

who, in respect of a person practising in Wales on or after 1 February 2007, has passed an accredited course to practise as a nurse independent prescriber;”;

“pharmacist independent prescriber” means a person—

(a)

who is a pharmacist, and

(b)

against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a pharmacist independent prescriber;”;

“POM Order” means the Prescription Only Medicines (Human Use) Order1997;”;

“relevant register” means—

(a)

in relation to a nurse or a midwife, the Nursing and Midwifery Register;

(b)

in relation to a pharmacist, the register maintained in pursuance of section 2(1) of the Pharmacy Act 1954 or the register maintained in pursuance of Articles 6 and 9 of the Pharmacy (Northern Ireland) Order;

(c)

in relation to a person whose name is registered in the part of the register maintained by the Health Professions Council in pursuance of Article 5 of the Health Professions Order 2001 relating to—

(i)

chiropodists and podiatrists;

(ii)

physiotherapists; or

(iii)

radiographers: diagnostic or therapeutic;

that register; and

(d)

in relation to a registered optometrist, the register of optometrists maintained under section 7(a) of the Opticians Act 1989;”.

(6Yn y diffiniad o “prescriber” ar ôl y geiriau “an independent nurse prescriber” mewnosoder y canlynol “, a nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber”.

Diwygio rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru

4.—(1Diwygir Rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Yn lle'r diffiniad o “independent nurse prescriber” rhodder—

“independent nurse prescriber” means a person—

(a)

who is either engaged or employed by the contractor or is a party to the contract,

(b)

who is registered in the Nursing and Midwifery Register, and

(c)

in respect of whom an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances from—

(i)

the Nurse Prescribers' Formulary for District Nurses and Health Visitors in Part XVIIB(i) of the Drug Tariff, or

(ii)

the Nurse Prescribers' Formulary for Community Practitioners under Part XVIIB(i) of the Drug Tariff

is also recorded in that register. For the purposes of the POM Order, an independent nurse prescriber is a community practitioner nurse prescriber ;.

(3Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau canlynol—

“accredited course” means a course accredited by the Nursing and Midwifery Council;;

“nurse independent prescriber” means a person—

(a)

who is either engaged or employed by the contractor or is a party to the contract,

(b)

whose name is registered in the Nursing and Midwifery Register, and

(c)

who, in respect of a person practising in Wales on or after 1 February 2007, has passed an accredited course to practise as a nurse independent prescriber;”;

“pharmacist independent prescriber” means a person—

(a)

who is either engaged or employed by the contractor or is a party to the contract,

(b)

who is a pharmacist, and

(c)

against whose name is recorded in the relevant register an annotation signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a pharmacist independent prescriber;”.

(4Yn y diffiniad o “relevant register”, ar ôl y geiriau “the Pharmacy (Northern Ireland) Order 1976;” mewnosoder y canlynol—

(c)in relation to a person whose name is registered in the part of the register maintained by the Health Professions Council in pursuance of Article 5 of the Health Professions Order 2001 relating to—

(i)chiropodists and podiatrists;

(ii)physiotherapists; or

(iii)radiographers: diagnostic or therapeutic; that register; and

(d)in relation to a registered optometrist, the register of optometrists maintained under section 7(a) of the Opticians Act 1989;.

(5Yn y diffiniad o “prescriber”, ym mharagraff (b) dileer y gair “and”, ac ar ôl paragraff “(c) supplementary prescriber,” mewnosoder—

(d)a nurse independent prescriber, and

(e)a pharmacist independent prescriber,

Diwygio Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru

5.—(1Diwygir Atodlen 6 (amodau contract eraill) i'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

(2Ym mharagraff 49(3) a (4) (amodau sy'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl “independent nurse prescriber”, ym mhob man y ceir y geiriau hynny, mewnosoder “, nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber or a supplementary prescriber whose name is registered in the Nursing and Midwifery Register and against whose name is recorded in that register an annotation or entry signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a supplementary prescriber”.

(3Ym mharagraff 64(1) a (2) (sy'n ymwneud â nyrsys sy'n rhagnodi'n annibynnol a rhagnodwyr atodol), ar ôl “independent nurse prescriber”, ym mhob man y ceir y geiriau hynny, mewnosoder “, a nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber”.

(4Yn y pennawd i baragraff 64, ar ôl “independent nurse prescribers” mewnosoder “, nurse independent prescribers, pharmacist independent prescribers”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(9)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r setiau canlynol o Reoliadau:

1.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 (“y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar”);

2.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 (“y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol”); a

3.  Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Contractau GMS”).

  • Mae angen y newidiadau o ganlyniad i ychwanegu dau gategori newydd o ragnodwyr at Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (I'w Defnyddio gan Bobl) 1997 (“y Gorchymyn POM”).

  • Y ddau gategori newydd yw: nyrsys-ragnodwyr annibynnol a fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol.

  • Caiff nyrsys-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3A o'r Gorchymyn POM. Caiff fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3B(2)(c) o'r Gorchymyn POM.

  • Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd nyrs yng Nghymru, sydd wedi'i chofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn gallu rhagnodi fel nyrs-ragnodydd annibynnol pan fydd wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd. Bydd fferyllydd yn gallu rhagnodi fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol ar yr amod y bydd y gofrestr fferyllol berthnasol yn dangos ei fod wedi cymhwyso i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol.

  • Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o “supplementary prescriber” a geir yn y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol a “rhagnodydd atodol” a geir yn y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar i gynnwys optometryddion. Mae optometryddion eisoes yn gynwysedig yn y diffiniad o ragnodydd atodol yn y Rheoliadau Contractau GMS Cymru.

  • Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol”.

(1)

1977 p.49; mewnosodwyd adran 28V gan adran 175(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) (“Deddf 2003”); amnewidiwyd adran 41 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) (“Deddf 2001”) ac fe'i diwygiwyd gan Atodlen 11, paragraffau 7, 18(1), (2) a (3) o Ddeddf 2003, gan O.S. 2003/1590 ac O.S. 2005/2011; amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); fe'i hestynnwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan O.S.1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 12(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 30; gan Ddeddf 2001, adrannau 20(6), 43(2), (3) a (4) a chan Atodlen 6, Rhan 1; a chan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002, Atodlen 2, paragraff 17; diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 21(2); gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraffau 3 ac 14; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(2) a chan Ddeddf 2001, adrannau 20(1) a (7), 42(2) a 43(5); diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 2003, Atodlen 11, paragraffau 7 a 28; diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.

(2)

O.S.2004/478 (Cy.48); yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2006/358 (Cy.46).

(8)

O.S. 1997/1830, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2006/915

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources