Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Awst 2007 ac y maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae “addysg” (“education”) yn cynnwys ymchwil ôl-raddedig, heblaw yng nghwrs cyflogaeth;

ystyr “Ardal Economaidd Ewropeaidd” (“European Economic Area”) yw'r ardal a ffurfir gan Wladwriaethau'r AEE;

ystyr “blwyddyn academaidd” (“academic year”) yw'r cyfnod o ddeuddeng mis yn dechrau ar 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Medi yn y flwyddyn galendr pan y mae blwyddyn academaidd y cwrs o dan sylw yn dechrau ynddi, yn dibynnu ar a yw'r flwyddyn academaidd honno'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr a chyn 1 Ebrill, ar neu ar ôl 1 Ebrill a chyn 1 Gorffennaf, ar neu ar ôl 1 Gorffennaf a chyn 1 Awst, neu ar neu ar ôl 1 Awst ac ar neu chyn 31 Rhagfyr, yn eu trefn;

ystyr “CCAUC” (“HEFCW”) yw Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru(1);

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw cyflogaeth lawnamser neu ran-amser:

ystyr “darparwr hyfforddiant” (“training provider”) yw person sy'n darparu hyfforddiant i aelodau o weithlu'r ysgolion o dan Ran 3 o Ddeddf 2005;

ystyr “Deddf 2005” (“the 2005 Act”) yw Deddf Addysg 2005(2);

ystyr “dyfarniad” (“award”) yw dyfarniad ffioedd neu ddyfarniad cynhaliaeth neu'r ddau;

ystyr “dyfarniad addysg ôl-orfodol” (“post-compulsory education award”) yw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari neu lwfans arall a roddir gan awdurdod addysg lleol o dan Reoliadau Awdurdodau Addysg Lleol (Dyfarndaliadau Addysg Ôl-orfodol) (Cymru) 2002(3);

ystyr “dyfarniad cynhaliaeth” (“maintenance award”) yw unrhyw ddyfarniad heblaw dyfarniad ffioedd;

ystyr “dyfarniad ffioedd” (“fees award”) yw dyfarniad sydd yn unig ar gyfer unrhyw ffioedd sy'n daladwy, gan eithrio unrhyw elfen o'r ffioedd hynny sy'n dâl cynhaliaeth;

ystyr “y Gymuned Ewropeaidd” (“European Community”) yw'r diriogaeth a ffurfir gan Aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, fel y'i chyfansoddir o bryd i'w gilydd;

ystyr “tiriogaethau tramor” (“overseas territories”) yw Anguilla; Aruba; Bermuda, Tiriogaeth Antarctig Prydain; Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India; Ynysoedd Prydeinig y Wyryf; Ynysoedd Cayman; Ynysoedd Falkland; Ynysoedd Ffaröe; Polynesia Ffrengig, Tiriogaethau Deheuol ac Antarctig Ffrainc; Mayotte; Kalaallit Nunaat (Greenland); Montserrat; Antilles yr Iseldiroedd (Bonaire, Curaçao, Saba, Sint Eustatius a Sint Maarten); Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno; Ynysoedd De Georgia a De Sandwich; St Helena a Thiriogaethau Dibynnol (Ynysoedd Ascension a Tristan de Cunha); St Pierre et Miquelon; Tiriogaeth Caledonia Newydd a Thiriogaethau Dibynnol; Ynysoedd Turks a Caicos a Wallis a Futuna;

ystyr “yr Ynysoedd” (“the Islands”) yw Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw.

(2Er gwaethaf adran 11 o Ddeddf Dehongli 1978(4) ni fydd adran 3(2) o Ddeddf Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1983 (lle mae'r cyfeiriadau at y Deyrnas Unedig yn cynnwys cyfeiriadau at yr Ynysoedd) yn gymwys at ddibenion dehongli'r Rheoliadau hyn.

(3At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae “rhiant” (“parent”) yn cynnwys gwarcheidwad neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn, ac unrhyw berson sydd yn gofalu am blentyn, a dylid dehongli “plentyn” (“child”) yn unol â hynny.

(4At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai wedi bod yn preswylio felly oni-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

mewn cyflogaeth dros dro neu wedi bod mewn cyflogaeth felly y tu allan i'r ardal dan sylw.

(5At ddibenion paragraff (4), mae cyflogaeth dros dro yn cynnwys—

(a)yn achos aelodau o lynges, o fyddin neu o awyrlu rheolaidd y Goron, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r Deyrnas Unedig;

(b)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Gwladwriaeth AEE neu'r Swistir, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir; ac

(c)yn achos aelodau o luoedd arfog rheolaidd Twrci, unrhyw gyfnod pan fônt yn gwasanaethu fel aelodau o'r lluoedd hynny y tu allan i'r diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci.

(6At ddibenion rheoliadau 6, 7 ac 8, dylid trin person fel petai'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir, yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a'r tiriogaethau tramor, neu yn y diriogaeth a ffurfir gan yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, y Swistir a Thwrci, pe byddai'r wedi bod yn preswylio felly oni bai-

(a)ei fod ef;

(b)bod ei briod neu ei bartner sifil;

(c)bod ei riant; neu

(ch)yn achos perthynas uniongyrchol dibynnol yn y llinach esgynnol, ei blentyn neu blentyn ei briod neu ei bartner sifil,

yn cael addysg lawnamser dros dro y tu allan i'r ardal dan sylw.

(7At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyrir mae ardal—

(a)nad oedd gynt yn rhan o'r Gymuned Ewropeaidd nac o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd; ond

(b)sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall o'r ardaloedd hyn, neu o'r ddwy ohonynt,

i gael ei hystyried fel petai wedi bod erioed yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.

Gweithredoedd cyfreithlon

3.—(1Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i hepgor y cyfan neu ran o unrhyw ffi (ar sail caledi ariannol neu fel arall), ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

(2Os oes gwahaniaethu yn codi o ganlyniad i unrhyw reol cymhwyster ar gyfer dyfarniad, ni fydd dim sydd yn y Rheoliadau hyn yn cael ei ddehongli fel pe bai'n gwneud y gwahaniaethu hwnnw yn anghyfreithlon, pe bai wedi bod yn gyfreithlon oni fyddai'r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud.

Codi ffioedd

4.—(1Bydd yn gyfreithlon i'r sefydliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) i godi ffioedd uwch yn achos person nad yw'n dod o fewn yr Atodlen, nag a godir yn achos person sydd yn dod o fewn yr Atodlen.

(2At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn dod o fewn yr Atodlen os yw'n dod o'i mewn ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs.

(3Y sefydliadau y cyfeirir atynt yn y paragraff hwn yw'r sefydliadau—

(a)sydd o fewn y sector addysg uwch, gan gynnwys coleg, ysgol neu neuadd sy'n rhan o sefydliad o'r fath;

(b)sydd o fewn y sector addysg bellach:

(c)sy'n ddarparwyr hyfforddiant ac yn cael cymorth ariannol o dan adran 86 o Ddeddf 2005;

(ch)sy'n darparu addysg bellach ac a gynhelir gan awdurdod addysg lleol.

(4Nid yw'r rheoliad hwn yn gwneud yn gyfreithlon codi ffi sydd yn anghyfreithlon oherwydd amod a osodir o dan adran 28 o Ddeddf Addysg Uwch 2004(5)

Dyfarniadau gan awdurdodau addysg lleol

5.—(1Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962(6) neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—

(a)nad ydynt yn ystyried rheoliad 2(4);

(b)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraff 5, neu

(c)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynnal i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraffau 5 a 9.

Taliadau gan yr Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion a chan CCAUC

6.—(1Bydd yn gyfreithlon i'r Asiantaeth Hyfforddiant a Datblygiad ar gyfer Ysgolion(7) o dan adran 78 o Ddeddf 2005, a CCAUC o dan adran 86 o Ddeddf 2005, fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan unrhyw ddarparwr hyfforddiant y rhoddant grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i ddarparwr hyfforddiant sy'n cael cymorth ariannol o dan adran 78 a neu adran 86 o Ddeddf 2005 fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Taliadau gan CCAUC

7.—(1Bydd yn gyfreithlon i CCAUC fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sydd i'w gwneud i fyfyrwyr a hyfforddir (ac eithrio ar gwrs sy'n arwain at radd gyntaf) i addysgu personau dros oedran ysgol gan sefydliad y mae CCAUC yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae CCAUC yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo i'r pwrpas a ddisgrifir ym mharagraff (1) fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Taliadau gan Weinidogion Cymru

8.—(1Bydd yn gyfreithlon i Weinidogion Cymru fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau gan sefydliad y maent yn rhoi grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo o dan adran 34 o Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000, sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

(2Bydd yn gyfreithlon i sefydliad y mae Gweinidogion Cymru yn talu grantiau, benthyciadau neu daliadau eraill iddo fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau (pa fodd bynnag y'u disgrifir) sy'n cyfyngu cymhwyster i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen.

Dirymu

9.—(1Dirymir y Rheoliadau canlynol o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) 1997(8);

(b)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Chymorth i Fyfyrwyr) (Y Swistir) 2003(9);

(c)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) 2006(10); ac

(ch)Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Diwygio) (Cymru) 2006(11).

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru

4 Awst 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources