Search Legislation

Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

 Help about advanced features

Advanced Features

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Newidiadau dros amser i: Adran 5

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 25/04/2021.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Dyfarniadau gan awdurdodau addysg lleolLL+C

5.—(1Bydd yn gyfreithlon i awdurdod addysg lleol fabwysiadu rheolau cymhwyster ar gyfer dyfarniadau o dan adrannau 1(6) neu 2 o Ddeddf Addysg 1962(1) neu ar gyfer dyfarniadau addysg ôl-orfodol—

(a)nad ydynt yn ystyried rheoliad 2(4);

(b)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau ffioedd i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraff 5, neu

(c)sy'n cyfyngu cymhwyster yn achos dyfarniadau cynnal i'r personau hynny sy'n dod o fewn yr Atodlen, ac eithrio'r rhai sy'n dod o fewn paragraffau 5 a 9.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 5 mewn grym ar 31.8.2007, gweler rhl. 1(2)

(1)

1962 p.12. Diddymwyd Deddf Addysg 1962 gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998, yn amodol ar ddarpariaethau trosiannol a darpariaethau arbed i alluogi gwneud taliadau mewn cysylltiad â dyfarniadau a wnaed o dan y Ddeddf cyn ei diddymu a galluogi gwneud dyfarniadau mewn perthynas â chyrsiau a oedd yn dechrau cyn 1 Medi 1999 a rhai cyrsiau penodol a oedd yn dechrau ar ôl y dyddiad hwnnw.

Back to top

Options/Help