- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3. Mae'r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2006 yn dod i rym ar 6 Medi 2007—
(a)adran 4 (awdurdodau cofrestru tiroedd comin);
(b)adran 5 (tir y mae Rhan 1 yn gymwys iddo);
(c)adran 15 (cofrestru meysydd tref neu bentref);
(ch)adran 23 (trosiannol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (i) o'r erthygl hon;
(d)adran 24 (ceisiadau etc.) i'r graddau nad yw'n cael ei dwyn i rym gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn;
(dd)adran 44 (materion atodol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (j) o'r erthygl hon;
(e)adran 45 (pwerau awdurdodau lleol dros dir nas hawlwyd);
(f)adran 47 (cau tir gan y perchennig);
(ff)adran 49 (hysbysiad cau tir);
(g)adran 51 (mynediad i gerbydau);
(ng)adran 52 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol), i'r graddau y mae yn rhoi ei effaith i baragraff (l) o'r erthygl hon;
(h)adran 53 (diddymiadau), i'r graddau y mae yn rhoi eu heffaith i baragraffau (ll) i (o) o'r erthygl hon;
(i)yn Atodlen 3 (cofrestru: darpariaeth drosiannol), paragraff 9;
(j)yn Atodlen 4 (gwaith: materion atodol), paragraff 6;
(l)yn Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)
(i)paragraff 4,
(ii)is-baragraff (a) o baragraff 6, a
(iii)is-baragraff (5) o baragraff 7 ac is-baragraff (1) o'r paragraff hwnnw i'r graddau y mae yn ymwneud ag ef;
(ll)yn Rhan 1 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chofrestru), y cofnodion sy'n ymwneud ag—
(i)Deddf Cofrestru Tiroedd Comin 1965 i'r graddau y mae'n diddymu adrannau 8, 9 a 13(a) a (b)(1) o Ddeddf 1965,
(ii)adran 189(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(2),
(iii)paragraff 10(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(3),
(iv)adran 8 o Ddeddf Tiroedd Comin Dartmoor 1985(4),
(v)Deddf Tiroedd Comin (Cywiro Cofrestrau) 1989(5),
(vi)adrannau 46(1) a 98 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(6), a
(vii)adran 33(1) o Ddeddf Tiroedd Comin Greenham a Crookham 2002(7);
(m)yn Rhan 2 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â gwaith), y cofnodion yn ymwneud ag
(i)adran 21 o Ddeddf y Tiroedd Comin Metropolitanaidd 1866(8),
(ii)adran 30 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876(9),
(iii)adran 21o Ddeddf Tiroedd Comin 1899 (10), a
(iv)Atodlen 7 i Ddeddf Prynu Gorfodol 1965(11);
(n)yn Rhan 3 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â chau tir gan y perchennog a chau tir), y cofnodion yn ymwneud â
(i)Deddf Tiroedd Comin 1285(12),
(ii)adran 31 o Ddeddf Tiroedd Comin 1876, a
(iii)Deddf Diwygio Cyfraith Tiroedd Comin 1893(13); ac
(o)Rhan 5 o Atodlen 6 (diddymiadau yn ymwneud â mynediad i gerbydau).
1965 p.64; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.70), adran189(2) a chan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (p.9), Atodlen 11, paragraff 7(1) a (2); diwygiwyd adran 9 gan Ddeddf Cofrestru Tir 2000, Atodlen 11, paragraff 7(1) a (3); diwygiwyd adran 13 gan Ddeddf Cyfraith Eiddo 1969 (p.59), Atodlen 2, Rhan I.
1876 p.56; diwygiwyd adran 30 gan Ddeddf Gweinyddu Cyfiawnder (Apelau) 1934 (p.40), yr Atodlen, Rhan I a chan Ddeddf Diwygio'r Cyfansoddiad 2005 (p.4), Atodlen 11, Rhan 4, paragraff 13.
1899 p.30; diwygiwyd adran 21 gan Ddeddf Adolygu Cyfraith Statud 1908 (p.49).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: