- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Erthygl 12
1.—(1) Rhaid i'r trwyddedai sicrhau bod unrhyw berson sy'n mynd ar y fangre drwyddedig yn cael gwybod bod y fangre'n drwyddedig o dan y Gorchymyn hwn, pa un ai trwy gyfrwng system o hysbysiadau y gwneir hynny neu mewn rhyw ffordd arall.
(2) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu'r canlynol wrth yr allanfeydd o'r man i anifeiliaid ac wrth unrhyw fan llwytho a dadlwytho—
(a)baddonau traed sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd; a
(b)cyfleusterau ar gyfer tynnu oddi ar esgidiau laid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid cyn defnyddio'r baddonau traed.
(3) Rhaid i'r trwyddedai ddarparu cyfleusterau ar y fangre drwyddedig ar gyfer newid, glanhau a diheintio dillad a gwaredu dillad y gellir eu taflu.
(4) Rhaid i'r trwyddedai —
(a)sicrhau mai yn y man i anifeiliaid yn unig y caiff yr anifeiliaid eu dadlwytho a'u llwytho; a
(b)sicrhau, i'r graddau y mae hynny'n rhesymol ymarferol, nad yw anifeiliaid yn gadael y man i anifeiliaid ac eithrio ar gerbyd.
(5) Pan gynhelir crynhoad anifeiliaid y mae'r terfynau amser yn erthyglau 9 a 10 yn gymwys iddo, rhaid i'r trwyddedai sicrhau—
(a)na ddeuir â'r un anifail i'r fangre cyn dechrau'r crynhoad anifeiliaid; a
(b)bod pob anifail yn cael ei symud o'r fangre erbyn diwedd y crynhoad anifeiliaid.
2.—(1) Ni chaiff neb fynd ar fangre drwyddedig yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi'u halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Os bydd person yn y man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, rhaid iddo ar ei union wrth adael y man i anifeiliaid, lanhau halogi garw oddi ar ei ddillad allanol neu ei esgidiau (onid ydynt i gael eu gwaredu) a naill ai—
(a)eu diheintio;
(b)newid i ddillad neu esgidiau glân;
(c)eu gwaredu; neu
(ch)ymadael â'r fangre drwyddedig.
(3) Os bydd person y tu allan i'r man i anifeiliaid yn gwisgo dillad allanol neu esgidiau y gellir gweld eu bod wedi eu halogi â llaid, tom anifeiliaid neu halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid, caiff arolygydd gyflwyno iddo hysbysiad yn rhoi iddo'r dewis a hynny ar ei union—
(a)glanhau ei ddillad allanol neu ei esgidiau;
(b)newid i ddillad neu esgidiau glân;
(c)gwaredu dillad neu esgidiau y gellir eu taflu; neu
(ch)ymadael â'r fangre drwyddedig.
3. Rhaid i unrhyw berson sy'n ymadael â'r man i anifeiliaid, gan ddefnyddio'r cyfleusterau a ddarperir, dynnu'r llaid, tom anifeiliaid ac unrhyw halogion eraill sy'n dod o anifeiliaid oddi ar ei esgidiau ac yna diheintio'r esgidiau hynny yn y baddon traed a ddarperir sy'n cynnwys diheintydd a gymeradwywyd.
4.—(1) Ni chaiff neb ddod ag unrhyw gerbyd na chyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw ar y fangre drwyddedig na mynd â hwy oddi yno os gellir gweld eu bod wedi'u halogi â thom anifeiliaid neu unrhyw halogiad arall sy'n dod o anifeiliaid.
(2) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n dod ar fangre drwyddedig —
(a)os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a gludir ar y cerbyd pan ddaethpwyd â'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu
(b)yn unswydd er mwyn eu glanhau a'u diheintio, os eir â hwy yn unionsyth i'r cyfleusterau glanhau a diheintio yn ddi-oed ar ôl cyrraedd y fangre.
(3) Ni fydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gerbyd neu gyfarpar a gludir ar y cerbyd hwnnw sy'n ymadael â'r fangre drwyddedig—
(a)os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a ddadlwythwyd o'r cerbyd ar y fangre drwyddedig; neu
(b)os yw'r dom anifeiliaid neu halogiad arall yn dod yn unig o'r anifeiliaid a lwythwyd ar y cerbyd ar y fangre drwyddedig.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: