- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
Rheoliadau 7(1) ac 11(1)
1. Disgrifiad o'r prosiect, sef gwybodaeth am safle, dyluniad a maint y prosiect.
2. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir er mwyn osgoi, lleihau ac, os yw'n bosibl, unioni unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol.
3. Y data y mae eu hangen i adnabod ac asesu'r prif effeithiau y mae'r prosiect yn debygol o'u cael ar yr amgylchedd.
4. Braslun o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros ei ddewis, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
5. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarparwyd o dan baragraffau 1 i 4 o'r Rhan hon.
1. Disgrifiad o'r prosiect, gan gynnwys yn benodol—
(a)disgrifiad o nodweddion ffisegol y prosiect cyfan a'r anghenion o ran defnydd tir yn ystod y cyfnod adeiladu a'r cyfnod gweithredol;
(b)disgrifiad o brif nodweddion y prosesau cynhyrchu, er enghraifft, natur y deunyddiau a ddefnyddir a pha faint ohonynt a ddefnyddir;
(c)amcangyfrif, yn ôl math a maint, o'r gwaddodion a'r allyriadau disgwyliedig (llygredd dwr, aer a phridd, swn, dirgryniad, golau, gwres, ymbelydredd, etc.) a fyddai'n deillio o weithredu'r prosiect arfaethedig.
2. Amlinelliad o'r prif ddewisiadau eraill a astudiwyd gan y ceisydd a syniad o'r prif resymau dros y dewis hwn, gan gymryd i ystyriaeth yr effeithiau amgylcheddol.
3. Disgrifiad o'r agweddau ar yr amgylchedd y mae'r prosiect arfaethedig yn debyg o effeithio'n sylweddol arnynt, gan gynnwys, yn benodol, poblogaeth, ffawna, fflora, pridd, dwr, aer, ffactorau hinsoddol, asedau materol, gan gynnwys y dreftadaeth bensaernïol ac archeolegol, y tirlun a rhyngberthynas y ffactorau uchod.
4. Disgrifiad o effeithiau sylweddol tebygol y prosiect arfaethedig ar yr amgylchedd, a hwnnw'n ddisgrifiad a ddylai ymdrin ag effeithiau uniongyrchol ac unrhyw effeithiau anuniongyrchol, eilaidd, cronnol, byrdymor, tymor-canolig a hirdymor, parhaol a thros dro, cadarnhaol a negyddol y prosiect, a fyddai'n deillio o:
(a)bodolaeth y prosiect;
(b) y defnydd o adnoddau naturiol;
(c) allyriant llygrwyr, creu niwsansau a dileu gwastraff,
a disgrifiad gan y ceisydd o'r dulliau darogan a ddefnyddir i asesu'r effeithiau ar yr amgylchedd.
5. Disgrifiad o'r mesurau a ragwelir i atal, lleihau ac, os yw'n bosibl, i wrthbwyso unrhyw effeithiau andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd.
6. Crynodeb annhechnegol o'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraffau 1 i 5 o'r Rhan hon.
7. Awgrym o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth ymarferol) y daethpwyd ar eu traws gan y ceisydd wrth grynhoi'r wybodaeth sy'n ofynnol.
Rheoliad 5(8)
1. Rhaid ystyried nodweddion y prosiectau, gan roi sylw, yn benodol, i—
(a)maint y prosiect;
(b)sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;
(c)y defnydd o adnoddau naturiol;
(ch)cynhyrchu gwastraff;
(d)llygredd a niwsansau;
(dd)y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw, yn benodol, i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
2. Rhaid ystyried sensitifrwydd amgylcheddol yr ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw, yn benodol, i —
(a)y defnydd presennol o'r tir;
(b)digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal;
(c) gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, o roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—
(i)gwlyptiroedd,
(ii)parthau arfordirol,
(iii)ardaloedd mynyddig a fforestydd,
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau,
(v)ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth y gwladwriaethau AEE; ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd gan Aelod-wladwriaethau o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd,
(vi)ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn deddfwriaeth Gymunedol,
(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth,
(viii)tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
3. Rhaid ystyried effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2 uchod, a chan roi sylw, yn benodol, i—
(a)hyd a lled yr effaith (yr ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b)natur drawsffiniol yr effaith;
(c)graddfa a chymhlethdod yr effaith;
(ch)tebygolrwydd yr effaith;
(d)hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.
Rheoliadau 13(3) a 24
1.—(1) Yn yr Atodlen hon, ystyr “Natura 2000” yw'r rhwydwaith Ewropeaidd o ardaloedd cadwraeth arbennig, ac ardaloedd gwarchodaeth arbennig a ddynodwyd o dan y Gyfarwyddeb Adar Gwyllt, y darparwyd ar eu cyfer gan Erthygl 3(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
(2) At ddibenion paragraffau 3 a 4 o'r Atodlen hon, estynnir y diffiniad o “safle Ewropeaidd” yn rheoliad 2 drwy fewnosod y paragraff canlynol—
“(d)safle sy'n lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth y mae ymgynghoriad wedi'i gychwyn mewn cysylltiad ag ef neu hi o dan Erthygl 5(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd, yn ystod y cyfnod ymgynghori neu wrth aros am benderfyniad y Cyngor o dan Erthygl 5(3).”
2.—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys o ran pob prosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi dyfarnu mewn cysylltiad ag ef o dan reoliad 6, 13(1) neu 18(3) y byddai'n brosiect cynefinoedd.
(2) Rhaid i berson sy'n gwneud cais o dan reoliad 10, neu o dan reoliad 18, ddarparu unrhyw wybodaeth y bydd angen rhesymol amdani ar Weinidogion Cymru at ddibenion yr asesiad o dan reoliad 13(3) neu'r rheoliad hwnnw fel y'i cymhwysir gan reoliad 19(3).
(3) At ddibenion yr asesiad, rhaid i Weinidogion Cymru geisio cyngor gwyddonol priodol.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru gymryd camau priodol hefyd i gael barn y cyhoedd at ddibenion yr asesiad.
(5) Yng ngoleuni'r casgliad y daethpwyd iddo yn yr asesiad, ac yn ddarostyngedig i is-baragraffau (7) ac (8) isod, dim ond ar ôl i Weinidogion Cymru ganfod na fydd y prosiect, naill ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynlluniau neu brosiectau eraill, yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd y cânt roi caniatâd ar gyfer y prosiect hwnnw.
(6) Wrth bwyso a mesur a fyddai'r prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw—
(a)i'r modd y bwriedir cyflawni'r prosiect; a
(b)i unrhyw amodau neu gyfyngiadau y bwriedir i'r caniatâd a roddir fod yn ddarostyngedig iddynt.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn credu y câi unrhyw effeithiau andwyol y prosiect ar gyfanrwydd safle Ewropeaidd eu hosgoi pe bai'r caniatâd yn ddarostyngedig i amodau, dim ond yn ddarostyngedig i'r amodau hynny y gall caniatâd gael ei roi.
(8) Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt, yn ddarostyngedig i baragraff (9) isod, fod o natur gymdeithasol neu economaidd), caiff caniatâd gael ei roi ar gyfer y prosiect er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai—
(a)yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu
(b)rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.
3.—(1) Pan fo—
(a)Gweinidogion Cymru, cyn y dyddiad y daw safle yn safle Ewropeaidd, wedi rhoi caniatâd o dan y Rheoliadau hyn ar gyfer prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn credu a fyddai wedi bod yn brosiect cynefinoedd pe bai'r safle Ewropeaidd wedi'i ddynodi ar y dyddiad y dyfarnwyd ar y cais am y caniatâd; a
(b)dim un o'r amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (2) yn gymwys,
rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y dyddiad y daw'r safle yn safle Ewropeaidd, adolygu'r caniatâd.
(2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(b) yw—
(a)bod y treillio y mae'r caniatâd yn ymwneud ag ef wedi'i gwblhau cyn i'r safle ddod yn safle Ewropeaidd;
(b)bod y caniatâd wedi'i roi yn ddarostyngedig i amod ynglyn â'r cyfnod yr oedd y treillio y mae'n ymwneud ag ef i'w ddechrau a bod y cyfnod hwnnw wedi dod i ben heb fod y treillio wedi'i ddechrau, a bod dim modd i'r caniatâd gael ei weithredu mwyach heb gael ei amrywio gan Weinidogion Cymru; ac
(c)bod y caniatâd wedi'i roi am gyfnod penodedig a bod y cyfnod hwnnw wedi dirwyn i ben.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, at ddibenion adolygu'r caniatâd, wneud asesiad priodol o oblygiadau'r treillio i'r safle oherwydd ei amcanion cadwraeth; a bydd darpariaethau is-baragraffau (3), (4), (5) a (6) o baragraff 2 yn gymwys, gydag addasiadau priodol, mewn perthynas ag adolygiad o'r fath.
(4) Pan fo caniatâd yn cael ei adolygu o dan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ofyn i berchennog neu ddeiliad y caniatâd, yn ôl y digwydd, ddarparu, o fewn cyfnod penodedig, unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae ar Weinidogion Cymru ei hangen er mwyn cynnal yr adolygiad ac, os na ddarperir yr wybodaeth honno o fewn y cyfnod a bennwyd, neu unrhyw gyfnod pellach y bydd Gweinidogion Cymru yn ei ganiatáu, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu'r caniatâd heb gwblhau'r adolygiad.
(5) Wedi iddynt adolygu caniatâd o dan y paragraff hwn, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ei gadarnhau neu ei amrywio yn unol ag is-baragraff (6), (7) neu (8); neu
(b)mewn unrhyw achos arall, ei ddirymu.
(6) Caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle Ewropeaidd.
(7) Caniateir i'r caniatâd gael ei amrywio os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni y câi unrhyw effeithiau andwyol gwaith i gyflawni neu, yn ôl y digwydd, parhau â'r prosiect, eu hosgoi drwy amrywio'r caniatâd.
(8) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (10), os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni, am nad oes unrhyw atebion eraill, bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig (y cânt fod o natur gymdeithasol neu economaidd, ac eithrio mewn achosion y mae is-baragraff (9) yn gymwys iddynt), caniateir i'r caniatâd gael ei gadarnhau er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i'r safle.
(9) Pan fo'r safle o dan sylw yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (8) fod naill ai —
(a)yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd; neu
(b)yn rhesymau eraill o fudd cyhoeddus tra phwysig, cyhyd â bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi sylw priodol i farn y Comisiwn Ewropeaidd wrth ddod i'r casgliad bod rhesymau o'r fath.
(10) Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â chadarnhau caniatâd o dan is-baragraff (8) mewn unrhyw achos pan fo is-baragraff (6) neu (7) yn gymwys.
(11) Nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n effeithio ar unrhyw beth a wneir o dan y caniatâd cyn y dyddiad y daeth y safle yn safle Ewropeaidd.
4.—(1) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl y cychwyn, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (2) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).
(2) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb ysgrifenedig —
(a)y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a
(b)y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd.
(3) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i safle ddod yn safle Ewropeaidd, rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i'r partïon i bob cytundeb y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, hysbysiad yn pennu dyddiad at ddibenion is-baragraff (5).
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i unrhyw gytundeb —
(a)y mae perchennog wedi ymrwymo iddo cyn y dyddiad cychwyn; a
(b)y mae Gweinidogion Cymru yn credu ei fod yn ymwneud â threillio sy'n gyfwerth â phrosiect cynefinoedd yn sgil —
(i)dynodi'r safle Ewropeaidd, neu
(ii)cynnig gan Weinidogion Cymru i safle gael ei ddynodi'r ardal gwarchodaeth arbennig at ddibenion bodloni rhwymedigaethau'r Deyrnas Unedig o dan Erthygl 4(1) o'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd.
(5) Ar neu ar ôl y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-baragraff (1) neu (3), bydd y cytundeb yn cael effaith i bob pwrpas fel caniatâd a roddwyd o ganlyniad i gais o dan reoliad 10 ac y mae'n ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i'w adolygu o dan baragraff 3.
5.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru, ar ôl adolygiad o dan baragraff 3 neu 4, yn bwriadu dirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, rhaid iddynt gyflwyno hysbysiad—
(a)i'r perchennog;
(b)i unrhyw ddeiliaid y caniatâd, neu'r rhan yr effeithir arni, yn ôl y digwydd; ac
(c)i unrhyw berson arall yr effeithir arno, ym marn Gweinidogion Cymru, gan y dirymu neu'r amrywio,
yn eu hysbysu o'r penderfyniad ac yn pennu cyfnod, nad yw'n llai nag 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad (“y cyfnod penodedig”), y caniateir i sylwadau mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw gael eu cyflwyno ynddo.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad hefyd i unrhyw berson neu gorff y cafwyd cyngor gwyddonol oddi wrtho, yn ei hysbysu o'r penderfyniad ac yn ei wahodd i gyflwyno ei sylwadau o fewn y cyfnod penodedig.
(3) Os bydd angen hynny, o fewn y cyfnod penodedig, ar berson y mae hysbysiad wedi'i gyflwyno iddo o dan is-baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn iddynt benderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r dirymu neu'r amrywio, roi—
(a)i'r person hwnnw; a
(b)i unrhyw berson neu gorff arall y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan yr is-baragraff hwnnw neu is-baragraff (2),
gyfle i gyflwyno sylwadau (p'un ai'n bersonol neu'n ysgrifenedig) i berson a benodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu, gan roi sylw, yn benodol—
(a)i unrhyw sylwadau a gyflwynir mewn ymateb i hysbysiad a gyflwynwyd o dan is-baragraff (1) neu (2); a
(b)os yw'n gymwys, i adroddiad unrhyw berson a benodir o dan is-baragraff (3),
a ddylid bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno i unrhyw berson y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan—
(a)is-baragraff (1); neu
(b)is-baragraff (2),
hysbysiad o'r penderfyniad o dan is-baragraff (4) yn datgan —
(i)y prif resymau dros y penderfyniad,
(ii)y prif ystyriaethau y seiliwyd y penderfyniad arnynt, a
(iii)y caniateir herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.
6.—(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu, o dan baragraff 5(1), ddirymu neu amrywio caniatâd a roddwyd, neu sy'n cael effaith fel petai wedi'i roi, o dan y Rheoliadau hyn, caiff y caniatâd ei atal dros dro neu bydd yr amrywio'n dod yn weithredol dros dro, yn ôl y digwydd, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), ar y dyddiad y cyflwynir hysbysiad o dan baragraff 5(1).
(2) Pan fo mwy nag un hysbysiad yn cael ei gyflwyno o dan baragraff 5(1) mewn cysylltiad â'r un dirymu neu amrywio, a bod yr hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno ar ddiwrnodau gwahanol, daw'r ataliad dros dro neu'r amrywiad dros dro'n weithredol ar y dyddiad y cyflwynir yr olaf ohonynt.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â dirymu neu amrywio'r caniatâd o dan baragraff 5(4), bydd yn cael effaith eto, neu'n cael effaith ar y telerau yr oedd y caniatâd hwnnw'n effeithiol arnynt cyn yr amrywio dros dro, yn ôl y digwydd, o ddyddiad penderfyniad Gweinidogion Cymru i beidio â bwrw ymlaen.
(4) Mewn perthynas â chaniatâd y mae is-baragraff (3) yn gymwys iddo—
(a)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio â dirymu'r caniatâd —
(i)bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad yr ataliwyd y caniatâd dros dro o dan is-baragraff (1) neu is-baragraff (2), yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro, a
(ii)pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw beth gael ei wneud erbyn dyddiad penodedig, sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei atal dros dro, caiff y dyddiad penodedig ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr ataliwyd y caniatâd ynddo dros dro.
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi penderfynu peidio ag amrywio'r caniatâd—
(i)bydd unrhyw gyfnod a bennir yn y caniatâd ar gyfer cymryd unrhyw gamau, a hwnnw'n gyfnod sy'n dirwyn i ben ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro o dan is-baragraff (1) neu (2), os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, yn cael ei drin fel un sydd wedi'i estyn gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio; a
(ii)pan fo'n ofynnol mewn caniatâd i unrhyw gamau gael eu cymryd erbyn dyddiad penodedig sy'n dod ar ôl y dyddiad y cafodd y caniatâd ei amrywio arno dros dro, caiff y dyddiad penodedig, os yw'r camau yn ymwneud â materion y mae'r amrywiad dros dro yn effeithio arnynt, ei ohirio gan gyfnod sy'n hafal i'r un yr oedd y caniatâd yn cael effaith ynddo fel caniatâd a oedd wedi'i amrywio.
(5) Ni fydd dirymu neu amrywio o dan baragraff 5(1), neu atal caniatâd dros dro neu ei amrywio dros dro o dan is-baragraff (1), yn effeithio ar unrhyw beth a wnaed o dan y caniatâd cyn y dyddiad a ddyfarnwyd yn unol â'r is-baragraff hwnnw neu, yn ôl y digwydd, is-baragraff (2).
7. Pan fo—
(a)caniatâd yn cael ei roi ar gyfer prosiect, er gwaethaf asesiad negyddol o'r goblygiadau i safle Ewropeaidd; neu
(b)caniatâd yn cael ei gadarnhau ar ôl adolygiad, er gwaethaf asesiad o'r fath,
rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod unrhyw fesurau digolledu angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 yn cael ei ddiogelu a rhaid iddynt sicrhau bod y Comisiwn Ewropeaidd yn cael ei hysbysu o'r mesurau digolledu a gymerwyd.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: