Search Legislation

Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1Darpariaethau cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asesu'r Effeithiau Amgylcheddol (Amaethyddiaeth) (Cymru) 2007, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 31 Hydref 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “amaethyddiaeth” yr un ystyr ag “agriculture” yn adran 109(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1947(1);

  • ystyr “cydsyniad” (“consent”) yw cydsyniad a roddir o dan reoliad 15(1);

  • ystyr “cyrff ymgynghori” (“consultation bodies”) yw—

    (a)

    Cyngor Cefn Gwlad Cymru(2);

    (b)

    Asiantaeth yr Amgylchedd(3);

    (c)

    unrhyw awdurdod cyhoeddus arall, corff statudol neu sefydliad arall sydd, ym marn Gweinidogion Cymru, ag unrhyw fuddiant yn y prosiect neu sy'n dal unrhyw wybodaeth a allai fod yn berthnasol i'r prosiect;

  • ystyr “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yw datganiad—

    (a)

    sy'n cynnwys cymaint o'r wybodaeth yn Rhan 1 o Atodlen 3 ag y mae ei hangen yn rhesymol i asesu effeithiau amgylcheddol y prosiect ac y gellid yn rhesymol, o roi sylw penodol i wybodaeth gyfredol a dulliau asesu, ei gwneud yn ofynnol i'r ceisydd am gydsyniad ei chrynhoi, ond

    (b)

    sy'n cynnwys o leiaf yr wybodaeth y cyfeirir ati yn Rhan 2 o Atodlen 3;

  • ystyr “Gwladwriaeth AEE” (“EEA State”) yw Aelod-wladwriaeth, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein;

  • ystyr “gwybodaeth amgylcheddol ychwanegol” (“additional environmental information”) yw unrhyw wybodaeth ychwanegol sy'n ofynnol o dan reoliad 12(1);

  • ystyr “y Gyfarwyddeb AEA” (“the EIA Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 85/337/EEC(4) ar asesu effeithiau prosiectau cyhoeddus a phreifat penodol ar yr amgylchedd, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb 2003/35/EC(5);

  • ystyr “y Gyfarwyddeb Cynefinoedd” (“the Habitats Directive”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC(6) ar gadwraeth cynefinoedd naturiol a ffawna a fflora gwyllt, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan y Ddeddf ynghylch amodau ymaelodi'r Weriniaeth Tsiec, Gweriniaeth Estonia, Gweriniaeth Cyprus, Gweriniaeth Latfia, Gweriniaeth Lithiwania, Gweriniaeth Hwngari, Gweriniaeth Malta, Gweriniaeth Gwlad Pwyl, Gweriniaeth Slofenia a'r Weriniaeth Slofac, a'r addasiadau i'r Cytuniadau y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i seilio arnynt(7);

  • ystyr “penderfyniad sgrinio” (“screening decision”) yw penderfyniad sydd wedi'i wneud, neu y bernir ei fod wedi'i wneud, gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 7(1) neu 7(7);

  • ystyr “prosiect” (“project”) yw—

    (a)

    cyflawni gwaith adeiladu neu osodiadau neu gynlluniau eraill; neu

    (b)

    ymyriadau eraill yn y tir naturiol oddi amgylch a'r tirlun;

  • ystyr “prosiect ailstrwythuro” (“restructuring project”) yw prosiect i ailstrwythuro daliadau tir gwledig;

  • ystyr “prosiect sylweddol” (“significant project”) yw prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu, neu y bernir eu bod wedi penderfynu, ei fod yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd yn unol â rheoliad 7(1) neu reoliad 7(7);

  • ystyr “prosiect tir heb ei drin” (“uncultivated land project”) yw prosiect i gynyddu at ddibenion amaethyddiaeth gynhyrchiant tir heb ei drin neu ardal lled-naturiol, ac mae'n cynnwys prosiectau i gynyddu at ddibenion amaethyddiaeth gynhyrchiant tir o'r fath i bwynt islaw'r norm;

  • ystyr “prosiect trawsffiniol” (“transborder project”) yw prosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin lle mae'r tir perthnasol wedi'i leoli'n rhannol yng Nghymru ac yn rhannol yn Lloegr;

  • ystyr “y Rheoliadau Cynefinoedd” (“the Habitats Regulations”) yw Rheoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(8);

  • ystyr “safle Ewropeaidd” (“European site”) yw safle a ddisgrifir ym mharagraffau (a), (b), (d) neu (e) o reoliad 10(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd;

  • ystyr “y tir perthnasol” (“the relevant land”) yw'r tir y mae'r prosiect i'w gyflawni arno (neu y mae wedi'i gyflawni arno).

(2Mae i ymadroddion Cymraeg eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn cael eu defnyddio yn y Gyfarwyddeb AEA neu'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Gyfarwyddeb berthnasol.

(3Rhaid gwneud neu roi mewn ysgrifen bob cais, hysbysiad, sylw, archiad, cymeradwyaeth a chytundeb o dan y Rheoliadau hyn.

(4Mae “ysgrifen” ym mharagraff (3), ac eithrio pan fo'n gymwys i hysbysiadau o dan reoliad 24 a 26, yn cynnwys cyfathrebiad electronig o fewn ystyr “electronic communication” yn Neddf Cyfathrebu Electronig 2000(9), ond dim ond drwy gyfrwng cyfathrebiad electronig y caniateir i hysbysiadau, y mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru eu rhoi, gael eu rhoi i unrhyw berson os yw'r derbynnydd arfaethedig—

(a)ei hun wedi defnyddio'r dull hwnnw o gyfathrebu electronig wrth gyfathrebu â Gweinidogion Cymru o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu

(b)wedi mynegi fel arall bod y dull hwnnw o gyfathrebu electronig yn fodd y gallai personau ei ddefnyddio i gyfathrebu ag ef.

(5Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau, y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu cyflwyno, eu hanfon neu eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn, gael eu hanfon drwy'r post.

Cymhwyso'r Rheoliadau

3.—(1Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw brosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin, onid yw'n esempt o dan baragraff (2) neu (3).

(2Mae prosiect ailstrwythuro neu brosiect tir heb ei drin yn esempt—

(a)os yw'n brosiect a grybwyllir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (Cymru a Lloegr) 1999(10);

(b)os yw'n gyfwerth â datblygiad y mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu' Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 1999(11) yn gymwys iddo;

(c)os yw'n gyfwerth â gwaith gwella a gyflawnir gan gorff traenio o fewn ystyr “drainage body” yn Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Gwaith Gwella Traeniad Tir) 1999(12);

(ch)os yw'n gyfwerth â phrosiect perthnasol o fewn ystyr “relevant project” yn rheoliad 3(2) a (3) o Reoliadau Adnoddau Dwr (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru a Lloegr) 2003(13);

(d)os yw'n gyfwerth â thynnu gwrychoedd (perthi) ymaith o fewn ystyr “removal of a hedgerow” yn rheoliad 5(1) o Reoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997(14); neu

(dd)os yw'n gyfwerth â chodi unrhyw adeilad neu ffens, neu adeiladu unrhyw waith arall, y mae'n ofynnol cael cydsyniad ar ei gyfer o dan adran 194 o Ddeddf Eiddo 1925(15).

(3Mae prosiect yn esempt o dan y paragraff hwn i'r graddau y mae Gweinidogion Cymru, yn unol ag Erthygl 2(3) o'r Gyfarwyddeb AEA, yn cyfarwyddo y bydd yn esempt rhag rheoliadau 4 i 35 o'r Rheoliadau hyn.

(4Yn achos prosiect y mae Gweinidogion Cymru yn penderfynu y bydd yn debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (p'un ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), dim ond i'r graddau y sicrheir cydymffurfedd â'r Gyfarwyddeb Cynefinoedd mewn perthynas â'r prosiect y bydd y pwer i gyfarwyddo bod y prosiect yn esempt o dan baragraff (3) yn arferadwy.

(5Pan fo Gweinidogion Cymru yn bwriadu rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (3), rhaid iddynt—

(a)ystyried a fyddai unrhyw ddull arall o asesu'r prosiect yn briodol; a

(b)cymryd unrhyw gamau y maent yn credu eu bod yn briodol i ddwyn y canlynol i sylw'r cyhoedd—

(i)yr wybodaeth a gafodd ei hystyried wrth roi'r cyfarwyddyd a'r rhesymau dros wneud hynny, a

(ii)yr wybodaeth a gafwyd o unrhyw asesiad o'r prosiect o dan is-baragraff (a).

RHAN 2Sgrinio

Y gofyniad am benderfyniad sgrinio

4.—(1Rhaid i berson beidio â dechrau na chyflawni prosiect tir heb ei drin oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.

(2Rhaid i berson beidio â dechrau cyflawni prosiect ailstrwythuro y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny (trothwy a gyfrifir yn unol â rheoliad 5) oni fydd yn gyntaf wedi cael penderfyniad sgrinio sy'n caniatáu i'r prosiect fynd yn ei flaen.

Trothwyon

5.—(1Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer dyfarnu a yw maint prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys neu'n uwch na hynny.

(2Mae'r trothwy ar gyfer y math o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1 o Atodlen 1 wedi'i nodi yng ngholofn 2 neu 3.

(3Mae paragraffau (4) a (5) yn gymwys pan fo prosiect ailstrwythuro yn cynnwys dim ond un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1.

(4Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni'n gyfan gwbl y tu allan i ardal sensitif, y trothwy a bennir yng ngholofn 2 yw'r trothwy sy'n gymwys i'r prosiect hwnnw.

(5Pan fo prosiect ailstrwythuro i'w gyflawni, neu pan fo unrhyw ran ohono i'w chyflawni, mewn ardal sensitif, y trothwy a bennir ar gyfer y math hwnnw o brosiect ailstrwythuro yng ngholofn 3 yw'r trothwy sy'n gymwys iddo.

(6Pan fo prosiect ailstrwythuro wedi'i ffurfio o fwy nag un o'r mathau o brosiect ailstrwythuro a bennir yng ngholofn 1—

(a)rhaid i bob rhan berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro gael ei asesu er mwyn dyfarnu'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno, a

(b)os yw unrhyw ran berthnasol o'r prosiect ailstrwythuro yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys i'r rhan honno neu'n uwch nag ef, yna mae'r prosiect ailstrwythuro cyfan i'w drin fel un y mae ei faint yn hafal i'r trothwy sy'n gymwys iddo neu'n uwch na'r trothwy hwnnw.

(7Yn y rheoliad hwn, ystyr “ardal sensitif” (“sensitive area”) yw—

(a)tir yr hysbyswyd o dan adrannau 3(1) neu 5(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(16) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(17) ei fod yn safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig.

(b)eiddo sy'n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn 1972 UNESCO er diogelu Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd(18)

(c)safle Ewropeaidd o fewn ystyr “European site” yn rheoliad 10 o Reoliadau Cadwraeth (Cynefinoedd Naturiol, etc.) 1994(19).

(ch)ardal o harddwch naturiol eithriadol a ddynodwyd fel y cyfryw drwy Orchymyn a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru(20) o dan adran 82 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000(21) (dynodi ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol) ac a gadarnhawyd yn briodol gan Weinidogion Cymru o dan adran 83(3) o'r Ddeddf honno;

(d)Parc Cenedlaethol o fewn ystyr “National Park” yn Neddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949(22); neu

(dd)heneb gofrestredig o fewn ystyr “scheduled monument” yn Neddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979(23).

Cais am benderfyniad sgrinio

6.—(1Rhaid i gais am benderfyniad sgrinio—

(a)cael ei wneud i Weinidogion Cymru;

(b)cynnwys cynllun sy'n ddigon i beri i'r tir perthnasol gael ei adnabod;

(c)cynnwys disgrifiad cryno o natur, maint a diben y prosiect a'i effeithiau posibl ar yr amgylchedd;

(ch)cynnwys unrhyw wybodaeth arall y gall y ceisydd ddymuno ei darparu neu unrhyw sylwadau eraill y gall ddymuno eu cyflwyno.

(2Os yw Gweinidogion Cymru yn credu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad sgrinio, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd o'r dyddiad y mae'r cais am benderfyniad sgrinio yn dod i'w llaw.

Y penderfyniad sgrinio

7.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru, yn unol â pharagraff (2) a'r meini prawf dethol yn Atodlen 2, benderfynu a yw prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd (a yw'n “brosiect sylweddol”).

(2Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu bod prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill), ac nad yw'r prosiect yn uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli, rhaid i'r prosiect gael ei drin fel petai'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd.

(3Cyn gwneud penderfyniad sgrinio, caiff Gweinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw un o'r cyrff ymgynghori.

(4Ar ôl gwneud penderfyniad sgrinio, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)hysbysu'r ceisydd ohono, gan roi'r rhesymau;

(b)ei nodi mewn cofrestr, y mae'n rhaid bod modd i'r cyhoedd ei gweld ar bob adeg resymol; ac

(c)pan fônt yn credu y gallai unrhyw un o'r cyrff ymgynghori ddymuno cael eu hysbysu o'r penderfyniad sgrinio, hysbysu'r cyrff hynny ohono.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad sgrinio, a hysbysu'r ceisydd ohono, o fewn 35 o ddiwrnodau, neu gyfnod hwy y cytunir arno gyda'r ceisydd, i'r diweddaraf o'r dyddiadau canlynol—

(a)y dyddiad yn rheoliad 6(3); neu

(b)pan fo'n gymwys, y dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw wybodaeth bellach y maent wedi gofyn amdani o dan reoliad 6(2).

(6Os bydd Gweinidogion Cymru wedi methu â gwneud penderfyniad sgrinio neu hysbysu ohono o fewn y cyfnod ym mharagraff (5), caiff y ceisydd hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu trin y methiant hwnnw fel penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol.

(7Pan fo'r ceisydd wedi hysbysu Gweinidogion Cymru felly, bernir bod Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ar ddyddiad yr hysbysiad hwnnw fod y prosiect yn brosiect sylweddol.

(8Os bydd Gweinidogion Cymru, wedi iddynt wneud, neu y bernir eu bod wedi gwneud, penderfyniad bod y prosiect yn brosiect sylweddol—

(a) yn cael gwybodaeth bellach neu sylwadau pellach; a

(b)o ganlyniad i'r sylwadau hynny yn penderfynu nad yw'r prosiect yn brosiect sylweddol,

rhaid iddynt gymryd yr holl gamau ym mharagraff (4) mewn cysylltiad â'r penderfyniad newydd hwnnw.

(9Os na fydd y prosiect y mae penderfyniad sgrinio yn ymwneud ag ef wedi dechrau o fewn cyfnod o dair blynedd gan ddechrau o'r dyddiad —

(a)yr hysbysir y ceisydd o'r penderfyniad sgrinio; neu

(b)y bernir bod y penderfyniad sgrinio wedi'i wneud o dan baragraff (7),

bydd y penderfyniad sgrinio yn peidio â bod yn effeithiol.

RHAN 3Cydsynio

Y gofyniad am gydsyniad

8.  Rhaid i berson beidio â dechrau na chyflawni prosiect sylweddol onid yw wedi cael cydsyniad Gweinidogion Cymru yn gyntaf.

Barnau cwmpasu

9.—(1Ar ôl cael penderfyniad sgrinio bod prosiect yn brosiect sylweddol, caiff y ceisydd, cyn gwneud cais am gydsyniad, ofyn i Weinidogion Cymru roi eu barn ar ba wybodaeth y dylid ei darparu yn y datganiad amgylcheddol (“barn gwmpasu”).

(2Os bydd y ceisydd yn gofyn am farn gwmpasu, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r ceisydd ac unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwelant yn dda, cyn rhoi eu barn.

(3Os yw Gweinidogion Cymru yn credu nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth i roi barn gwmpasu, cânt ofyn i'r ceisydd ddarparu unrhyw wybodaeth ychwanegol y mae arnynt ei hangen o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y bydd Gweinidogion Cymru yn cael yr archiad am y farn gwmpasu.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru roi'r farn gwmpasu i'r ceisydd o fewn 5 wythnos

(a)i'r dyddiad y daeth yr archiad am farn gwmpasu i'w llaw; neu

(b)pan fo'n gymwys, o'r dyddiad y daeth yr wybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani o dan baragraff (3) i'w llaw.

Darparu gwybodaeth

10.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys—

(a)os ymgynghorir â chorff ymgynghori gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 9(2); neu

(b)os bydd corff ymgynghori yn cael archiad am wybodaeth oddi wrth berson sy'n bwriadu gwneud cais am gydsyniad.

(2Pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i'r corff ymgynghori—

(a)dyfarnu a oes yn ei feddiant unrhyw wybodaeth y mae'n credu ei bod yn berthnasol i'r broses o baratoi datganiad amgylcheddol; a

(b)yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), trefnu bod yr wybodaeth honno ar gael i Weinidogion Cymru neu'r ceisydd (yn ôl y digwydd) o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad yr ymgynghoriad neu'r archiad.

(3Caiff corff ymgynghori godi ffi resymol ar y ceisydd am yr wybodaeth a ddarparwyd gan y corff hwnnw o dan baragraff (2)(b), i adlewyrchu'r gost o drefnu bod yr wybodaeth berthnasol ar gael.

(4Nid yw paragraff (2)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i gorff ymgynghori ryddhau i'r ceisydd unrhyw wybodaeth—

(a)y caiff wrthod ei datgelu o dan reoliad 12(1) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004(24); neu

(b)y mae'n cael ei rwystro rhag ei datgelu gan reoliad 13(1) o'r Rheoliadau hynny.

(5Os nad yw corff ymgynghori yn awdurdod cyhoeddus o fewn ystyr “public authority” yn rheoliad 2(2) o Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, bydd paragraff (4) yn gymwys fel petai'n awdurdod cyhoeddus o'r fath.

Y cais am gydsyniad

11.—(1Rhaid i gais am gydsyniad gynnwys datganiad amgylcheddol a rhaid iddo gael ei wneud i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i'r ceisydd am gydsyniad ddarparu i Weinidogion Cymru gymaint o gopïau o'r cais ag y mae arnynt angen rhesymol amdanynt.

(3Ar ôl cael y cais am gydsyniad, rhaid i Weinidogion Cymru —

(a)anfon copi o'r cais at unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori sy'n briodol yn eu barn hwy, a'u hysbysu y cânt gyflwyno sylwadau o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cawsant y cais; a

(b)er mwyn sicrhau bod aelodau'r cyhoedd y mae a wnelo'r cais â hwy yn cael cyfle i gyflwyno sylwadau cyn y dyfernir y cais, cyhoeddi mewn papur newydd sy'n cylchredeg ym mro'r tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad—

(i)yn datgan bod y cais wedi'i wneud;

(ii)yn nodi cyfeiriad lle gellir archwilio'r cais yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o'r cais gael eu gwneud (y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt), ar bob adeg resymol o fewn 6 wythnos i ddyddiad cyhoeddi'r hysbysiad;

(iii)yn datgan y caiff sylwadau ar effeithiau amgylcheddol tebygol y prosiect eu cyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad a bennir o dan baragraff (ii) o fewn 6 wythnos i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad;

(iv)yn datgan, os bydd cydsyniad yn cael ei roi, y bydd yn ddarostyngedig i'r amodau yn rheoliad 17(2), ac i unrhyw amodau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda;

(v)yn datgan, os yw'n berthnasol, ba un o Wladwriaethau eraill yr AEE, yr awdurdodau y cyfeirir atynt yn erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb AEA a'r cyhoedd o dan sylw yn y Wladwriaeth AEE honno, yr ymgynghorir â hwy ynglyn â'r cais.

Gwybodaeth ychwanegol

12.—(1Os bydd Gweinidogion Cymru ar ôl cydymffurfio â rheoliad 11(3) yn penderfynu y dylai datganiad, a gynhwyswyd gyda chais am gydsyniad, sy'n honni ei fod yn ddatganiad amgylcheddol gynnwys gwybodaeth ychwanegol er mwyn bod yn ddatganiad amgylcheddol, rhaid iddynt hysbysu'r ceisydd o'r wybodaeth y mae ei hangen (ac o nifer y copïau), a rhaid i'r ceisydd ddarparu'r wybodaeth honno i Weinidogion Cymru.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi o'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol at unrhyw rai o'r cyrff ymgynghori y gwelant yn dda, a

(b)rhoi gwybod iddynt y cânt gyflwyno sylwadau iddynt o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y daw copi i'w llaw.

(3Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi mewn papur newydd sy'n cael ei gylchredeg ym mro'r tir perthnasol ac ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru hysbysiad—

(a)yn cyfeirio at y cais y mae'r wybodaeth ychwanegol yn ymwneud ag ef a'r dyddiad y gwnaed y cais;

(b)yn datgan bod yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol wedi dod i law;

(c)yn pennu cyfeiriad lle gellir archwilio copïau o'r wybodaeth amgylcheddol ychwanegol yn rhad ac am ddim, a lle caniateir i gopïau o'r cais gael eu gwneud (ac y caniateir i ffi resymol gael ei chodi amdanynt) ar bob adeg resymol o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad; ac

(ch)yn datgan y caniateir i sylwadau parthed yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol gael eu cyflwyno mewn ysgrifen i Weinidogion Cymru yn y cyfeiriad ym mharagraff (c) o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol yng Nghymru effeithio ar Wladwriaeth AEE arall

13.—(1Cyn gynted â phosibl ar ôl cael cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru bwyso a mesur a fyddai'r prosiect hwnnw yn debyg o gael effeithiau sylweddol ar yr amgylchedd mewn Gwladwriaeth AEE arall.

(2Os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod effeithiau o'r fath yn debygol, neu os yw Gwladwriaeth AEE y mae'r prosiect yn debyg o gael effeithiau sylweddol arni yn gofyn am hynny, rhaid i Weinidogion Cymru anfon at y Wladwriaeth AEE honno—

(a)manylion am natur a lleoliad y prosiect sylweddol;

(b)unrhyw wybodaeth sydd gan Weinidogion Cymru am yr effaith y mae'n debyg o gael ar y Wladwriaeth AEE honno;

(c)mynegiad ynghylch a yw Gweinidogion Cymru o blaid rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect, a natur unrhyw gydsyniad a allai gael ei roi; ac

(ch)archiad bod y Wladwriaeth yn rhoi mynegiad o fewn amser rhesymol a yw'n dymuno cymryd rhan yn y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(3Os yw'r Wladwriaeth AEE yn mynegi ei bod yn dymuno cymryd yn yr weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copi ati o'r cais am gydsyniad, o'r datganiad amgylcheddol ac o unrhyw wybodaeth bellach y maent yn credu ei bod yn berthnasol i'r cais; a

(b)rhoi'r wybodaeth iddi am y weithdrefn o dan y Rheoliadau hyn.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—

(a)trefnu bod y manylion a'r wybodaeth ym mharagraffau (2) a (3) ar gael, o fewn cyfnod amser rhesymol, i'r awdurdodau y cyfeirir atynt yn Erthygl 6(1) o'r Gyfarwyddeb AEA a'r cyhoedd o dan sylw yn nhiriogaeth y Wladwriaeth AEE; a

(b)sicrhau bod yr awdurdodau hynny a'r cyhoedd o dan sylw yn cael cyfle i anfon at Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod amser rhesymol, eu barn ar yr wybodaeth a roddwyd, cyn y rhoddir cydsyniad ar gyfer y prosiect.

(5Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar amgylchedd y Wladwriaeth honno a'r mesurau y rhagwelir y bydd angen eu cymryd i leihau neu ddileu'r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno â'r Wladwriaeth AEE ar gyfnod amser rhesymol ar gyfer yr ymgynghori hwnnw, y mae'n rhaid iddo gynnwys amser i ystyried unrhyw farnau sy'n dod i law o dan baragraff (4)(b).

Y weithdrefn pan allai prosiect sylweddol mewn Gwladwriaeth AEE arall effeithio ar Gymru

14.—(1Os yw Gweinidogion Cymru yn cael oddi wrth Wladwriaeth AEE arall wybodaeth a ryddhawyd o dan Erthygl 7(1) a 7(2) o'r Gyfarwyddeb AEA (sy'n ymwneud â gwybodaeth ynghylch prosiect mewn un Wladwriaeth AEE sy'n debyg o gael effeithiau sylweddol ar amgylchedd Gwladwriaeth AEE arall) mewn perthynas â phrosiect sylweddol yn y Wladwriaeth AEE honno, rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)trefnu i'r wybodaeth honno gael ei rhyddhau, o fewn cyfnod amser rhesymol, i'r cyrff ymgynghori ac unrhyw aelodau o'r cyhoedd y mae a wnelo'r prosiect, ym marn Gweinidogion Cymru, â hwy yn ôl pob tebyg;

(b)sicrhau bod y cyrff ymgynghori a'r aelodau o'r cyhoedd y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (a) yn cael cyfle i anfon eu barn hwy ar yr wybodaeth a ddarparwyd i'r awdurdod cymwys yn y Wladwriaeth AEE yn ystod unrhyw gyfnod y cytunir arno o dan baragraff (2).

(2Yn unol ag Erthygl 7(4) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru wneud y canlynol hefyd—

(a)dechrau ymgynghori â'r Wladwriaeth AEE o dan sylw ynghylch, ymhlith pethau eraill, effeithiau sylweddol posibl y prosiect ar yr amgylchedd yng Nghymru a'r mesurau y rhagwelir y bydd angen eu cymryd i leihau neu ddileu'r effeithiau hynny; a

(b)ceisio cytuno gyda'r Wladwriaeth AEE, cyn bod cydsyniad yn cael ei roi ar gyfer y prosiect, ar gyfnod rhesymol pryd y gellir anfon unrhyw farnau a geir o dan baragraff 1(b) ymlaen at y Wladwriaeth AEE honno.

(3Os yw Gwladwriaeth AEE arall wedi gwneud penderfyniad i roi neu i wrthod cydsyniad a'i bod wedi hysbysu Gweinidogion Cymru o'r penderfyniad hwnnw yn unol ag Erthygl 9(2) o'r Gyfarwyddeb AEA, rhaid i Weinidogion Cymru gymryd y camau y maent yn ystyried eu bod yn briodol i ddwyn at sylw'r cyhoedd unrhyw wybodaeth a gafwyd gan y Wladwriaeth AEE honno mewn perthynas â'r penderfyniad hwnnw.

Y penderfyniad cydsynio

15.—(1Wrth benderfynu a ddylid rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol, rhaid i Weinidogion Cymru ystyried—

(a)y datganiad amgylcheddol;

(b)unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol;

(c)unrhyw sylwadau a gânt o dan—

(i)rheoliad 11(3)(a);

(ii)rheoliad 12(2)(b) a (3)(ch); a

(iii)rheoliad 13(4)(b) ac

(ch)unrhyw effeithiau cymdeithasol neu economaidd a allai fod yn ganlyniad i benderfyniad i wrthod cydsyniad ar gyfer y prosiect.

(2Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dod i benderfyniad o dan baragraff (1) tan y diweddaraf o'r canlynol—

(a)y dyddiad y daw'r cyfnod yn yr hysbysiad o dan reoliad 11(3)(b)(iii) i ben;

(b)y dyddiad y daw i ben y cyfnod o 28 niwrnod ar ôl—

(i)y dyddiad yr anfonwyd unrhyw wybodaeth amgylcheddol ychwanegol at yr cyrff ymgynghori; a

(ii)y dyddiad y cyhoeddwyd yr wybodaeth amgylcheddol ychwanegol o dan reoliad 12(3); ac

(c)y dyddiad y daw unrhyw gyfnod y cytunir arno gyda Gwladwriaeth AEE arall o dan reoliad 13(5)(b) i ben,

p'un bynnag yw'r dyddiad olaf.

Gofynion ychwanegol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynefinoedd

16.—(1Rhaid i Weinidogion Cymru beidio â rhoi cydsyniad ar gyfer prosiect a fyddai'n golygu gwneud unrhyw beth a fyddai'n anghyfreithlon o dan reoliadau 39, 41 neu 43 o'r Rheoliadau Cynefinoedd (ond nid yw hynny'n cynnwys unrhyw beth y cafodd trwydded ei rhoi ar ei gyfer o dan reoliad 44 o'r Rheoliadau hynny).

(2Bydd paragraffau (3) a (6) yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu a ddylent roi cydsyniad ar gyfer prosiect sy'n debyg o gael effaith sylweddol ar safle Ewropeaidd (naill ai ar ei ben ei hun neu ar y cyd â phrosiectau eraill) (prosiect y cyfeirir ato yn y paragraffau hynny fel “y prosiect”).

(3Oni fydd paragraff (4) yn gymwys, dim ond os yw Gweinidogion Cymru wedi pwyso a mesur goblygiadau'r prosiect ar gyfer y safle Ewropeaidd (gan gynnwys asesiad priodol o'r goblygiadau gyda golwg ar amcanion cadwraeth y safle hwnnw) a'u bod wedi'u bodloni na fydd y prosiect yn effeithio'n andwyol ar gyfanrwydd y safle y cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect.

(4Os yw Gweinidogion Cymru wedi'u bodloni bod rhaid i'r prosiect gael ei gyflawni am resymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig (a all, yn ddarostyngedig i baragraff (5) isod, fod o natur cymdeithasol neu economaidd) ac nad oes unrhyw ateb arall, cânt roi cydsyniad ar gyfer y prosiect er gwaethaf y ffaith bod yr asesiad o'i oblygiadau i safle Ewropeaidd yn negyddol.

(5Pan fo'r safle Ewropeaidd yn lletya math o gynefin naturiol â blaenoriaeth neu rywogaeth â blaenoriaeth, rhaid i'r rhesymau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) fod naill ai—

(a)yn rhesymau sy'n ymwneud ag iechyd dynol, diogelwch cyhoeddus neu ganlyniadau buddiol o'r pwys mwyaf i'r amgylchedd, neu

(b)yn rhesymau eraill sydd ym marn y Comisiwn Ewropeaidd yn achos y safle o dan sylw yn rhesymau hanfodol, sef bod hyn er budd cyhoeddus tra phwysig.

(6Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu rhoi cydsyniad ar gyfer y prosiect yn unol â pharagraff (4), rhaid iddynt sicrhau bod unrhyw fesurau iawndal angenrheidiol yn cael eu cymryd i sicrhau bod cydlyniad cyffredinol Natura 2000 (o fewn ystyr rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Cynefinoedd) yn cael ei ddiogelu.

Yr amodau cydsynio

17.—(1Mae unrhyw gydsyniad a roddir o dan reoliad 15 i fod yn ddarostyngedig i—

(a)yr amodau ym mharagraff (2); a

(b)unrhyw amodau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(2Yr amodau sy'n ofynnol o dan baragraff (1)(a) yw—

(a)bod y cydsyniad yn mynd yn ddi-rym os na fydd y prosiect wedi'i gychwyn (drwy gyflawni gweithred o bwys) o fewn blwyddyn i'r dyddiad y cafodd ei roi;

(b)bod y cydsyniad yn dirwyn i ben os na fydd y prosiect wedi'i gwblhau o fewn 3 blynedd i'r dyddiad y cafodd ei roi; ac

(c)mai dim ond y prosiect a ddisgrifir yn y cais am gydsyniad, yn ddarostyngedig i unrhyw ddiwygiadau a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (4) y bydd y cydsyniad yn ei awdurdodi.

(3Ar ôl i gydsyniad ddirwyn i ben yn unol â pharagraff (2)(b), caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i gais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) gael ei wneud mewn cysylltiad ag unrhyw weithrediadau pellach neu ddefnyddiau pellach sy'n rhan o'r prosiect.

(4Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo unrhyw ddiwygiadau pan fo ceisydd yn gofyn amdanynt, ond bydd yn ofynnol gwneud cais pellach am gydsyniad yn unol â pharagraff (5) i wneud unrhyw newid o bwys i'r gweithrediadau awdurdodedig neu'r dulliau defnyddio awdurdodedig.

(5Caniateir i geisiadau pellach am gydsyniad o dan baragraffau (3) a (4) fod yn ddarostyngedig i unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn sy'n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(6Yn y rheoliad hwn, mae prosiect “wedi'i gwblhau” (“completed”) os yw'r holl waith a ganiateir o dan y cydsyniad wedi'i gyflawni a bod yr holl newidiadau yn y defnydd ar y tir perthnasol, neu yn lefel y defnydd hwnnw, wedi'u rhoi ar waith.

Y weithdrefn yn dilyn penderfyniad cydsynio

18.  Pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad cydsynio mewn cysylltiad â phrosiect rhaid iddynt—

(a)hysbysu'r ceisydd, unrhyw gyrff ymgynghori yr anfonwyd copïau o'r cais am gydsyniad atynt o dan reoliad 11(3)(a), unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorodd Gweinidogion Cymru â hi o dan reoliad 13(2) ac unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd ymlaen ei farn o dan reoliad 13(5)(b) ar—

(i)eu penderfyniad;

(ii)y rhesymau a'r ystyriaethau llawn y seiliwyd y penderfyniad arnynt; a

(iii)unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r cais;

(b)hysbysu'r cyhoedd o'u penderfyniad drwy gyhoeddi hysbysiad mewn papur newydd yn y fro y mae'r tir perthnasol wedi'i leoli ynddi neu drwy unrhyw ddulliau eraill y maent yn credu eu bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau; ac

(c)rhyddhau i'r cyhoedd ei archwilio ddatganiad sy'n cynnwys—

(i)yr hyn sydd yn y penderfyniad;

(ii)y rhesymau ac ystyriaethau llawn y mae'r penderfyniad wedi'i seilio arnynt;

(iii)disgrifiad, pan fo hynny'n berthnasol, o'r prif fesurau y mae angen eu cymryd er mwyn osgoi, lleihau neu wrthbwyso prif effeithiau andwyol y prosiect;

(iv)crynodeb o unrhyw sylwadau a gyflwynwyd gan y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r cais; a

(v)gwybodaeth am yr hawl i herio'r penderfyniad a'r gweithdrefnau ar gyfer gwneud hynny.

Prosiectau trawsffiniol

19.—(1Yn achos prosiect trawsffiniol lle mae'r rhan fwyaf o'r tir perthnasol wedi'i leoli yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol cyn—

(a)gwneud penderfyniad sgrinio o dan reoliad 7;

(b)rhoi barn gwmpasu o dan reoliad 9; neu

(c)rhoi neu wrthod cydsyniad o dan reoliad 15.

(2Ac eithrio pan ddeuir i gytundeb i'r gwrthwyneb o dan baragraff (4), yn achos prosiect trawsffiniol lle bo'r rhan fwyaf o'r tir wedi'i leoli yn Lloegr, yr unig Reoliadau y bydd y prosiect hwnnw'n ddarostyngedig iddynt yw'r Rheoliadau cyfatebol sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr.

(3Yn achos cais mewn cysylltiad â phrosiect trawsffiniol y byddai'r Rheoliadau hyn fel arall yn gymwys iddynt, os bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gofyn am hynny, caiff Gweinidogion Cymru gytuno i'r cais fod yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau cyfatebol, sy'n gymwys i'r prosiect yn Lloegr, yn unig.

(4Os bydd Gweinidogion Cymru yn gofyn am hynny, a bod yr Ysgrifennydd Gwladol yn cytuno, bydd prosiect trawsffiniol y byddai paragraff (2) yn gymwys iddo fel arall yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn yn unig.

Adolygiad o benderfyniadau a chydsyniadau

20.  Mae Atodlen 4 yn gymwys os, ar ôl dyddiad—

(a)penderfyniad nad yw prosiect yn brosiect sylweddol, neu

(b)penderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect,

daw safle yn safle Ewropeaidd a bod Gweinidogion Cymru yn credu y byddai cyflawni neu gwblhau (o fewn ystyr “wedi'i gwblhau” yn rheoliad 17(6)) y prosiect yn debyg o gael effaith sylweddol ar y safle hwnnw ac na fyddai'n uniongyrchol gysylltiedig â rheoli'r safle nac yn angenrheidiol i'w reoli.

RHAN 4Gorfodi

Tramgwydd cyflawni prosiect heb benderfyniad o dan y Rheoliadau hyn

21.—(1Bydd unrhyw berson sy'n dechrau neu'n cyflawni prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro —

(a)gan dorri rheoliad 4, neu

(b)gan dorri rheoliad 8,

yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Mewn unrhyw achos cyfreithiol o dan y rheoliad hwn sy'n ymwneud â phrosiect tir heb ei drin, tybir bod unrhyw ddarn o dir y mae'r erlyniad yn honni ei fod yn dir heb ei drin yn dir heb ei drin oni ddygir tystiolaeth ddigonol i ddangos nad yw'n dir heb ei drin, ac os dygir tystiolaeth o'r fath, rhaid i'r erlyniad brofi y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y tir yn dir heb ei drin.

Tramgwydd gwneud gwaith yn groes i amod

22.  Bydd unrhyw berson sy'n cyflawni unrhyw weithgaredd yn groes i unrhyw un o amodau'r cydsyniad a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Tramgwydd sicrhau penderfyniad drwy ddarparu gwybodaeth anwir

23.—(1Bydd unrhyw berson sydd, er mwyn sicrhau penderfyniad penodol ar gais a wnaed o dan y Rheoliadau hyn—

(a)yn fwriadol neu'n ddi-hid yn gwneud datganiad sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys,

(b)gyda'r bwriad o dwyllo, yn defnyddio unrhyw ddogfen sy'n anwir neu'n gamarweiniol mewn manylyn o bwys, neu

(c)gyda'r bwriad o dwyllo, yn cadw unrhyw wybodaeth o bwys yn ôl,

yn euog o dramgwydd.

(2Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na'r uchafswm statudol; neu

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau stop

24.—(1Os yw person wedi dechrau prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro —

(a)gan dorri rheoliad 4, neu

(b)gan dorri rheoliad 8,

caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad stop”) yn gwahardd ar unwaith y cyfan neu ran o'r gwaith.

(2Caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson y mae'n ymddangos iddynt fod ganddo fuddiant yn y tir perthnasol neu ei fod yn cymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd sy'n cael ei wahardd gan yr hysbysiad.

(3Caiff Gweinidogion Cymru dynnu hysbysiad stop yn ei ôl ar unrhyw adeg (heb effeithio ar eu pwerau i gyflwyno un arall) drwy gyflwyno hysbysiad i'r perwyl hwnnw i'r personau y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddynt.

(4Mae effaith hysbysiad stop yn peidio os bydd —

(a)hysbysiad yn ei dynnu'n ôl yn cael ei gyflwyno o dan baragraff (3); neu

(b)Gweinidogion Cymru, ar apêl, yn penderfynu nad yw'r gwaith gwaharddedig yn brosiect sylweddol; neu

(c)Gweinidogion Cymru yn rhoi cydsyniad ar gyfer y gwaith a waharddwyd.

Cosbau am fynd yn groes i hysbysiad stop

25.—(1Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i hysbysiad stop a gyflwynwyd iddo yn euog o dramgwydd.

(2Caniateir i gyhuddiad gael ei ddwyn am dramgwydd o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw ddiwrnod neu gyfnod amser hwy, a chaniateir i berson gael ei gollfarnu o ail dramgwydd neu dramgwydd dilynol o dan y rheoliad hwn drwy gyfeirio at unrhyw gyfnod amser yn dilyn y gollfarn flaenorol am dramgwydd o'r fath.

(3Mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at fynd yn groes i hysbysiad stop yn golygu achosi neu ganiatáu hynny.

(4Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y rheoliad hwn yn agored—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol; a

(b)o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy.

Hysbysiadau adfer

26.—(1Os yw person wedi cyflawni prosiect tir heb ei drin neu brosiect ailstrwythuro—

(a)gan dorri rheoliad 4, neu

(b)gan dorri rheoliad 8,

caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad adfer”) i'r person y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn gyfrifol.

(2Caiff hysbysiad adfer ei gwneud yn ofynnol i'r person—

(a)dychwelyd, er bodlonrwydd Gweinidogion Cymru, y tir perthnasol i'r cyflwr yr oedd ynddo cyn i'r prosiect gael ei gychwyn, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda i ddychwelyd y tir perthnasol i gyflwr amgylcheddol da neu i unrhyw safon y mae Gweinidogion Cymru yn dyfarnu ei bod yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.

(3Rhaid dweud yn yr hysbysiad adfer beth yw'r cyfnod y mae'r gwaith adfer i'w wneud ynddo.

Y gosb am fynd yn groes i hysbysiad adfer

27.  Mae unrhyw berson sydd, heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio ag unrhyw un o ofynion hysbysiad adfer yn euog o dramgwydd ac yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod—

(a)i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol; a

(b)os yw'r methiant yn parhau ar ôl y gollfarn, i ddirwy bellach nad yw'n fwy na £100 am bob diwrnod y mae'r methiant yn parhau.

Y terfynau amser ar gyfer dwyn achos cyfreithiol

28.—(1Caniateir i achos cyfreithiol am unrhyw dramgwydd o dan reoliadau 21 i 23, rheoliad 25 neu 27 gael ei ddwyn o fewn y cyfnod o chwe mis gan ddechrau ar y dyddiad y daeth tystiolaeth, a oedd yn ddigon ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol, yn hysbys iddo.

(2Ni chaniateir i achos cyfreithiol am dramgwydd gael ei gychwyn fwy na dwy flynedd ar ôl y dyddiad y cyflawnwyd y tramgwydd.

(3At ddibenion paragraff (2), mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac sy'n datgan ar ba ddyddiad y daeth tystiolaeth a oedd yn ddigon yn ei farn ef i gyfiawnhau'r achos cyfreithiol yn hysbys iddo, yn dystiolaeth derfynol am y ffaith honno.

(4Bernir bod tystysgrif sy'n datgan y mater hwnnw ac sy'n honni ei bod wedi'i llofnodi felly yn dystysgrif sydd wedi'i llofnodi felly oni phrofir y gwrthwyneb.

Pwerau mynediad a phwerau diofyn

29.—(1Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru fynd ar unrhyw dir a'i arolygu, ar unrhyw adeg resymol, er mwyn—

(a)canfod a yw rheoliad 4 neu 8 wedi'i dorri;

(b)canfod a oes tramgwydd o dan reoliad 21 i 23, 25 neu 27 wedi'i gyflawni ar y tir hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef;

(c)cyflwyno hysbysiad sgrinio, hysbysiad stop neu hysbysiad adfer mewn cysylltiad â'r tir hwnnw; neu

(ch)arfer unrhyw swyddogaeth o dan Atodlen 4.

(2Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru ac y mae ganddo sail resymol dros amau bod person wedi cyflawni tramgwydd o dan reoliad 23, fynd i mewn i unrhyw fangre (ond nid mangre a ddefnyddir fel annedd yn unig) sydd, neu y mae gan y person le i gredu ei bod, wedi'i meddiannu gan, neu ym meddiant, y person y credir ei fod yn gyfrifol am gyflawni'r tramgwydd, a chaiff arolygu unrhyw gofnodion y mae ganddo le rhesymol i gredu eu bod yn berthnasol i'r tramgwydd a amheuir a chymryd copïau ohonynt.

(3Os nad oes unrhyw fesurau sy'n ofynnol gan hysbysiad adfer neu gan hysbysiad a gyflwynwyd o dan baragraff 5 o Atodlen 4 wedi'u cymryd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad—

(a)caiff unrhyw berson a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru fynd, ar adeg resymol, ar y tir y mae'r hysbysiad yn ymwneud ag ef a chymryd y mesurau hynny, a

(b) adennill oddi wrth y person sy'n gyfrifol am y diffyg y treuliau a dynnwyd yn rhesymol gan y person a awdurdodwyd felly wrth iddo wneud hynny.

(4Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1) i fynd ar unrhyw dir neu fangre gymryd oddi yno—

(a)samplau o'r pridd;

(b)sbesimenau planhigion; neu

(c)samplau a gymerwyd o sbesimenau planhigion,

er mwyn canfod a gyflawnwyd tramgwydd ar y tir hwnnw neu mewn cysylltiad ag ef.

(5Os gofynnir iddo wneud hynny, rhaid i berson a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddangos tystiolaeth am ei awdurdod i fynd ar y tir neu'r fangre.

(6Caiff person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) i fynd ar unrhyw dir neu fangre ddod ag unrhyw bersonau eraill neu unrhyw gyfarpar gydag ef sy'n angenrheidiol yn ei farn ef.

(7Rhaid i unrhyw berson sy'n meddiannu tir neu fangre y mae person a awdurdodwyd o dan baragraff (1), (2) neu (3) wedi mynd arno neu arni, neu y mae'r tir hwnnw neu'r fangre honno yn ei feddiant, roi i'r person a awdurdodwyd felly unrhyw gymorth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano er mwyn ei alluogi i arfer unrhyw bwer a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn.

(8Bydd person sy'n fwriadol yn rhwystro neu'n atal unrhyw berson sy'n gweithredu drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan y rheoliad hwn neu sydd heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio ag archiad a wnaed o dan baragraff (7) yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

RHAN 5Apelau

Apelau yn erbyn hysbysiadau

30.—(1Caiff person apelio i Weinidogion Cymru yn unol â'r rheoliad hwn yn erbyn—

(a)hysbysiad stop;

(b)hysbysiad adfer, neu

(c)hysbysiad o dan baragraff 5 o Atodlen 4,

a chyfeirir at unrhyw hysbysiad o'r fath yn y rheoliad hwn fel yr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”).

(2Caniateir i apêl gael ei dwyn ar unrhyw un o'r seiliau canlynol—

(a)nad oedd gan Weinidogion Cymru bwer i gyflwyno'r hysbysiad perthnasol, nac i gynnwys gofyniad penodol ynddo;

(b)bod rhyw afreoleidd-dra, diffyg neu wall o bwys wedi bod yn yr hysbysiad perthnasol, neu mewn cysylltiad ag ef; neu

(c)bod unrhyw un o ofynion yr hysbysiad perthnasol yn afresymol.

(3Rhaid dwyn apêl yn erbyn hysbysiad perthnasol drwy hysbysiad, y mae'n rhaid iddo—

(a)cynnwys copi o'r hysbysiad perthnasol;

(b)datgan y seiliau dros apelio; ac

(c)cael ei gyflwyno i Weinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyddiad cyflwyno'r hysbysiad perthnasol.

(4Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn, caiff Gweinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a allai gynnwys darpariaeth ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.

(5Caiff apelau o dan y rheoliad hwn gael eu cynnal drwy sylwadau ysgrifenedig neu drwy wrandawiad.

(6Wrth ddyfarnu ar yr apêl—

(a)caiff Gweinidogion Cymru gadarnhau, amrywio neu ddirymu'r hysbysiad perthnasol, a

(b)rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r ceisydd o'r rhesymau dros eu penderfyniad.

(7Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad stop (oni fydd yr hysbysiad wedi'i dynnu'n ôl gan Weinidogion Cymru) mae'r holl ofynion sydd wedi'u cynnwys ynddo yn cael effaith hyd nes y bydd Gweinidogion Cymru yn dirymu'r hysbysiad neu'n amrywio'r gofynion.

(8Os bydd Gweinidogion Cymru yn amrywio gofynion hysbysiad sgrinio neu hysbysiad stop, bydd yr amrywiadau yn cael effaith o'r dyddiad hysbysu o dan baragraff (6)(b).

(9Pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn hysbysiad adfer, ni fydd unrhyw effaith i'r hysbysiad hyd nes y caiff ei gadarnhau neu ei amrywio ar apêl neu hyd nes y tynnir yr apêl yn ôl.

(10Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu'r apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.

Apelau yn erbyn penderfyniadau sgrinio a phenderfyniadau cydsynio

31.—(1Caiff y personau a bennir ym mharagraff (2) apelio i Weinidogion Cymru o dan y rheoliad hwn yn erbyn penderfyniad, cydsyniad neu hysbysiad (yn ôl y digwydd) (“penderfyniad perthnasol”).

(2Y personau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)person sydd wedi gwneud cais am benderfyniad sgrinio mewn cysylltiad â phrosiect y mae Gweinidogion Cymru wedi penderfynu ei fod yn brosiect sylweddol, neu y bernir eu bod wedi penderfynu felly, o dan reoliad 7;

(b)person sydd wedi gwneud cais am gydsyniad ar gyfer prosiect sylweddol y cafodd cydsyniad mewn cysylltiad ag ef ei wrthod neu ei roi yn ddarostyngedig i amodau, ac eithrio'r rhai a bennir yn rheoliad 17(2); ac

(c)person a hysbyswyd o benderfyniad o dan baragraff 3 o Atodlen 4.

(3Rhaid dwyn apêl yn erbyn penderfyniad perthnasol o fewn 3 mis i'r dyddiad yr hysbyswyd y person o'r penderfyniad perthnasol.

(4Rhaid i hysbysiad o apêl—

(a)disgrifio'r penderfyniad perthnasol;

(b)nodi'r seiliau dros apelio; ac

(c)datgan a hoffai'r apelydd i'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol neu i gael ei phenderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.

(5Rhaid i Weinidogion Cymru gyflwyno copïau o'r hysbysiad i'r partïon sydd â buddiant cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth honno.

(6Caiff person y cyflwynir iddo gopi o'r hysbysiad o dan baragraff (5) gyflwyno sylwadau mewn cysylltiad â'r apêl cyhyd â'i fod yn hysbysu Gweinidogion Cymru o'i ddymuniad i wneud hynny o fewn 21 o ddiwrnodau i'r dyddiad y mae'n cael copi o'r hysbysiad.

(7Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu—

(a)a ddylai'r apêl fod ar ffurf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol; neu

(b)a ddylid cynnal yr apêl drwy sylwadau ysgrifenedig,

a rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'u penderfyniad.

(8Wrth ddyfarnu'r apêl, caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu neu wrthod yr apêl, neu wrth-droi unrhyw ran o'r penderfyniad perthnasol, a chânt ystyried yr apêl fel petaent yn ystyried y penderfyniad am y tro cyntaf.

(9Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i arfer ar eu rhan, gyda thaliad neu hebddo, eu swyddogaeth o ddyfarnu apêl neu unrhyw fater sy'n rhan o'r apêl, a bydd Atodlen 5 yn cael effaith mewn perthynas â phenodiad o'r fath.

(10Mae is-adrannau (2) i (5) o adran 250 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(25) (ymchwiliadau lleol, tystiolaeth a chostau) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiadau neu ymchwiliadau lleol sy'n cael eu cynnal yn unol â rheoliad 33 yn yr un modd ag y maent yn gymwys i ymchwiliadau lleol o dan yr adran honno, ond fel petai'r cyfeiriadau at “the Minister” yn gyfeiriadau at Weinidogion Cymru a chan hepgor y cyfeiriadau at “local authority”.

(11Mae adran 322A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(26) (gorchmynion ynghylch costau pan nad oes unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad yn cael ei gynnal) yn gymwys mewn perthynas â gwrandawiad neu ymchwiliad lleol o dan reoliad 33 yn yr un modd ag y mae'n gymwys i wrandawiad neu ymchwiliad lleol y cyfeirir ato yn yr adran honno.

(12Ac eithrio fel y darperir fel arall gan y rheoliad hwn neu gan reoliad 32 neu 33, rhaid i Weinidogion Cymru ddyfarnu'r weithdrefn (a all gynnwys darpariaethau ar gyfer ymweliadau â'r safle) ar gyfer penderfynu'r apêl.

(13Rhaid i'r nifer o gopïau a bennir gan Weinidogion Cymru fynd gydag unrhyw sylwadau, datganiad neu ddogfennau eraill sydd i'w cyflwyno i Weinidogion Cymru o dan reoliad 32 neu 33.

(14Yn y rheoliad hwn, ystyr “penderfyniad perthnasol” (“relevant decision”) yw —

(a)penderfyniad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(a);

(b)penderfyniad i wrthod cydsyniad neu i roi cydsyniad yn ddarostyngedig i'r amodau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2)(b);

(c)hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (2)(c).

Dyfarnu apelau drwy sylwadau ysgrifenedig

32.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy sylwadau ysgrifenedig.

(2O fewn chwe wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd—

(a)cyflwyno i Weinidogion Cymru unrhyw sylwadau (neu unrhyw sylwadau pellach) y mae'n dymuno dibynnu arnynt yn yr apêl; neu

(b)hysbysu Gweinidogion Cymru eu bod yn dymuno dibynnu ar yr wybodaeth a ddarparwyd eisoes yn unig.

(3Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth neu'r hysbysiad ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)anfon copïau o unrhyw sylwadau (neu unrhyw sylwadau pellach) at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl; a

(b)hysbysu'r cyfranogwyr eraill yn yr apêl o unrhyw hysbysiad gan yr apelydd nad yw'n dymuno dibynnu ar unrhyw sylwadau pellach.

(4Rhaid i unrhyw un o'r cyfranogwyr yn yr apêl sy'n dymuno cyflwyno sylwadau wneud hynny o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad y caiff ei hysbysu o'r wybodaeth neu'r awgrym o dan baragraff (3).

(5Os bydd Gweinidogion Cymru yn cael unrhyw sylwadau o dan baragraff (4), rhaid iddynt anfon copïau o'r sylwadau hynny at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(6Rhaid i Weinidogion Cymru ganiatáu i'r cyfranogwyr yn yr apêl gyfnod o 14 o ddiwrnodau o leiaf i ymateb i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd o dan baragraffau (2) neu (4).

(7Ar ôl i'r cyfnod a ganiateir ym mharagraff (4) ddirwyn i ben, rhaid i Weinidogion Cymru, neu'r person a benodwyd i ddyfarnu'r apêl, ei dyfarnu a hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad.

Dyfarnu apelau drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol

33.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo apêl i'w dyfarnu drwy wrandawiad neu drwy ymchwiliad lleol.

(2O fewn 6 wythnos i gael hysbysiad bod yr apêl i'w dyfarnu felly, rhaid i'r apelydd gyflwyno i Weinidogion Cymru ddatganiad sy'n cynnwys manylion llawn ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno dibynnu arnynt yn y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

(3Ar ôl cael y datganiadau a'r dogfennau ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau ohonynt at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(4Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)rhoi i'r cyfranogwyr yn yr apêl 6 wythnos o rybudd am y dyddiad, yr amser a'r lle a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ac enw'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol (neu, fel y bo'n gymwys, i ddyfarnu'r apêl); a

(b)rhoi unrhyw hysbysiad y gwelant yn dda, i roi gwybod i'r cyhoedd, nad yw'n llai nag 21 o ddiwrnodau cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

(5Caiff Gweinidogion Cymru amrywio'r amser neu'r lleoliad ar gyfer y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol a rhaid iddynt roi unrhyw hysbysiad o'r amrywiad ag y gwelant yn dda.

(6Os bydd parti sydd â buddiant yn dymuno cael ei glywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru o fewn 28 o ddiwrnodau i'r dyddiad yr anfonwyd datganiadau'r apelydd ato o dan baragraff (3).

(7Pan fo person wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn y modd hwn, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno datganiad yn cynnwys manylion ei achos a chopïau o unrhyw ddogfennau y mae'n dymuno cyfeirio atynt (ac eithrio dogfennau a gyflwynwyd gan yr apelydd o dan baragraff (2)).

(8Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o unrhyw ddatganiadau a dogfennau sy'n dod i law o dan baragraff (7) at yr apelydd.

(9Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd wedi darparu datganiad iddynt o dan baragraff (2) neu (7) roi iddynt unrhyw wybodaeth bellach a bennir ganddynt mewn perthynas â'r datganiad, a rhaid iddynt anfon copi o'r wybodaeth bellach at bob un o'r cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(10Cyn bod gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru drefnu bod yr holl ddogfennau a gyflwynwyd ar gael i'w gweld gan unrhyw berson sy'n gofyn am hynny.

(11Mae hawlogaeth gan y cyfranogwyr yn yr apêl i gael eu clywed gerbron gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.

(12Rhaid i unrhyw gyfranogydd yn yr apêl sy'n bwriadu rhoi tystiolaeth yn yr ymchwiliad drwy ddarllen datganiad tyst anfon copi o'r datganiad tyst, a chrynodeb ysgrifenedig ohono, at Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 wythnos cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer yr ymchwiliad, a rhaid i Weinidogion Cymru anfon copïau o'r datganiad tyst a'r crynodeb at y cyfranogwyr eraill yn yr apêl.

(13Wedi i'r gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol ddod i ben, rhaid i'r person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol, oni bai ei fod wedi cael ei benodi i ddyfarnu ar yr apêl, gyflwyno adroddiad i Weinidogion Cymru a rhaid i'r adroddiad hwnnw gynnwys—

(a)ei gasgliadau; a

(b)ei argymhellion neu ei resymau dros beidio â gwneud unrhyw argymhellion.

(14Os yw'n fwriad gan Weinidogion Cymru i anghytuno â'r argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad am eu bod—

(a)o farn wahanol i'r person sy'n gwneud yr adroddiad ynghylch unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad y daethpwyd iddo gan y person hwnnw, neu y mae'n ymddangos iddynt ei fod yn berthnasol i'r casgliad hwnnw; neu

(b)yn cymryd i ystyriaeth dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd,

rhaid iddynt beidio â dod i benderfyniad heb roi cyfle yn gyntaf i bawb a ymddangosodd gerbron y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol gyflwyno sylwadau o fewn amser rhesymol a bennir ganddynt.

(15Rhaid i Weinidogion Cymru neu'r person a benodwyd i ddyfarnu ar yr apêl hysbysu'r cyfranogwyr yn yr apêl o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto, ac anfon atynt gopi o'r adroddiad a wnaed o dan baragraff (13).

Cais i'r llys gan berson a dramgwyddir

34.—(1Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad Gweinidogion Cymru nad yw prosiect yn brosiect sylweddol neu benderfyniad i roi cydsyniad ar gyfer prosiect o bwys wneud cais i'r Uchel Lys am orchymyn i ddileu'r penderfyniad.

(2Caiff yr Uchel Lys ddileu'r penderfyniad os yw wedi'i fodloni—

(a)nad oedd y penderfyniad wedi'i wneud yn gyfreithlon; neu

(b)bod buddiannau'r person a wnaeth gais i'r llys wedi'u rhagfarnu'n sylweddol gan fethiant i gydymffurfio ag unrhyw un o ofynion eraill y Rheoliadau hyn.

(3Rhaid i gais i'r Uchel Lys o dan y rheoliad hwn gael ei wneud o fewn 6 wythnos i ddyddiad cofnodi'r penderfyniad yn y gofrestr yn unol â rheoliad 7(4)(b) neu ei gyhoeddi'n unol â rheoliad 18(b).

(4Caiff yr Uchel Lys drwy orchymyn interim, tra disgwylir am ddyfarniad ar gais o dan y rheoliad hwn, atal y penderfyniad rhag cael ei weithredu gan bennu unrhyw amodau y gwêl yn dda.

Dehongli'r Rhan hon

35.  Yn y Rhan hon—

ystyr “cyfranogwyr yn yr apêl” (“participants in the appeal”) yw—

(a)

yr apelydd;

(b)

y partïon sydd â buddiant;

(c)

yn achos gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, unrhyw berson arall y caniateir iddo gymryd rhan gan y person a benodwyd i gynnal y gwrandawiad neu'r ymchwiliad lleol.

ystyr “partïon sydd â buddiant” (“interested parties”) yw—

(a)

y cyrff ymgynghori y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol;

(b)

unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau mewn cysylltiad â phenderfyniad perthnasol o fewn ystyr “penderfyniad perthnasol” yn rheoliad 31(14);

(c)

unrhyw Wladwriaeth AEE yr ymgynghorwyd â hi o dan reoliad 13(4);

(ch)

unrhyw awdurdod neu berson a anfonodd ei farn o dan reoliad 13(4)(b);

(d)

unrhyw berson arall y mae'n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddo ddiddordeb penodol ym mhwnc yr apêl.

RHAN 6Darpariaethau Terfynol

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004

36.  Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004(27) wedi'u diwygio drwy roi'r canlynol yn lle paragraff 14 o'r Atodlen—

14.(1) A farmer must not begin or carry out an uncultivated land project or a restructuring project—

(a)in breach of regulation 4 of, or

(b)in breach of regulation 8 of,

the Environmental Impact Assessment (Agriculture ) (Wales) Regulations 2007.

(2) A farmer must not breach a stop notice that has been served on him under regulation 24 of those Regulations.

(3) A farmer must not, without reasonable excuse, fail to comply with any requirement of a remediation notice served on him under regulation 26 of those Regulations.

(4) In this paragraph “uncultivated land project” has the meaning given to it by regulation 2(1) of those Regulations.

Dirymu

37.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu —

(a)Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002(28); a

(b)Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) (Diwygio) 2007(29).

Darpariaethau trosiannol

38.—(1Mae'r rheoliad hwn yn darparu ar gyfer y dull o drin hysbysiadau penodol a gyflwynwyd o dan Reoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Tir heb ei Drin ac Ardaloedd Lled-naturiol) (Cymru) 2002 (“Rheoliadau 2002”).

(2Mae unrhyw hysbysiad stop a gyflwynwyd o dan reoliad 22 o Reoliadau 2002 i'w drin fel petai wedi'i gyflwyno o dan reoliad 24 o'r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 25, 28 a 29 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerwyd mewn cysylltiad â thorri amodau'r hysbysiad.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae unrhyw hysbysiad adfer a gyflwynwyd o dan reoliad 24 o Reoliadau 2002 i'w drin fel petai wedi'i gyflwyno fel hysbysiad adfer o dan reoliad 26 o'r Rheoliadau hyn, ac mae rheoliadau 27 i 29 yn gymwys i unrhyw gamau gorfodi a gymerir mewn cysylltiad â thorri amodau'r hysbysiad.

(4Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n effeithio ar unrhyw apêl o dan reoliad 24(3) o Reoliadau 2002 a ddygwyd cyn y dyddiad y daeth y Rheoliadau hyn i rym.

Elin Jones

Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Hydref 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources