rheoliad 5
ATODLEN 1Trothwyon
Colofn 1 | Colofn 2 | Colofn 3 |
---|---|---|
Dehongli'r Atodlen hon Yn yr Atodlen hon— ystyr “prosiect ailstrwythuro arwynebedd” (“area restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag arwynebedd tir; ystyr “prosiect ailstrwythuro cyfaint” (“volume restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu, gwaredu neu ailddosbarthu maint o bridd neu ddeunydd arall mewn perthynas â thir; ystyr “prosiect ailstrwythuro terfyn” (“boundary restructuring project”) yw prosiect ailstrwythuro sy'n ymwneud ag ychwanegu neu waredu unrhyw derfyn cae (gan gynnwys unrhyw wal, ffens, clawdd, ffos neu gwrs dwr). | ||
Prosiect ailstrwythuro terfyn | 4 cilometr | 2 gilometr |
Prosiect ailstrwythuro arwynebedd | 100 o hectarau | 50 o hectarau |
Prosiect ailstrwythuro cyfaint | 10,000 o fetrau ciwbig | 5,000 o fetrau ciwbig |