rheoliad 7
ATODLEN 2Y meini prawf dethol ar gyfer penderfyniad sgrinio
Nodweddion prosiectau
1. Nodweddion prosiectau, o ystyried yn benodol—
(a)maint y prosiect;
(b)sut mae'n cyfuno â phrosiectau eraill;
(c)y defnydd ar adnoddau naturiol;
(ch)y gwastraff a gaiff ei gynhyrchu;
(d)llygredd a niwsans; ac
(dd)y perygl o ddamweiniau, gan roi sylw penodol i'r sylweddau neu'r technolegau a ddefnyddir.
Lleoliad y prosiect
2. Sensitifrwydd amgylcheddol ardaloedd daearyddol y mae prosiectau yn debygol o effeithio arnynt, gan roi sylw penodol i'r canlynol—
(a)y defnydd presennol o'r tir;
(b)digonedd, ansawdd a gallu atgynhyrchiol cymharol yr adnoddau naturiol yn yr ardal; ac
(c)gallu'r amgylchedd naturiol i amsugno, gan roi sylw penodol i'r ardaloedd canlynol—
(i)gwlyptiroedd;
(ii)parthau arfordirol;
(iii)ardaloedd mynyddig a fforestydd;
(iv)gwarchodfeydd natur a pharciau;
(v)ardaloedd sydd wedi'u dosbarthu neu wedi'u gwarchod o dan ddeddfwriaeth (gan gynnwys safleoedd Ewropeaidd);
(vi)ardaloedd lle rhagorwyd eisoes ar y safonau ansawdd amgylcheddol sydd wedi'u pennu mewn unrhyw ddeddfwriaeth gan y Cymunedau;
(vii)ardaloedd dwys eu poblogaeth; ac
(viii)tirluniau sydd o bwys hanesyddol, diwylliannol neu archeolegol.
Yr effaith bosibl
3. Effeithiau sylweddol posibl prosiectau, mewn perthynas â'r meini prawf a nodwyd o dan baragraffau 1 a 2, gan roi sylw penodol i'r materion canlynol—
(a)hyd a lled yr effaith (ardal ddaearyddol a maint y boblogaeth yr effeithir arni);
(b)yr effaith ar Wladwriaethau AEE eraill;
(c)graddfa a chymhlethdod yr effaith;
(ch)tebygolrwydd yr effaith; a
(d)hyd, amlder a gwrthdroadwyedd yr effaith.