Search Legislation

Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 8

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to the whole Instrument associated Parts and Chapters:

Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):

Rheoliad 5

ATODLEN 8LL+CAmodau ychwanegol sy'n gymwys i gadw moch

RHAN 1LL+CDehongli

1.  Yn yr Atodlen hon—LL+C

ystyr “baedd” (“boar”) yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;

ystyr “banwes” (“gilt”) yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;

ystyr “hwch” (“sow”) yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella y tro cyntaf;

ystyr “mochyn magu” (“rearing pig”) yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;

ystyr “porchell” (“piglet”) yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac

ystyr “porchell diddwyn” (“weaner”) yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at ddeng wythnos oed.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 2LL+CAmodau ychwanegol cyffredinol

ArchwilioLL+C

2.  Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

TenynnauLL+C

3.  Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

4.—(1Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.

(2Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

LletyLL+C

5.—(1Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.

(2Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —

(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;

(b)cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;

(c)gweld moch eraill, ac eithrio—

(i)pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu

(ii)yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;

(ch)cynnal tymheredd cysurus; a

(d)cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

6.—(1Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.

(2Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.

(3Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—

(a)tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;

(b)at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;

(c)tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;

(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;

(d)tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu

(dd)tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,

ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.

(4Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Adeiladau â golau artiffisialLL+C

7.  Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Atal ymladdLL+C

8.—(1Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.

(2Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Glanhau a diheintioLL+C

9.—(1Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.

(2Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

GwasarnLL+C

10.  Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

LloriauLL+C

11.  Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—

(a)fod yn llyfn heb fod yn llithrig;

(b)gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;

(c)fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac

(ch)os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

12.—(1Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —

(a)11 mm ar gyfer perchyll;

(b)14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;

(c)18 mm ar gyfer moch magu; ac

(ch)20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.

(2Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—

(a)50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a

(b)80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

BwydoLL+C

13.—(1Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.

(2Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Dwr yfedLL+C

14.  Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gwella'r amgylcheddLL+C

15.  Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Gwahardd defnyddio'r system blwch-chwysuLL+C

16.  Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Lefelau swnLL+C

17.  Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

18.  Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 8 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 3LL+CBaeddod

19.  Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod fel y gall y baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 8 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

20.  Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 8 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

21.—(1Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd fod yn 6 m2.LL+C

(2Pan ddefnyddir corlannau baeddod hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 8 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 4LL+CHychod a Banwesod

22.  Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 8 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

PorchellaLL+C

23.  Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 8 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

24.  Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.

Gwybodaeth Cychwyn

I24Atod. 8 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

25.  Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 8 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

26.  Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.

Gwybodaeth Cychwyn

I26Atod. 8 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Lletya mewn grwpiauLL+C

27.  Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 8 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

28.  Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.

Gwybodaeth Cychwyn

I28Atod. 8 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

29.  Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.

Gwybodaeth Cychwyn

I29Atod. 8 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

30.  Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.

Gwybodaeth Cychwyn

I30Atod. 8 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

31.  Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I31Atod. 8 para. 31 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

32.  Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.

Gwybodaeth Cychwyn

I32Atod. 8 para. 32 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

33.  Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.

Gwybodaeth Cychwyn

I33Atod. 8 para. 33 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 5LL+CPerchyll

34.  Pan ddefnyddir system crât porchella, rhaid darparu ffynhonnell gwres a man gorwedd solet, sych a chysurus i'r perchyll, i ffwrdd oddi wrth yr hwch lle gall pob un ohonynt orffwys ar yr un pryd.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I34Atod. 8 para. 34 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

35.  Rhaid i ran o arwynebedd y llawr lle cedwir y perchyll, ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd ar yr un pryd, fod yn solet neu wedi ei gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu ddeunydd addas arall.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I35Atod. 8 para. 35 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

36.  Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno yn ddidrafferth.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I36Atod. 8 para. 36 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

37.  Yn ddarostyngedig i baragraff 38, rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn iau nag 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn andwyol i les neu iechyd yr hwch neu'r perchyll.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I37Atod. 8 para. 37 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

38.  Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—LL+C

(a)sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a

(b)sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I38Atod. 8 para. 38 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

RHAN 6LL+CPerchyll diddwyn a moch magu

39.  Cyn gynted ag y bo modd ar ôl diddyfnu, rhaid cadw perchyll diddwyn a moch magu mewn grwpiau sefydlog, gyda chyn lleied ag y bo modd o gymysgu.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I39Atod. 8 para. 39 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

40.  Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd —LL+C

(a)dylid gwneud hynny os yn bosibl cyn diddyfnu neu cyn pen un wythnos ar ôl diddyfnu neu, fel arall, pan fo'r moch mor ifanc ag y bo modd; a

(b)rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.

Gwybodaeth Cychwyn

I40Atod. 8 para. 40 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

41.  Rhaid i'r arfer o ddefnyddio meddyginiaeth tawelu i hwyluso cymysgu gael ei gyfyngu i amodau eithriadol, a hynny yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I41Atod. 8 para. 41 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

42.  Os oes arwyddion o ymladd difrifol, rhaid ymchwilio i'r achosion ar unwaith a chymryd camau priodol.LL+C

Gwybodaeth Cychwyn

I42Atod. 8 para. 42 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

43.  Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a gedwir mewn grwp fod o leiaf yn—LL+C

(a)0.15 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn 10 kg neu lai;

(b)0.20 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 10 kg, ond yn llai na neu'n hafal i 20 kg;

(c)0.30 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 20 kg ond yn llai na neu'n hafal i 30 kg;

(ch)0.40 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 30 kg ond yn llai na neu'n hafal i 50 kg;

(d)0.55 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 50 kg ond yn llai na neu'n hafal i 85 kg;

(dd)0.65 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 85 kg ond yn llai na neu'n hafal i 110 kg; ac

(e)1.00 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 110 kg.

Gwybodaeth Cychwyn

I43Atod. 8 para. 43 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources