- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.
Whole provisions yet to be inserted into this Instrument (including any effects on those provisions):
Rheoliad 4
1. Rhaid i anifeiliaid gael gofal gan nifer digonol o staff sy'n meddu ar y gallu, yr wybodaeth a'r hyfedredd proffesiynol priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle mae eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio unwaith y dydd o leiaf, i wirio eu bod mewn cyflwr o lesiant.
(2) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3), rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn systemau hwsmonaeth lle nad yw eu lles yn dibynnu ar sylw dynol mynych gael eu harchwilio ar ysbeidiau digonol i osgoi unrhyw ddioddefaint.
(3) Yn yr achosion canlynol, at ddibenion y paragraff hwn bydd yn ddigonol cydymffurfio â'r darpariaethau a ganlyn—
(a)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(b)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; ac
(c)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Pan gedwir anifeiliaid mewn adeilad rhaid bod digon o oleuadau (naill ai sefydlog neu symudol) i'w galluogi i gael eu harchwilio'n drwyadl ar unrhyw adeg.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4. Pan gedwir unrhyw anifeiliaid (heblaw dofednod) mewn adeilad, rhaid iddynt gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddynt bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd naill ai â gwasarn sych wedi'i gynnal yn dda neu sydd wedi'i draenio'n dda.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Rhaid gofalu yn briodol ac yn ddi-oed am unrhyw anifeiliaid sy'n ymddangos yn sâl neu wedi eu hanafu; pan nad ydynt yn ymateb i'r cyfryw ofal, rhaid cael cyngor milfeddygol cyn gynted ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6. Pan fo'n angenrheidiol, rhaid ynysu anifeiliaid sâl neu anafus mewn llety addas, gyda gwasarn cysurus a sych pan fo'n briodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Rhaid cadw cofnod —
(a)o unrhyw driniaeth feddyginiaethol a roddir i anifeiliaid; a
(b)o'r nifer o farwolaethau a ganfyddir ymhob archwiliad o'r anifeiliaid a gyflawnir yn unol ag unrhyw un o'r darpariaethau canlynol —
(i)yn achos ieir dodwy, paragraff 1 o Atodlen 5;
(ii)yn achos lloi, paragraff 2 neu 3 o Atodlen 6; neu
(iii)yn achos moch, paragraff 2 o Atodlen 8; neu
(iv)mewn unrhyw achos arall, paragraff 2(1) neu (2) o'r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8. Rhaid cadw'r cofnod y cyfeirir ato ym mharagraff 7 am gyfnod o dair blynedd o leiaf o'r dyddiad pan roddwyd y driniaeth feddyginiaethol, neu ddyddiad yr archwiliad, a rhaid ei roi ar gael i arolygydd os gofynnir amdano.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9. Gan roi sylw i'w rhywogaeth ac yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol, rhaid peidio â chyfyngu ar ryddid anifeiliaid i symud mewn unrhyw ffordd a fydd yn peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
10. Pan fo anifeiliaid yn cael eu clymu neu eu caethiwo yn ddi-dor neu'n rheolaidd, rhaid caniatáu lle priodol iddynt ar gyfer eu hanghenion ffisiolegol ac etholegol yn unol ag arferion da a gwybodaeth wyddonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
11. Rhaid i'r defnyddiau a ddefnyddir ar gyfer adeiladu llety, ac, yn benodol ar gyfer adeiladu corlannau, cewyll, corau ac offer y gall yr anifeiliaid ddod i gyffyrddiad ag ef, beidio â bod yn niweidiol i'r anifeiliaid a rhaid bod modd eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
12. Rhaid i'r llety a'r ffitiadau a ddefnyddir i ddiogelu'r anifeiliaid fod wedi eu hadeiladu a'u cynnal fel nad oes unrhyw ymylon nac allwthiadau miniog sy'n debygol o achosi anaf i anifail.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
13. Rhaid cadw cylchrediad yr aer, lefelau llwch, tymheredd, lleithder cymharol yr aer a chrynodiadau nwy o fewn terfynau nad ydynt yn niweidiol i'r anifeiliaid.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
14. Rhaid i anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau beidio â chael eu cadw mewn tywyllwch parhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
15. Pan nad yw'r golau naturiol sydd ar gael mewn adeilad yn ddigonol i ddiwallu anghenion ffisiolegol ac etholegol unrhyw anifeiliaid a gedwir ynddo, rhaid darparu golau artiffisial priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 1 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
16. Rhaid peidio â chadw anifeiliaid a gedwir mewn adeiladau heb gyfnod priodol o orffwys rhag olau artiffisial.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Atod. 1 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
17. Pan na chedwir anifeiliaid mewn adeiladau, rhaid eu hamddiffyn pan fo angen a phan fo'n bosibl rhag tywydd gwael, ysglyfaethwyr a risgiau i'w hiechyd, a rhaid iddynt gael cyfle bob amser i fynd i fan gorwedd sydd wedi'i draenio'n dda.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 1 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
18. Rhaid i bob offer awtomataidd neu fecanyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd a llesiant yr anifeiliaid gael eu harchwilio o leiaf unwaith y dydd i sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg arno.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Atod. 1 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
19. Pan ganfyddir diffygion mewn offer awtomataidd neu fecanyddol o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 18, rhaid eu cywiro ar unwaith, neu os nad yw hyn yn bosibl, rhaid cymryd camau priodol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid tra disgwylir i'r diffygion hynny gael eu cywiro, gan gynnwys defnyddio dulliau amgen o fwydo a dyfrio a dulliau amgen o ddarparu a chynnal amgylchedd boddhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 1 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
20. Pan fo iechyd a llesiant yr anifeiliaid yn ddibynnol ar system awyru artiffisial —
(a)rhaid darparu system briodol wrth gefn i warantu y gellir adnewyddu'r aer yn ddigonol i ddiogelu iechyd a llesiant yr anifeiliaid pe digwyddai i'r system fethu; a
(b)rhaid darparu system larwm (a fydd yn gweithredu hyd yn oed os bydd y prif gyflenwad trydan yn methu) i rybuddio am unrhyw fethiant yn y system.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Atod. 1 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
21. Rhaid i'r system wrth gefn y cyfeirir ati ym mharagraff 20(a) gael ei harchwilio'n drwyadl a rhaid i'r system larwm y cyfeirir ati ym mharagraff 20(b) gael ei phrofi o leiaf unwaith bob saith diwrnod er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ddiffyg ar y system, ac os canfyddir unrhyw ddiffyg ar unrhyw adeg, rhaid ei gywiro ar unwaith.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 1 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
22. Rhaid i anifeiliaid gael eu bwydo â deiet iachusol sy'n briodol i'w hoedran a'u rhywogaeth ac a fwydir iddynt mewn cyflenwad digonol i'w cynnal mewn iechyd da, i ddiwallu eu hanghenion maethol a hybu cyflwr cadarnhaol o lesiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I22Atod. 1 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
23. Rhaid peidio â darparu i anifeiliaid fwyd neu hylif sy'n cynnwys unrhyw sylwedd a allai beri dioddefaint neu anaf diangen iddynt, a rhaid darparu bwyd a hylif ar eu cyfer mewn modd nad yw'n peri dioddefaint neu anaf diangen iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 1 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
24. Rhaid i bob anifail gael y cyfle i fynd at fwyd ar adegau sy'n briodol i'w anghenion ffisiolegol, (ac o leiaf unwaith y dydd beth bynnag), ac eithrio pan fo milfeddyg wrth arfer ei broffesiwn yn cyfarwyddo fel arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I24Atod. 1 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
25. Rhaid i bob anifail gael cyfle naill ai i fynd at gyflenwad addas o ddwr a chael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres bob dydd, neu allu diwallu ei angen i yfed digon o hylifau trwy ddulliau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 1 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
26. Rhaid i offer bwydo a dyfrio gael ei ddylunio, ei adeiladu, ei osod a'i gynnal fel bod difwyno bwyd a dwr ac effeithiau niweidiol cystadlu rhwng anifeiliaid yn cael eu cadw i'r lleiaf posibl.
Gwybodaeth Cychwyn
I26Atod. 1 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
27.—(1) Ni chaniateir rhoi i anifeiliaid unrhyw sylwedd arall, ac eithrio rhai a roddir at ddibenion therapiwtig neu broffylactig neu at ddibenion triniaeth söotechnegol, oni ddangoswyd mewn astudiaethau gwyddonol ar les anifeiliaid neu trwy ymarfer sefydledig nad yw effaith y sylwedd hwnnw yn niweidiol i iechyd neu les yr anifeiliaid.
(2) Yn is-baragraff (1), mae i'r ymadrodd “triniaeth söotechnegol” yr ystyr a roddir i “zootechnical treatment” yn Erthygl 1(2)(c) o Gyfarwyddeb 96/22/EEC(1) ar wahardd defnyddio sylweddau penodol sy'n cael effaith hormonaidd neu thyrostatig a beta-agonistiaid mewn ffermio da byw.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 1 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
28.—(1) Rhaid peidio â defnyddio bridio neu weithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n peri neu sy'n debygol o beri dioddefaint neu anaf i unrhyw un o'r anifeiliaid o dan sylw.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn atal defnyddio gweithdrefnau bridio naturiol neu artiffisial sy'n debygol o beri'r dioddefaint minimal neu fyrhoedlog, neu rai a allai beri bod angen ymyriadau na fyddent yn achosi anaf parhaol.
Gwybodaeth Cychwyn
I28Atod. 1 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
29. Ni chaniateir cadw unrhyw anifeiliaid at ddibenion ffermio oni ellir disgwyl yn rhesymol, ar sail eu genoteip neu eu ffenoteip, y gellir eu cadw heb effaith niweidiol i'w hiechyd neu eu lles.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 1 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
30. Rhaid peidio â defnyddio cerrynt trydan ar unrhyw anifail er mwyn ei lonyddu.
Gwybodaeth Cychwyn
I30Atod. 1 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Rhaid i bob system ddi-gawell ar gyfer cadw ieir dodwy gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i bob system gael ei chyfarparu mewn ffordd sy'n golygu bod gan bob iâr ddodwy—LL+C
(a)naill ai bwydwr llinol sy'n rhoi o leiaf 10cm i bob aderyn neu fwydwr crwn sy'n rhoi o leiaf 4cm i bob aderyn;
(b)naill ai cafn yfed di-dor sy'n rhoi o leiaf 2.5cm i bob iâr neu gafn yfed crwn sy'n rhoi o leiaf 1cm i bob iâr;
(c)o leiaf un nyth i bob saith iâr ac, os defnyddir nythod grwp, rhaid cael o leiaf 1 m2 o le nythu ar gyfer uchafswm o 120 o ieir;
(ch)clwydi, heb ymylon miniog ac sy'n darparu o leiaf 15cm i bob iâr. Rhaid peidio â gosod clwydi uwchben y llaesodr a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y clwydi fod yn 30cm o leiaf a rhaid i'r pellter llorweddol rhwng y glwyd a'r wal fod yn 20cm o leiaf; a
(d)o leiaf 250 cm2 o arwynebedd o dan laesodr i bob iâr, a'r llaesodr dros un traean o leiaf o arwynebedd y llawr.
Gwybodaeth Cychwyn
I32Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Pan fo'r system yn defnyddio pigynnau dwr neu gwpanau, rhaid cael o leiaf un pigyn dwr neu gwpan i bob 10 iâr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4. Pan fo gan y system fannau yfed sydd wedi eu plymio, rhaid cael o leiaf ddau gwpan neu ddau bigyn dwr o fewn cyrraedd i bob iâr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I34Atod. 2 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Rhaid i loriau'r gosodiadau fod wedi eu hadeiladu fel y gallant gynnal pob un o'r crafangau iâr sy'n wynebu ymlaen, ar bob troed i bob iâr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6. Os defnyddir systemau lle y gall yr ieir dodwy symud yn rhydd rhwng gwahanol lefelau —LL+C
(a)rhaid peidio â chael mwy na phedair lefel;
(b)rhaid i'r uchder rhwng y lefelau fod yn 45 cm o leiaf;
(c)rhaid i'r cyfleusterau yfed a bwydo gael eu dosbarthu mewn ffordd sy'n golygu bod cyfle cyfartal i bob iâr fynd atynt; ac
(ch)rhaid i'r lefelau gael eu trefnu i atal ysgarthion rhag cwympo ar y lefelau islaw.
Gwybodaeth Cychwyn
I36Atod. 2 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Os gall ieir dodwy fynd i libart agored —LL+C
(a)rhaid cael nifer o dyllau, o leiaf 35 cm o uchder a 40 cm o led, yn arwain yn uniongyrchol i'r man allanol ac yn ymestyn am y cyfan o hyd yr adeilad; a rhaid sicrhau beth bynnag bod cyfanswm o 2 m o agoriad ar gael ar gyfer pob grwp o 1,000 o ieir; a
(b)rhaid i libartau agored —
(i)fod ag arwynebedd sy'n briodol ar gyfer y dwysedd stocio a natur y tir, er mwyn atal unrhyw halogi; a
(ii)wedi'u cyfarparu â chysgod rhag tywydd drwg ac ysglyfaethwyr ac, os oes eu hangen, â chafnau yfed priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8. Yn ddarostyngedig i baragraff (9), rhaid i'r dwysedd stocio beidio â bod yn uwch na naw iâr ddodwy i bob m2 o le y gellir ei ddefnyddio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I38Atod. 2 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9. Os oedd y sefydliad ar 3 Awst 1999 yn gweithredu system lle'r oedd y lle y gellid ei ddefnyddio yn cyfateb i'r arwynebedd tir a oedd ar gael, a'r sefydliad yn dal i weithredu'r system honno ar 25 Mehefin 2002, awdurdodir dwysedd stocio o ddim mwy na 12 iâr am bob m2 tan 31 Rhagfyr 2011.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Rhaid i bob system cewyll confensiynol (heb eu gwella) gydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I40Atod. 3 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i systemau cewyll gael o leiaf 550 cm2 i bob iâr, o arwynebedd cawell a fesurir mewn plân llorweddol ac y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad, sef yn benodol, heb gynnwys platiau ar gyfer dargyfeirio deunydd nad yw'n wastraff, sy'n tueddu i gyfyngu ar yr arwynebedd sydd ar gael, oni osodir hwy heb gyfyngu ar yr arwynebedd y gall yr ieir ei ddefnyddio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I41Atod. 3 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad a rhaid i'w hyd fod o leiaf yn lluoswm 10 cm a nifer yr ieir sydd yn y cawell.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I42Atod. 3 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4.—(1) Oni ddarperir pigynnau yfed neu gwpanau yfed rhaid i bob cawell gael sianel yfed ddi-dor o'r un hyd â'r cafn bwydo y cyfeirir ato ym mharagraff 3.LL+C
(2) Os yw'r mannau yfed wedi'u plymio, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob cawell.
Gwybodaeth Cychwyn
I43Atod. 3 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Rhaid i'r cewyll fod yn 40 cm o leiaf o uchder dros o leiaf 65% o arwynebedd y cawell ac nid llai na 35 cm ar unrhyw bwynt; cyfrifir yr arwynebedd trwy luosi 550 cm2 â nifer yr adar a gedwir yn y cawell.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I44Atod. 3 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6.—(1) Rhaid i loriau'r cewyll fod wedi ei hadeiladu fel eu bod yn cynnal pob un o'r crafangau sy'n wynebu ymlaen ar bob troed i bob iâr.LL+C
(2) Rhaid i oleddf y llawr beidio â bod yn fwy na 14% neu 8 gradd os yw wedi'i wneud o rwyllau gwifrog petryal a rhaid iddo beidio â bod yn fwy na 21.3% neu 12 gradd ar gyfer mathau eraill o lawr.
Gwybodaeth Cychwyn
I45Atod. 3 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I46Atod. 3 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8. Ni chaniateir i unrhyw berson adeiladu neu ddechrau defnyddio am y tro cyntaf unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon ar gyfer cadw ieir dodwy.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I47Atod. 3 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9. Ar ac ar ôl 1 Ionawr 2012, ni chaniateir i unrhyw berson gadw ieir dodwy mewn unrhyw system cewyll y cyfeirir ati yn yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I48Atod. 3 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Rhaid i'r holl ieir dodwy nas cedwir mewn system ddi-gawell y cyfeirir ati yn Atodlen 2 neu mewn system cewyll y cyfeirir ati yn Atodlen 3 gael eu cadw mewn system cewyll gwell sy'n cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I49Atod. 4 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i ieir dodwy gael—LL+C
(a)o leiaf 750 cm2 o arwynebedd cawell i bob iâr, y mae'n rhaid i 600 cm2 ohono fod yn arwynebedd y gellir ei ddefnyddio; rhaid i uchder y cawell heblaw'r uchder uwchben yr arwynebedd y gellir ei ddefnyddio, fod yn 20 cm o leiaf ym mhob pwynt, a rhaid i'r cyfanswm arwynebedd lleiaf mewn unrhyw gawell fod yn 2000 cm2;
(b)mynediad i nyth;
(c)llaesodr fel bod modd pigo a chrafu;
(ch)clwydi priodol sy'n caniatáu o leiaf 15 cm i bob iâr.
Gwybodaeth Cychwyn
I50Atod. 4 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Rhaid darparu cafn bwydo y gellir ei ddefnyddio heb gyfyngiad ac sydd â'i hyd o leiaf yn lluoswm 12 cm a nifer yr ieir yn y cawell.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I51Atod. 4 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4. Rhaid i bob cawell gael system yfed sy'n briodol ar gyfer maint y grwp; os darperir pigynnau dwr, rhaid cael o leiaf ddau bigyn dwr neu ddau gwpan o fewn cyrraedd i bob iâr.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I52Atod. 4 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Er mwyn hwyluso archwilio, gosod a diboblogi'r ieir rhaid cael ale o 90 cm o led o leiaf rhwng haenau o gewyll a rhaid caniatáu gofod o 35 cm o leiaf rhwng llawr yr adeilad a'r haen isaf o gewyll.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I53Atod. 4 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6. Rhaid gosod dyfeisiau addas ar gyfer cwtogi crafangau yn y cewyll.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I54Atod. 4 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Rhaid i bob iâr gael ei harchwilio gan y perchennog neu'r person sy'n gyfrifol amdanynt o leiaf unwaith y dydd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I55Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Ym mhob system y cedwir ieir dodwy ynddi—LL+C
(a)rhaid cadw lefel y swn mor isel ag y bo modd;
(b)rhaid osgoi swn cyson neu sydyn; ac
(c)rhaid i wyntyllau awyru, peiriannau bwydo ac offer arall gael eu hadeiladu, eu lleoli, eu gweithredu a'u cynnal mewn ffordd sy'n peri iddynt wneud cyn lleied o swn ag y bo modd.
Gwybodaeth Cychwyn
I56Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3.—(1) Rhaid cael lefelau golau ym mhob adeilad sy'n ddigonol i ganiatáu i'r ieir weld ei gilydd a chael eu gweld yn eglur, ymchwilio i'w hamgylchoedd yn weledol a dangos lefelau normal o weithgarwch.LL+C
(2) Os oes goleuni naturiol, rhaid trefnu'r agoriadau goleuni fel bod y goleuni'n cael ei wasgaru'n gyfartal yn y llety.
(3) Ar ôl y dyddiau cyntaf o ymgyfarwyddo, rhaid i'r gyfundrefn oleuo fod yn gyfryw ag i atal problemau iechyd ac ymddygiad, ac felly rhaid iddi ddilyn rhythm 24-awr a chynnwys cyfnod digonol o dywyllwch di-dor sy'n parhau, yn ddynodol, am oddeutu traean o'r diwrnod.
(4) Os oes modd, dylid darparu cyfnod digonol o lwydoleuo, pan fo'r golau yn cael ei bylu er mwyn i'r ieir setlo heb aflonyddwch nac anaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I57Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4.—(1) Rhaid i'r rhannau hynny o'r adeiladau, offer neu lestri sy'n dod i gysylltiad â'r ieir gael eu glanhau a'u diheintio'n drylwyr ac yn rheolaidd a phob tro y diboblogir beth bynnag a chyn dod â llwyth newydd o ieir i mewn.LL+C
(2) Tra bo ieir yn y cewyll—
(a)rhaid i'r arwynebau a'r holl offer gael eu cadw'n foddhaol o lân;
(b)rhaid symud ysgarthion ymaith; ac
(c)rhaid symud ieir marw oddi yno bob dydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I58Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Rhaid cael cyfarpar addas yn y cewyll i atal yr ieir rhag dianc.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I59Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6. Mewn unrhyw lety sy'n cynnwys dwy neu ragor o haenau o gewyll rhaid cael dyfeisiau, neu gymryd mesurau priodol, i ganiatáu archwilio pob haen yn ddidrafferth ac i hwyluso symud ieir oddi yno.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I60Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Rhaid i ddyluniad a dimensiynau drws y cawell fod yn gyfryw ag i ganiatáu symud iâr lawndwf oddi yno heb iddi ddioddef yn ddiangen na chael ei niweidio.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I61Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1.—(1) Rhaid peidio â chaethiwo unrhyw lo mewn côr neu gorlan unigol ar ôl wyth wythnos oed oni fydd milfeddyg yn ardystio bod ei iechyd neu ei ymddygiad yn ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei ynysu er mwyn iddo gael triniaeth.
(2) Rhaid i led unrhyw gôr neu gorlan unigol ar gyfer llo fod o leiaf yn hafal i uchder y llo wrth ei war, a fesurir ar ei sefyll, a rhaid i'r hyd fod o leiaf yn hafal i hyd corff y llo, a fesurir o flaen y trwyn hyd at ben cynffonog y tuber ischii (asgwrn y llosgwrn), wedi'u lluosi â 1.1.
(3) Rhaid i gorau neu gorlannau unigol ar gyfer lloi (ac eithrio y rhai sy'n ynysu anifeiliaid sâl) gael waliau trydyllog sy'n caniatáu i'r lloi gael cysylltiad uniongyrchol, yn weledol a thrwy gyffwrdd.
(4) Ar gyfer lloi a gedwir mewn grwpiau, y lwfans gofod dirwystr y mae'n rhaid iddo fod ar gael ar gyfer pob llo yw —
(a)o leiaf 1.5 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw llai na 150 kg;
(b)o leiaf 2 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 150 kg neu fwy ond llai na 200 kg; ac
(c)o leiaf 3 m2 ar gyfer pob llo gyda phwysau byw o 200kg neu fwy.
(5) Rhaid i bob llo allu sefyll, troi o amgylch, gorwedd, gorffwyso a thacluso'i hun heb rwystr.
(6) Rhaid i bob llo a gedwir ar ddaliad y cedwir dau neu fwy o loi arno allu gweld o leiaf un llo arall.
(7) Nid yw is-baragraff (6) yn gymwys i unrhyw lo a gedwir wedi ei ynysu ar ddaliad ar gyngor milfeddygol, neu yn unol ag is-baragraff (1).
(8) At ddibenion cyfrifo nifer y lloi a gedwir ar ddaliad er mwyn penderfynu a yw is-baragraff (6) yn gymwys, rhaid peidio â chymryd i ystyriaeth unrhyw lo a gedwir wedi'i ynysu ar y daliad hwnnw ar gyngor milfeddygol neu yn unol ag is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I62Atod. 6 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad gael ei archwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf ddwywaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I63Atod. 6 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Rhaid i loi a gedwir y tu allan gael eu harchwilio gan berchennog neu gan berson arall sy'n gyfrifol am y lloi o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I64Atod. 6 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4.—(1) Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am lo roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno, ac eithrio lloi a gedwir mewn adeilad mewn grwp y caniateir rhoi tennyn arnynt am gyfnod nad yw'n hwy nag awr tra'n eu bwydo â llaeth neu amnewidyn llaeth.
(2) Pan ddefnyddir tenynnau yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddynt beidio â pheri poen nac anaf i'r lloi a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'u haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(3) Rhaid i bob tennyn fod wedi ei ddylunio i osgoi'r risg o dagu neu achosi poen neu anaf ac i ganiatáu i'r llo orwedd, gorffwys, sefyll a thacluso'i hun heb rwystr.
Gwybodaeth Cychwyn
I65Atod. 6 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5. Pan gedwir lloi mewn adeilad â golau artiffisial, yna, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1, rhaid darparu golau artiffisial am gyfnod sydd o leiaf yn hafal i'r cyfnod o olau naturiol a geir fel arfer rhwng 9.00 am a 5.00 pm.
Gwybodaeth Cychwyn
I66Atod. 6 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6.—(1) Rhaid i adeiladau, corau, corlannau, offer a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer lloi gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael eu symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Gwybodaeth Cychwyn
I67Atod. 6 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Pan gedwir lloi mewn adeilad, rhaid i'r lloriau fod —
(a)yn llyfn heb fod yn llithrig;
(b)wedi'u dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r lloi wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c)yn addas ar gyfer maint a phwysau'r lloi; ac
(ch)yn ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
Gwybodaeth Cychwyn
I68Atod. 6 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8.—(1) Rhaid darparu gwasarn priodol ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid i bob llo gael ei gadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sydd yn lân, yn gysurus ac wedi'i draenio'n ddigonol ac nad yw'n effeithio'n andwyol ar y lloi.
(3) Rhaid i bob llo a gedwir mewn adeilad a lloi a gedwir mewn cytiau neu adeileddau dros dro gael eu cadw ar fan gorwedd, neu rhaid iddo bob amser allu mynd i fan gorwedd, sy'n cael ei gynnal yn dda â gwasarn sych.
Gwybodaeth Cychwyn
I69Atod. 6 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9. Rhaid i bob llo gael cynlaeth buchol cyn gynted â phosibl ar ôl ei eni a beth bynnag o fewn y chwe awr gyntaf o'i fywyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I70Atod. 6 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
10.—(1) Rhaid darparu bwyd sy'n cynnwys digon o haearn i sicrhau lefel hemoglobin gwaed o 4.5 mmol/litr o leiaf ar gyfer pob llo.
(2) Rhaid darparu lleiafswm o ddogn dyddiol o fwyd ffibraidd ar gyfer pob llo dros 2 wythnos oed, gan gynyddu'r swmp yn unol â thyfiant y llo o leiafswm o 100g pan yw'n 2 wythnos oed hyd at leiafswm o 250g pan yw'n 20 wythnos oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I71Atod. 6 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
11. Rhaid peidio â safnrwymo lloi.
Gwybodaeth Cychwyn
I72Atod. 6 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
12.—(1) Rhaid bwydo pob llo o leiaf ddwywaith y dydd.
(2) Pan letyir lloi mewn grwp heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy gan system fwydo awtomatig, rhaid i bob llo gael mynd at fwyd ar yr un adeg â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.
Gwybodaeth Cychwyn
I73Atod. 6 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
13.—(1) Rhaid darparu cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres ar gyfer pob llo bob dydd.
(2) Rhaid darparu dwr ffres ar gyfer lloi bob amser—
(a)mewn tywydd poeth; neu
(b)pan fyddant yn sâl.
Gwybodaeth Cychwyn
I74Atod. 6 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Pan gedwir gwartheg godro sy'n llaetha neu'n bwrw lloi mewn adeilad, rhaid iddynt allu mynd bob amser i fan gorwedd sydd wedi'i ddraenio'n dda ac sy'n cynnwys gwasarn.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I75Atod. 7 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i gorlan neu fuarth mewn adeilad a ddefnyddir ar gyfer gwartheg sy'n bwrw lloi fod o faint sy'n caniatáu i berson ofalu am y gwarthegLL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I76Atod. 7 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Rhaid i wartheg sy'n bwrw lloi ac a gedwir mewn adeilad gael eu cadw ar wahân i dda byw eraill, ac eithrio gwartheg sy'n bwrw lloi.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I77Atod. 7 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Yn yr Atodlen hon—LL+C
ystyr “baedd” (“boar”) yw mochyn gwryw ar ôl ei flaenaeddfedrwydd, a fwriedir ar gyfer bridio;
ystyr “banwes” (“gilt”) yw mochyn benyw a fwriedir ar gyfer bridio ar ôl ei blaenaeddfedrwydd a chyn porchella;
ystyr “hwch” (“sow”) yw mochyn benyw ar ôl iddi borchella y tro cyntaf;
ystyr “mochyn magu” (“rearing pig”) yw mochyn o ddeg wythnos hyd at ladd neu serfio;
ystyr “porchell” (“piglet”) yw mochyn o'i enedigaeth hyd at ei ddiddyfnu; ac
ystyr “porchell diddwyn” (“weaner”) yw mochyn o'i ddiddyfnu hyd at ddeng wythnos oed.
Gwybodaeth Cychwyn
I78Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Rhaid i bob mochyn gael ei archwilio gan y perchennog neu berson arall sy'n gyfrifol am y moch o leiaf unwaith y dydd i sicrhau eu bod mewn cyflwr o lesiant.
Gwybodaeth Cychwyn
I79Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
3. Ni chaiff unrhyw berson sy'n gyfrifol am fochyn roi tennyn na pheri rhoi tennyn arno ac eithrio pan fo o dan archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at unrhyw ddiben milfeddygol.
Gwybodaeth Cychwyn
I80Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
4.—(1) Pan ganiateir defnyddio tenynnau yn unol â pharagraff 3, rhaid iddynt beidio â pheri anaf i'r moch a rhaid eu harchwilio'n rheolaidd a'i haddasu yn ôl yr angen i sicrhau eu bod yn ffitio'n gysurus.
(2) Rhaid i bob tennyn fod yn ddigon hir i ganiatáu i'r moch symud fel y nodir ym mharagraff 5(2)(a) a (d) a rhaid i'r dyluniad fod yn gyfryw fel y bydd yn osgoi, cyn belled â phosibl, unrhyw risg o dagu, poen neu anaf.
Gwybodaeth Cychwyn
I81Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
5.—(1) Rhaid i bob mochyn fod yn rhydd i droi o amgylch heb anhawster bob amser.
(2) Rhaid i'r llety a ddefnyddir ar gyfer moch gael ei adeiladu yn y fath fodd ag i ganiatáu i bob mochyn —
(a)sefyll, gorwedd a gorffwyso heb anhawster;
(b)cael lle y gall orffwyso ynddo sy'n lân, yn gysurus ac wedi ei ddraenio'n ddigonol;
(c)gweld moch eraill, ac eithrio—
(i)pan fo'r mochyn wedi'i ynysu am resymau milfeddygol; neu
(ii)yn ystod yr wythnos cyn yr amser porchella disgwyliedig ac yn ystod porchella, pan ganiateir cadw hychod a banwesod o olwg moch eraill;
(ch)cynnal tymheredd cysurus; a
(d)cael digon o le fel y gall yr holl anifeiliaid orwedd ar yr un pryd.
Gwybodaeth Cychwyn
I82Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
6.—(1) Rhaid i ddimensiynau unrhyw gôr neu gorlan fod yn gyfryw fel nad yw'r arwynebedd mewnol yn llai na hyd y mochyn wedi ei sgwario, ac nad yw unrhyw ochr fewnol yn llai na 75% o hyd y mochyn, ac ymhob achos mesurir hyd y mochyn o flaen ei drwyn hyd at fôn ei gynffon tra bo'n sefyll â'i gefn yn syth.
(2) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn benyw am y cyfnod sy'n cychwyn saith diwrnod cyn y diwrnod y disgwylir iddi borchella ac yn diweddu pan fydd diddyfnu ei pherchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll a faethir ganddi), wedi'i gwblhau.
(3) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan—
(a)tra bo o dan unrhyw archwiliad, prawf, triniaeth neu lawdriniaeth a wneir at ddibenion milfeddygol;
(b)at ddibenion serfio, ffrwythloni artiffisial neu gasglu semen;
(c)tra bo'n cael ei fwydo ar unrhyw achlysur arbennig;
(ch)at ddibenion ei farcio, ei olchi neu ei bwyso;
(d)tra bo'i lety yn cael ei lanhau; neu
(dd)tra bo'n aros i'w lwytho ar gyfer ei gludo,
ar yr amod nad yw'r cyfnod y cedwir y mochyn felly yn hwy nag y bo'i angen at y diben hwnnw.
(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys i fochyn a gedwir mewn côr neu gorlan y gall y mochyn fynd i mewn iddo neu ei adael fel y myn, ar yr amod yr eir i mewn i'r cyfryw gôr neu gorlan o gôr neu gorlan y cedwir y mochyn ynddo heb fynd yn groes i'r paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I83Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
7. Pan gedwir moch mewn adeilad â golau artiffisial, yna, rhaid darparu golau o ddwyster 40 lux o leiaf am gyfnod o 8 awr y dydd o leiaf, yn ddarostyngedig i baragraff 16 o Atodlen 1.
Gwybodaeth Cychwyn
I84Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
8.—(1) Os cedwir moch gyda'i gilydd, rhaid cymryd mesurau i atal ymladd sy'n mynd y tu hwnt i ymddygiad normal.
(2) Rhaid i foch sy'n dangos eu bod yn gyson ymosodol tuag at eraill neu'n dioddef ymosodiadau o'r fath gael eu gwahanu oddi wrth y grwp.
Gwybodaeth Cychwyn
I85Atod. 8 para. 8 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
9.—(1) Rhaid i adeiladau, corlannau, cyfarpar a theclynnau a ddefnyddir ar gyfer moch gael eu glanhau a'u diheintio'n gywir mor aml ag y bo angen i atal traws-heintio ac i atal organeddau sy'n cario clefydau rhag crynhoi.
(2) Rhaid i ysgarthion, wrin a bwyd sydd heb ei fwyta neu wedi'i golli gael ei symud mor aml ag y bo angen i leihau'r aroglau ac i osgoi denu pryfed neu gnofilod.
Gwybodaeth Cychwyn
I86Atod. 8 para. 9 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
10. Pan ddarperir gwasarn, rhaid iddo fod yn lân, yn sych a heb fod yn niweidiol i'r moch.
Gwybodaeth Cychwyn
I87Atod. 8 para. 10 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
11. Pan gedwir moch mewn adeilad, rhaid i'r lloriau—
(a)fod yn llyfn heb fod yn llithrig;
(b)gael eu dylunio, eu hadeiladu a'u cynnal fel na fyddant yn peri anaf na dioddefaint i'r moch wrth iddynt sefyll neu orwedd arnynt;
(c)fod yn addas ar gyfer maint a phwysau'r moch; ac
(ch)os na ddarperir llaesodr, ffurfio arwyneb caled, gwastad a sefydlog.
Gwybodaeth Cychwyn
I88Atod. 8 para. 11 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
12.—(1) Pan ddefnyddir lloriau estyll concrit ar gyfer moch a gedwir mewn grwpiau, rhaid i led uchaf yr agoriadau fod yn —
(a)11 mm ar gyfer perchyll;
(b)14 mm ar gyfer perchyll diddwyn;
(c)18 mm ar gyfer moch magu; ac
(ch)20 mm ar gyfer banwesod ar ôl eu serfio a hychod.
(2) Rhaid i led isaf yr estyll fod yn—
(a)50 mm ar gyfer perchyll a pherchyll diddwyn; a
(b)80 mm ar gyfer moch magu, banwesod ar ôl serfio a hychod.
Gwybodaeth Cychwyn
I89Atod. 8 para. 12 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
13.—(1) Rhaid bwydo pob mochyn o leiaf unwaith y dydd.
(2) Pan letyir grwp o foch heb gyfle di-dor i gael bwyd, neu pan na fwydir hwy trwy system fwydo awtomatig sy'n bwydo'r anifeiliaid yn unigol, rhaid bod modd i bob mochyn fynd at y bwyd yr un pryd â'r lleill sydd yn y grwp bwydo.
Gwybodaeth Cychwyn
I90Atod. 8 para. 13 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
14. Rhaid bod modd parhaol i bob mochyn dros ddwy wythnos oed gael cyflenwad digonol o ddwr yfed ffres.
Gwybodaeth Cychwyn
I91Atod. 8 para. 14 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
15. Er mwyn galluogi gweithgarwch chwilota a thrin pethau yn briodol, rhaid bod modd parhaol i bob mochyn fynd at gyflenwad digonol o ddeunyddiau megis gwellt, gwair, pren, blawd llif, compost madarch, mawn neu gymysgedd o ddeunyddiau o'r fath nad ydynt yn andwyol i iechyd yr anifeiliaid.
Gwybodaeth Cychwyn
I92Atod. 8 para. 15 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
16. Rhaid peidio â chadw moch mewn amgylchedd lle y cynhelir tymereddau a lleithder uchel (a adwaenir fel y “system blwch-chwysu”).
Gwybodaeth Cychwyn
I93Atod. 8 para. 16 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
17. Rhaid peidio â rhoi moch mewn sefyllfa lle y maent yn agored i swn cyson neu sydyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I94Atod. 8 para. 17 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
18. Rhaid osgoi lefelau swn uwchlaw 85 dBA yn y rhan o unrhyw adeilad lle y cedwir moch.
Gwybodaeth Cychwyn
I95Atod. 8 para. 18 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
19. Rhaid lleoli ac adeiladu corlannau baeddod fel y gall y baedd droi o amgylch a chlywed, gweld ac arogli moch eraill, a rhaid iddynt gynnwys mannau gorffwys glân.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I96Atod. 8 para. 19 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
20. Rhaid i'r man gorffwys fod yn sych ac yn gysurus.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I97Atod. 8 para. 20 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
21.—(1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), rhaid i arwynebedd dirwystr lleiaf y llawr ar gyfer baedd fod yn 6 m2.LL+C
(2) Pan ddefnyddir corlannau baeddod hefyd ar gyfer serfio naturiol, rhaid i arwynebedd y llawr fod yn 10m2 o leiaf a rhaid iddo fod yn rhydd rhag unrhyw rwystrau.
Gwybodaeth Cychwyn
I98Atod. 8 para. 21 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
22. Rhaid rhoi triniaeth i hychod torrog a banwesod, os bydd angen, rhag parasitiaid allanol a mewnol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I99Atod. 8 para. 22 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
23. Rhaid glanhau hychod torrog a banwesod yn drylwyr cyn eu rhoi mewn cratiau porchella.
Gwybodaeth Cychwyn
I100Atod. 8 para. 23 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
24. Yn yr wythnos cyn yr adeg y disgwylir iddynt borchella rhaid rhoi digon o ddeunydd nythu addas i hychod a banwesod onid yw hynny'n annichonadwy yn dechnegol oherwydd y system slyri a ddefnyddir.
Gwybodaeth Cychwyn
I101Atod. 8 para. 24 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
25. Yn ystod y porchella, rhaid cael lle dirwystr y tu ôl i'r hwch neu'r fanwes i hwyluso porchella yn naturiol neu gyda chymorth.
Gwybodaeth Cychwyn
I102Atod. 8 para. 25 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
26. Mewn corlannau porchella lle cedwir hychod neu fanwesod yn rhydd, rhaid cael rhyw fodd i amddiffyn y perchyll, megis rheiliau porchella.
Gwybodaeth Cychwyn
I103Atod. 8 para. 26 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
27. Rhaid cadw hychod a banwesod mewn grwpiau ac eithrio yn ystod y cyfnod rhwng saith diwrnod cyn y diwrnod porchella disgwyliedig a'r diwrnod y cwblheir diddyfnu'r perchyll (gan gynnwys unrhyw berchyll sy'n cael eu maethu).
Gwybodaeth Cychwyn
I104Atod. 8 para. 27 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
28. Rhaid i hyd ochrau'r gorlan lle y cedwir y grwp fod yn fwy na 2.8 m, ac eithrio pan fo'r grwp yn cynnwys chwe unigolyn neu lai, ac os felly rhaid i hyd ochrau'r gorlan beidio â bod yn llai na 2.4 m.
Gwybodaeth Cychwyn
I105Atod. 8 para. 28 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
29. Pan gedwir banwesod a/neu hychod mewn grwpiau, rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob banwes ar ôl serfio ac i bob hwch, yn eu trefn, fod yn 1.64 m2 o leiaf a 2.25 m2 o leiaf. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o chwe unigolyn neu lai, rhaid cynyddu yr arwynebedd llawr dirwystr 10%. Pan gedwir yr anifeiliaid hyn mewn grwpiau o 40 neu ragor o unigolion, caniateir lleihau yr arwynebedd llawr dirwystr 10%.
Gwybodaeth Cychwyn
I106Atod. 8 para. 29 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
30. Ar gyfer banwesod ar ôl serfio a hychod torrog, rhaid i ran o'r arwynebedd sy'n ofynnol o dan baragraff 29, ac yn hafal i 0.95 m2 o leiaf am bob banwes ac 1.3 m2 o leiaf am bob hwch, fod yn llawr solet di-dor sydd ag uchafswm o 15% ohono wedi ei neilltuo ar gyfer agoriadau draenio.
Gwybodaeth Cychwyn
I107Atod. 8 para. 30 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
31. Ar ddaliadau o 10 hwch neu lai, caniateir cadw hychod a banwesod yn unigol, ar yr amod bod eu llety yn cydymffurfio â gofynion paragraffau 5 a 6 o'r Atodlen hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I108Atod. 8 para. 31 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
32. Yn ychwanegol at ofynion paragraff 13 o'r Atodlen hon, rhaid i hychod a banwesod gael eu bwydo trwy ddefnyddio system sy'n sicrhau y gall pob unigolyn gael digon o fwyd hyd yn oed pan fo cystadleuwyr am y bwyd yn bresennol.
Gwybodaeth Cychwyn
I109Atod. 8 para. 32 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
33. Rhaid rhoi cyflenwad digonol o swmpfwyd neu fwyd ffibr uchel yn ogystal â bwyd ynni uchel i bob hwch dorrog hesb a banwes, i fodloni eu chwant bwyd a'u hangen i gnoi.
Gwybodaeth Cychwyn
I110Atod. 8 para. 33 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
34. Pan ddefnyddir system crât porchella, rhaid darparu ffynhonnell gwres a man gorwedd solet, sych a chysurus i'r perchyll, i ffwrdd oddi wrth yr hwch lle gall pob un ohonynt orffwys ar yr un pryd.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I111Atod. 8 para. 34 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
35. Rhaid i ran o arwynebedd y llawr lle cedwir y perchyll, ac sy'n ddigon mawr i ganiatáu i'r anifeiliaid orffwys gyda'i gilydd ar yr un pryd, fod yn solet neu wedi ei gorchuddio â mat neu o dan laesodr gwellt neu ddeunydd addas arall.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I112Atod. 8 para. 35 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
36. Pan ddefnyddir crât porchella, rhaid i'r perchyll gael digon o le i'w galluogi i sugno yn ddidrafferth.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I113Atod. 8 para. 36 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
37. Yn ddarostyngedig i baragraff 38, rhaid peidio â diddyfnu perchyll oddi wrth yr hwch pan fyddant yn iau nag 28 diwrnod oed oni fyddai peidio â gwneud hynny yn andwyol i les neu iechyd yr hwch neu'r perchyll.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I114Atod. 8 para. 37 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
38. Caniateir diddyfnu perchyll hyd at saith diwrnod ynghynt na'r cyfnod a bennir ym mharagraff 37 os symudir hwy i lety arbenigol—LL+C
(a)sy'n cael ei wagio, ei lanhau a'i ddiheintio'n drylwyr cyn cymryd grwp newydd i mewn; a
(b)sydd ar wahân i adeiladau lle y cedwir hychod eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I115Atod. 8 para. 38 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
39. Cyn gynted ag y bo modd ar ôl diddyfnu, rhaid cadw perchyll diddwyn a moch magu mewn grwpiau sefydlog, gyda chyn lleied ag y bo modd o gymysgu.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I116Atod. 8 para. 39 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
40. Os oes rhaid cymysgu moch sy'n anghyfarwydd â'i gilydd —LL+C
(a)dylid gwneud hynny os yn bosibl cyn diddyfnu neu cyn pen un wythnos ar ôl diddyfnu neu, fel arall, pan fo'r moch mor ifanc ag y bo modd; a
(b)rhaid rhoi digon o gyfleoedd iddynt ddianc a chuddio rhag moch eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I117Atod. 8 para. 40 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
41. Rhaid i'r arfer o ddefnyddio meddyginiaeth tawelu i hwyluso cymysgu gael ei gyfyngu i amodau eithriadol, a hynny yn unig ar ôl ymgynghori â milfeddyg.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I118Atod. 8 para. 41 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
42. Os oes arwyddion o ymladd difrifol, rhaid ymchwilio i'r achosion ar unwaith a chymryd camau priodol.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I119Atod. 8 para. 42 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
43. Rhaid i'r arwynebedd llawr dirwystr sydd ar gael i bob porchell diddwyn neu fochyn magu a gedwir mewn grwp fod o leiaf yn—LL+C
(a)0.15 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn 10 kg neu lai;
(b)0.20 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 10 kg, ond yn llai na neu'n hafal i 20 kg;
(c)0.30 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 20 kg ond yn llai na neu'n hafal i 30 kg;
(ch)0.40 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 30 kg ond yn llai na neu'n hafal i 50 kg;
(d)0.55 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 50 kg ond yn llai na neu'n hafal i 85 kg;
(dd)0.65 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 85 kg ond yn llai na neu'n hafal i 110 kg; ac
(e)1.00 m2 ar gyfer pob mochyn pan fo pwysau cyfartalog y moch yn y grwp yn fwy na 110 kg.
Gwybodaeth Cychwyn
I120Atod. 8 para. 43 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
Rheoliad 5
1. Rhaid i unrhyw gytiau neu gewyll y cedwir cwningod ynddynt—LL+C
(a)bod o faint digonol i ganiatáu i'r cwningod symud o gwmpas ac i fwyta ac yfed yn ddidrafferth, ac i ganiatáu iddynt i gyd orwedd ar eu hochrau yr un pryd; a
(b)o uchder digonol i ganiatáu i'r cwningod eistedd yn gefnsyth ar eu pedwar troed heb i'w clustiau gyffwrdd â nenfwd y cwt neu'r cawell.
Gwybodaeth Cychwyn
I121Atod. 9 para. 1 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
2. Pan gedwir cwningod mewn llety sy'n agored i'r tywydd, rhaid cymryd camau priodol i sicrhau bod lle iddynt gysgodi rhag y tywydd, gan gynnwys cysgod rhag golau uniongyrchol yr haul.LL+C
Gwybodaeth Cychwyn
I122Atod. 9 para. 2 mewn grym ar 24.10.2007, gweler rhl. 1
OJ Rhif L125, 23.5.96, t.3.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: