- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Gwnaed
4 Tachwedd 2007
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
5 Tachwedd 2007
Yn dod i rym
1 Rhagfyr 2007
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) ac a freiniwyd bellach yng Ngweinidogion Cymru:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2007 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 1 Ebrill 2008 yw'r diwrnod a bennir o dan baragraff 2(3)(b) o Atodlen 6 (Prisio ar gyfer ardrethu annomestig) i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerthoedd ardrethol hereditamentau annomestig at ddibenion rhestrau ardrethol annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar gyfer Cymru ar 1 Ebrill 2010.
3. Dirymir Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002(2) i'r graddau y mae'n gymwys o ran Cymru.
Brian Gibbons
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru.
4 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Yn rhinwedd adrannau 41(2) a 52(2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 Rhan III, rhaid i restrau ardrethu annomestig gael eu llunio ar 1 Ebrill ym mhob pumed flwyddyn ar ôl 1990.
At ddibenion llunio rhestr o'r fath mae gwerth ardrethol hereditament annomestig i gael ei benderfynu ar y diwrnod y mae'n rhaid llunio'r rhestr neu ar unrhyw ddiwrnod cyn y diwrnod hwnnw a bennir drwy orchymyn.
Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu 1 Ebrill 2008 fel y diwrnod y mae'n rhaid cyfeirio ato i benderfynu gwerth ardrethol hereditament annomestig at ddibenion rhestrau ardrethu annomestig lleol a chanolog sydd i'w llunio ar 1 Ebrill 2010.
Mae erthygl 3 yn dirymu Gorchymyn y Rhestrau Ardrethu (Dyddiad Prisio) (Cymru) 2002.
1988 p.41. Cafodd y pwerau hyn eu datganoli, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), gweler y cyfeiriad at Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn Atodlen 1. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi mae'r swyddogaethau hynny'n arferadwy gan Weinidogion Cymru.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: