- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Gwnaed
12 Tachwedd 2007
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2007.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. Mae darpariaethau canlynol Deddf Tai 2004 yn dod i rym ar 13 Rhagfyr 2007:
(a)adran 225, i'r graddau nad yw eisoes mewn grym(3);
(b)adran 226;
(c)adran 265(1), i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraff 47 o Atodlen 15.
Jocelyn Davies
O dan awdurdod y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Tachwedd 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Y pumed Gorchymyn Cychwyn sy'n cael ei wneud o dan Ddeddf Tai 2004 yw'r Gorchymyn hwn. Mae'n dod ag adrannau 225 (dyletswyddau awdurdodau tai lleol: anghenion llety sipsiwn a theithwyr) a 226 (canllawiau ynghylch adran 225) o Ddeddf Tai 2004, a pharagraff 47 o Atodlen 15 (strategaethau tai a datganiadau o dan adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i'r Ddeddf Tai honno i rym yng Nghymru ar 13 Rhagfyr 2007.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y dyddiad cychwyn | Rhif yr O.S. |
---|---|---|
Adrannau 1 a 3 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 4 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 5 i 8 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 10 i 52 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 54 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 55 (yn rhannol) | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adran 55 (y gweddill) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 56 a 57 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 58 i 78 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 79 i 81 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 82 i 147 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 179 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adran 191 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adrannau 192 i 194 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 212 i 215 | 6 Ebrill 2007 | 2007/305 (Cy. 24)(C.12) |
Adrannau 227 a 228 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adrannau 229 i 232 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adrannau 235 a 236 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 237 | 25 Tachwedd 2005 | 2005/3237 (Cy.242)(C.138) |
Adrannau 238 i 243 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Adran 265(1) ac Atodlen 15 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Adran 266 (yn rhannol) | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Atodlenni 1 i 7 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 (Cy.152)(C.54) |
Atodlen 10 | 6 Ebrill 2007 | 2007/305 (Cy. 24)(C.12) |
Atodlen 12 | 14 Gorffennaf 2005 | 2005/1814 (Cy.144)(C.75) |
Atodlen 13 | 16 Mehefin 2006 | 2006/1535 Cy.152)(C.54) |
2004 p.34. Mae'r pwerau a roddwyd gan adran 270(4) a(5) yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gweler y diffiniad o'r “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004.
Trosglwyddwyd pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 270(4) a (5) i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).
I'r graddau y mae darpariaeth yn Neddf 2004 yn rhoi pwer i wneud gorchymyn neu reoliadau yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, daeth i rym ar ddyddiad pasio'r Ddeddf honno yn rhinwedd adran 270(2)(b) o'r Ddeddf.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: