Search Legislation

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 1DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL

ystyr “Cyfarwyddeb 2004/41” (“Directive 2004/41”) yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglyn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC(1);

ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr “Rheoliad 852/2004” (“Regulation 852/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid bwydydd(2);

ystyr “Rheoliad 853/2004” (“Regulation 853/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid(3) fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad 1688/2005, Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005;

ystyr “Rheoliad 882/2004” (“Regulation 882/2004”) yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid(4), fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad 2074/2005 a Rheoliad 2076/2005, yn cael ei wirio;

ystyr “Rheoliad 1688/2005” (“Regulation 1688/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1688/2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi bwyd ac wyau penodol i'r Ffindir a Sweden (5);

ystyr “Rheoliad 2073/2005” (“Regulation 2073/2005”)_yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2073/2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer bwydydd(6);

ystyr “Rheoliad 2074/2005” (“Regulation 2074/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2074/2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor a Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(7); ac

ystyr “Rheoliad 2076/2005” (“Regulation 2076/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2076/2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif 854/2004 ac (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004 ac (EC) Rhif 854/2004(8).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 2DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd anifeiliaid berthnasol” (“relevant feed law”) yw —

(a)

Rhan IV o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970(9) i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwydydd anifeiliaid;

(b)

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Samplu a Dadansoddi) 1999(10);

(c)

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004(11);

(ch)

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 i'r graddau y maent yn gymwys o ran bwyd anifeiliaid.

(d)

Rheoliadau Bwyd Anifeiliaid (Hylendid a Gorfodi) (Cymru) 2005(12);

(dd)

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006(13).

Rheoliad 2(1)

ATODLEN 3DIFFINIAD O GYFRAITH BWYD BERTHNASOL

ystyr “cyfraith bwyd berthnasol” (“relevant food law”) yw —

(a)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran bwyd, ac eithrio i'r graddau y mae'n ymwneud â —

(i)

rheoli gweddillion meddyginiaethau milfeddygol a sylweddau eraill o dan Reoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Archwilio am Weddillion a Therfynau Gweddillion Uchaf) 1997(14),

(ii)

rheoli gweddillion plaleiddiaid o dan Reoliadau Plaleiddiaid (Lefelau Uchaf Gweddillion mewn Cnydau, Bwyd a Bwydydd Anifeiliaid) (Cymru a Lloegr) 2005(15),

(iii)

cymhwyso rheolau y caniateir cydnabod arbenigedd traddodiadol a warentir odanynt ar gyfer cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol osodir yn Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 509/2006 ar gynhyrchion amaethyddol a bwydydd fel arbenigeddau traddodiadol a warentir(16),

(iv)

cymhwyso rheolau a osodir ar gyfer gwarchod dynodiadau tarddiad a dynodiadau daearyddol cynhyrchion amaethyddol a bwydydd penodol a osodir yn Rheoliad y Cyngor (EEC) Rhif 510/2006 ar warchod dynodiadau daearyddol a dynodiadau tarddiad cynhyrchion amaethyddol a bwydydd(17),

(v)

rheoli cynhyrchion organig o dan Reoliadau Cynhyrchion Organig (Mewnforio o Drydydd Gwledydd) 2003(18) a Rheoliadau Cynhyrchion Organig 2004(19),

(vi)

rheoli labelu cig eidion o dan Reoliadau Labelu Cig Eidion (Gorfodi) (Cymru) 2001(20), a

(vii)

rheoli mewnforio a masnachu o ran cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid —

(aa)

o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996(21), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 3 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth, a

(bb)

o dan Reoliadau Cynhyrchion sy'n dod o Anifeiliaid (Mewnforion Trydydd Gwledydd) (Cymru) 2005(22), ac eithrio gweithredu a gorfodi rheoliad 5 o'r Rheoliadau gan yr Asiantaeth;

(viii)

y materion a reolir o dan Atodlen 2 i Reoliadau Enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy (Cymru) 2006(23) i'r graddau y mae'r Atodlen honno yn gymwys o ran anifeiliaid a gigyddir er mwyn i bobl eu bwyta, ynghyd â'r materion a gwmpesir gan bwynt 2 o Ran II o Bennod A o Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol(24)

(b)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n gymwys o ran deunyddiau a gwrthrychau mewn cysylltiad â bwyd; ac

(c)

cyfraith bwyd i'r graddau y mae'n ymwneud â rheoli cynhyrchu sylfaenol a'r gweithrediadau cysylltiedig hynny a restrir ym mharagraff 1 o Ran AI o Atodlen I i Reoliadau 852/2004 o dan Reoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006.

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 4AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD ANIFEILIAID BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2)(f), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwyd anifeiliaidErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i 3 a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54

Rheoliad 3(3)

ATODLEN 5AWDURDODAU CYMWYS AT DDIBENION DARPARIAETHAU PENODOL YN RHEOLIAD 882/2004 I'R GRADDAU Y MAENT YN GYMWYS O RAN CYFRAITH BWYD BERTHNASOL

Colofn 1Colofn 2Colofn 3
EitemYr awdurdod cymwysY darpariaethau yn Rheoliad 882/2004
1.Yr AsiantaethErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 12, 14, 19(1), (2) a (3), 24, 31(1) a (2), 34, 35(3) a (4), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4), 52(1) a 54
2.Yr awdurdod bwydErthyglau 3(6), 4(2) i (6), 5(1) i (3), 6, 7, 8(1) a (3), 9, 10, 11(1) i (3) a (5) i (7), 15(1) i (4), 16(1) a (2), 18, 19(1) a (2), 20, 21, 22, 24, 31, 34, 35(3), 36, 37(1), 38, 39, 40(2) a (4) a 54
(1)

OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).

(2)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).

(3)

OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ No. L226, 25.6.2004, p.22), y dylid ei ddarllen gyda Chorigendwm pellach (OJ Rhif L204, 4.8.2007, t.26). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 diwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1243/2007 sy'n diwygio Atodiad III i Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cynor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (OJ Rhif L281, 25.10.2007, p.8).

(4)

OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1). Diwygiwyd Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 diwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006.

(5)

OJ Rhif L271, 15.10.2005, t.17.

(6)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.1, fel y'i darllenir gyda chorigenda yn OJ Rhif L278, 10.10.2006, t.32 a OJ Rhif L283, 14/10.2006, t62.

(7)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.27, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1244/2007 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2074/2005 o ran mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir eu bwyta gan bobl.

(8)

OJ Rhif L338, 22.12.2005, t.83, fel y'i diwygiwyd diwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1246/2007 yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 2076/2005 o ran estyn cyfnod trosiannol a roddir i weithredwyr busnes bwyd sy'n mewnforio olew pysgod a fwriedir ei fwyta gan bobl.

(16)

OJ Rhif L93, 31.3.2006, t.1

(17)

OJ Rhif L93, 31.3. 2006, t.12.

(19)

O.S. 2004/1604, a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/2003 ac O.S. 2006/2075.

(24)

OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf wrth wneud yr offeryn hwn gan Reoliad (EC) Rhif 1923/2006 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau er mwyn atal, rheoli a difa enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L404, 30.12.2006, t.1).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources