Search Legislation

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 389 (Cy.40)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2007

Yn dod i rym

1 Mawrth 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi(2) at ddibenion yr adran honno ynghylch mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(3) cafwyd ymgynghoriad cyhoeddus agored a thryloyw tra bo'r Rheoliadau canlynol yn cael eu llunio.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw “Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007”.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2007.

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” yn rhinwedd adran 5(1) o'r Ddeddf, ac eithrio nad yw'n cynnwys y Trysorydd priodol y cyfeirir ato yn adran 5(1)(c) o'r Ddeddf (sy'n ymdrin â'r Deml Fewnol a'r Deml Ganol);

  • ystyr “awdurdod gorfodi” (“enforcement authority”) yw'r awdurdod sy'n gyfrifol, yn rhinwedd rheoliad 9(5), dros weithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn;

  • mae i “bwyd” yr ystyr a roddir i “food” yn Rheoliad 178/2002;

  • ystyr “cabinet arddangos manwerthol” (“retail display cabinet”) yw unrhyw gabinet y mae deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn cael ei roi ar y farchnad ynddo at ddibenion manwerthu neu wrth gynnal busnes talu a chario;

  • ystyr “Cyfarwyddeb 89/108” (“Directive 89/108”) yw Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar gyfer eu bwyta gan bobl(4);

  • ystyr “Cyfarwyddeb 92/2” (“Directive 92/2”) yw Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/2/EEC sy'n gosod y weithdrefn samplu a dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol dymereddau bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(5);

  • ystyr “darpariaeth Gymunedol benodedig” (“specified Community provision”) yw unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliad 37/2005 sydd wedi'i phennu yng ngholofn 1 o Atodlen 1 ac y mae pwnc y ddarpariaeth honno wedi'i ddisgrifio yng ngholofn 2 o'r Atodlen honno;

  • mae i “defnyddiwr olaf” yr ystyr a roddir i “ultimate consumer” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996;

  • ystyr “deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym” (“quick-frozen foodstuff”) yw cynnyrch—

    (a)

    sydd wedi'i ffurfio o fwyd sydd wedi bod drwy broses rewi a elwir “rhewi'n gyflym” sy'n golygu bod parth yr uchafbwynt crisialu yn cael ei groesi mor gyflym â phosibl, yn dibynnu ar y math o gynnyrch; a

    (b)

    sydd wedi'i labelu at ddibenion ei roi ar y farchnad i ddangos ei fod wedi mynd drwy'r broses honno,

    ond nad yw'n cynnwys hufen iâ nac unrhyw iâ bwytadwy arall;

  • ystyr “dosbarthiad lleol” a “dosbarthu'n lleol” (“local distribution”), mewn perthynas ag unrhyw gynnyrch, yw'r rhan honno o'r gadwyn ddosbarthu pan fo'r cynnyrch yn cael ei ddanfon i'r man lle mae'n cael ei roi ar y farchnad at ddibenion manwerthu (a bod ei roi felly ar y farchnad i gynnwys rhoi ar y fachnad i sefydliad arlwyo);

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990(6);

  • dehonglir “rhagbecyn” (“prepackaging”) yn unol â'r diffiniad o “prepacked” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 ond gan roi'r geiriau “placed on the market” yn lle'r geiriau “offered for sale”;

  • ystyr “Rheoliad 178/2002” (“Regulation 178/2002”) yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

  • ystyr “Rheoliad 37/2005” (“Regulation 37/2005”) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 ar fonitro tymereddau yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl(7);

  • mae i'r ymadrodd “rhoi ar y farchnad” yr ystyr a roddir i “placing on the market” a “place on the market” yn Rheoliad 178/2002 a rhaid dehongli “wedi'i roi ar y farchnad” (“placed on the market”) yn unol â hynny;

  • mae i “sefydliad arlwyo” yr ystyr a roddir i “catering establishment” yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(8); ac

  • ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”), o ran awdurdod gorfodi, yw unrhyw berson (p'un a yw'n swyddog i'r awdurdod ai peidio) sydd wedi'i awdurdodi'n ysgrifenedig gan yr awdurdod hwnnw, naill ai'n gyffredinol neu'n arbennig, i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn.

(2Oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall, mae i unrhyw ymadrodd a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y defnyddir yr ymadrodd Saesneg cyfatebol yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005 yr ystyr y mae'r ymadrodd Saesneg cyfatebol hwnnw yn ei ddwyn yng Nghyfarwyddeb 89/108, Cyfarwyddeb 92/2 neu Reoliad 37/2005, yn ôl y digwydd.

(3Pan fo unrhyw swyddogaethau o dan y Ddeddf yn cael eu neilltuo—

(a)drwy orchymyn o dan adran 2 neu 7 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984(9), i awdurdod iechyd porthladd;

(b)drwy orchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936(10), i gyd-fwrdd ar gyfer dosbarth unedig; neu

(c)drwy orchymyn o dan baragraff 15(6) o Atodlen 8 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1985(11), i awdurdod sengl ar gyfer sir fetropolitanaidd,

mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd i'w ddehongli, i'r graddau y mae'n ymwneud â'r swyddogaethau hynny, fel cyfeiriad at yr awdurdod y maent wedi'u neilltuo felly iddo.

Rhoi deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar y farchnad

3.  Ni chaiff neb roi deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl oni bai bod yr amodau a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 wedi'u bodloni ynglŷn â'r bwyd hwnnw.

Pecynnu deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd wedi'u bwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf

4.  Ni chaiff neb roi unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf ar y farchnad oni bai—

(a)ei fod wedi'i bacio gan ei weithgynhyrchydd neu baciwr mewn rhagbecyn sy'n addas i'w ddiogelu rhag halogiad gan ficrobau a ffurfiau eraill ar halogiad allanol a rhag dadhydradu; a

(b)bod y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi aros yn y rhagbecyn hwnnw hyd nes iddo gael ei roi ar y farchnad.

Marchnata neu labelu bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym

5.—(1Ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer y defnyddiwr olaf neu ar gyfer unrhyw sefydliad arlwyo os bydd marcio'r bwyd neu ei labelu yn mynd yn groes i baragraff (1) neu (2) ac ni chaiff neb roi ar y farchnad unrhyw fwyd a fwriedir ar gyfer unrhyw berson arall os yw ei farcio neu ei labelu'n mynd yn groes i baragraff (2) neu (3).

(2Caniateir i'r disgrifiad “quick-frozen” neu unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108 gael ei ddefnyddio'n unswydd fel label i roi'r naill neu'r llall o'r canlynol ar y farchnad—

(a)bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym; neu

(b)bwyd sydd yn rhinwedd y label hwnnw yn dod yn ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym.

(3Rhaid i ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac y bwriedir ei gyflenwi, heb brosesu pellach, i'r defnyddiwr olaf neu i sefydliad arlwyo, yn ychwanegol at y disgrifiad “quick-frozen” (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr arfaethedig yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

(a)dangosiad ynglŷn â'r dyddiad parhauster lleiaf;

(b)dangosiad ynglŷn â'r cyfnod hwyaf y byddai'n ddoeth ei storio;

(c)dangosiad ynghylch—

(i)ar ba dymheredd a/neu

(ii)ym mha gyfarpar

y byddai'n ddoeth ei storio;

(ch)cyfeiriad sy'n ei gwneud yn bosibl adnabod y swp y mae'r bwyd yn perthyn iddo; a

(d)neges glir o'r math sy'n dweud “do not refreeze after defrosting”.

(4Rhaid i unrhyw ddeunydd bwyd arall sydd wedi'i rewi'n gyflym, yn ychwanegol at y disgrifiad “quick-frozen” (ac, yn ôl fel y gwêl y cyflenwr yn dda, unrhyw ddisgrifiad arall a restrir yn Erthygl 8.1(a) o Gyfarwyddeb 89/108) a ychwanegir at ei enw gwerthu, fod wedi'i farcio neu wedi'i labelu, a hynny ar ddeunydd pacio, cynhwysydd neu ddeunydd lapio'r bwyd arall hwnnw, neu ar label sydd ynghlwm wrth y bwyd arall hwnnw, â'r wybodaeth ganlynol—

(a)cyfeiriad sy'n ei gwneud yn bosibl adnabod y swp y mae'r bwyd yn perthyn iddo; a

(b)enw neu enw busnes a chyfeiriad y gweithgynhyrchydd neu'r paciwr, neu berson sydd wedi'i sefydlu o fewn y Gymuned ac sy'n rhoi'r deunydd bwyd hwnnw ar y farchnad.

Cyfarpar

6.  Rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu i'w roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl sicrhau, yn ystod pob cam y mae'r deunydd bwyd hwnnw yn ei ofal ac o dan ei reolaeth, fod y cyfarpar a ddefnyddir mewn perthynas â'r deunydd bwyd hwnnw yn gyfarpar a all sicrhau na fyddai unrhyw weithred neu anweithred o'i eiddo yn peri bod rhoi ar y farchnad ddeunyddiau bwyd i'w bwyta gan bobl yn mynd yn groes i'r Rheoliadau hyn.

Samplu a dull mesur tymereddau

7.  Pan fo gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi sail resymol, yn sgil arolygiad, dros gredu nad yw'r tymereddau sy'n cael eu cadw neu sydd wedi'u cadw mewn perthynas ag unrhyw ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym yn dymereddau sydd wedi'u rhagnodi ar gyfer bwyd o'r fath ym mharagraff 1(d) ac (dd) o Atodlen 2, rhaid iddo arolygu ymhellach y deunydd bwyd hwnnw sydd wedi'i rewi'n gyflym a'r tymereddau hynny yn unol â darpariaethau Cyfarwyddeb 92/2.

Cofnodion

8.  Os gofynnir iddo wneud hynny gan swyddog awdurdodedig i awdurdod gorfodi, rhaid i bob gweithredydd bwyd sy'n trafod deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym drefnu bod y cofnodion y mae'n ofynnol eu cadw o dan Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 ar gael i'r swyddog hwnnw neu i swyddog awdurdodedig arall i'r awdurdod hwnnw.

Tramgwyddau, cosbau a gorfodi

9.—(1Os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt, bydd yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), os bydd unrhyw berson yn mynd yn groes i ddarpariaeth Gymunedol benodedig neu'n methu â chydymffurfio â hi, bydd yn euog o dramgwydd a bydd yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(3Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i baragraff cyntaf Erthygl 2.2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â'r paragraff hwnnw os cydymffurfir â gofynion Atodlen 3.

(4Bernir na fydd person wedi mynd yn groes i Erthygl 2 o Reoliad 37/2005 neu na fydd wedi methu â chydymffurfio â hi—

(a)os oedd y tramgwydd a fyddai fel arall wedi'i gyflawni yn dramgwydd ynglŷn â chyfleuster storio oer â chynhwysedd o lai na 10m3x2 a oedd yn cael ei ddefnyddio i storio stoc mewn allfeydd manwerthu; a

(b)os yw tymheredd yr aer yn y storfa oer yn cael ei fesur â thermomedr y mae modd ei weld yn hawdd.

(5Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu'r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.

Cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990

10.  Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad bod unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu Ran ohoni i'w ddehongli fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn—

(a)adran 3 (rhagdybiaethau fod bwyd wedi'i fwriadu ar gyfer ei fwyta gan bobl);

(b)adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall);

(c)adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)(12), gyda'r addasiadau y bydd is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 9(1), sef mynd yn groes i reoliad 3, 4 neu 5(1), neu fethu â chydymffurfio â hwy, a hynny fel y maent yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15, ac y tybir bod y cyfeiriad at “sale” yn is-adran (4)(b) o adran 21 yn cynnwys cyfeiriadau at “placing on the market”;

(ch)adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);

(d)adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion);

(dd)adran 33(2), gyda'r addasiad y tybir bod y cyfeiriad at “any such requirement as is mentioned in subsection 1(b) above” yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad o'r fath ag a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(e)adran 35(1) cosbi am dramgwyddau(13), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (e);

(f)adran 35(2) a (3)(14), i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (f);

(ff)adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol);

(g)adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)(15);

(ng)adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll); ac

(h)adran 58(1) (sy'n ymwneud â dyfroedd tiriogaethol).

Dirymu

11.  I'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, mae Rheoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990(16) wedi'u dirymu.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(17)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007

Rheoliadau 2 a 9(2)

ATODLEN 1DARPARIAETHAU CYMUNEDOL PENODEDIG

1. Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 37/20052. Y pwnc
Erthygl 2.1Gofyniad bod rhaid gosod offerynnau cofnodi addas yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym er mwyn i'r offerynnau hynny fonitro yn aml ac yn rheolaidd dymheredd yr aer y mae'r deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn agored iddo.
Erthygl 2.2 — brawddeg gyntaf y paragraff cyntafGofyniad bod rhaid i bob offeryn mesur a ddisgrifir yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 gydymffurfio â safonau EN 12830, EN 13485 ac EN 13486.
Erthygl 2.2 — ail frawddeg y paragraff cyntafGofyniad bod gweithredwyr bwyd yn cadw pob dogfen berthnasol sy'n cadarnhau bod yr offerynnau mesur yn cydymffurfio â'r safon EN berthnasol.
Erthygl 2.3Gofyniad bod rhaid i gofnodion tymheredd gael eu dyddio a'u storio gan y gweithredydd bwyd am gyfnod o flwyddyn o leiaf, neu am gyfnod hwy gan ystyried natur ac oes silff y deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym.
Erthygl 3.1 — paragraff cyntafGofyniad mai dim ond ag un thermomedr y mae mod ei weld yn hawdd y mae'n rhaid mesur tymheredd yr aer tra bo deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym yn cael eu storio mewn cabinetau arddangos manwerthol, neu'n cael eu dosbarthu'n lleol.
Erthygl 3.1 — ail baragraff (a) a (b)Gofyniad bod rhaid i linell uchafswm llwyth y cabinet fod wedi'i marcio'n glir a bod rhaid i'r thermomedr ddangos y tymheredd ar yr ochr lle mae'r aer yn dychwelyd ar lefel y marc hwnnw.

Rheoliad 3

ATODLEN 2Yr amodau y mae'n rhaid eu bodloni ynglŷn â deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym os bwriedir ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl

1.  Yr amodau yw—

(a)bod y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi'i weithgynhyrchu o ddeunyddiau crai sydd mewn cyflwr da, sy'n ddilys ac sydd o ansawdd werthadwy ac nid o unrhyw ddeunyddiau eraill;

(b)nad oes unrhyw ddeunydd crai wedi'i ddefnyddio i weithgynhyrchu'r deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym oni bai, ar yr adeg y cafodd ei ddefnyddio, y buasai wedi bod yn gyfreithlon i'r deunydd crai gael ei roi ar y farchnad ar gyfer ei fwyta gan bobl;

(c)bod y broses o baratoi a rhewi'n gyflym y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi'i chyflawni'n ddigon prydlon, a chan ddefnyddio cyfarpar technegol priodol, er mwyn lleiafu unrhyw newidiadau cemegol, biocemegol a microbiolegol i'r bwyd sydd wedi'i gynnwys ynddo;

(ch)nad oes unrhyw gyfrwng cryogenig ac eithrio cyfrwng cryogenig awdurdodedig wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad uniongyrchol ag unrhyw fwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym;

(d)bod rhewi'n gyflym bob bwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym wedi golygu bod tymheredd y bwyd hwnnw ar ôl sefydlogi ei wres yn −18°C neu'n oerach na hynny; ac

(dd)ar ôl rhewi'n gyflym bob bwyd sydd wedi'i gynnwys yn y deunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym a sefydlogi gwres y bwyd hwnnw i gydymffurfio ag is-baragraff (d), fod tymheredd y bwyd hwnnw wedi'i gynnal ar lefel nad yw'n gynhesach na −18°C ac eithrio pan fo eithriad a ganiateir, ac sy'n ymwneud â thymheredd y bwyd hwnnw, yn gymwys.

2.  At ddibenion paragraff 1—

(a)mae'r canlynol yn gyfryngau cryogenig awdurdodedig—

(i)aer,

(ii)nitrogen, neu

(iii)carbon diocsid;

a

(b)mae eithriad a ganiateir sy'n ymwneud â thymheredd bwyd yn gymwys—

(i)pan fo'r bwyd hwnnw'n cael ei gadw am gyfnodau byr tra bo'n cael ei gludo (gan gynnwys cael ei ddosbarthu'n lleol) ar dymheredd sy'n gynhesach na −18°C ond nid yn gynhesach na −15°C, neu

(ii)pan fo'r bwyd hwnnw'n cael ei gadw mewn cabinet arddangos manwerthol ar dymheredd sy'n gynhesach na −18°C i raddau sy'n gyson ag arferion storio da ond nid yn gynhesach na −12°C.

Rheoliad 9(3)

ATODLEN 3GOFYNION TROSIANNOL AR GYFER OFFERYNNAU MESUR A OSODWYD CYN 1 IONAWR 2006

Cymhwyso

1.  Dim ond ar gyfer offerynnau mesur a ddefnyddir at ddibenion monitro'r tymheredd fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 2.1 o Reoliad 37/2005 ac a osodwyd cyn 1 Ionawr 2006 y mae'r Atodlen hon yn gymwys.

2.  Bydd yr Atodlen hon yn peidio â bod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2010.

Y gofynion

3.  Mae'r gofynion fel a ganlyn—

(a)o ran unrhyw gyfrwng storio neu gludo ac eithrio'r rhai a grybwyllir yn is-baragraffau canlynol y paragraff hwn, rhaid i'r offeryn fod yn system sy'n addas ar gyfer monitro, yn aml ac yn rheolaidd, dymereddau aer yn y cyfrwng hwnnw;

(b)o ran storio mewn siambr oer y mae ei chynhwysedd yn llai na 10m3x2 a hynny ar fangre a ddefnyddir ar gyfer rhoi'r deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ar y farchnad at ddibenion manwerthu, rhaid i'r offeryn fod yn thermomedr a osodir fel bod modd ei weld yn hawdd;

(c)o ran storio mewn cabinet arddangos manwerthol ac eithrio cabinet arddangos manwerthol agored) rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd;

(ch)o ran storio mewn cabinet arddangos manwerthol agored, rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd a rhaid iddo neu rhaid iddynt ddangos y tymheredd ar yr ochr lle mae'r aer yn dychwelyd ar lefel llinell uchafswm llwyth y cabinet hwnnw a honno'n llinell sydd wedi'i marcio'n glir;

(d)o ran cyfrwng cludo ac eithrio—

(i)cerbyd a gofrestrwyd y tu allan i'r Deyrnas Unedig, neu

(ii)cyfrwng cludo pan fo'n cael ei ddefnyddio yn ystod dosbarthiad lleol,

rhaid i'r offeryn fod yn system ar gyfer monitro tymereddau aer—

(a2)y mae ei chywirdeb yn blws neu finws 1°C pan fo'i synhwyrydd yn mesur tymheredd o fewn yr ystod −25°C i +30°C,

(b2)nad yw ei chywirdeb mesur yn newid â mwy na phlws neu finws 0.5°C pan fo'n gweithredu ar dymereddau o fewn yr ystod −20°C i +30°C,

(c2)nad yw ei heglurder arddangos yn fwy nag 1°C, ac

(ch2)sy'n wydn ac sy'n gallu gwrthsefyll sioc;

(dd)o ran cerbyd sydd wedi'i gofrestru y tu allan i'r Deyrnas Unedig, rhaid i'r offeryn fod yn offeryn sydd wedi'i gymeradwyo gan yr awdurdod cymwys yn y wlad y mae'r cerbyd wedi'i gofrestru ynddi; ac

(e)o ran cyfrwng cludo, pan fo hwnnw'n cael ei ddefnyddio yn ystod dosbarthiad lleol, rhaid i'r offeryn fod yn un neu fwy o thermomedrau a osodir fel bod modd ei weld neu eu gweld yn hawdd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

1.  Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Maent yn dirymu ac yn ailddeddfu o ran Cymru Reoliadau Deunyddiau Bwyd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990 (O.S. 1990/2615, fel y'i diwygiwyd), sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd. Yn ychwanegol at barhau i weithredu'r Cyfarwyddebau a bennir ym mharagraff 3 isod, mae'r Rheoliadau hyn yn awr hefyd yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 ar fonitro tymereddau yn y cyfrwng ar gyfer cludo, cadw mewn warws a storio deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl, (OJ Rhif L10, 13.1.2005, t.18).

2.  Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)yn gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym oni fodlonir amodau penodol (rheoliad 3);

(b)yn gwahardd rhoi ar y farchnad ddeunydd bwyd sydd wedi'i rewi'n gyflym ac sydd wedi'i fwriadu ar gyfer y defnyddiwr olaf oni fodlonir amodau penodol ynghylch deunydd pecynnu (rheoliad 4);

(c)yn gosod gofynion sy'n berthnasol i labelu deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym (rheoliad 5);

(ch)yn gosod gofynion mewn perthynas â'r cyfarpar a ddefnyddir mewn cysylltiad â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl (rheoliad 6);

(d)yn darparu ar gyfer arolygiadau ychwanegol o ddeunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac o'r tymereddau a gynhelir mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 7);

(dd)yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd bwyd drefnu bod cofnodion ar gael mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 8);

(e)yn darparu y bydd person sy'n mynd yn groes i un neu rai o ddarpariaethau'r Rheoliadau hyn neu sy'n methu â chydymffurfio â'r ddarpariaeth honno neu'r darpariaethau hynny yn euog o dramgwydd, ac maent yn creu cosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw (rheoliad 9(1));

(f)yn darparu, yn ddarostyngedig i eithriadau penodol, sef cydymffurfio â gofynion trosiannol ar gyfer offerynnau mesur a osodwyd cyn 1 Ionawr 2006 yn achos mynd yn groes i baragraff cyntaf Erthygl 2.2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 a mynd yn groes i Erthygl 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 37/2005 mewn cysylltiad â storfeydd oer bychain mewn allfeydd manwerthu lle y mae tymheredd yr awyr yn cael ei fesur gan thermomedr y mae modd ei weld yn hawdd bod person sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau penodedig y Rheoliad hwnnw neu sy'n methu â chydymffurfio â hwy yn euog o dramgwydd, ac maent yn creu cosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw (rheoliad 9(2), (3) a (4));

(ff)yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi'r Rheoliadau hyn (rheoliad 9(5));a

(g)yn cymhwyso gydag addasiadau ddarpariaethau penodol yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16) at ddibenion y Rheoliadau hyn (rheoliad 10).

3.  Y canlynol yw'r Cyfarwyddebau a weithredir gan O.S. 1990/2615 ac y mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i'w gweithredu—

(a)Cyfarwyddeb y Cyngor 89/108/EEC ar gyd-ddynesu cyfreithiau Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl(18); a

(b)Cyfarwyddeb y Comisiwn 92/2/EEC sy'n gosod y weithdrefn samplu a dull y Gymuned o ddadansoddi er mwyn rheoli'n swyddogol dymereddau bwydydd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L34, 11.2.92, t.30).

4.  Mae Asesiad Rheoliadol llawn o'r effaith a gaiff yr offeryn hwn ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, Llawr 11, Tŷ Southgate, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW, ac fe'i hatodir i'r Memorandwm Esboniadol sydd ar gael ochr yn ochr â'r offeryn ar wefan OPSI.

(3)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran nifer Panelau Gwyddonol parhaol Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop a'u henwau (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(4)

OJ Rhif L40, 11.2.89, t.34, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, a hynny oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.2006, t.411).

(5)

OJ Rhif L034, 11.2.92, t.30.

(7)

OJ Rhif L10, 13.1.05, t.18.

(8)

O.S. 1996/1499, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

1984 p.22; amnewidiwyd adran 7(3)(d) gan baragraff 27 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (1990 p.16).

(10)

1936 p.49; mae adran 6 i'w darllen gyda pharagraff 1 o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(11)

1985 p.51; diwygiwyd paragraff 15(6) gan baragraff 31(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.

(12)

Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.

(13)

Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, yn dechrau ar ddyddiad sydd i'w benodi.

(14)

Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.

(15)

Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.

(18)

OJ Rhif L40, 11.12.89. t.34 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf ar adeg gwneud yr offeryn hwn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2006/107/ EC sy'n addasu Cyfarwyddeb 89/108/EEC sy'n ymwneud â deunyddiau bwyd sydd wedi'u rhewi'n gyflym ac sydd i'w bwyta gan bobl a Chyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n ymwneud â labelu, cyflwyno a hysbysebu deunyddiau bwyd, oherwydd bod Bwlgaria a Romania wedi ymaelodi (OJ Rhif L363, 20.12.06, t.411).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources