Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 397 (Cy.43)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2007

Yn dod i rym

16 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 31(1) a 32(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1):

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio pan fo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol sy'n gweithredu trefniadau amgen;

ystyr “Bwrdd” (“Board”) yw pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 4;

ystyr “corff perthnasol” (“relevant body”) at ddibenion rheoliad 16 yw awdurdod lleol neu Fwrdd;

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;

ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grwp gwleidyddol yn unol â rheoliad 8 o Reoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990(3);

mae “gweithrediaeth” i'w ddehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000;

ystyr “prif bwyllgor craffu” (“principal scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(a);

ystyr “pwyllgor archwilio” (“audit committee”) yw pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c);

ystyr “pwyllgor ardal” (“area committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan reoliad 5(2)(b);

ystyr “pwyllgor craffu” (“scrutiny committee”) yw pwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod a sefydlir o dan reoliad 5(1)(b);

ystyr “pwyllgor cynllunio” (“planning committee”) yw pwyllgor i'r awdurdod â chanddo bwer dirprwyedig i arfer rhai neu'r cyfan o'r swyddogaethau hynny yn Atodlen 1, a hwnnw'n bwyllgor a adnabyddir fel y Pwyllgor Cynllunio neu unrhyw deitl arall a ddarperir yn rheolau sefydlog yr awdurdod lleol;

ystyr “pwyllgor trwyddedu” (“licensing committee”) yw'r pwyllgor a sefydlir o dan adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003;

ystyr “trefniadau amgen” (“alternative arrangements”) yw trefniadau gan awdurdod lleol ynglyn â chyflawni eu swyddogaethau sy'n drefniadau yn unol â rheoliad 3.

Yr awdurdodau lleol a gaiff weithredu trefniadau amgen

3.—(1Caiff pob awdurdod lleol weithredu trefniadau amgen.

(2Mae trefniadau amgen yn drefniadau a wneir yn unol â'r Rheoliadau hyn a Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001(4).

(3Pennir bod trefniadau sy'n unol â pharagraff (2) yn drefniadau amgen at ddibenion Rhan II o Ddeddf 2000.

(4I'r graddau y mae unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn anghyson ag unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysi (Cymru) 2001, y ddarpariaeth yn y Rheoliadau olaf hynny fydd yn drech.

Sefydlu Bwrdd

4.—(1Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu Bwrdd.

(2Rhaid i'r Bwrdd beidio â chynnwys cadeirydd neu ddirprwy gadeirydd yr awdurdod lleol na chadeirydd unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor arall i'r awdurdod.

(3Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddirprwyo ei swyddogaethau i Fwrdd, yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau yn rheoliadau 10 i 13.

(4Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i Fwrdd yn unol â pharagraff (3).

(5Yn ddarostyngedig i unrhyw drefniadau a wneir o dan reoliad 16, caiff y Bwrdd drefnu bod unrhyw un o'i swyddogaethau yn cael eu cyflawni —

(i)gan aelod o'r Bwrdd;

(ii)gan is-bwyllgor i'r Bwrdd;

(iii)gan swyddog i'r awdurdod.

Sefydlu pwyllgorau eraill

5.—(1Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu'n unol â rheoliad 6 —

(a)prif bwyllgor craffu; a

(b)unrhyw bwyllgorau craffu ychwanegol (heb fod yn llai na thri nac yn fwy nag wyth o ran nifer) y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer.

(2Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen sefydlu —

(a)pwyllgor cynllunio;

(b)unrhyw bwyllgorau ardal y bydd rheolau sefydlog yr awdurdod lleol yn darparu ar eu cyfer;

(c)pwyllgor archwilio;

(ch)pwyllgor apelau cyflogi;

(d)uchafswm o bedwar pwyllgor arall, y caiff rheolau sefydlog yr awdurdod lleol ddarparu ar eu cyfer, a'r rheini'n bwyllgorau y mae'r unig swyddogaethau y maent yn eu harfer yn rhai nad ydynt, yn unol â'r Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall, yn gyfrifoldeb Bwrdd awdurdod lleol ar yr amod bod unrhyw benderfyniad i sefydlu pwyllgor o'r fath yn cael ei hysbysu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o fewn saith niwrnod i'r penderfyniad.

(3Mae'r pwyllgorau a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) yn ychwanegol at unrhyw bwyllgorau y mae'n ofynnol o dan unrhyw ddeddfiad i'r awdurdod eu sefydlu.

Prif Bwyllgorau Craffu a Phwyllgorau Craffu

6.—(1O ran prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath:

(a)rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw aelodau o'r Bwrdd; a

(b)rhaid iddo gael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod; ac

(2Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei brif bwyllgor craffu a'i bwyllgorau craffu bwer rhyngddynt i wneud y canlynol —

(a)adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu graffu ar y penderfyniadau hynny neu'r camau eraill hynny, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(b)cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;

(c)cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod (neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod lleol neu unrhyw gyd-bwyllgor y mae gan yr awdurdod lleol gynrychiolydd arno) ar faterion sy'n effeithio ar ardal yr awdurdod neu drigolion yr ardal honno;

(ch)yn achos penderfyniad sydd wedi'i wneud ond sydd heb ei weithredu, argymell y dylai'r penderfyniad gael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad hwnnw neu drefnu bod ei swyddogaeth o dan is-baragraff (a) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff prif bwyllgor craffu na phwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth onid yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.

(5Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol, o ran cynnal adolygiadau gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(5) yn gyfrifoldeb Bwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu bod y prif bwyllgor craffu neu unrhyw bwyllgor craffu yn cynnal adolygiad o'r fath.

(6Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu —

(a)benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; a

(b)trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(7Ni chaiff is-bwyllgor i brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).

(8Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sy'n galluogi —

(a)unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;

(b)unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac

(c)prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig y Bwrdd i'r awdurdod lleol ar yr amod bod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.

(9Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor o'r fath nac unrhyw is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.

(10Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath —

(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a

(b)gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.

(11Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (10) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.

Pwyllgor Archwilio

7.—(1I'r graddau y caniateir i bwerau awdurdod lleol ynghylch ei swyddogaethau archwilio o dan unrhyw ddeddfiad gael eu dirprwyo i bwyllgor neu is-bwyllgor, caiff awdurdod lleol ddirprwyo i bwyllgor archwilio.

(2O ran pwyllgor archwilio a sefydlir o dan reoliad 5(2)(c):

(a)rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw un o aelodau'r Bwrdd; a

(b)rhaid iddo beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â Chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan fo un grŵp gwleidyddol yn unig);

(c)caiff benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; ac

(ch)caiff drefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.

(3Ni chaiff is-bwyllgor i bwyllgor archwilio gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (2).

(4Caiff pwyllgor archwilio neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio mewn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw ac ni fydd ganddynt hawl i fod yn gadeirydd pwyllgor neu is-bwyllgor o'r fath.

Pwyllgorau Ardal

8.—(1Mae pwyllgor ardal neu is-bwyllgor yn bwyllgor neu is-bwyllgor sy'n bodloni'r amodau canlynol:

(a)bod y pwyllgor neu'r is-bwyllgor wedi'i sefydlu i gyflawni ar gyfer rhan o ardal yr awdurdod unrhyw swyddogaethau (ac eithrio swyddogaethau a ddisgrifir yn rheoliad 6(3)) y bydd yr awdurdod lleol yn eu dyfarnu;

(b)bod aelodau'r pwyllgor neu'r is-bwyllgor sy'n aelodau o'r awdurdod wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol yn y rhan honno; ac

(c)yn achos pwyllgor yn unig, nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn llai na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly.

(2Pan fo awdurdod lleol yn sefydlu pwyllgorau ardal—

(a)rhaid cael o leiaf dri phwyllgor o'r fath a rhaid iddynt ymdrin â'r cyfan o ardal yr awdurdod lleol; a

(b)bydd gan bob aelod o'r awdurdod lleol hawl i fod yn aelod o un pwyllgor ardal.

(3Caiff corff perthnasol drefnu i unrhyw swyddogaethau sy'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i'r awdurdod hwnnw.

(4Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal yn rhinwedd y rheoliad hwn, yna, oni fydd y corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor ardal drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan is-bwyllgor i'r pwyllgor hwnnw neu gan un o swyddogion yr awdurdod.

(5Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i bwyllgor ardal yn rhinwedd paragraff (4), yna, oni fydd y pwyllgor ardal neu'r corff perthnasol yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o swyddogion yr awdurdod.

(6Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor ardal i atal y corff perthnasol rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(7Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl iddo wneud trefniadau o dan y rheoliad hwn, rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(8Wrth baratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (7) uchod, rhaid i'r Bwrdd roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

Gofynion ar gyfer pwyllgorau ac is-bwyllgorau

9.—(1Mae pob pwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i gael ei drin fel pwyllgor neu is-bwyllgor i brif gyngor at ddibenion Rhan VA o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol).

(2Mae pob pwyllgor awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn (ac eithrio pwyllgor ardal) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i'w drin fel corff y mae adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989(6) (dyletswydd i ddyrannu seddi i grwpiau gwleidyddol) yn gymwys iddo.

(3Yn ddarostyngedig i unrhyw ddeddfiad, rhaid i bob pwyllgor awdurdod lleol (ac eithrio'r Bwrdd) a phob is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath (ac eithrio is-bwyllgor i'r Bwrdd) —

(a)cynnwys ymhlith ei aelodau fwyafrif o aelodau'r awdurdod nad ydynt yn aelodau o'r Bwrdd; a

(b)cael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod ond nad yw'n aelod o'r Bwrdd.

(4Rhaid i bwyllgor neu is-bwyllgor i awdurdod lleol a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, ac eithrio pwyllgor ardal, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fod wedi'i ffurfio o uchafswm o ddeg aelod neu ugain y cant o aelodau'r awdurdod, (wedi'i gyfrifo drwy dalgrynnu nifer yr aelodau i fyny i'r Rhif cyfan agosaf pan nad yw nifer yr aelodau yn Rhif cyfan wrth gyfrifo'r ganran) p'un bynnag yw'r mwyaf.

(5Rhaid i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau amgen ddyrannu cadeiryddiaethau pwyllgorau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau, cyn belled ag y bo'n ymarferol, fod cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol yn yr awdurdod lleol yn cael ei adlewyrchu gan y cadeiryddiaethau hynny.

(6Rhaid i bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath sy'n gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau a restrir yn Rhan A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu) gael wyth aelod o leiaf.

(7Mae is-adrannau (2) a (5) o adran 102 o Ddeddf 1972 i fod yn gymwys i bwyllgor a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn, neu i is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, fel y maent yn gymwys i bwyllgor a benodir o dan yr adran honno.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod

10.—(1Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod.

(2Nid yw swyddogaethau —

(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —

(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii)ac eithrio gan Fwrdd yr awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu

(b)dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(3Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —

(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,

(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt, neu

(c)yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(4Nid yw swyddogaeth —

(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b)dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(5Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6Nid yw swyddogaethau dyfarnu ar y canlynol, sef —

(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —

(i)o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);

(ii)o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);

(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(7);

(iv)o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);

(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);

(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau ar gyfer unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw eu dyroddi yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod; a

(d)pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;

i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(7Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8Yn ddarostyngedig i reoliad 16, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir iddi gael ei chyflawni, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod

11.  Caniateir i'r swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig

12.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —

(a)llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b)llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c)llunio neu baratoi unrhyw gynllun neu strategaeth arall y mae eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 13(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;

nid yw'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(2Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(3Y camau dynodedig yw —

(a)rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r Bwrdd ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(b)diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan y Bwrdd i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(c)cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (p'un a yw ar ffurf ddrafft ai peidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;

(ch)mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —

(a)mae'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —

(i)yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii)wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond

(b)nid yw'n gyfrifoldeb i'r Bwrdd i unrhyw raddau eraill.

(5Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —

(a)o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (8); neu

(b)o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n angenrheidiol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 1985(9),

yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(6Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(8Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —

(a)swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b)y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(9Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(10), p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b)dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,

mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“y camau dynodedig”) yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

(10Ac eithrio fel y darperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb y Bwrdd yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(11Y camau dynodedig yw —

(a)paratoi'r canlynol, er mwyn eu cyflwyno i'r awdurdod eu hystyried—

(i)amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii)y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b)ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c)cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.

Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau

13.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —

(a)pan fo'n rhesymol barnu bod yr amgylchiadau, sy'n peri iddi fod yn angenrheidiol gwneud y dyfarniad, yn amgylchiadau brys; a

(b)pan fo'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i'w wneud ganddo wedi cael oddi wrth gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, oddi wrth gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, oddi wrth yr is-gadeirydd, ddatganiad mewn ysgrifen fod angen i'r dyfarniad gael ei wneud ar frys.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

(4Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r dyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —

(a)y dyfarniad;

(b)yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odano neu odanynt; ac

(c)y rhesymau dros y dyfarniad.

(5Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod.

Cyfarwyddiadau gan y Bwrdd i bwyllgorau cynllunio a phwyllgorau trwyddedu

14.  Caiff y Bwrdd gyfarwyddo mai'r awdurdod lleol sydd i ddyfarnu ar unrhyw benderfyniad sydd i'w wneud gan bwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu neu bwyllgor ardal mewn perthynas â swyddogaeth unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o ran A o Atodlen 1 (swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu).

Cyflawni swyddogaethau gan awdurdod lleol arall

15.—(1Caiff Bwrdd wneud trefniadau i swyddogaeth y mae'n gyfrifol amdani gael ei chyflawni naill ai gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw.

(2Caiff awdurdod lleol drefnu i swyddogaeth, nad yw'r Bwrdd yn gyfrifol amdani, gael ei chyflawni gan awdurdod lleol arall neu gan Fwrdd neu ŵeithrediaeth yr awdurdod lleol arall hwnnw.

(3Nid yw unrhyw drefniadau a wneir o dan y rheoliad hwn i atal y corff a wnaeth y trefniadau rhag arfer y swyddogaethau y maent yn ymwneud â hwy.

(4Pan fo trefniadau wedi'u gwneud o dan baragraff (1) neu (2) uchod, yna, yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, caiff yr awdurdod arall hwnnw drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan bwyllgor, is-bwyllgor neu swyddog iddynt.

(5Os caniateir i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan bwyllgor awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff (4) uchod, yna, oni fydd yr awdurdod hwnnw yn cyfarwyddo fel arall, caiff y pwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan un o is-bwyllgorau neu un o swyddogion yr awdurdod.

(6Os caniateir i unrhyw swyddogaethau, yn rhinwedd paragraff (4) neu (5) uchod, gael eu cyflawni gan is-bwyllgor i awdurdod lleol, yna, oni bai bod yr awdurdod hwnnw neu, yn ôl y digwydd, y pwyllgor hwnnw, yn cyfarwyddo fel arall, caiff yr is-bwyllgor drefnu i unrhyw un o'r swyddogaethau hynny gael ei chyflawni gan swyddog i'r awdurdod.

Arfer swyddogaethau ar y cyd

16.—(1Caiff corff perthnasol wneud trefniadau o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972 yn unol â'r rheoliad hwn.

(2Rhaid i'r trefniadau gael eu gwneud —

(a)pan fo'r swyddogaethau y mae'r trefniadau yn ymwneud â hwy yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod lleol arall o dan sylw neu i ŵeithrediaeth yr awdurdod arall hwnnw, gyda'r corff perthnasol sydd â'r pwer i wneud y trefniadau hynny ar ran yr awdurdod hwnnw;

(b)mewn unrhyw achos arall, gyda'r awdurdod lleol arall.

(3Os yw'r trefniadau yn darparu i swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor, rhaid i benodiadau personau sydd i gynrychioli pob awdurdod lleol ar y pwyllgor hwnnw gael eu gwneud, a rhaid i'r corff perthnasol, y mae'r trefniadau yn cael eu gwneud ganddo ar ran yr awdurdod hwnnw, ddyfarnu ar nifer y personau hynny sydd i'w penodi.

(4Yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau yn destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff cyd-bwyllgor a benodir yn unol â'r rheoliad hwn drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan is-bwyllgor neu gan swyddog i un o'r awdurdodau o dan sylw, ac yn ddarostyngedig i delerau'r trefniadau, ac oni bai bod y cyd-bwyllgor neu'r corff perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod lleol y mae ei swyddogaethau'n destun y trefniadau yn cyfarwyddo fel arall, caiff unrhyw is-bwyllgor o'r fath drefnu i unrhyw un o'i swyddogaethau gael ei chyflawni gan swyddog o'r fath.

(5Nid yw unrhyw drefniadau a wneir yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol i unrhyw swyddogaethau gael eu cyflawni gan gyd-bwyllgor i atal y corff hwnnw rhag arfer y swyddogaethau hynny.

(6Pan fo trefniadau a wneir ar ran awdurdod lleol yn unol â'r rheoliad hwn gan gorff perthnasol yn darparu ar gyfer penodi i gyd-bwyllgor bersonau nad ydynt yn aelodau o Fwrdd yr awdurdod hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl gwneud y trefniadau, rhaid i'r corff perthnasol sicrhau bod copïau o ddogfen sy'n nodi darpariaethau'r trefniadau ar gael ym mhrif swyddfa'r awdurdod i gael eu harolygu gan aelodau o'r cyhoedd ar bob adeg resymol.

(7Rhaid i gorff perthnasol sy'n paratoi'r ddogfen y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (6) uchod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 38 o Ddeddf 2000.

(8Bydd rhan VA o Ddeddf 1972 (cyfle i fynd i gyfarfodydd ac i weld dogfennau awdurdodau, pwyllgorau ac is-bwyllgorau penodol) yn gymwys i is-bwyllgor a sefydlir yn unol â'r rheoliad hwn.

Aelodau cyd-bwyllgorau

17.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, rhaid i bob person a benodir i gyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 16 uchod gan gorff perthnasol fod yn aelod o'r awdurdod lleol, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi aelodau o'r fath.

(2Pan fo'r canlynol yn wir, sef —

(a)bod gan y cyd-bwyllgor swyddogaethau mewn perthynas â rhan yn unig o ardal un o'r awdurdodau lleol o dan sylw;

(b)bod y swyddogaethau hynny yn gyfrifoldeb i Fwrdd yr awdurdod hwnnw; ac

(c)nad yw poblogaeth y rhan honno, yn ôl amcangyfrif yr awdurdod, yn fwy na phymtheg y cant o gyfanswm poblogaeth ardal yr awdurdod fel y mae wedi'i amcangyfrif felly,

caiff cynrychiolwyr yr awdurdod hwnnw ar y cyd-bwyllgor gynnwys unrhyw aelodau o'r awdurdod hwnnw sydd wedi'u hethol dros adrannau neu wardiau etholiadol sy'n gyfan gwbl neu'n rhannol o fewn y rhan honno o ardal yr awdurdod, ac ni fydd y gofynion ynghylch cydbwysedd gwleidyddol yn gymwys wrth benodi'r aelodau hynny.

Dirymu

18.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001(11);

(b)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002(12);

(c)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003(13); ac

(ch)Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004(14).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(15).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007

Rheoliad 10

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD

(1)(2)
Y SwyddogaethY ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

A.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu

1.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

2.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3.  Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(16).

4.  Y pŵer i wrthod dyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(17).

5.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall.

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. 1992/1492)(18).

7.  Y pŵer i wneud dyfarniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8.  Y pŵer i gytuno ar rwymedigaeth gynllunio sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(19).

9.  Y pŵer i ddyroddi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(20).

10.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

11.  Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(21).

12.  Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(22).

13.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(23).

15.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(24).

16.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol gynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(25).

17.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd Rhan I neu Ran II gweithredol, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 16(1) a (2), 17 a 33(1) o Ddeddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

21.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno(26).

22.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 13(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a rheoliadau 3 i 13 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96: Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25.  Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(27).

27.  Y pŵer i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28.  Pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29.  Pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30.  Pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33).

31.  Dyletswyddau mewn perthynas â gorchmynion prynu.

Adrannau 137-144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32.  Pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau malltod.

Adrannau 149-171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

B.  Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)

1.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau (“trwyddedau safle”).

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62).

2.  Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49)

3.  Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

(a)o ran cerbydau hacnai, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 a 11 Vict. p. 89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 a 39 Vict. p. 55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57);

(b)o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

4.  Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

5.  Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6.  Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 (p. 2)(28).

7.  Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(29).

8.  Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i.

Atodlenni 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(30).

9.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 (p. 65) (31).

10.  Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hyrwyddo loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)(32).

11.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (33).

12.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12).

13.  Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

14.  Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

15.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer aciwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

16.  Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)(34).

17.  Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

18.  Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972(p. 66) (35).

19.  Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Anifeiliaid Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedau Helwriaeth 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

20.  Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu mangreoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

21.  Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p. 69).

22.  Y pŵer i ddyroddi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)(36).

23.  Y pŵer i ddyroddi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer standiau rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

24.  Dyletswydd i hyrwyddo diogelwch rhag tân.

Adran 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

25.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

26.  Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)(37); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)(38); Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70)(39); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)(40), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

27.  Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p. 38)(41).

28.  Y pŵer i drwyddedu swau.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 (p. 37).

29.  Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38).

30.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Rheoliad 49 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1292 (Cy.127)).

31.  Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37).

32.  Y pŵer i gymeradwyo mangreoedd ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil.

Adran 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76), adran 6A o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) a Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005 (O. S. 2005/3168 (42).

33.  Y pŵer i gofrestru tir comin neu feysydd gleision trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pwer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig—

(a)cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn rhoi effaith iddo (p. 67); neu

(b)gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p. 118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

34.  Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)(43).

35.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i gasglu ar gyfer achosion elusennol.

Adran 68 o Ddeddf Elusennau 1992.

36.  Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40).

37.  Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

38.  Dyletswydd i gofrestru symudiadau moch.

Rheoliadau 21(3) and (4) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/996 (Cy.104)).

39.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â symud moch.

Rheoliad 27(1) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 /996 (Cy.104)).

40.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871).

41.  Y pŵer i roi hawl i rannau o adeiladau gael eu defnyddio i storio seliwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilmiau Seliwloid a Sinematograff 1922 (p. 35).

42.  Y ddyletswydd i orfodi a gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 852/2004 a 853/2004 mewn perthynas â gweithredwyr busnesau bwyd fel y'u pennir ymhellach yn rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006.

Rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006(44).

43.  Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu.

Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

C.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith

Swyddogaethau o dan “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni mewn fordd wahanol i'w cyflawni yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr.Rhan I o Ddeddf Iechyd a unrhyw un o'r etc. 1974 (p. 37). Diogelwch yn y Gwaith

Ch.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau

1.  Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)(45).

2.  Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(46).

3.  Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau.

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

5.  Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6.  Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7.  Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Adran 6(7) ac (8) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002.

8.  Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9.  Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10.  Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

11.  Y pŵer i dalu treuliau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12.  Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13.  Y ddyletswydd i ddatgan bod lle gwag mewn swydd mewn achosion penodol.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 .

14.  Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i ddyfarnu ar ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17.  Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18.  Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, O.S. 2003/284.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, OS 2003/284(47).

D.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion

1.  Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol.

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2.  Y pŵer i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3.  Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn rhyddfreiniwr mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dd.  Y pŵer i wneud, diwygio, dirymu neu ailddeddfu is-ddeddfau

Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 300)(48).

E.  Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol.

Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

F.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.

1.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11)(49).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd.

Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

3.  Swyddogaethau o dan gynlluniau pensiwn sy'n bodoli eisoes o ran personau sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Ff.  Swyddogaethau amrywiol

1.  Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (50).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p.38).

3.  Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892).

4.  Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd (perthi) pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 (O.S. 1997/1160).

5.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 o Atodlen 12 iddi.

6.  Penodi a diswyddo staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

7.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau.

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

8.  Y pŵer i ystyried adroddiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Adran 19 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10).

9.  Y pŵer i wneud gorchymyn yn nodi lle fel lle cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.

Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).

10.  Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.

Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).

11.  Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”).

Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

12.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

13.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

14.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar derfyn benthyca fforddiadwy.

Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).

15.  Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

16.  Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.

Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).

Rheoliad 11

ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU Y CANIATEIR IDDYNT FOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD) YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol ac eithrio swyddogaeth a bennwyd neu y cyfeiriwyd ati yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau a wnaed mewn cysylltiad â hawliadau budd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor ac am apelau yn erbyn penderfyniadau o'r fath o dan adran 68 o Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol ac Atodlen 7 iddi.(51).

4.  Gwneud trefniadau ynglŷn ag apelau yn erbyn gwahardd disgyblion mewn ysgolion a gynhelir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1), (1A) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu).

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n effeithiol am y tro o dan adran 5 (adolygiadau gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(52).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(53).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(54).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(55).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(56).

14.  Arolygu ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(57).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol.

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir(58).

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(59).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(60).

19.  Penodi unrhyw unigolyn —

(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b)i unrhyw gorff ac eithrio —

(i)yr awdurdod;

(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau; neu

(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.(61).

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

22.  Swyddogaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(b)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(c)dyfarnu ar swm y mae ei angen i ddyfarnu ar swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.

23.  Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.

24.  Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a)rhagnodi ffioedd yn unol ag adran 212 o Ddeddf Gamblo 2005;

(b)gwneud gorchymyn yn datgymhwyso adran 279 neu adran 282 (1) o Ddeddf Gamblo 2005 yn unol ag adran 284 o Ddeddf Gamblo 2005;

(c)personau awdurdodedig yn unol ag adran 304 o Ddeddf Gamblo 2005;

(ch)erlyniadau gan awdurdod trwyddedu yn unol ag adran 346 o Ddeddf Gamblo 2005.

Rheoliad 12(1)

ATODLEN 3SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD YN UNIG

(1)(2)
Cynlluniau a strategaethauY Cyfeiriad
Y Cynllun Addysg SenglRheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)).
Cynllun Perfformiad Gwerth GorauAdran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27).
Strategaeth GymunedolAdran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac AnhrefnAdrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Y Strategaeth Iechyd a LlesAdran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17).
Y Cynllun Trafnidiaeth LleolAdran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38).
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun DatblyguAdran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).
Y Cynllun Iaith GymraegAdran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38).
Y Cynllun Cyfiawnder IeuenctidAdran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl IfancAdrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).
Y Strategaeth TaiAdran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).

Rheoliad 13

ATODLEN 4YR AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I FWRDD AWDURDOD ODANYNT

(1)(2)
Y swyddogaethYr amgylchiadau

1.  Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth.

2.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b)sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno —

(a)

o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy —

(i)

cyllideb yr awdurdod; neu

(ii)

y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a

(b)

heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b)y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn pennu pa awdurdodau lleol a gaiff weithredu “trefniadau amgen” (h.y. trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau'r awdurdod nad ydynt yn golygu creu a gweithredu gweithrediaeth i'r awdurdod) (adran 31(1)(b)) ac yn pennu ffurf y trefniadau hynny (adran 32(1)).

Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i bob cyngor sir a phob cyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru weithredu trefniadau amgen, ar yr amod bod y trefniadau hynny ar y ffurf sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn.

Mae'r Rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Cymru) 2001, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Amgen) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004”), yn cydgrynhoi darpariaethau'r rheoliadau hyn ac yn gwneud darpariaeth bellach.

Mae rheoliadau 4 a 5 yn pennu'r pwyllgorau y mae'n rhaid eu sefydlu pan fo awdurdod yn gweithredu trefniadau amgen, sef Bwrdd, prif bwyllgor craffu ac unrhyw bwyllgorau craffu eraill y penderfynir arnynt gan y cyngor (ar yr amod bod o leiaf dri a hyd at wyth ohonynt a hynny'n ychwanegol at y prif bwyllgor craffu). Mae gan awdurdodau ddisgresiwn i benderfynu a fyddant yn sefydlu pwyllgor cynllunio, pwyllgor trwyddedu, pwyllgorau ardal a phwyllgor archwilio.

Mae rheoliadau 10, 11, 12 a 13, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau, yn nodi'r cyfyngiadau ar ba swyddogaethau y caiff Bwrdd awdurdod lleol eu harfer. Yn Atodlen 1 rhestrir y swyddogaethau hynny y mae'n rhaid i'r Bwrdd beidio â'u harfer ac yn Atodlen 2 rhestrir y swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod, os bydd yr awdurdod yn penderfynu felly. Mae Rheoliad 12, drwy gyfeirio at Atodlen 3, yn nodi'r camau na chaniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i Fwrdd awdurdod yn unig. Yn ôl rheoliad 13, nid yw'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 4, a fyddai'n gyfrifoldeb i Fwrdd oni bai am reoliad 13, i fod yn gyfrifoldeb i'r Bwrdd o dan yr amgylchiadau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.

Mae Rheoliad 18 yn dirymu Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).

(4)

O.S. 2001/3711 (Cy.307) a ddiwygir yn rheoliad 2 gan Reoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001 (O.S. 2001 / 2913 (Cy. 210)), rheoliad 10.

(6)

1989 p.42. Mae adran 18 wedi'i diwygio gan adran 99(3) i (9) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

(7)

Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344).

(8)

1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(9)

1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.

(10)

1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1.

(15)

1998 p.38.

(16)

Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.

(17)

Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.

(18)

Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.

(19)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(20)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(21)

O.S. 1992/666, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(22)

Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael gwybod o dan ba amgylchiadau y caniateir i'r hawl gael ei harfer, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(23)

Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(24)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(25)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991

(26)

Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(27)

Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 25, Atodlen 3, paragraff 7.

(28)

Diddymwyd Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(29)

Diddymwyd Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn â thrwydded betio ar gyfer trac sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007, gweler O.S. 2006/1758, erthygl 2. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(30)

Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6). Diddymwyd Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae'r diddymiad i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(31)

Diddymwyd Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 gan adran 356(g) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn ag adnewyddu neu roi trwyddedau, gweler O.S. 2006/1758, erthyglau 5 a 6. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(32)

Diddymwyd Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 gan adran 356(3)(i) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae diddymu Atodlen 1 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(33)

Wedi'i diddymu gan Ddeddf Gamblo 2005, adran 356(3)(i),(4), Atodlen 17. I gael gweld y darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag unrhyw drwydded o dan adran 16 sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007. Gweler O.S. 2006/1758, erthygl 7. Mae diddymiad Atodlen 3 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w bennu o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(34)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).

(35)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1). Gweler O.S. 1973/1851 ac O.S. 1977/2128.

(36)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi.

(37)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(38)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) o'r Atodlen.

(39)

Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(40)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.

(41)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988.

(42)

Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).

(43)

Diwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(44)

O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 / 1534 (Cy.151)).

(45)

Wedi'i deddfu'n wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Seneddol Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.

(46)

Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(47)

Dirymodd O.S. 2003/284 Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/834). Mae O.S. 2003/284 yn atgynhyrchu O.S. 1999/450 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/834 gan wneud darpariaethau ychwanegol.

(48)

Cymhwysir adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 i is-ddeddfau sy'n cael eu gwneud o dan adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran I o Atodlen 2 iddi.

(49)

O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).

(52)

1999 p.27.

(53)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno.

(54)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).

(55)

Adran 8 o Ddeddf Swn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

(56)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(57)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(58)

1990 p.8.

(59)

1976 p.57.

(60)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23.

(61)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources