- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
6.—(1) O ran prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath:
(a)rhaid iddo beidio â chynnwys unrhyw aelodau o'r Bwrdd; a
(b)rhaid iddo gael cadeirydd sy'n aelod o'r awdurdod; ac
(2) Rhaid i brif bwyllgor craffu beidio â chael cadeirydd sy'n aelod o'r un grŵp gwleidyddol â chadeirydd y Bwrdd (ac eithrio pan nad oes ond un grwp gwleidyddol).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gan ei brif bwyllgor craffu a'i bwyllgorau craffu bwer rhyngddynt i wneud y canlynol —
(a)adolygu penderfyniadau a wnaed, neu gamau eraill a gymerwyd, neu graffu ar y penderfyniadau hynny neu'r camau eraill hynny, mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;
(b)cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod mewn cysylltiad â chyflawni unrhyw un o swyddogaethau'r awdurdod;
(c)cyflwyno adroddiadau neu argymhellion i'r awdurdod (neu unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i'r awdurdod lleol neu unrhyw gyd-bwyllgor y mae gan yr awdurdod lleol gynrychiolydd arno) ar faterion sy'n effeithio ar ardal yr awdurdod neu drigolion yr ardal honno;
(ch)yn achos penderfyniad sydd wedi'i wneud ond sydd heb ei weithredu, argymell y dylai'r penderfyniad gael ei ailystyried gan y pwyllgor, yr is-bwyllgor neu'r person a wnaeth y penderfyniad hwnnw neu drefnu bod ei swyddogaeth o dan is-baragraff (a) yn cael ei harfer gan yr awdurdod.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff prif bwyllgor craffu na phwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaeth onid yw'n unol â'r Rheoliadau hyn.
(5) Os nad yw, neu i'r graddau nad yw, swyddogaeth awdurdod lleol, o ran cynnal adolygiadau gwerth gorau o dan adran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(1) yn gyfrifoldeb Bwrdd yr awdurdod, caiff yr awdurdod drefnu bod y prif bwyllgor craffu neu unrhyw bwyllgor craffu yn cynnal adolygiad o'r fath.
(6) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu —
(a)benodi un neu fwy o is-bwyllgorau; a
(b)trefnu i unrhyw is-bwyllgor o'r fath gyflawni unrhyw un o'i swyddogaethau.
(7) Ni chaiff is-bwyllgor i brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu gyflawni unrhyw swyddogaethau ac eithrio'r rhai a roddir iddo o dan baragraff (6).
(8) Rhaid i drefniadau amgen gan awdurdod lleol gynnwys darpariaeth sy'n galluogi —
(a)unrhyw aelod o brif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r pwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r pwyllgor ac yn cael ei drafod yno;
(b)unrhyw aelod o is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath i sicrhau bod unrhyw fater sy'n berthnasol i swyddogaethau'r is-bwyllgor yn cael ei gynnwys ar yr agenda ar gyfer cyfarfod o'r is-bwyllgor ac yn cael ei drafod yno; ac
(c)prif bwyllgor craffu neu bwyllgor craffu i gyfeirio unrhyw fater mewn cysylltiad â phenderfyniad neu benderfyniad arfaethedig y Bwrdd i'r awdurdod lleol ar yr amod bod y penderfyniad neu'r penderfyniad arfaethedig yn ymwneud â swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw.
(9) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu unrhyw is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath, gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o'r awdurdod, ond ni fydd gan unrhyw bersonau o'r fath hawl i bleidleisio yn unrhyw un o gyfarfodydd pwyllgor o'r fath nac unrhyw is-bwyllgor o'r fath ar unrhyw gwestiwn sydd i gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwnnw.
(10) Caiff prif bwyllgor craffu a phwyllgor craffu, neu is-bwyllgor i bwyllgor o'r fath —
(a)ei gwneud yn ofynnol i aelodau o'r Bwrdd ac i swyddogion o'r awdurdod fod yn bresennol ger ei fron i ateb cwestiynau, a
(b)gwahodd personau eraill i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor neu'r is-bwyllgor.
(11) Bydd unrhyw aelod o'r Bwrdd neu unrhyw un o swyddogion yr awdurdod sydd wedi'i awdurdodi i fod yn bresennol i ateb cwestiynau yn unol â pharagraff (10) o dan ddyletswydd i wneud hynny ond ni fydd ar unrhyw aelod neu swyddog o'r fath rwymedigaeth i ateb unrhyw gwestiwn y byddai gan y person hwnnw hawl i wrthod ei ateb mewn achos, neu at ddibenion achos, mewn llys yng Nghymru neu Loegr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: