Search Legislation

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 399 (Cy.45)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

Wedi'u gwneud

14 Chwefror 2007

Yn dod i rym

16 Chwefror 2007

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 13 a 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2);

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 2000;

mae “deddfiad” (“enactment”) yn cynnwys deddfiad sydd wedi'i gynnwys mewn Deddf leol neu ddeddfiad y mae is-ddeddfwriaeth wedi'i ffurfio ohono;

mae “gweithrediaeth” i'w dehongli yn unol ag ystyr “executive” yn adran 11 o Ddeddf 2000.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod

3.—(1Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.

(2Nid yw swyddogaethau —

(a)gosod unrhyw amod, terfyn neu gyfyngiad arall ar gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir —

(i)wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1; neu

(ii)ac eithrio gan weithrediaeth i'r awdurdod, wrth arfer unrhyw swyddogaeth o dan Ddeddf leol; neu

(b)dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(3Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —

(a)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a roddwyd wrth arfer swyddogaeth a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1,

(b)yn erbyn unrhyw fethiant i gydymffurfio ag amod, cyfyngiad neu deler y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddo, neu

(c)yn erbyn unrhyw doriad arall o ran mater na fyddai'r swyddogaeth ynglŷn ag ef o ddyfarnu ar gais am gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.

(4Nid yw swyddogaeth —

(a)diwygio, addasu neu amrywio unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad a ganiateir, nac unrhyw amod, terfyn, cyfyngiad neu deler o'r math a grybwyllwyd ym mharagraff (2) ac y mae'n ddarostyngedig iddynt; neu

(b)dirymu unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath,

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(5Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Nid yw swyddogaethau dyfarnu —

(a)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy —

(i)o dan is-adran (5) o adran 22 o Ddeddf 1972 (treuliau cadeirydd);

(ii)o dan is-adran (4) o adran 24 o'r Ddeddf honno (treuliau is-gadeirydd);

(iii)o dan is-adran (4) o adran 173 (lwfans colled ariannol) o'r Ddeddf honno(3);

(iv)o dan adran 175 o'r Ddeddf honno (lwfansau ar gyfer mynychu cynadleddau a chyfarfodydd);

(b)yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);

(c)swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau o ran unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;

(ch)a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw ei dyroddi neu ei ddyroddi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a

(d)pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(7Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).

(8Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf 2000, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) iddi gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod

4.—(1Caniateir i'r y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.

(2Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i weithrediaeth i'r awdurdod.

Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig

5.—(1Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —

(a)llunio neu baratoi cynllun neu strategaeth o ddisgrifiad a bennir yn ngholofn (1) o Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn;

(b)llunio cynllun neu strategaeth ar gyfer rheoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod; neu

(c)llunio neu baratoi unrhyw gynllun arall y mae ei fabwysiadu neu ei gymeradwyo neu strategaeth arall y mae ei mabwysiadu neu ei chymeradwyo, yn rhinwedd rheoliad 6(1), yn fater i'r awdurdod ddyfarnu arno;

rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) (“y camau dynodedig”) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(2Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(3Y camau dynodedig yw —

(a)rhoi cyfarwyddiadau sy'n ei gwneud yn ofynnol i weithrediaeth ailystyried unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(b)diwygio unrhyw gynllun drafft neu strategaeth ddrafft a gyflwynir gan weithrediaeth i'r awdurdod ei ystyried neu ei hystyried;

(c)cymeradwyo, er mwyn ei gyflwyno neu ei chyflwyno i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw un o Weinidogion y Goron, unrhyw gynllun neu strategaeth (boed ar ffurf drafft neu beidio) y mae'n ofynnol cyflwyno unrhyw ran ohono neu ohoni felly;

(ch)mabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth (gydag addasiadau neu hebddynt).

(4O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —

(a)mae'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod i'r graddau y mae gwneud y diwygio, yr addasu, yr amrywio neu'r dirymu —

(i)yn ofynnol er mwyn rhoi eu heffaith i ofynion Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu un o Weinidogion y Goron mewn perthynas â chynllun neu strategaeth a gyflwynir i gael ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo, neu ag unrhyw ran a gyflwynir felly; neu

(ii)wedi'i awdurdodi drwy ddyfarniad a wnaed gan yr awdurdod wrth wneud y trefniadau neu gymeradwyo neu fabwysiadu'r cynllun neu'r strategaeth, yn ôl y digwydd; ond

(b)nid yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i unrhyw raddau eraill.

(5Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —

(a)o dan is-adran (5) o adran 135 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (rhaglenni ar gyfer gwaredu) (4); neu

(b)o dan adran 32 (pŵer i waredu tir a ddelir at ddibenion Rhan II neu adran 43 (cydsyniad sy'n ofynnol ar gyfer gwarediadau penodol nad ydynt yn dod o dan adran 32) o Ddeddf Tai 1985(5),

i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(6Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.

(7Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(8Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —

(a)swyddogaeth a bennir ym mharagraff (1) i'r graddau nad yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod yn rhinwedd y paragraff hwnnw;

(b)y swyddogaethau a bennir ym mharagraffau (4) a (5) i'r graddau nad ydynt yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(9Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—

(a)yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ynglŷn â chyfrifo sylfaen treth gyngor ym mharagraff 22 o Atodlen 2, cyfrifo yn unol ag unrhyw un o adrannau 32 i 37, 43 i 51, 52I, 52J, 52T a 52U o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992(6), p'un ai drwy'r adran wreiddiol neu drwy gyfrwng adran amnewid; neu

(b)dyroddi praesept o dan Bennod IV o Ran 1 o'r Ddeddf honno,

mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) (“y camau dynodedig”) yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

(10Yn ddarostyngedig i'r hyn a ddarperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.

(11Y camau dynodedig yw —

(a)paratoi'r canlynol, er mwyn eu cyflwyno i'r awdurdod eu hystyried —

(i)amcangyfrifon o'r symiau sydd i'w hagregu wrth gyfrifo neu amcangyfrifon o symiau eraill sydd i'w defnyddio at ddibenion y cyfrifo;

(ii)y symiau y mae'n ofynnol eu datgan yn y praesept;

(b)ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;

(c)cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.

Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau

6.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.

(2Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —

(a)pan fo'n rhesymol barnu bod yr amgylchiadau, sy'n peri iddi fod yn angenrheidiol gwneud y dyfarniad, yn amgylchiadau brys; a

(b)pan fo'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i'w wneud ganddo wedi cael oddi wrth gadeirydd pwyllgor craffu perthnasol neu, os nad oes person o'r fath neu os yw cadeirydd pob pwyllgor craffu perthnasol yn methu gweithredu neu'n anfodlon gweithredu, oddi wrth gadeirydd yr awdurdod neu, yn absenoldeb y person hwnnw, oddi wrth yr is-gadeirydd, ddatganiad mewn ysgrifen bod angen i'r penderfyniad gael ei wneud ar frys.

(3Ym mharagraff (2) ystyr “pwyllgor craffu perthnasol” yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.

(4Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —

(a)y dyfarniad;

(b)yr argyfwng neu'r amgylchiadau eraill y cafodd ei wneud odano neu odanynt; ac

(c)y rhesymau dros y dyfarniad.

(5Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.

Dirymu

7.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu—

(a)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001(7);

(b)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002(8);

(c)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003(9); ac

(ch)Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (10).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007

Rheoliad 3

ATODLEN 1SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD

(1)(2)
Y SwyddogaethY ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol

A.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu

1.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio.

Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).

2.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen.

Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

3.  Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni.

Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(12).

4.  Y pŵer i wrthod dyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio.

Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(13).

5.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau ar geisiadau cynllunio.

Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt.

6.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall. 1992/1492)(14).

Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S.

7.  Y pŵer i wneud dyfarniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir.

Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418).

8.  Y pŵer i gytuno ar rwymedigaeth gynllunio sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir.

Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(15).

9.  Y pŵer i ddyroddi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig.

Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(16).

10.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

11.  Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion.

Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(17).

12.  Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir.

Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(18).

13.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir.

Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

14.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop.

Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(19).

15.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi.

Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(20).

16.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol gynllunio.

Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(21).

17.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10).

18.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd Rhan I neu Ran II gweithredol, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt.

Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno.

19.  Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn.

Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

20.  Y pŵer i ddyfarnu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 16(1) a (2), 17 a 33(1) o Ddeddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

21.  Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno(22).

22.  Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth.

Adran 13(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a rheoliadau 3 i 13 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96: Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth.

23.  Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig.

Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

24.  Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig.

Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

25.  Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio.

Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

26.  Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig.

Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990(23).

27.  Y pŵer i wneud gwaith brys.

Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

28.  Pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau.

Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

29.  Pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau.

Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

30.  Pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol.

Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33).

31.  Dyletswyddau mewn perthynas â gorchmynion prynu.

Adrannau 137-144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

32.  Pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau malltod.

Adrannau 149-171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

B.  Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy)

1.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau (“trwyddedau safle”).

Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62).

2.  Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla.

Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49)

3.  Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

(a)o ran cerbydau hacnai, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 a 11 Vict. p. 89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 a 39 Vict. p. 55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57);

(b)o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

4.  Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

5.  Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat.

Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976.

6.  Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau.

Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 (p. 2)(24).

7.  Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau.

Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(25).

8.  Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i.

Atodlenni 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963(26).

9.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd sydd â pheiriannau chwarae.

Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 (p. 65) (27).

10.  Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hyrwyddo loterïau.

Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)(28).

11.  Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd lle darperir difyrion â gwobrau.

Atodlen 3 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (29).

12.  Y pŵer i ddyroddi trwyddedau adloniant.

Adran 12 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12).

13.  Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw.

Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3.

14.  Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth.

Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46).

15.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer aciwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis.

Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982.

16.  Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser.

Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)(30).

17.  Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd.

Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi.

18.  Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth.

Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972(p. 66) (31).

19.  Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig.

Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Anifeiliaid Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedau Helwriaeth 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70).

20.  Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu mangreoedd ar gyfer paratoi bwyd.

Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16).

21.  Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap.

Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p. 69).

22.  Y pŵer i ddyroddi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon.

Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)(32).

23.  Y pŵer i ddyroddi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer standiau rheoledig mewn meysydd chwaraeon.

Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27).

24.  Dyletswydd i hyrwyddo diogelwch rhag tân.

Adran 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21).

25.  Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer bridio cwn.

Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11).

26.  Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)(33); adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)(34); Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70)(35); adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)(36), ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999.

27.  Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p. 38)(37).

28.  Y pŵer i drwyddedu swau.

Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 (p. 37).

29.  Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus.

Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38).

30.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid.

Rheoliad 49 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1292 (Cy.127)).

31.  Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant.

Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37).

32.  Y pŵer i gymeradwyo mangreoedd ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil.

Adran 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76), adran 6A o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) a Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005 (O. S. 2005/3168 (38).

33.  Y pŵer i gofrestru tir comin neu feysydd gleision trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pwer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig— 3(a)cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn rhoi effaith iddo (p. 67); neu 3(b)gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p. 118).

Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843).

34.  Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin.

Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)(39).

35.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i gasglu ar gyfer achosion elusennol.

Adran 68 o Ddeddf Elusennau 1992.

36.  Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd.

Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40).

37.  Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd.

Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22).

38.  Dyletswydd i gofrestru symudiadau moch.

Rheoliadau 21(3) and (4) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod (O.S. 2004/996 (Cy.104)).

39.  Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â symud moch.

Rheoliad 27(1) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 /996 (Cy.104)).

40.  Y pŵer i ddyroddi trwydded i symud gwartheg o farchnad.

Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871).

41.  Y pŵer i roi hawl i rannau o adeiladau gael eu defnyddio i storio seliwloid.

Adran 1 o Ddeddf Ffilmiau Seliwloid a Sinematograff 1922 (p. 35).

42.  Y ddyletswydd i orfodi a gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 852/2004 a 853/2004 mewn perthynas â gweithredwyr busnesau bwyd fel y'u pennir ymhellach yn rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006.

Rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006(40).

43.  Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu.

Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17).

C.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith

Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r “darpariaethau statudol perthnasol” o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni mewn fordd wahanol i'w cyflawni yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr.Rhan I o Ddeddf Iechyd Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37).

Ch.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau

1.  Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol.

Adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)(41).

2.  Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru.

Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983(42).

3.  Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned.

Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau.

Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

5.  Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau.

Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

6.  Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol.

Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

7.  Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd.

Adran 6(7) ac (8) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002.

8.  Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio.

Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

9.  Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol.

Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

10.  Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau.

Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

11.  Y pŵer i dalu treuliau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol.

Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983.

12.  Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau.

Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985.

13.  Y ddyletswydd i ddatgan bod lle gwag mewn swydd mewn achosion penodol.

Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

14.  Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol.

Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

15.  Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned.

Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

16.  Y pŵer i ddyfarnu ar ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt.

Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215).

17.  Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000.

Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2).

18.  Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, O.S. 2003/284.

Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, OS 2003/284(43).

D.  Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion

1.  Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol.

Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

2.  Y pŵer i newid enw cymuned.

Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

3.  Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn rhyddfreiniwr mygedol.

Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

4.  Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol.

Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Dd.  Y pŵer i wneud, diwygio, dirymu neu ailddeddfu is-ddeddfau

Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 300)(44).

E.  Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol.

Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

F.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc.

1.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc.

Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11)(45).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd.

Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

3.  Swyddogaethau o dan gynlluniau pensiwn sy'n bodoli eisoes o ran personau sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004.

Ff.  Swyddogaethau amrywiol

1.  Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl y digwydd).

Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 (46).

2.  Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr.

Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38).

3.  Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed.

Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892).

4.  Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd (perthi) pwysig.

Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 (O.S. 1997/1160).

5.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog.

Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 o Atodlen 12 iddi.

6.  Penodi a diswyddo staff.

Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

7.  Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau.

Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

8.  Y pŵer i ystyried adroddiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Adran 19 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10).

9.  Y pŵer i wneud gorchymyn yn nodi lle fel lle cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol.

Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16).

10.  Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur.

Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3).

11.  Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi “priod swyddogion”).

Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

12.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42).

13.  Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc.

Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

14.  Y ddyletswydd i ddyfarnu ar derfyn benthyca fforddiadwy.

Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22).

15.  Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau.

Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003.

16.  Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol.

Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11).

Rheoliad 4

ATODLEN 2SWYDDOGAETHAU Y CANIATEIR IDDYNT FOD (OND NAD OES ANGEN IDDYNT FOD) YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD

1.  Unrhyw swyddogaeth a dan Ddeddf leol ac eithrio swyddogaeth a bennwyd neu y cyfeiriwyd ati yn Atodlen 1.

2.  Dyfarnu ar apêl yn erbyn unrhyw benderfyniad a wnaed gan yr awdurdod neu ar ei ran.

3.  Swyddogaethau mewn perthynas ag adolygu penderfyniadau a wnaed mewn cysylltiad â hawliadau budd-dal tai neu fudd-dal treth gyngor ac am apelau yn erbyn penderfyniadau o'r fath o dan adran 68 o Ddeddf Cymorth Plant, Pensiynau a Nawdd Cymdeithasol ac Atodlen 7 iddi.(47).

4.  Gwneud trefniadau ynglŷn ag apelau yn erbyn gwahardd disgyblion mewn ysgolion a gynhelir o dan adran 52 o Ddeddf Addysg 2002.

5.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 94(1), (1A) a (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (apelau derbyn) ac Atodlen 24 iddi.

6.  Gwneud trefniadau yn unol ag adran 95(2) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (plant y mae adran 87 yn gymwys iddynt: apelau gan gyrff llywodraethu).

7.  Gwneud trefniadau o dan adran 20 (cwestiynau ynghylch materion yr heddlu mewn cyfarfodydd cyngor) o Ddeddf yr Heddlu 1996 i ganiatáu i gwestiynau gael eu gofyn ynghylch cyflawni swyddogaethau awdurdod heddlu.

8.  Gwneud penodiadau o dan baragraffau 2 i 4 (penodi aelodau gan gynghorau perthnasol) o Atodlen 2 (awdurdodau heddlu a sefydlir o dan adran 3) i Ddeddf yr Heddlu 1996.

9.  Cynnal adolygiadau'r gwerth gorau yn unol â darpariaethau unrhyw orchymyn sy'n effeithiol am y tro o dan adran 5 (adolygiadau gwerth gorau) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999(48).

10.  Unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â thir halogedig(49).

11.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth sy'n ymwneud â rheoli llygredd neu reoli ansawdd aer(50).

12.  Cyflwyno hysbysiad atal mewn perthynas â niwsans statudol(51).

13.  Pasio cynnig y dylai Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 fod yn gymwys yn ardal yr awdurdod(52).

14.  Arolygu ardal yr awdurdod i ddod o hyd i unrhyw niwsans statudol(53).

15.  Ymchwilio i unrhyw gŵyn ynghylch bodolaeth niwsans statudol.

16.  Sicrhau gwybodaeth o dan adran 330 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ynghylch buddiannau mewn tir(54).

17.  Sicrhau manylion personau sydd â buddiant mewn tir o dan adran 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976(55).

18.  Gwneud cytundebau ar gyfer gwneud gwaith priffyrdd(56).

19.  Penodi unrhyw unigolyn —

(a)i unrhyw swydd heblaw swydd y mae'n cael ei gyflogi ynddi gan yr awdurdod;

(b)i unrhyw gorff ac eithrio —

(i)yr awdurdod;

(ii)cyd-bwyllgor o ddau neu fwy o awdurdodau; neu

(c)i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,

a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.

20.  Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.(57).

21.  Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.

22.  Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem T yn adran 33(1) a 44(1) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(b)dyfarnu ar swm ar gyfer eitem TP yn adrannau 34(3), 45(3), 48(3) a 48(4) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

(c)dyfarnu ar swm y mae ei angen i ddyfarnu ar swm ar gyfer yr eitem a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b) uchod.

23.  Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.

24.  Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —

(a)pendefyniad i beidio â dyroddi trwyddedau casino yn unol ag adran 166 o Ddeddf Gamblo 2005 (p.19);

(b)rhagnodi ffioedd yn unol ag adran 212 o Ddeddf Gamblo 2005;

(c)gwneud gorchymyn yn datgymhwyso adran 279 neu adran 282 (1) o Ddeddf Gamblo 2005 yn unol ag adran 284 o Ddeddf Gamblo 2005;

(ch)personau awdurdodedig yn unol ag adran 304 o Ddeddf Gamblo 2005;

(d)erlyniadau gan awdurdod trwyddedu yn unol ag adran 346 o Ddeddf Gamblo 2005;

(dd)polisi trwyddedu tair-blynedd yn unol ag adran 349 o Ddeddf Gamblo 2005.

Rheoliad 5

ATODLEN 3SWYDDOGAETHAU NAD YDYNT I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD YN UNIG

(1)(2)
Cynlluniau a strategaethauY Cyfeiriad
Y Cynllun Addysg SenglRheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)).
Cynllun Perfformiad Gwerth GorauAdran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27).
Strategaeth GymunedolAdran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22).
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac AnhrefnAdrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Y Strategaeth Iechyd a LlesAdran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17).
Y Cynllun Trafnidiaeth LleolAdran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38).
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun DatblyguAdran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8).
Y Cynllun Iaith GymraegAdran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38).
Y Cynllun Cyfiawnder IeuenctidAdran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37).
Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl IfancAdrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).
Y Strategaeth TaiAdran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26).

Rheoliad 6

ATODLEN 4YR AMGYLCHIADAU NAD YW SWYDDOGAETHAU I FOD YN GYFRIFOLDEB I WEITHREDIAETH AWDURDOD ODANYNT

(1)(2)
Y swyddogaethYr amgylchiadau

1.  Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3.

Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth.

2.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b)sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno —

(a)

o blaid dyfarnu ar y mater yn groes i'r canlynol neu heb fod yn gyfan gwbl unol â hwy —

(i)

cyllideb yr awdurdod; neu

(ii)

y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a

(b)

heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny.

3.  Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —

(a)sy'n gyfrifoldeb i'r weithrediaeth; a

(b)y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi.

Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”) yn darparu i swyddogaethau awdurdod lleol gael eu cyflawni gan weithrediaeth i'r awdurdod (y mae rhaid iddi fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn adran 11(2) i (5) o'r Ddeddf) onid yw'r swyddogaethau hynny wedi'u pennu'n swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod. Mae'r rheoliadau hyn yn pennu swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod neu sydd i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i raddau cyfyngedig yn unig neu o dan amgylchiadau penodedig yn unig. Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2001, Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2002, Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2003 a Rheoliadau Trefniadau Gweithrediaeth Awdurdodau Lleol (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004”), yn cydgrynhoi darpariaethau'r rheoliadau hynny ac yn gwneud darpariaeth bellach.

Mae rheoliadau 3, 4, 5 a 6, drwy gyfeirio at yr Atodlenni i'r Rheoliadau, yn nodi'r cyfyngiadau ar ba swyddogaethau y caiff gweithrediaeth eu harfer. Yn Atodlen 1 rhestrir y swyddogaethau hynny y mae'n rhaid i weithrediaeth beidio â'u harfer ac yn Atodlen 2 rhestrir y swyddogaethau hynny y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod os bydd yr awdurdod yn penderfynu felly. Mae Rheoliad 5, drwy gyfeirio at Atodlen 3, yn nodi'r camau na chaniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig.

Yn ôl rheoliad 6, nid yw'r swyddogaethau hynny a restrir yn Atodlen 4, a fyddai'n gyfrifoldeb i weithrediaeth oni bai am reoliad 6, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a nodir yng ngholofn (2) o'r Atodlen honno.

Mae Rheoliad 7 yn dirymu Rheoliadau 2001, 2002, 2003 a 2004.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Polisi Llywodraeth Leol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ (ffôn 02920825111).

(3)

Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344).

(4)

1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(5)

1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.

(6)

1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1.

(12)

Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.

(13)

Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.

(14)

Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.

(15)

Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(16)

Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(17)

O.S. 1992/666, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(18)

Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael gwybod o dan ba amgylchiadau y caniateir i'r hawl gael ei harfer, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

(19)

Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(20)

Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.

(21)

Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991

(22)

Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(23)

Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 25, Atodlen 3, paragraff 7.

(24)

Diddymwyd Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(25)

Diddymwyd Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn â thrwydded betio ar gyfer trac sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007, gweler O.S. 2006/1758, erthygl 2. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(26)

Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6). Diddymwyd Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae'r diddymiad i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(27)

Diddymwyd Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 gan adran 356(g) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglyn ag adnewyddu neu roi trwyddedau, gweler O.S. 2006/1758, erthyglau 5 a 6. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(28)

Diddymwyd Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 gan adran 356(3)(i) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae diddymu Atodlen 1 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(29)

Wedi'i diddymu gan Ddeddf Gamblo 2005, adran 356(3)(i),(4), Atodlen 17. I gael gweld y darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag unrhyw drwydded o dan adran 16 sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007. Gweler O.S. 2006/1758, erthygl 7. Mae diddymiad Atodlen 3 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w bennu o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.

(30)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).

(31)

Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1). Gweler O.S. 1973/1851 ac O.S. 1977/2128.

(32)

Wedi'i diwygio gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi.

(33)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(34)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) o'r Atodlen.

(35)

Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.

(36)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.

(37)

Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988.

(38)

Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).

(39)

Diwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).

(40)

O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 / 1534 (Cy.151)).

(41)

Wedi'i deddfu'n wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Seneddol Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.

(42)

Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).

(43)

Dirymodd O.S. 2003/284 Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/834). Mae O.S. 2003/284 yn atgynhyrchu O.S. 1999/450 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/834 gan wneud darpariaethau ychwanegol.

(44)

Cymhwysir adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 i is-ddeddfau sy'n cael eu gwneud o dan adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran I o Atodlen 2 iddi.

(45)

O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).

(48)

1999 p.27.

(49)

Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno.

(50)

Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).

(51)

Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).

(52)

Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(53)

Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.

(54)

1990 p.8.

(55)

1976 p.57.

(56)

Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23.

(57)

Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources