Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “awdurdod iechyd porthladd” (“port health authority”) mewn perthynas ag unrhyw ardal iechyd porthladd a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(3) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984, yw awdurdod iechyd porthladd ar gyfer yr ardal honno a sefydlwyd drwy orchymyn o dan adran 2(4) o'r Ddeddf honno;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;

ystyr “letus awdurdodedig” (“authorised lettuce”) yw letus o'r math a bennir ym mhwynt 1.3 o adran 1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn sy'n cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 7(2) o ran y Deyrnas Unedig;

ystyr “Rheoliad y Comisiwn” (“the Commission Regulation” ) yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1881/2006 sy'n gosod y lefelau uchaf ar gyfer halogion penodol mewn deunyddiau bwydydd(1);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw unrhyw berson sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig, naill ai yn gyffredinol neu yn benodol, gan awdurdod bwyd neu, yn ôl y digwydd, awdurdod iechyd porthladd i weithredu mewn materion sy'n codi o dan y Rheoliadau hyn;

ystyr “ysbigoglys awdurdodedig” (“authorised spinach”) yw ysbigoglys o'r math a bennir ym mhwynt 1.1 o adran 1 o'r Atodiad i Reoliad y Comisiwn sydd yn cydymffurfio ag amodau'r rhanddirymiad o dan Erthygl 7(1) o ran y Deyrnas Unedig.

(2Mae i unrhyw ymadrodd arall a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad y Comisiwn yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd i'r term Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Comisiwn.

(3Mae unrhyw gyfeiriad at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn.

(1)

OJ Rhif L364, 20.12.2006, t.5.