Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2007

Tramgwyddau, cosbau ac arbedion

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (5) a'r trefniadau trosiannol a geir yn Erthygl 11, mae person yn euog o dramgwydd os yw'n mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol a bennir ym mharagraff (2) neu os yw'n methu â chydymffurfio â hi.

(2Y darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw —

(a)Erthygl 1(1), (gwaharddiad rhag rhoi deunyddiau bwydydd sy'n cynnwys halogion uwchlaw'r terfynau'r rhagnodedig ar y farchnad), fel y'i darllenir gydag Erthygl 4 yn achos cnau daear, cnau, ffrwythau sych ac indrawn;

(b)Erthygl 3 (gwaharddiadau rhag defnyddio, cymysgu a dadwenwyno).

(3Nid yw paragraff (1) yn gymwys i roi letus awdurdodedig nac ysbigoglys awdurdodedig ar y farchnad.

(4Mae unrhyw berson a gollfernir o dramgwydd o dan baragraff (1) yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol.

(5Er gwaethaf dirymu Rheoliadau Halogion Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2006(1), mae'r trefniadau trosiannol y cyfeirir atynt yn rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hynny yn gymwys i dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn fel petaent yn gymwys o dan y Rheoliadau hynny.