Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Rheoliad 4

ATODLEN 1Tagiau clust

Gorfodi Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000

1.—(1O ran y Cynulliad Cenedlaethol—

(a)ef yw'r awdurdod cymwys at ddibenion cymeradwyo tagiau clust at ddibenion Erthygl 4(1) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1760/2000; a

(b)pan gaiff gais gan weithgynhyrchydd tagiau clust a gymeradwywyd, rhaid iddo ddyroddi codau adnabod unigryw at ddibenion yr Erthygl honno, gan gydymffurfio â darpariaethau paragraff 1 a 2 o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (ac eithrio y caiff wrthod dyrannu Rhif au o dan yr amgylchiadau a nodir yn erthygl 1(5) o'r Rheoliad hwnnw).

(2Y person sy'n gyfrifol am beri bod modd adnabod gwartheg drwy osod tag clust ym mhob clust yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yw'r ceidwad.

(3Yn unol ag Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000

(a)yn achos buches odro, rhaid i'r ceidwad osod un tag clust ar y llo o fewn 36 o oriau ar ôl ei eni a'r ail dag o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl ei eni;

(b)yn achos unrhyw fuches arall (heblaw bison) rhaid i'r ceidwad osod y ddau dag o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl geni'r llo;

(c)yn achos bison, yn unol ag Erthyglau 1 a 2 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999, rhaid i'r ceidwad osod y ddau dag pan gaiff y lloi eu gwahanu oddi wrth eu mamau neu o fewn naw mis ar ôl eu geni, p'un bynnag yw'r cyntaf.

(4Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r gofyniad yn Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 i osod tag clust o fewn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) uchod yn euog o dramgwydd.

Ffurf y tagiau clust

2.—(1Rhaid bod tagiau clust a osodir o dan Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 wedi'u cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Yn unol â pharagraffau 1 a 2 o Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004, rhaid bod gan y ddau dag clust y logo a bennir ym mharagraff 11 (yn achos tag clust deuddarn, rhaid bod y logo ar y ddau ddarn), y llythrennau “UK” a'r Rhif unigryw a ddyrennir gan y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Yn unol ag Erthygl 1(3) o'r Rheoliad hwnnw gall tag clust hefyd gael cod bar.

(4Caniateir i'r pwer yn erthygl 4 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (pwer i ddewis deunydd neu fodel gwahanol ar gyfer yr ail dag clust) cael ei arfer gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Symudiad o ddaliad

3.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (3), bydd unrhyw berson sy'n symud anifail o ddaliad gan dorri trydydd paragraff Erthygl 4(2) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae unrhyw berson sy'n symud o ddaliad wartheg y dylid bod wedi'u tagio neu'u marcio o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol na chafodd eu tagio neu'u marcio'n gywir yn euog o dramgwydd.

(3Os bydd anifail mewn marchnad heb gael ei dagio neu'i farcio'n gywir, caiff arolygydd ddyroddi trwydded i'r ceidwad yn caniatáu i'r anifail gael ei symud o'r farchnad i ddaliad a bennir yn y drwydded.

(4Bydd unrhyw berson a fydd yn symud anifail gan dorri'r drwydded neu dorri unrhyw amod o'r drwydded yn euog o dramgwydd.

Tagiau clust o'r newydd

4.—(1Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 4(5) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1760/2000, a bydd unrhyw berson sydd naill ai'n tynnu neu'n ailosod tag clust (neu dag clust a roed ynghlwm o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol) heb ganiatâd yn groes i'r Erthygl honno neu Erthygl 4(4) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 yn euog o dramgwydd.

(2Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr ar neu ar ôl 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, ei ailosod gan dag clust arall sy'n dwyn yr un Rhif (rhaid iddo fod yn brif dag os oedd y gwreiddiol yn brif dag, neu'n brif dag neu'n ail dag oes oedd y tag gwreiddiol yn ail dag) ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

(3Os bydd ceidwad anifail a anwyd ym Mhrydain Fawr cyn 1 Ionawr 1998 yn darganfod bod tag clust yn annarllenadwy neu wedi cael ei golli, rhaid iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau ar ôl y darganfyddiad, naill ai ei aildagio gan dag clust sengl arall, neu ei aildagio â thagiau dwbl yn unol â'r Rheoliadau hyn, ac mae unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.

(4Os bydd anifail a anwyd y tu allan i Brydain Fawr yn colli tag clust rhaid i'r ceidwad, o fewn 28 o ddiwrnodau o ddarganfod bod y tag clust tag wedi cael ei golli, ei aildagio gan ddefnyddio tag o'r newydd—

(a)sy'n dwyn logo'r goron a bennir ym mharagraff 11; a

(b)sy'n dwyn y cod adnabod gwreiddiol,

a bydd unrhyw berson sy'n methu â gwneud hynny'n euog o dramgwydd.

(5Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd ei ddefnyddio cyn hynny i ddarnodi anifail gwahanol.

(6Mae'n dramgwydd i osod tag clust ar anifail os cafodd Rhif y tag clust ei ddefnyddio eisoes ar anifail gwahanol.

(7Nid yw paragraffau (2) i (4) yn gymwys i feddiannydd lladd-dy neu weithredydd marchnad.

Newid Rhif tag clust

5.  Os caiff anifail a anwyd cyn 1 Ionawr 1998 ei aildagio gan rif tag clust gwahanol, rhaid i'r ceidwad, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl gosod y tag clust a beth bynnag cyn bod yr anifail yn cael ei symud oddi ar y daliad, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o'r Rhif tag clust newydd a dychwelyd yr hen basbort gwartheg gyda chais bod pasbort gwartheg newydd yn cael ei ddyroddi gyda'r Rhif tag clust newydd a bydd methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Tagiau clust i anifeiliaid a gedwir at ddibenion diwylliannol neu hanesyddol

6.—(1Caiff person sy'n cadw gwartheg at ddibenion diwylliannol neu hanesyddol wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol i gofrestru ei ddaliad at y diben hwn yn unol ag Erthygl 1 o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005.

(2Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi cymeradwyo daliad ar gyfer y dibenion hyn, mae'r rhanddirymiad sy'n ymwneud â thagio yn erthygl 2 o'r Rheoliad hwnnw yn gymwys, ar yr amod bod y gwartheg yn cael eu darnodi drwy gyfrwng darnodydd electronig sydd yn y bolws cnoi cil.

Marciau dros dro

7.  Os nad yw anifail wedi cael ei dagio yn unol â'r Rheoliadau hyn neu'n unol â deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, caiff arolygydd osod marc adnabod arno.

Masnach o fewn y Gymuned

8.  Mae'n dramgwydd i draddodi anifail ar gyfer masnach o fewn y Gymuned oni chafodd ei dagio ym mhob clust â thag clust a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag Erthygl 4(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000.

Mewnforion o drydydd gwledydd

9.—(1Mae unrhyw berson sy'n methu â gosod tagiau clust ar anifail a fewnforiwyd o drydedd wlad o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl i'r anifail gael ei ryddhau o safle arolygu ar y ffin lle y'i mewnforiwyd, a beth bynnag cyn i'r anifail adael y daliad cyrchu, fel a bennir yn Erthygl 4(3) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, yn euog o dramgwydd.

(2Mae'n amddiffyniad i unrhyw berson a gaiff ei gyhuddo o dan y rheoliad hwn i brofi—

(a)pan fewnforiwyd yr anifail, bod y daliad cyrchu yn lladd-dy, a

(b)bod yr anifail wedi'i gigydda o fewn 20 o ddiwrnodau ar ôl ymadael â'r safle arolygu ar y ffin.

Addasu a storio tagiau clust

10.—(1Mae'n dramgwydd i addasu, difodi neu ddifwyno tag clust a osodwyd o dan Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 neu o dan ddeddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol, neu farc dros dro a osodwyd gan arolygydd yn unol â pharagraff 7 (marciau dros dro).

(2Rhaid i unrhyw berson y mae ganddo yn ei feddiant dagiau clust a ddyroddwyd ar gyfer dibenion y Rheoliadau hyn eu cadw mewn lle diogel, ac mae methu â gwneud hynny'n dramgwydd.

Logo ar gyfer tagiau clust

11.  Dyma logo'r goron ar gyfer tagiau clust—

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources