Search Legislation

Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007

Statws

This is the original version (as it was originally made).

RHAN 1RHAGYMADRODD

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.  Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 6 Ebrill 2007.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd yn arolygydd at ddibenion y Rheoliadau hyn gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan awdurdod lleol;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) o ran ardal yw'r cyngor sir neu'r cyngor bwrdeistref sirol ar gyfer yr ardal honno;

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw unrhyw berson sy'n gyfrifol am anifeiliaid, boed hynny'n barhaol neu dros dro, gan gynnwys pan gludir hwy neu pan fyddant mewn marchnad;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ;

ystyr “daliad” (“holding”) yw unrhyw sefydliad, adeiladwaith neu, yn achos fferm awyr agored, unrhyw le y mae gwartheg yn cael eu dal, eu cadw neu eu trafod;

“deddfwriaeth tagio gwartheg flaenorol” (“previous cattle tagging legislation”) yw—

(a)

Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(1);

(b)

Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(2);

(c)

Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion Adnabod, Marcio a Bridio) 1990(3);

(ch)

Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru a Lloegr) 1984(4); a

(d)

Gorchymyn Twbercwlosis (yr Alban) 1984(5);

ystyr “dilys” (“valid”), o ran pasbort gwartheg, yw pasbort gwartheg a gafodd ei gwblhau'n gywir a'i lofnodi yn y lle priodol yn gywir gan bob ceidwad i'r anifail a bod Rhif adnabod a disgrifiad o'r anifail yn y pasbort yn cyfateb i dagiau clust yr anifail;

ystyr “gwartheg” (“cattle”) yw anifeiliaid buchol, gan gynnwys bison a byfflo;

ystyr “pasbort gwartheg” (“cattle passport”) yw—

(a)

pasbort gwartheg a ddyroddwyd yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban o dan Erthygl 6(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(b)

pasbort gwartheg a ddyroddwyd o dan Orchymyn Pasbortau Gwartheg 1996(6); ac

(c)

dogfen symud a ddyroddwyd o dan Reoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(7) neu'r mesur cyfatebol yn yr Alban, Lloegr neu Ogledd Iwerddon;

ystyr “Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000” (“Regulation (EC) No. 1760/2000”) yw Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor (sy'n sefydlu system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol ac sy'n ymwneud â labelu cynhyrchion cig eidion ac yn diddymu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97(8));

(2Rhaid i unrhyw gymeradwyaeth, awdurdodiad, trwydded, hysbysiad neu gofrestriad a ddyroddir o dan—

(a)y Rheoliadau hyn,

(b)Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004 (sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran tagiau clust, pasbortau a chofrestrau daliadau(9)); neu

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005 (sy'n awdurdodi system adnabod arbennig ar gyfer anifeiliaid buchol a gedwir at ddibenion diwylliannol a hanesyddol mewn mangreoedd a gymeradwywyd fel a ddarperir yn Rheoliad (EC) Rhif 1760/2000 Senedd Ewrop a'r Cyngor(10)),

fod yn ysgrifenedig, caniateir i unrhyw un ohonynt gael ei wneud yn ddarostyngedig i amodau, cael ei ddiwygio, cael ei atal neu ei ddirymu drwy hysbysiad ysgrifenedig ar unrhyw bryd.

RHAN 2

Hysbysiad o ddaliadau

3.—(1Rhaid i feddiannydd daliad sy'n dechrau cadw gwartheg ar y daliad hwnnw, ac unrhyw berson sy'n cymryd y feddiannaeth drosodd o ddaliad lle y cedwir gwartheg, hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o fewn un mis—

(a)o'i enw a'i gyfeiriad; a

(b)cyfeiriad y daliad.

(2Pan fydd yn derbyn hysbysiad o dan baragraff (1) rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi nod buches ar gyfer pob daliad.

(3Rhaid i'r meddiannydd hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw newid i'r wybodaeth ym mharagraff (1) o fewn un mis.

RHAN 3Adnabod a chofrestru gwartheg

Tagiau clust

4.  Mae Atodlen 1 (tagiau clust) yn effeithiol.

Cofrestru gwartheg

5.  Mae Atodlen 2 (cofrestru gwartheg) yn effeithiol.

Pasbortau gwartheg

6.  Mae Atodlen 3 (pasbortau gwartheg) yn effeithiol.

Hysbysiad o symudiadau a marwolaeth

7.  Mae Atodlen 4 (hysbysiad o symud neu farwolaeth) yn effeithiol.

Cofnodion

8.  Mae Atodlen 5 (cofnodion) yn effeithiol.

RHAN 4CYFFREDINOL

Codi tâl am wybodaeth

9.  Caiff y Cynulliad Cenedlaethol godi tâl rhesymol am ddarparu gwybodaeth a gaiff ei storio yn y gronfa ddata sy'n ofynnol gan Erthygl 5 o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000 ac a ddarperir yn unol ag ail baragraff Erthygl 3 o'r Rheoliad hwnnw.

Pwerau arolygwyr

10.—(1Caiff arolygydd, wrth iddo ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, os gofynnir amdani, ar bob adeg resymol fynd ar dir neu i fangre er mwyn canfod a aethpwyd yn groes i'r canlynol —

(a)y Rheoliadau hyn;

(b)Teitl I o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000;

(c)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98 (sy'n gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 820/97 o ran cymhwyso y lefel isat o sancsiynau yn fframwaith y system ar gyfer adnabod a chofrestru anifeiliaid buchol(11));

(ch)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 509/1999 (ynghylch estyn y cyfnod hiraf a osodwyd ar gyfer rhoi tagiau clust ar fison(12))

(d)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 911/2004; ac

(dd)Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 644/2005,

ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Dim ond os caiff y pwer ei ddefnyddio mewn cysylltiad â'r darpariaethau ym mharagraff (1) y mae pwer i fynd i fangre yn cynnwys y pwer i fynd i fangre ddomestig.

(3Caiff arolygydd gyflawni gwiriadau ac archwiliadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau ym mharagraff (1), a chaiff yn benodol—

(a)casglu, corlannu ac arolygu unrhyw wartheg, a chaiff ofyn i'r ceidwad drefnu casglu, corlannu a dal gafael ar wartheg;

(b)cymryd samplau;

(c)archwilio unrhyw gofnodion ar ba ffurf bynnag y bônt a chymryd copïau o'r cofnodion hynny;

(ch)symud a chadw unrhyw gofnodion neu ddogfennau (gan gynnwys pasbortau) sy'n ymwneud â'r Rheoliadau hyn;

(d)cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau cysylltiedig sy'n cael neu sydd wedi cael eu defnyddio mewn cysylltiad â chofnodion, a'u harchwilio a gwirio eu gweithrediad a gall ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano;

(dd)os cedwir cofnodion drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ei gwneud yn ofynnol bod y cofnodion yn cael eu cynhyrchu ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno;

(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dagiau clust nas defnyddiwyd, a chofnod o'u Rhif au gael eu dangos; ac

(f)mynd â chynrychiolydd o'r Comisiwn Ewropeaidd neu unrhyw berson arall y mae o'r farn bod ei angen gydag ef.

Pwerau i gyfyngu ar symudiadau

11.  Yn unol ag ail baragraff Erthygl 22(1) o Reoliad (EC) Rhif 1760/2000, caiff swyddog o'r Cynulliad Cenedlaethol gyflwyno i geidwad anifeiliaid ar ddaliad hysbysiad yn cyfyngu symudiadau gwartheg i'r daliad ac ohono os yw wedi'i fodloni bod angen hyn er mwyn gorfodi'r Rheoliad hwnnw, y Rheoliadau hyn, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98, Rhif 509/1999, Rhif 911/2004 a Rhif 644/2005, a bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r hysbysiad hwnnw'n euog o dramgwydd.

Cigydda anifeiliaid heb eu marcio

12.  Y Cynulliad Cenedlaethol yw'r awdurdod milfeddygol a'r awdurdod cymwys at ddibenion Erthygl 1(2) o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 494/98.

Rhwystro etc

13.—(1Mae person sydd—

(a)yn rhwystro unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith;

(b)heb achos rhesymol, yn methu â rhoi i unrhyw berson sydd yn gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae'r person hwnnw yn rhesymol yn gofyn amdano neu amdani er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau;

(c)yn rhoi i unrhyw berson sy'n gweithredu i roi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn anwir neu'n gamarweiniol; neu

(ch)yn methu â dangos pasbort, dogfen neu gofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n gweithredu o dan y Rheoliadau hyn;

yn euog o dramgwydd.

(2Mae unrhyw berson sy'n rhoi gwybodaeth anwir yn unrhyw hysbysiad a wneir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

14.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o'r corff corfforaethol; neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2Yn y rheoliad hwn ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei fusnes yn cael ei reoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau

15.  Mae person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn atebol—

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu garchariad am gyfnod nad yw'n hirach na thri mis, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.

Gorfodi

16.—(1Caiff y Rheoliadau hyn eu gorfodi gan yr awdurdod lleol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo y bydd mewn unrhyw achos penodol neu ddosbarth o achosion yn eu gorfodi hwy ei hunan.

Dirymiadau

17.  Mae'r canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —

(a)Gorchymyn Anifeiliaid Buchol (Cofnodion, Adnabod a Symud) 1995(13);

(b)Rheoliadau Adnabod Gwartheg 1998(14);

(c)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg 1998(15);

(ch)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1998(16);

(d)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 1999(17);

(dd)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) 2000(18);

(e)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) (Cymru) 2002(19);

(f)Rheoliadau Gwartheg (Adnabod Anifeiliaid Hyn) (Cymru) (Diwygio) 2002(20);

(ff)Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Diwygio) 2006(21); a

(g)Rheoliadau Cronfa Ddata Gwartheg (Diwygio) 2006(22).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(23)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Mawrth 2007

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources