- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
21 Mawrth 2007
Yn dod i rym
21 Ebrill 2007
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 53(11) a (12), 56(5), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007 ac maent yn dod i rym ar 21 Ebrill 2007.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1972” (“the 1972 Act”) yw Deddf Llywodraeth Leol 1972(2).
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001(3)—
(a)ym mharagraff (1), yn lle “(2) a (3)”, rhodder “(2) i (3)”; a
(b)yn lle paragraff (2), rhodder—
“(2) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen ar gael i'w harchwilio os yw'n ymddangos i'r swyddog priodol ei bod yn datgelu gwybodaeth esempt o ddisgrifiad syn dod o fewn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 (Disgrifiadau o Wybodaeth Esempt: Cymru).
(2A) Mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol (er gwaethaf paragraff (2)) bod y ddogfen ar gael i'w harchwilio os yw'r wybodaeth yn wybodaeth o ddisgrifiad sydd am y tro yn dod o fewn—
(a)paragraff 14 o Atodlen 12A i Deddf 1972 (ac eithrio i'r graddau bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw delerau a gynigir neu sydd i'w cynnig gan yr awdurdod neu iddo yn ystod trafodaethau am gontract); neu
(b)paragraff 17 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972.”.
3. Yn rheoliad 26 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001(4)—
(a)Ym mharagraff (1)(i) ar ôl “Atodlen 12A” mewnosoder “, Rhan 4 i 6”;
(b)Ym mharagraff (9) yn lle “paragraff (2) o Ran III” rhodder “paragraff 22(2) o Ran 6”.
4. Pan fydd cyfarfod o bwyllgor safonau, neu is-bwyllgor o bwyllgor safonau yn cael ei gynnull i ystyried mater a atgyfeirir iddo o dan ddarpariaethau adran 70(4) neu (5) neu 71(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, bydd darpariaethau Rhan 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn gymwys fel pe bai'r disgrifiadau canlynol o wybodaeth esempt yn cael eu mewnosod ar ôl paragraff 18 o'r Atodlen honno
“(18A) Information which is subject to any obligations of confidentiality.
(18B) Information which relates in anyway to matters concerning national security.
(18C) The deliberations of a standards committee or of a sub-committee of a standards committee established under the provisions of Part 3 of the Local Government Act 2000 in reaching any finding on a matter referred to it.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2007
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru.
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn diwygio Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac, o wneud hynny, yn newid Rhif au'r paragraffau yn Atodlen 12A. Caiff y cyfeiriadau at Atodlen 12A yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 eu diwygio gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 26 o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 hefyd yn cyfeirio at Atodlen 12A a chaiff y cyfeiriadau hynny eu diwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n addasu cymhwysiad Atodlen 12A pan fo pwyllgor safonau yn cyfarfod i ddelio â honiad o dorri cod ymddygiad.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: