- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
PRIFFYRDD, CYMRU
Gwnaed
17 Ionawr 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
18 Ionawr 2008
Yn dod i rym
12 Mai 2008
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 48(2), 95A(5), 97 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 a pharagraffau 2, 4(1), 5(2), 8(a) a 9(b) o Atodlen 4B iddi(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2), yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008. Deuant i rym ar 12 Mai 2008 ac maent yn gymwys o ran Cymru .
2. Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “cyfeiriad” (“address”), o ran dull penodol o drosglwyddo cyfathrebiad electronig, yw unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion dull trosglwyddo o'r fath;
mae i “cyfathrebu electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(3);
ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991; ac
ystyr “tramgwydd” (“offence”) yw tramgwydd cosb benodedig.
3. Nid yw adran 95A(1) o Ddeddf 1991 ac Atodlen 4A iddi (tramgwyddau cosbau penodedig o dan Ran 3) yn gymwys i stryd nad yw'n briffordd a gynhelir.
4. Rhaid i hysbysiad o gosb benodedig fod yn y ffurf a osodir yn Atodlen 1.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (7), os bydd person—
(a)wedi rhoi i awdurdod stryd gyfeiriad ar gyfer cyflwyno unrhyw hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 iddo (cosbau penodedig ar gyfer tramgwyddau penodol o dan Ran 3) drwy ddefnyddio dull penodol ar gyfer trosglwyddo cyfathrebiad electronig; a
(b)heb hysbysu'r awdurdod bod y cyfeiriad wedi'i dynnu'n ôl at y diben hwnnw,
rhaid rhoi'r cyfryw hysbysiad drwy ei anfon ato yn y cyfeiriad hwnnw drwy'r dull hwnnw, yn unol â'r amod a osodir ym mharagraff (3).
(2) Yn unrhyw arall achos, rhaid rhoi hysbysiad o dan yr Atodlen honno—
(a)drwy ei anfon drwy'r post dosbarth cyntaf at y person y mae i'w roi iddo yn ei gyfeiriad priodol;
(b)drwy ei draddodi iddo;
(c)drwy ei adael yn ei gyfeiriad priodol; neu
(ch)drwy unrhyw ddull arall y cytunir arno gydag ef.
(3) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod yn rhaid i'r hysbysiad—
(a)allu cael ei gyrchu gan y person yr anfonir ef ato;
(b)bod yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac
(c)ar ffurf sy'n caniatáu y gellir cadw'r hysbysiad er mwyn cyfeirio ato yn nes ymlaen,
ac i'r diben hwn ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad ar gael i'r person hwnnw o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei roi iddo drwy gyfrwng hysbysiad ar ffurf brintiadwy.
(4) Yn ddarostyngedig i adran 98(2) o Ddeddf 1991 (cyfrifo cyfnodau), os defnyddir cyfathrebu electronig at ddibenion cyflwyno hysbysiad o dan Atodlen 4B i'r Ddeddf honno, yna, oni phrofir i'r gwrthwyneb, bernir bod yr hysbysiad wedi'i roi ar y diwrnod ac ar yr amser a gofnodir gan y cyfarpar trosglwyddo fel y diwrnod a'r amser pan gwblhawyd y trosglwyddiad yn foddhaol.
(5) Os, ar ôl tri chais (a gofnodwyd yn briodol gan y person sy'n cyflwyno'r hysbysiad) i wneud y cyflwyno'n effeithiol drwy ddefnyddio un dull penodol i drosglwyddo cyfathrebiad electronig, na ellir cyflwyno'r hysbysiad, gellir rhoi'r hysbysiad drwy ei gyflwyno i'r person y dylid ei roi iddo drwy unrhyw ddull arall y mae cyfeiriad ar gael iddo yn rhinwedd paragraff (1) neu drwy unrhyw ddull arall y cyfeirir ato ym mharagraff (2).
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), at ddibenion y rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y mae hysbysiad o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991 i'w roi iddo, yw—
(a)os yw'r cyfryw berson wedi rhoi i'r awdurdod stryd sy'n rhoi'r hysbysiad gyfeiriad ar gyfer gwasanaeth post o hysbysiadau o'r fath, y cyfeiriad hwnnw; a
(b)fel arall
(i)yn achos corfforaeth, swyddfa gofrestru neu brif swyddfa'r gorfforaeth; a
(ii)mewn unrhyw achos arall, cyfeiriad hysbys diwethaf y cyfryw berson.
(7) Caiff person roi cyfeiriadau gwahanol ar gyfer gwahanol hysbysiadau neu wahanol ddosbarthiadau o hysbysiad.
6. Ni chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig am dramgwydd mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd sy'n dechrau gyda'r diwrnod y cyflawnir ef.
7.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os bydd hysbysiad o gosb benodedig wedi'i rhoi ynglyn â thramgwydd a nodir yng ngholofn 2 o'r Tabl yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, ac a ddisgrifir yn gryno yng ngholofn 3 o'r Tabl hwnnw, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd y swm a nodir ynglŷn ag ef yng ngholofn 4.
(2) Os, ynglyn â thramgwydd o'r fath, caiff taliad ei wneud cyn diwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff 5(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, neu os na fydd diwrnod olaf y cyfnod yn digwydd ar ddiwrnod gwaith, cyn diwedd y diwrnod gwaith canlynol yn unol â pharagraff 5(3) o'r Atodlen honno, y gosb ar gyfer y tramgwydd hwnnw fydd yn hytrach y swm a nodir, ynglyn ag ef, yng ngholofn 5.
8.—(1) Addesir Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (wrth ei chymhwyso o ran Cymru) fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 4(2) yn lle “29” rhodder “36”.
(3) Ym mharagraff 5(1) yn lle “15” rhodder “29”.
9. Caniateir i awdurdod stryd ddidynnu o'r cosbau penodedig a dderbynnir o dan Atodlen 4B i Ddeddf 1991, y costau rhesymol am weithredu'r cynllun y telir hwy oddi tano, a rhaid iddo ddefnyddio'r enillion net at ddibenion datblygu neu roi ar waith bolisïau ar gyfer hybu ac annog cyfleusterau a gwasanaethau trafnidiaeth sy'n ddiogel, yn integredig, yn effeithiol ac yn economaidd i'w ardal, o'i ardal ac yn ei ardal.
10. Os rhoddir hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig yn unol â pharagraff 7(1) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991, rhaid iddo fod ar y ffurf a osodir yn Atodlen 3.
Ieuan Wyn Jones
Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.
17 Ionawr 2008
Rheoliad 4
Rheoliad 7
(1) | (2) | (3) | (4) | (5) |
---|---|---|---|---|
Eitem Rhif | Tramgwydd o dan Ddeddf 1991 | Disgrifiad cryno | Swm y gosb | Swm disgownt |
1. | Tramgwydd o dan adran 54(5). | Methiant i gydymffurfio â dyletswyddau o dan a.54 (hysbysiad ymlaen llaw o waith penodol, etc.). | £120. | £80. |
2. | Tramgwydd o dan adran 55(5). | Dechrau ar y gwaith yn groes i a.55 (hysbysiad o ddyddiad dechrau). | £120. | £80. |
3. | Tramgwydd o dan adran 55(9)(4). | Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.55(8) (hysbysiad i'w roi pan fydd hysbysiad a.55 yn peidio â bod yn effeithiol). | £120. | £80. |
4. | Tramgwydd o dan adran 57(4). | Methiant i roi hysbysiad yn unol ag a.57 (hysbysiad o waith brys). | £120. | £80. |
5. | Tramgwydd o dan adran 70(6) sy'n golygu methiant i gydymffurfio ag is-adran (3) neu (4A)(5). | Methiant i gydymffurfio â gofynion i roi hysbysiad o gwblhau gwaith adfer. | £120. | £80. |
6. | Tramgwydd a grëwyd gan reoliadau a wnaed o dan adran 74(7B). | Methiant i roi hysbysiad sy'n ofynnol gan reoliadau o dan a.74 (tâl am feddiannu priffordd pan fu oedi afresymol yn y gwaith). | £120. | £80. |
Rheoliad 10
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae adran 41 o Ddeddf Rheoli Traffig 2004 ac Atodlenni 2 a 3 iddi, yn mewnosod adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B yn Neddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (“Deddf 1991”). Mae hyn yn darparu bod tramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991 yn dod yn dramgwyddau cosbau penodedig ac yn galluogi i reoliadau gael eu gwneud ynglŷn â hwy.
Mae Rheoliadau Gwaith Stryd (Cosbau Penodedig) (Cymru) 2008 yn gwneud darpariaeth gyffredinol o ran Cymru ynghylch cosbau penodedig am dramgwyddau penodol o dan Ran 3 o Ddeddf 1991.
Mae rheoliad 2 yn diffinio termau a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 3 yn rhwystro rheolwyr stryd (yr awdurdod stryd dros stryd nad yw'n briffordd a gynhelir) rhag rhoi hysbysiadau cosbau penodedig ynglŷn â stryd o'r fath.
Mae rheoliad 4 ac Atodlen 1 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad o gosb benodedig.
Mae rheoliad 5 yn gosod y dull o gyflwyno hysbysiad o gosb benodedig a hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig, ac mae'n cynnwys darpariaeth ar gyfer cyflwyno hysbysiad drwy gyfathrebu electronig.
Mae rheoliad 6 yn pennu na chaniateir rhoi hysbysiad o gosb benodedig mwy na 91 o ddiwrnodau ar ôl cyflawni'r tramgwydd, sy'n dechrau ar y diwrnod y cyflawnir ef.
Mae rheoliad 7 ac Atodlen 2 yn gosod manylion y tramgwyddau cosbau penodedig ac yn rhagnodi ynglŷn â phob tramgwydd, y bydd y gosb yn £120 oni thelir y swm o £80 cyn diwedd y cyfnod ar gyfer talu'r swm disgownt.
Mae rheoliad 8 yn addasu Atodlen 4B i Ddeddf 1991 (yn ei chymhwysiad o ran Cymru) drwy roi cyfnod o 36 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 29 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu cosb benodedig, a thrwy roi cyfnod o 29 o ddiwrnodau yn lle'r cyfnod o 15 o ddiwrnodau, sef y cyfnod ar gyfer talu swm disgownt yn hytrach na'r gosb lawn.
Mae rheoliad 9 yn galluogi awdurdod stryd i ddidynnu'r costau am ddyroddi a gweinyddu hysbysiadau cosbau penodedig o'r cosbau a dderbynnir ac mae'n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw enillion net gael eu cymhwyso i roi polisïau trafnidiaeth penodol ar waith o ran eu hardal.
Mae rheoliad 10 ac Atodlen 3 yn rhagnodi'r ffurf o hysbysiad sy'n tynnu'n ôl hysbysiad o gosb benodedig.
Gellir cael Asesiad Effaith Rheoleiddiol llawn a Memorandwm Esboniadol gan Is-adran Rheoli Rhwydwaith Ffyrdd, Trafnidiaeth Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Swyddfeydd y Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ neu ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru yn http://www.assemblywales.org/bus-home/buslegislation/bus/bus-legislation-sub/bus-legislation-sub-annulment.htm
1991 p.22. Mewnosodir adran 95A ac Atodlenni 4A a 4B gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18) (“Deddf 2004”), adran 41 ac Atodlenni 2 a 3. Diwygir adran 97 yn rhagolygol gan adran 64(4) o'r Ddeddf honno. Yn rhinwedd paragraff 26 o Atodlen 11 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32), nid yw'n ofynnol i Weinidogion Cymru gael cydsyniad y Trysorlys i arfer swyddogaethau o dan baragraff 8(a) o Atodlen 4B i Ddeddf 1991.
Trosgwlyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol (ac eithrio'r swyddogaethau o dan a.167(3)) o dan y Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf 1991 i Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).
2000 p.7. Diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebu 2003 (p.21), adran 406(1) ac Atodlen 17, paragraff 158.
Mewnosodir is-adrannau (8) a (9) o adran 55 gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 49(2).
Amnewidir adran 70(3) a mewnosodir adran 70(4A) gan Ddeddf Rheoli Traffig 2004 (p.18), adran 54(3).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: