Search Legislation

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008

Statws

This is the original version (as it was originally made).

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1268 (Cy.128)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008

Gwnaed

6 Mai 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

8 Mai 2008

Yn dod i rym

31 Mai 2008

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(e), 17(1), 26(1)(a), a (48)(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1).

Yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, maent wedi rhoi sylw i gyngor perthnasol a roddwyd iddynt gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2), cafwyd ymgynghori agored a thryloyw â'r cyhoedd yn ystod cyfnod paratoi a gwerthuso'r Rheoliadau hyn.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 31 Mai 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996

2.—(1Mae Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(3) wedi eu diwygio i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (7).

(2Yn rheoliad 2(1) (dehongli), yn y diffiniad o “Directive 2000/13” yn lle'r geiriau “Commission Directive 2005/26/EC” hyd at y diwedd, rhodder “Commission Directive 2007/68/EC amending Annex IIIa to Directive 2000/13/EC of the European Parliament and of the Council as regards certain food ingredients(4);”.

(3Yn rheoliad 13(8)(c)—

(a) hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”; a

(b)hepgorer y darn sy'n dechrau gyda'r geiriau “other than” ac yn gorffen gyda'r geiriau “that allergenic ingredient”.

(4Yn rheoliad 34B(1)—

(a)yn lle'r geiriau “paragraphs (2) and (3)” rhodder “paragraff (2)”; a

(b)hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”.

(5Yn rheoliad 34B(2)(b)—

(a) hepgorer y geiriau “subject to paragraph (3) of this regulation,”; a

(b)hepgorer y geiriau “paragraphs 1 to 11 of”.

(6Yn rheoliad 50 (darpariaeth drosiannol), ar ôl paragraff (14) mewnosoder y canlynol—

(15) In any proceedings for an offence under regulation 44(1)(a) it is a defence to prove that—

(a)the food concerned was sold before 31st May 2009 or marked or labelled before that date; and

(b)the matters constituting the alleged offence would not have constituted an offence under these Regulations if the amendments made by regulation 2 of the Food Labelling (Declaration of Allergens) (Wales) Regulations 2008(5) had not been in operation when the food was sold..

(7Yn lle cynnwys Atodlen AA1 (cynhwysion alergenig) rhodder cynnwys yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Dirymu

3.  Mae'r Rheoliadau neu ddarpariaethau a ganlyn wedi eu dirymu—

(a)Rheoliad 34B(3) o Reoliadau Labelu Bwyd 1996 ac Atodlen 2A iddynt;

(b)Yr Atodlen i Reoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2004(6);

(c)Rheoliadau Labelu bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2005(7);

(ch)Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) (Diwygio) 2005(8);

(d)Rheoliadau Labelu Bwyd (Datgan Alergenau) (Cymru) 2007(9).

Gwenda Thomas

O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

6 Mai 2008

Rheoliad 2(7)

YR ATODLENCynnwys i'w fewnosod fel Atodlen A1 i Reoliadau Labelu Bwyd 1996

1.  Cereals containing gluten (i.e. wheat, rye, barley, oats, spelt, kamut or their hybridised strains),

  • except:

    (a)

    wheat-based glucose syrups including dextrose(10);

    (b)

    wheat-based maltodextrins(10) ;

    (c)

    glucose syrups based on barley;

    (d)

    cereals used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages.

2.  Crustaceans.

3.  Eggs.

4.  Fish,

  • except:

    (a)

    fish gelatine used as a carrier for vitamin or carotenoid preparations;

    (b)

    fish gelatine or isinglass used as a fining agent in beer and wine.

5.  Peanuts.

6.  Soybeans,

  • except:

    (a)

    fully refined soybean oil and fat(1);

    (b)

    natural mixed tocopherols (E306), natural D-alpha tocopherol, natural D-alpha tocopherol acetate, natural D-alpha tocopherol succinate from soybean sources;

    (c)

    vegetable oils derived from phytosterols and phytosteral esters from soybean sources;

    (d)

    plant stanol ester produced from vegetable oil sterols from soybean sources.

7.  Milk (including lactose),

  • except:

    (a)

    whey used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages;

    (b)

    lactitol.

8.  Nuts, i.e. almonds (Amygdalus communis L.), hazelnuts (Corylus avellana), walnuts (Juglans regia), cashews (Anacardium occidentale), pecan nuts (Carya illinoiesis (Wangenh.) K.Koch), Brazil nuts (Bertholletia excelsa), pistachio nuts (Pistacia vera), macadamia nuts and Queensland nuts (Macadamia terniflora),

  • except:

    (a)

    nuts used for making distillates or ethyl alcohol of agricultural origin for spirit drinks and other alcoholic beverages.

9.  Celery.

10.  Mustard.

11.  Sesame seeds.

12.  Sulphur dioxide and sulphites at concentrations of more than 10 mg/kg or 10 mg/litre expressed as SO2 .

13.  Lupin.

14.  Molluscs.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Reoliadau Labelu Bwyd 1996 (“y prif Reoliadau”) ymhellach i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae'r prif Reoliadau yn rhychwantu Prydain Fawr gyfan.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu yng Nghymru Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 2007/68/EC (OJ Rhif L310, 28.11.2007, t.11) sy'n diwygio Atodlen IIIa i Gyfarwyddeb 2000/13/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran cynhwysion bwyd penodol. Mae'r cynhwysion o dan sylw yn gynhwysion sy'n debygol o achosi adwaith alergaidd mewn rhai defnyddwyr.

Mae'r Rheoliadau yn diwygio'r prif Reoliadau o ran y gofynion labelu ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys cynhwysion alergenig ac yn darparu cyfnod trosiannol ar gyfer bwydydd sy'n cael eu marcio, eu labelu neu eu gwerthu cyn 31 Mai 2009.

Mae asesiad rheoleiddiol llawn o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes a'r sector gwirfoddol ar gael oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.

(1)

1990 p.16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o “food”) gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adrannau 17 a 48 gan baragraffau 12 a 21 yn y drefn honno o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) (“Deddf 1999”). Diwygiwyd adran 48 hefyd gan O.S. 2004/2990. Diwygiwyd adran 53(2) gan baragraff 19 o Atodlen 16 i Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (1994 p.40), Atodlen 6 i Ddeddf 1999 ac O.S. 2004/2990.

Mae swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan “the Ministers” (sef, o ran Cymru a Lloegr a chan weithredu ar y cyd, y Gweinidog dros Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol cyfrifol am iechyd yn Lloegr a bwyd ac iechyd yng Nghymru, ac o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy yn Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 1999. Trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir ag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd hwy wedi hynny i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru (p.32). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p.46) fel y'i darllenir ag adran 40(2) o Ddeddf 1999.

(2)

OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).

(3)

O.S. 1996/1499, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2007/3379 (Cy.301). Mewnosodwyd rheoliad 34B ac Atodlen AA1 gysylltiedig gan O.S. 2004/3022 (Cy.261). Diwygiwyd rheoliad 34B gan O.S. 2005/2835 (Cy.200); diwygiwyd Atodlen AA1 gan O.S. 2007/3379 (Cy.301). Mewnosodwyd paragraff (13) o reoliad 50 gan O.S. 2005/1309 (W.91), a pharagraff (14) o'r rheoliad hwnnw gan O.S. 2007/3379 (Cy.301).

(4)

OJ Rhif L310, 28.11.207, t.11.

(10)

The exception only applies to products derived from these products in so far as the process they have undergone is not likely to increase the level of allergenicity assessed by the European Food Safety Authority for the relevant product from which they originated.”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources