- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
BWYD, CYMRU
Gwnaed
23 Mehefin 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
24 Mehefin 2008
Yn dod i rym
17 Gorffennaf 2008
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972(1).
Cafodd Gweinidogion Cymru eu dynodi at ddibenion yr adran honno o ran mesurau sy'n ymwneud â bwyd (gan gynnwys diod) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol ar fwyd a mesurau sy'n ymwneud â bwyd anifeiliaid a gynhyrchir ar gyfer anifeiliaid neu y porthir anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd ag ef(2).
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) (Diwygio) 2008.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2008.
(3) Yn y rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008(3).
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2. Diwygir y Prif Reoliadau yn unol â'r paragraffau canlynol—
(a)yn rheoliad 2(1) (dehongli) yn y diffiniad o “awdurdod bwyd anifeiliaid” yn lle “adran 67(1)” rhodder “adran 67(1A)”;
(b)ym mharagraff (1) o reoliad 4 (gorfodi) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth,”; ac
(c)yn rheoliad 5 (cymhwyso darpariaethau amrywiol Deddf Diogelwch Bwyd 1990) ym mharagraff (c) (sy'n ymwneud ag adran 32 — pwerau mynediad) hepgorer y geiriau “neu, yn ôl y digwydd, ei ddosbarth”.
Gwenda Thomas
O dan awdurdod y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
23 Mehefin 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynhyrchion Reis o Unol Daleithiau America (Cyfyngiad ar eu Rhoi Gyntaf ar y Farchnad) (Cymru) 2008 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn rhoi ar waith, o ran Cymru, Benderfyniad y Comisiwn 2006/601/EC ar fesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L244, 7.9.2006, t.27) fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Benderfyniad y Comisiwn 2008/162/EC sy'n diwygio Penderfyniad 2006/601/EC sy'n ymwneud â mesurau argyfwng ynghylch yr organedd a addaswyd yn enetig nas awdurdodwyd “LL RICE 601” mewn cynhyrchion reis (OJ Rhif L52, 27.2.2008, t.25).
Mae'r Rheoliadau hyn—
(1) yn diwygio rheoliad 2 o'r prif Reoliadau i gywiro gwall teipograffyddol; a
(2) yn diwygio rheoliadau 4 a 5 o'r prif Reoliadau i ddileu geiriau diangen.
Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
O.S. 2005/1971. Cafodd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru gan adrannau 58 a 59 o Atodlen 28 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: