- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
13.—(1) Rhaid i'r swyddog cyfrif, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Ddeddf 1983,(1) ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post bapur pleidleisio a datganiad pleidlais bost, yn y ffurf briodol fel sydd yn yr Atodiad, neu ffurf ag effaith gyffelyb, ynghyd â pha bynnag amlenni ar gyfer eu dychwelyd a ragnodir gan y cyfryw reoliadau.
(2) Rhaid i'r swyddog cyfrif hefyd ddyroddi i'r rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post pa bynnag wybodaeth y mae'r swyddog cyfrif yn ei hystyried yn briodol ynglŷn â sut y gellir cael—
(a)cyfieithiadau i ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg neu'r Saesneg o unrhyw gyfarwyddiadau neu o ganllawiau i bleidleiswyr a dirprwyon a anfonir ynghyd â'r papur pleidleisio;
(b)cyfieithiad i Braille o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;
(c)portreadau graffigol o'r cyfryw gyfarwyddiadau neu ganllawiau;
(ch)y cyfarwyddiadau neu ganllawiau mewn unrhyw ffurf arall (gan gynnwys unrhyw ffurf glywadwy).
(3) Rhaid i'r datganiad pleidlais bost gynnwys darpariaeth ar gyfer llofnodi'r ffurflen ac ar gyfer datgan dyddiad geni'r pleidleisiwr neu'r dirprwy.
(4) Yn achos papur pleidleisio a ddyroddir i berson mewn cyfeiriad yn y Deyrnas Unedig, rhaid i'r swyddog cyfrif sicrhau y gall y pleidleisiwr neu'r dirprwy ddychwelyd y papur pleidleisio yn ddi—dâl.
Gweler Rheoliadau Deddf Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 O.S. 2001/341 (diwygiwyd gan O.S. 2001/1700, 2002/1871, 2004/226, 2006/752 a 2006/2910).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: