- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made).
18.—(1) Caiff y swyddog cyfrif benodi personau i fod yn bresennol mewn gorsafoedd pleidleisio at y diben o ddarganfod cambersonadu (“arsylwyr pleidleisio”).
(2) Rhaid i'r swyddog cyfrif benodi personau i arsylwi ar gyfrif y pleidleisiau a gwirio'r gyfriflen papurau pleidleisio (“arsylwyr cyfrif”).
(3) At y diben o gynorthwyo'r swyddog cyfrif i gyflawni swyddogaethau'r swyddog cyfrif o dan baragraff (2), caiff trefnydd deiseb enwebu personau sydd, ym marn y trefnydd deiseb, yn addas i'w penodi yn arsylwyr cyfrif.
(4) Rhaid gwneud enwebiad o dan baragraff (3) drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif, ddim hwyrach na'r pumed diwrnod cyn y bleidlais (gan anwybyddu unrhyw ddiwrnod sydd i'w anwybyddu yn rhinwedd rheol 4) a rhaid i'r hysbysiad gynnwys cyfeiriad pob enwebai.
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid i'r swyddog cyfrif beidio, heb reswm digonol, â gwrthod penodi yn arsylwr cyfrif unrhyw berson a enwebir gan drefnydd deiseb o dan baragraff (3).
(6) Caiff y swyddog cyfrif gyfyngu ar nifer yr arsylwyr cyfrif, fodd bynnag, fel bod—
(a)rhaid caniatáu yr un nifer yn achos pob trefnydd deiseb, a
(b)rhaid i'r nifer a ganiateir i drefnydd deiseb (ac eithrio mewn amgylchiadau arbennig) beidio â bod yn llai na'r nifer a gyfrifir drwy rannu nifer y clercod a gyflogir ar gyfer cyfrif y pleidleisiau gan nifer y trefnwyr deisebau.
At ddibenion y cyfrifiadau sy'n ofynnol o dan y paragraff hwn, mae arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad mwy nag un trefnydd deiseb yn arsylwr cyfrif ar wahân ar gyfer pob un o'r trefnwyr deiseb a'i henwebodd.
(7) Os bydd farw arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb, neu os yw'n mynd yn analluog i weithredu, caiff y trefnydd deiseb a wnaeth yr enwebiad enwebu person arall i'w benodi yn arsylwr cyfrif yn lle'r person hwnnw, drwy gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i'r swyddog cyfrif.
(8) Mae'r paragraffau (4) a (5) yn gymwys i enwebiad o dan baragraff (7), os rhoddir “diwrnod olaf” yn lle “pumed diwrnod ” ym mharagraff (4).
(9) Yn narpariaethau'r Rheolau hyn sy'n dilyn, mae cyfeiriadau at arsylwyr pleidleisio ac arsylwyr cyfrif i'w dehongli fel cyfeiriadau at arsylwyr sydd eisoes wedi eu penodi.
(10) Caniateir i unrhyw hysbysiad y mae'n ofynnol i'r swyddog cyfrif ei roi i arsylwr cyfrif a benodir ar enwebiad trefnydd deiseb gael ei ddanfon, neu ei anfon drwy'r post, i'r cyfeiriad a nodir yn yr hysbysiad o enwebiad.
(11) Caiff trefnydd deiseb wneud unrhyw weithred neu beth yr awdurdodir arsylwr cyfrif i'w wneud, neu caiff gynorthwyo unrhyw arsylwr cyfrif a benodwyd yn dilyn ei enwebu, i wneud unrhyw weithred neu beth o'r fath.
(12) Pan pan fo'n ofynnol neu pan awdurdodir, o dan y Rheolau hyn, gwneud unrhyw weithred neu beth ym mhresenoldeb yr arsylwyr pleidleisio neu'r arsylwyr cyfrif, ni fydd amhresenoldeb unrhyw berson o'r fath ar yr adeg ac yn y man a bennwyd at y diben hwnnw, os cyflawnir y weithred neu'r peth yn briodol fel arall, yn annilysu'r weithred neu'r peth a wneir.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: