Search Legislation

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 1927 (Cy.183)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008

Gwnaed

17 Gorffennaf 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

21 Gorffennaf 2008

Yn dod i rym

12 Awst 2008

Mae Gweinidogion Cymru—

(a)wedi cael sylwadaeth a gyflwynwyd iddynt gan gyrff cadwraeth Prydain Fawr yn gweithredu drwy'r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn unol â Rhan 2 o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006(1);

(b)yn unol ag adran 26(4)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(2), wedi rhoi i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyfle i gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadaeth mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; ac

(c)o'r farn bod yr anifeiliaid y cyfeirir atynt yn Erthyglau 2(a), (b), (c), (ch) a (d) o'r Gorchymyn hwn mewn perygl o ddarfod ym Mhrydain Fawr neu'n debygol o gael eu rhoi mewn perygl o'r fath oni chymerir mesurau ar gyfer eu cadwraeth.

Drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(3), ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy(4), mae Gweinidogion Cymru'n gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn, rhychwantu a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 5) (Cymru) 2008.

(2Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 12 Awst 2008.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr.

(4Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru(5).

Amrywio Atodlen 5

2.  Yn Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(6) (anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod)—

(a)yn y cofnod ynghylch “Seahorse, Short Snouted”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;

(b)yn y cofnod ynghylch “Seahorse, Spiny”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;

(c)yn y cofnod ynghylch “Shark, Angel”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;

(ch)yn y cofnod ynghylch “Snail, Roman”, ar ôl “England”, mewnosoder “and Wales”;

(d)yn y cofnod ynghylch “Vole, Water”, hepgorer “(in so far as this entry has effect with respect to Wales, in respect of section 9(4)(a) only)”; ac

(dd)yn Nodyn 2 ar ddiwedd yr Atodlen, ar ôl “In this Schedule “excluded waters” means the part of the territorial waters adjacent to England”, mewnosoder “and Wales”.

Jane Davidson

Y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, un o Weinidogion Cymru

17 Gorffennaf 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn amrywio Atodlen 5 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, sy'n rhestru'r anifeiliaid sy'n cael eu gwarchod o dan adran 9 o'r Ddeddf honno.

Mae erthyglau 2(a), (b), (c) ac (ch) yn ychwanegu pedwar anifail at Atodlen 5 fel y mae'n gymwys yng Nghymru. Rhoddir dwy amrywogaeth o forfeirch (y morfarch trwyn cwta a'r morfarch pigog) o dan warchodaeth gyffredinol o dan adran 9. Rhoddir y maelgi a'r falwen Rufeinig o dan warchodaeth gyfyngedig. Nid yw'r warchodaeth a roddir i'r maelgi yn gymwys i'r dyfroedd tiriogaethol hynny sydd rhwng 6 a 12 milltir morol o waelodlinau. Mae erthygl 2(d) yn rhoi'r llygoden ddŵr o dan warchodaeth gyffredinol yn lle'r warchodaeth gyfyngedig y rhoddwyd hi odani gynt.

Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol ac mae copïau ar gael gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(1)

2006 p.16. I gael y diffiniad o “the GB Conservation bodies” gweler adran 27(3A) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), a fewnosodwyd gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16), a pharagraff 76(1) a (4) o Atodlen 11 iddi.

(3)

Diwygiwyd adran 22(3) gan adrannau 132 a 133 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43), a pharagraff 11(1) a (5) o Atodlen 9 iddi, ac fe'i diwygiwyd ar ôl hynny gan adran 105(1) o Ddeddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006 (p.16), a pharagraffau 74(1) a (2) o Atodlen 11 iddi.

(4)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(3) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd y swyddogaethau hynny wedyn i Weinidogion Cymru gan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(5)

Yn rhinwedd adran 27(5) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (p.69), mae “Cymru” yn cynnwys y dyfroedd tiriogaethol sy'n gyfagos â Chymru.

(6)

Mae Atodlen 5 wedi'i hamrywio (mewn perthynas â Chymru a Lloegr) gan O.S. 1988/288, 1989/906, 1991/367, 1992/2350, 1998/878, 2007/1843 a 2008/431.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources