Search Legislation

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeistref Sirol Wrecsam) 2008

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 226 (Cy.28)

TRAFFIG FFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeistref Sirol Wrecsam) 2008

Gwnaed

5 Chwefror 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

6 Chwefror 2008

Yn dod i rym

1 Mawrth 2008

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am i Orchymyn gael ei wneud o dan baragraffau 1(1) a 2(1) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991(1) mewn cysylltiad â'r Fwrdeistref Sirol honno ac mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn unol â gofynion paragraffau 1(3) a 2(3) o'r Atodlen honno ac â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd yn unol â gofynion adran 8 o Ddeddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992(2);

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan baragraffau 1(1), 2(1) a 3(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991(3) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn

1.  Daw'r Gorchymyn hwn a enwir Gorchymyn Traffig Ffyrdd (Ardal Barcio a Ganiateir ac Ardal Barcio Arbennig) (Bwrdeistref Sirol Wrecsam) i rym ar 1 Mawrth 2008.

Dehongli

2.  Yn y Gorchymyn hwn:

ystyr “yr ardal barcio” (“the parking area”) yw'r ardal a ddynodir yn ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig gan erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(4); ac

ystyr “Deddf 1991” (“the 1991 Act”) yw Deddf Traffig Ffyrdd 1991.

Cymhwyso

3.  Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i fwrdeistref sirol Wrecsam yn ei chyfanrwydd heblaw am —

(a)y darn cyfan o'r A483, gan gynnwys ei slipffyrdd ymuno a'i slipffyrdd ymadael, sy'n dod o fewn y fwrdeistref sirol;

(b)yr A5 tua'r de o'i chyffordd â'r A483 cyn belled â'r ffin sirol â Swydd Amwythig; ac

(c)yr A5 tua'r gorllewin o'i chyffordd â'r A483 i'w chyffordd â'r B5070.

Dynodi ardal barcio a ganiateir ac ardal barcio arbennig

4.  Mae Gweinidogion Cymru drwy hyn yn dynodi'r ardal y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddi—

(a)yn ardal barcio a ganiateir; a

(b)yn ardal barcio arbennig.

Addasu a chymhwyso Rhan II o Ddeddf 1991

5.  Mae adrannau 66, 69 i 74, 78, 79 ac 82 o Ddeddf 1991, ac Atodlen 6 iddi, yn gymwys mewn perthynas â'r ardal barcio ac yn ôl y cymhwysiad hwnnw maent yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Addasu Deddf 1984

6.  Caiff Deddf 1984 ei haddasu mewn perthynas â'r ardal barcio fel a bennir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

8 Chwefror 2008

Erthygl 5

ATODLEN 1ADDASIADAU I DDARPARIAETHAU RHAN II O DDEDDF TRAFFIG FFYRDD 1991 A GYMHWYSIR MEWN PERTHYNAS Å'R ARDAL BARCIO

1.—(1Caiff adran 66 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1) hepgorir y geiriau “in a designated parking place”.

(3Hepgorir is-adran (2).

(4Yn is-adran (3)—

(a)ym mharagraff (d) yn lle'r geiriau “the specified proportion” rhoddir “one half”; a

(b)ym mharagraff (e) yn lle'r geiriau “the London authority” rhoddir “the parking authority”.

(5Hepgorir is-adran (4).

(6Yn is-adran (5) yn lle paragraff (b) rhoddir—

(b)the parking authority..

2.—(1Caiff adran 69 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) Where, in the case of a stationary vehicle, a parking attendant has reason to believe that it has been allowed to remain at rest in any of the circumstances in which a penalty charge is payable, the parking attendant or another person acting under the direction of the parking attendant may fix an immobilisation device to the vehicle..

(3Yn lle is-adran (8) rhoddir—

(8) In this section “relevant authority” means the parking authority..

3.—(1Caiff adran 71 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn is-adran (1) yn lle'r geiriau “a London authority” rhoddir “the parking authority”.

(3Yn lle is-adran (4) rhoddir—

(4) The grounds are—

(a)that there were no reasonable grounds for the parking attendant concerned to believe that the vehicle had been permitted to remain at rest in the parking area in circumstances in which a penalty charge was payable;

(b)that the vehicle had been permitted to remain at rest in the place where it was by a person who was in control of the vehicle without the consent of the owner;

(c)that the place where the vehicle was at rest was not in the parking area;

(d)in a case within subsection (1)(d) above, that, by virtue of an exemption given by section 70 of this Act, section 69 did not apply to the vehicle at the time in question; or

(e)that the penalty or other charge in question exceeded the amount applicable in the circumstances of the case..

4.—(1Caiff adran 73 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adrannau (1) i (3) rhoddir—

(1) The functions conferred on the parking authority by this section must be discharged by it through a joint committee (“the Joint Committee”) which has been set up in pursuance of arrangements entered into under section 101(5) of the Local Government Act 1972(5) and of which the parking authority and at least two other local authorities are constituent authorities.

(2) In subsection (1) “local authorities” means authorities which are county or county borough councils in Wales or county or district councils in England in whose areas permitted parking areas or special parking areas have been designated under Schedule 3 to this Act.

(3) The parking authority must—

(a)with the consent of the Lord Chancellor appoint persons to act as parking adjudicators for the purposes of this Part of this Act in relation to the parking area;

(b)provide or secure the provision of accommodation and administrative staff for parking adjudicators so appointed; and

(c)determine the places at which such parking adjudicators are to sit..

(3Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau “the appointing authorities” rhoddir “the parking authority”.

(4Hepgorir is-adrannau (8) i (10).

(5Yn is-adran (11) yn lle'r geiriau “The Secretary of State” rhoddir “The Welsh Ministers”.

(6Ar ôl is-adran (12) mewnosodir yr is-adran ganlynol—

(12A) The Road Traffic (Parking Adjudicators) (England and Wales) Regulations 1999 have effect as if made by the Welsh Ministers and apply to the parking area as they apply to the areas designated by the Orders listed in the Schedule to those Regulations..

(7Yn is-adran (18) yn lle'r geiriau “the Secretary of State” rhoddir “the Welsh Ministers”.

5.  Yn lle adran 74 rhoddir y canlynol—

74.(1) It is the duty of the parking authority to set the levels of additional parking charges to apply in the parking area.

(2) Different levels may be set for different parts of the parking area.

(3) In assessing the levels of additional parking charges to be set by the parking authority under this section the parking authority must have regard to the guidance given by the Welsh Ministers whether such guidance is given specifically to the parking authority or to local authorities in Wales generally.

(4) Guidance given by the Welsh Ministers under subsection (3) above may be varied at any time by the Welsh Ministers.

(5) The parking authority must publish, in such manner as the Welsh Ministers determine, the levels of additional parking charges which have been set under this section.

(6) In this section “additional parking charges” means penalty charges, charges made by the parking authority for the removal, storage and disposal of vehicles and charges for the release of vehicles from immobilisation devices fixed under section 69 of this Act..

6.—(1Caiff adran 78 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Ar ôl is-adran (7) mewnosodir yr is-adran ganlynol:

(8) Any order made under subsection (2), and any regulations made under subsection (4), of this section apply with necessary modifications, including in particular the substitution for references to a London authority of references to the parking authority, in relation to the recovery of Part II debts payable in relation to the parking area..

7.—(1Caiff adran 82 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) In this section and sections 66, 69 to 74, 78 and 79 of, and Schedule 6 to, this Act—

“immobilisation device” has the same meaning as in section 104(9) of the Road Traffic Regulation Act 1984;

“the Joint Committee” has the meaning given by section 73(1) of this Act;

“the parking area” means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County Borough of Wrexham) Order 2008(6);

“parking attendant” has the same meaning as in section 63A of the Road Traffic Regulation Act 1984;

“parking authority” means the Council of the County Borough of Wrexham;

“penalty charge” means a penalty charge which is payable by virtue of paragraph 3(1) and (2) of Schedule 3 to this Act;

“prescribe” and “prescribed” mean prescribe or, as the case may be, prescribed, by regulations made by the Welsh Ministers; and

“vehicle hiring agreement” and “vehicle hire firm” have the same meanings as in section 66 of the Road Traffic Offenders Act 1988(7) (hired vehicles)..

(3Hepgorir is-adrannau (1A), (1B) ac (1C).

(4Yn is-adran (5) yn lle'r geiriau “the London authority concerned” rhoddir “the parking authority”.

(5Yn is-adran (6) hepgorir y geiriau “on a Minister of the Crown”.

(6Yn is-adran (7) mewnosodir y geiriau “by the Lord Chancellor” ar ôl y geiriau “Any statutory instrument made”.

8.—(1Caiff Atodlen 6 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff 1(1) yn lle'r geiriau “the London authority concerned” rhoddir “the parking authority”.

(3Ym mharagraff 1(3) yn lle'r geiriau “The Secretary of State” rhoddir “The Welsh Ministers”.

(4Ym mharagraff 2—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau “the London authority who served the notice on him” rhoddir “the parking authority”;

(b)yn is-baragraff (2) yn lle'r geiriau o “in such form as” hyd at ddiwedd yr is-baragraff rhoddir “in writing”;

(c)yn is-baragraff (3) yn lle'r geiriau “The authority” rhoddir “The parking authority”;

(ch)yn is-baragraff (4)(c) yn lle'r geiriau “the parking place” rhoddir “the place where it was”.

(d)yn is-baragraff (4)(d) yn lle'r geiriau “relevant designation order” rhoddir “any relevant designation order”;

(dd)yn is-baragraff (7) yn lle'r geiriau “an authority to whom representations are duly made” rhoddir “the parking authority when representations are duly made to it”.

(5Ym mharagraff 3 yn lle'r geiriau “the London authority concerned” yn y ddau le y maent yn digwydd rhoddir “the parking authority”.

(6Ym mharagraff 4 yn lle'r geiriau “the London authority concerned” ac yn lle'r geiriau “the authority” rhoddir “the parking authority”.

(7Ym mharagraff 5—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau “an authority” rhoddir “the parking authority” ac yn lle'r geiriau “the authority’s decision” rhoddir “the parking authority’s decision”;

(b)yn is-baragraff (2) yn lle'r geiriau “the London authority concerned” rhoddir “the parking authority”; ac

(c)yn lle is-baragraff (3) rhoddir—

(3) It is the duty of the parking authority to comply with any direction given to it under sub-paragraph (2) above forthwith..

(8Ym mharagraff 6—

(a)yn is-baragraff (1) yn lle'r geiriau “the authority serving the notice” rhoddir “the parking authority”; a

(b)yn is-baragraff (2)(b)(ii) yn lle'r geiriau “the authority concerned” rhoddir “the parking authority”.

(9Ym mharagraff 7, yn lle'r geiriau “the authority concerned” rhoddir “the parking authority”.

(10Ym mharagraff 8—

(a)yn is-baragraffau (2)(b) a (5)(d) yn lle'r geiriau “the London authority concerned” rhoddir “the parking authority”; a

(b)yn is-baragraffau (6) a (7) yn lle'r geiriau “the London authority” rhoddir “the parking authority”.

Erthygl 6

ATODLEN 2ADDASIADAU I DDEDDF RHEOLEIDDIO TRAFFIG FFYRDD 1984

1.—(1Caiff adran 46 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Hepgorir is-adran (1).

(3Yn is-adran (1A) yn lle “Greater London” rhoddir “the parking area”.

2.—(1Diwygir adran 55 fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) A local authority must keep an account of—

(a)their income and expenditure in respect of designated parking places for which they are the local authority and which are in the permitted parking area; and

(b)their income from additional parking charges (within the meaning of section 74(6) of the Road Traffic Act 1991) received by them in respect of vehicles found within the special parking area and the expenditure incurred by them in relation to that area by virtue of any provision of Part II of the Road Traffic Act 1991 as it applies in relation to that area.

(1A) As soon as reasonably possible after the end of each financial year the local authority must forward to the Welsh Ministers a copy of the account for that year..

(3Hepgorir is-adrannau (3A) a (3B).

3.  Yn is-adran 63A(4)—

(a)yn lle'r geiriau “in Greater London” rhoddir “in the parking area”; a

(b)yn lle'r geiriau “Greater London Authority” rhoddir “Welsh Ministers”.

4.—(1Caiff adran 101 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Hepgorir is-adran (4).

(3Yn is-adran (4A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.

(4Hepgorir is-adran (5).

(5Yn is-adran (5A) yn lle'r geiriau “Greater London” rhoddir “the parking area”.

5.—(1Caiff adran 102 ei haddasu fel a ganlyn.

(2Yn lle is-adran (1) rhoddir—

(1) If a vehicle is removed from the parking area in circumstances in which an offence would have been committed but for the provisions of paragraph 1(4) or 2(4) of Schedule 3 to the Road Traffic Act 1991, the local authority shall be entitled to recover from any person responsible, such charges in respect of the removal, storage and disposal of the vehicle, as they may require..

(3Hepgorir is-adran (2).

(4Yn lle is-adran (4) rhoddir—

(4) Without prejudice to subsection (3) above, where by virtue of subsection (1) above any sum is recoverable in respect of a vehicle by a local authority in whose custody the vehicle is, the local authority shall be entitled to retain custody of it until that sum has been paid..

(5Hepgorir is-adran (7).

(6Yn is-adran (8) hepgorir y diffiniad o “appropriate authority”.

(7Hepgorir is-adran (9).

6.  Yn adran 142(1) cyn y diffiniad o “parking device” mewnosodir—

“parking area” means the area designated as a permitted parking area and as a special parking area by the Road Traffic (Permitted Parking Area and Special Parking Area) (County Borough of Wrexham) Order 2008 and “permitted parking area” and “special parking area” are to be read accordingly;.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer dynodi ardaloedd parcio a ganiateir ac ardaloedd parcio arbennig. Mae paragraff 1(1) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru i ddynodi'r cyfan neu unrhyw ran o ardal cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru yn ardal barcio a ganiateir yn dilyn cais gan yr awdurdod lleol. Mae paragraff 2(1) yn rhoi pŵer cyffelyb mewn perthynas ag ardaloedd parcio arbennig.

Caiff y Gorchymyn hwn ei wneud yn dilyn cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“yr awdurdod lleol”) ac ymgynghoriad statudol â Phrif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ac â'r Cyngor ar Dribiwnlysoedd.

Effaith y Gorchymyn hwn yw dynodi'n ardal barcio a ganiateir ac yn ardal barcio arbennig y cyfan o fwrdeistref sirol Wrecsam heblaw am y darn cyfan o'r A483 sydd o fewn y fwrdeistref sirol, gan gynnwys ei slipffyrdd ymuno a'i slipffyrdd ymadael, ac heblaw hefyd am yr A5 tua'r de o'i chyffordd â'r A483 i'r ffin sirol â Swydd Amwythig ac am yr A5 tua'r gorllewin o'i chyffordd â'r A483 i'w chyffordd â'r B5070 (“yr ardal barcio”). Unwaith y bydd y Gorchymyn mewn grym, rhoddir y pŵer i swyddogion parcio a gyflogir gan yr awdurdod lleol (neu a gyflogir yn swyddogion parcio gan berson y mae'r awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef) i osod hysbysiadau ffioedd cosb ar gerbydau sy'n torri rheoliadau parcio a chânt, mewn achosion priodol, awdurdodi llusgo ymaith neu barlysu cerbydau.

Yn rhinwedd y Gorchymyn, mae'r ffioedd cosb yn yr ardal barcio i'w gosod gan yr awdurdod lleol gan roi ystyriaeth i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru. Gall yr awdurdod lleol eu hadennill fel dyledion sifil. Gwneir darpariaeth ar gyfer gwneud sylwadau i'r awdurdod lleol os digwydd i ffi gosb gael ei rhoi neu os digwydd i gerbyd gael ei lusgo ymaith neu ei barlysu. Gwaith dyfarnwyr parcio a benodwyd gan gyd-bwyllgor a ffurfiwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 101(5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fydd dyfarnu os cyfyd anghytundebau.

(1)

1991 p.40. Diwygiwyd Atodlen 3 gan Orchymyn Deddf Traffig Ffyrdd 1991 (Diwygio Atodlen 3) (Cymru a Lloegr) 1996 (O.S. 1996/500), gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (c. 19), Atodlen 7, paragraff 43 a chan Ddeddf Llywodraeth Leol etc. (Yr Alban) 1994 (p.39), Atodlen 13, paragraff 171.

(3)

Trosglwyddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Mae'r pwerau hyn bellach yn arferadwy gan Weinidogion Cymru yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

(4)

1984 p.27. Diwygiwyd adran 32(4)(a), ac amnewidiwyd adran 45(1), gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), Atodlen 8, paragraffau 39 a 44. Mewnosodwyd adrannau 46(1A), 63A a 101(4A) a (5A) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adrannau 64(2), 44(1) a 67(4) a (6). Diwygiwyd adran 102(8) gan Ddeddf Traffig Ffyrdd 1991, adran 68(3).

(6)

O.S. 2008/ .

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources