Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2008 Rhif 2552 (Cy.222)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008

Gwnaed

29 Medi 2008

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

30 Medi 2008

Yn dod i rym

27 Hydref 2008

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 71, 128, 129 a 203(9) a (10) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) a (Ffioedd a Thaliadau Optegol) (Diwygio) (Cymru) 2008 a deuant i rym ar 27 Hydref 2008.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (2); ac ystyr

Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997(3).

Diwygiadau i Reoliadau 1986

2.—(1Diwygir Rheoliadau 1986 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 2 (dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

“income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(4).

(3Yn rheoliad 13(2) (cymhwystra ar gyfer profion llygad))—

(a)hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (i); a

(b)ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder yr is-baragraffau a ganlyn—

(o)he is in receipt of income-related employment and support allowance; or

(p)he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance..

(4Yn rheoliad 13(3)—

(a) hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a

(b)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—

and

(d)in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it by regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(5)..

Diwygiadau i Reoliadau 1997

3.—(1Diwygir Rheoliadau 1997 yn unol â'r paragraffau a ganlyn o'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 1(2) (Enwi, cychwyn a dehongli) mewnosoder y diffiniad canlynol yn y man priodol yn nhrefn yr wyddor—

“income-related employment and support allowance” means an employment and support allowance, entitlement to which is based on section 1(2)(b) of the Welfare Reform Act 2007 (income-related employment and support allowance)(6)..

(3Yn rheoliad 8(3) (cymhwyster — cyflenwi teclynnau optegol)—

(a)hepgorer “or” ar ddiwedd is-baragraff (l); a

(b)ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder y canlynol—

(o)he is in receipt of income-related employment and support allowance; or

(p)he is a member of the same family as a person in receipt of income-related employment and support allowance..

(4Yn rheoliad 8(4)—

(a)hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (b); a

(b)ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder y canlynol—

and

(d)in sub-paragraph (p) “family” has the meaning given to it in regulation 2 of the Employment and Support Allowance Regulations 2008(7)..

Edwina Hart

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru

29 Medi 2008

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”).

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefnu gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau sydd i'w gwneud gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol trwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg, ac â chyflenwi, ailosod a thrwsio teclynnau optegol.

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad newydd yn Rheoliad 2(1) i Reoliadau 1986 (dehongli) ac yn diwygio rheoliad 13 (cymhwystra ar gyfer profion golwg) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael prawf golwg y GIG.

Mae Rheoliad 3 yn mewnosod diffiniad newydd yn rheoliad 1 (enwi, cychwyn a dehongli) i Reoliadau 1997 ac yn diwygio rheoliad 8 (cymhwystra — cyflenwi teclynnau optegol) i ddarparu y bydd person sy'n cael lwfans cyflogi a chefnogi sy'n gysylltiedig ag incwm (neu aelod o deulu'r person hwnnw) yn gymwys i gael taleb mewn perthynas â theclyn optegol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources