- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
CREDYDAU TRETH, CYMRU
Gwnaed
8 Hydref 2008
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
10 Hydref 2008
Yn dod i rym
3 Tachwedd 2008
Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod priodol o dan adran 12(6) o Ddeddf Credydau Treth 2002(1), yn gwneud y diwygiadau a ganlyn i'r Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007(2) drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o'r Ddeddf honno(3) ac ar ôl ymgynghori â'r Cyngor Cyfiawnder Gweinyddol a Thribiwnlysoedd (4).
1.—(1) Enw'r offeryn hwn yw Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2008 a daw i rym ar 3 Tachwedd 2008.
2. Mae'r offeryn hwn yn gymwys o ran Cymru.
3.—(1) Diwygir Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (Diffiniadau) —
(a)hepgorer y diffiniadau o “y Rheoliadau Tribiwnlys” ac “y Tribiwnlys”;
(b)mewnosoder y diffiniadau a ganlyn yn y mannau priodol yn nhrefn yr wyddor—
““y mae i'r ymadrodd “y Tribiwnlys Haen Gyntaf” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the First-tier Tribunal” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007(5);”;
““y mae i'r ymadrodd “Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys” yr un ystyr ag sydd i'r ymadrodd “the Tribunal Procedure Rules” yn Neddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007.”.
(3) Yn erthygl 11 (Apelau) —
(a)ym mharagraffau (1) a (5) yn lle “Tribiwnlys” rhodder “ Tribiwnlys Haen Gyntaf”;
(b)yn lle paragraff 2 rhodder—
“(2) Y mae Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys yn gymwys i apêl o dan baragraff (1) fel y maent yn gymwys i apêl o dan adran 79 o Ddeddf 1989 (6).”; ac
(c)hepgorer paragraffau (3) a (4).
Jane Hutt
Y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, un o Weinidogion Cymru
8 Hydref 2008
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Cynllun)
Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun Credydau Treth (Cymeradwyo Darparwyr Gofal Plant) (Cymru) 2007 (“Cynllun 2007”).
Mae Cynllun 2007 yn darparu ar gyfer cymeradwyo darparwyr gofal plant at ddibenion adran 12(5) o Ddeddf Credydau Treth 2002. Yn benodol, mae'n darparu ar gyfer gweithredu system ar gyfer penderfynu ar geisiadau am gymeradwyaeth ac ar gyfer yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cymeradwyaeth neu i'w thynnu'n ôl.
O dan Gynllun 2007 gwnaed apelau i'r Tribiwnlys a sefydlwyd gan adran 9 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 (“y Tribiwnlys”) ac ymdrinid ag apelau o'r fath yn unol â Rheoliadau Tribiwnlys Amddiffyn Plant ac Oedolion Hawdd eu Niweidio a Safonau Gofal 2002. Mae'r darpariaethau apelio wedi'u gosod yn erthygl 11 o Gynllun 2007.
Yn unol â Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007 trosglwyddwyd swyddogaethau presennol y Tribiwnlys i'r Tribiwnlys Haen Gyntaf, a lywodraethir gan Reolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys newydd a wneir yn unol ag adran 22 o Ddeddf 2007.
Mae'r offeryn hwn yn diwygio Cynllun 2007 gan gymryd ystyriaeth o'r newidiadau hyn. Mae'n darparu y bydd unrhyw gyfeiriad at y Tribiwnlys yng Nghynllun 2007 yn cael ei ddisodli gan gyfeiriad at y Tribiwnlys Haen Gyntaf ac mae'n mewnosod diffiniad o'r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn erthygl 2 o Gynllun 2007.
Mae hefyd yn diwygio erthygl 11 o Gynllun 2007 drwy fewnosod paragraff (2) newydd sy'n cymhwyso Rheolau Gweithdrefnau'r Tribiwnlys at unrhyw apêl o dan Gynllun 2007 ac yn hepgor paragraffau (3) a (4).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 12(5), (7) ac (8) a 65(3) a (9) o Ddeddf Credydau Treth 2002 i Weinidogion Cymru drwy weithrediad paragraff 30 o Atodlen 11 i Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Deddf Tribiwnlysoedd, Llysoedd a Gorfodi 2007, Atodlen 7, paragraff 24.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: