Pwerau arolygwyr
14.—(1) Caiff arolygwyr—
(a)ymafael yn unrhyw—
(i)anifail;
(ii)corff anifail, ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm; neu
(iii)protein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid,
a'u gwaredu fel y bo angen;
(b)cynnal unrhyw ymholiadau, ymchwiliadau, archwiliadau a phrofion;
(c)casglu, corlannu ac archwilio unrhyw anifail ac at y pwrpas hwn cânt fynnu bod ceidwad unrhyw anifail o'r fath yn trefnu i gasglu a chorlannu'r anifail;
(ch)archwilio unrhyw gorff anifail ac unrhyw rannau o'r corff (gan gynnwys y gwaed a'r croen) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm;
(d)archwilio unrhyw ran o'r fangre, unrhyw gyfarpar, cyfleuster, gwaith neu weithdrefn;
(dd)cymryd unrhyw samplau;
(e)hawl mynediad i unrhyw gofnodion, a'u harchwilio a'u copïo (ym mha bynnag ffurf y'u delir) er mwyn penderfynu a gydymffurfir â'r Rheoliadau hyn, gan gynnwys cofnodion a gedwir o dan Reoliad TSE y Gymuned a'r Rheoliadau hyn, neu symud y cyfryw gofnodion er mwyn eu copïo;
(f)hawl mynediad i unrhyw gyfrifiadur a'i archwilio a gwirio ei weithrediad, ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig a ddefnyddir neu a ddefnyddiwyd mewn cysylltiad ag unrhyw gofnod; ac at y diben hwn, cânt fynnu bod unrhyw berson sy'n gyfrifol am, neu'n gysylltiedig fel arall â gweithredu'r cyfrifiadur, cyfarpar neu ddeunydd, yn roi iddynt ba bynnag gymorth a fynnant yn rhesymol (gan gynnwys darparu unrhyw gyfrineiriau angenrheidiol) ac os cedwir cofnod ar gyfrifiadur, cânt fynnu bod cofnodion yn cael eu cynhyrchu mewn ffurf sy'n caniatáu eu cludo ymaith;
(ff)marcio unrhyw beth (gan gynnwys anifail) yn electronig neu fel arall, at y diben o'i adnabod; ac
(g)cloi neu selio unrhyw gynhwysydd neu storfa.
(2) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, dileu neu'n tynnu ymaith unrhyw farc neu sêl, neu'n tynnu ymaith unrhyw glo a osodwyd o dan baragraff (1) yn euog o dramgwydd.
(3) Ni yw arolygwyr yn atebol yn bersonol am unrhyw beth a wnânt—
(a)wrth weithredu'r Rheoliadau hyn neu i'r perwyl o'u gweithredu; a
(b)sydd o fewn cwmpas eu cyflogaeth,
os oeddent yn gweithredu gan gredu yn onest bod eu dyletswydd o dan y Rheoliadau hyn yn mynnu eu bod yn ei wneud, neu'n rhoi'r hawl iddynt i'w wneud; ond nid yw hyn yn effeithio ar unrhyw atebolrwydd ar ran eu cyflogwr.