Hysbysiadau
15.—(1) Os yw'n angenrheidiol, am unrhyw reswm sy'n gysylltiedig â gorfodi Reoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn, caiff arolygwyr gyflwyno hysbysiad—
(a)i berchennog neu geidwad unrhyw anifail;
(b)i'r person sydd â chorff neu unrhyw ran o gorff anifail (gan gynnwys y gwaed a'r croen) neu unrhyw semen, embryo neu ofwm yn ei feddiant; neu
(c)i'r person sydd ag unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn ei feddiant.
(2) Rhaid i'r hysbysiad fod mewn ysgrifen a rhaid iddo nodi'r rhesymau dros ei gyflwyno.
(3) Caiff yr hysbysiad—
(a)wahardd neu fynnu bod unrhyw anifail yn cael ei symud i mewn neu allan o'r fangre a bennir yn yr hysbysiad;
(b)pennu pa rannau o'r fangre y ceir neu na cheir caniatáu i anifail gael mynediad iddynt;
(c)mynnu bod unrhyw anifail yn cael ei ladd neu ei gigydda;
(ch)gwahardd neu fynnu symud corff unrhyw anifail neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail, unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid, ac unrhyw semen, embryo neu ofwm anifeiliaid i mewn neu allan o'r fangre a nodir yn yr hysbysiad;
(d)mynnu bod corff neu unrhyw ran o gorff (gan gynnwys gwaed a chroen) unrhyw anifail (pa un a oedd yn anifail y mynnwyd ei ddal dan gadw ai peidio) ac unrhyw semen, embryo neu ofwm fel a nodir yn yr hysbysiad yn cael eu gwaredu;
(dd)mynnu bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael eu gwaredu neu bennu sut y maent i'w defnyddio; neu
(e)mynnu bod unrhyw brotein anifeiliaid neu fwydydd anifeiliaid a all gynnwys protein anifeiliaid yn cael ei adalw.
(4) Os yw arolygwyr yn amau bod unrhyw fangre, cerbyd neu gynhwysydd y mae Rheoliad TSE y Gymuned neu'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddi neu iddo yn peri risg i iechyd anifeiliaid neu iechyd y cyhoedd, cânt gyflwyno hysbysiad i'r meddiannydd neu'r person sy'n gyfrifol am y fangre, y cerbyd neu'r cynhwysydd i fynnu bod y person hwnnw yn glanhau a diheintio'r cyfan neu unrhyw ran o'r fangre, cerbyd neu gynhwysydd ynghyd ag unrhyw gyfarpar sy'n gysylltiedig.
(5) Caiff hysbysiad bennu'r modd y bydd yn rhaid cydymffurfio â'r hysbysiad, a phennu terfynau amser.
(6) Rhaid cydymffurfio â hysbysiad ar draul y person y cyflwynir yr hysbysiad iddo, ac os na chydymffurfir â'r hysbysiad caiff arolygwyr drefnu ar gyfer cydymffurfio â'r hysbysiad ar draul y person hwnnw.
(7) Mae peidio â chydymffurfio â hysbysiad yn dramgwydd.